Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Mae y frech wen wedi tori allan yn Prague. Allan o 300 a gymerwyd yn glaf, mae 90 wedi moirw. Mae O'Donell yn dal i wadu ei fod wedi ei anfon i lofruddio Carey, ac mai mewn liunan-amddiffyniad y cyflawnodd y weithred. Ymddengys fod Syr S. Northcote yn mwynhau ei ymweliad a rhanau o'r Iwerddon, wrth weled yr ychydig Wyddelod Torfaidd yn dawnsio o'i gwmpas. Dydd mawr yn St. Fagans oedd y Linn diweddaf, pan y cyrhaeddodd Arglwydd Windsor a'i briod ienane yno. Darllenwyd Anerchiad iddo yn ei groesawu ef a'i briod i hen balas y teulu yn Nghymru. Atebodd yntau. Pan gyfarfu Senedd Servia ddydd Ian diweddaf, cyn dechreu y gweithrediadau, cododd y Prif Weinidog i hysbysu yr aelodau ei fod, ar orchymyn y brenin, yn datod y Senedd. Tarawvd pawb a, syndod. Ymddengys fod sefyllfa pethau mor annymunol yn Senedd Hungary, fel y mae dysgwyliad bob dydd am ymddiswyddiad y Weinyddiaeth. Torodd tan allan y dydd arall mewn gwesty anferth o fawr yn Brienz, a llosgodd yn llwyr i'r llawr. Cyfrifir y golled yn 2,000,000 fr. Tra yr oedd y gwersi yn myned yn mlaen yn un o Ysgolion Byrddol Rotherham, y dydd arall, torodd tan allan yn un o'r ystafelloedd oddiwrth y stove oedd yn cynesu y lie. Llwyddwyd i gael y plant allan mewn trefn ac yn ddianaf, a diffoddwyd y tan gan y fire brigade. Nos Sadwrn, yn Liverpool, yr oedd boilermalcer o'r enw Dntton a'i wraig yn cweryla. Gadawodd yr olaf y ty. Yn mhen ychydig, csfwyd mamgu y wraig yn gorwedd ar y llawr yn dyoddef oherwydd niweidiau a gafodd, o ba rai y bu farw nos Snl. Mae Duttonyn y ddalfa. Yn Nghynadledd y glowyr yn Manchester, yr wythnos ddiweddaf, lie yr oedd cynrychiolwyr 172,080 yn bresenol, payiwyd panderfyniad fod glowyr y parthau gogleddol o Loegr i ofyn am godiad yn eu cyflogau o 15 yn y cant. Cymerwyd dyn o'r enw John Lutman 6 flaen yr ynadon yn Richmond, ar y cyhuddiad o ddwyn amryw bethau perthynol i'r bad y cyflogwyd ef i ofaln am dano ar yr afon Tafwys. Cafwyd allan ei fod yn berchenog ystad yn yr Iwerddon, am yr hon nid oedd wedi derbyn ceiniog o ardreth er's blynyddau, a'i fod yn herwydd hyny wedi gorfod troi allan i enill ei fara. Gan nad oedd hyny yn cyfiawnhau y lladrad, anfonwyd ef i lafur caled am chwe' mis. Mae ariandy yn Llundain yn dwyn yr enw, The London and River Plate Bank. Y dydd o'r blaen diangodd y prif ysgrifenydd, yr hwn oedd wedi bod yno am flynyddoedd ac mewn ymddiriedaeth fawr. Wedi archwilio y cyfrifon, cafwyd fod ^6110,000 yn fyr. Wrth gwrs, mae swyddogion Ei Mawrhydi yn chwilio am dano. Mae dau frawd (efeilliaid) yn Milwaukee mor debyg i'w gilydd, fel y dygwyddodd camgymeriad digrifol, pe na bnasai yn ddifrifol, le y dydd arall. Aeth un ohonyntgydachariadferchei frawd i swydda yr ynad heddwch i briodi. Yn mhen tridiau, aeth y wraig ienanc yn ei hot i'r swyddfa i ddymuno ar yr ynad i ddadwneyd yr hyn a wnaeth gynt, ei bod wedi cam- gymeryd y naill frawd yn lie y llall; ond er ei siomed- igaeth, yr oedd y cwlwm wedi ei wneyd yn rhy dyn i'w ddatod gan ynad heddwch. Yn y Gynadkdd Eglwysig yn Reading, yr wythnos ddiweddaf, ba priodas gyda chwaer y wraig ymadaw- edig o dan sylw. Sylwodd un mai dim ond ychydig bersonau sydd dros y Mesur, a'r rhai hyny naill ai wedi tori y gyfraith, neu yn bwriadu gwneyd hyny. Honai un arall fod corff mawr benywod Lloegr yn ei erbyn. Yn herwydd gwrthodiad yr ynadon i adnewyddu 32 o drwyddedau i werthu diodydd meddwol allan yn Rotherham, pasiwyd penderfyniad anghymeradwyol gan y Cynghor Trefol. Datganent eu gofid fod yr ynadon wedi gweithredu yn ol barn un dosbarth o ddynion er niwed i'r lleill, a bod eiddo rhai yn cael ei chwyddo ar draul lleihau gwerth marchnadol eiddo ereill; ond gwrthododd pedwar o'r Cynghor a chyd- synio a'r penderfyniad. Ym jdengys fod yr Invincibles yn Dublin wedi ffurfio yr hyn a alwant Pwyllgor Dialgarwch, a bod -gauddynt swyddogion yn mhob porthladd perthynol i Brydain, yr Unol Dalaethau, Deheubarth America, Calcutta, Madras, Singapore, Hong Kong, &c. Yr amcan ydyw gwylio symudiadau yr informers yn achos cyflafan Phoenix Park, fel ag i'w symud, fel y dywedai James Carey. Gyda'r fath drefniant ar waith, bydd yn anhawdd i neb ohonynt ddianc, ac nid yw eu bywydau o fawr gwerth. Yn ofnadwy o sydyn, bn farw Henadur Dr Evans, Caerdydd, y Llun diweddaf, tra ar ymweliad meddygol a, Mrs Morel, The Lindens, Penarth. Aeth yno yn ei gerbyd yn y boreu yn ei iechyd arferol, ac ar ol gorphen llongyfarch Mrs Morel ar roddi genedigaeth i fab (tua deuddeg o'r gloch), cwympodd mewn flit. Anfonwyd am ei fab, yr hwn sydd yn foddyg hefyd, ond cyn iddo ef nag un meddyg arall gyrhaedd yno, yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg ymaith. Yr oedd yn 69 mlwydd oed, ac wedi treulio ei oes yn Nghaerdydd. Hoflid ef gan bawb yn ddiwahtlniaeth. Yr oedd wedi cymeryd rhan flaenllaw iawn yn mhob symndiad da;onns yn Nghaerdydd, a chaiff y dref golled fawr ar ei ol. Woeking MEN,-Before you begin your heavy spring work after a winter of relaxation, your system needs cleansing and strengthening to prevent an attack of bilious or spring fever, or bickness that will unfit you for a season's work. You will save time, sickness, and expanse if you will use one bottle of Hop Bitters in your family this month. Don't wait, Bee Advt.

[No title]