Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

GLYNCORWG. — Dydd Sadwrn, Medi 29ain, cynaliodd Byddin y Riban Glas eu cyfarfod blynyddol cyntaf. Cyfarfuasant wrth gapel y Cristionogion Beiblaidd, a ffurfiasant orymdaith trwy y lie, yn ngliyda'r côr yn canu. Dychwelasant yn ol i'r cipel, lie yr oedd v byrddau wedi eu hulio yn y modd goreu, pryd yr oedd yn gweiDyddu wrthynt Mrs Davies, a Miss E. Stephens, yn cael eu cynorthwyo gan ereill. Mwynhaodd pawb eu hunain wrth y byrddau. Am 7 30, cafwyd adroddiad gan yr ysgrifenydd am sefyllfa y gymdeithas yr hwn oedd yn addawol iawn. Penod- wyd Cadeirydd a phwyllgor gweithiol am y tri mis dyfodol. Wedi byny dewiswyd Cadeiry(id i'r cwrdd cyhoeddus, Mr H. Mogridge, yr hwn a areithiodd ar ddirwest yn wresog iawn, yn Saesoneg, a Mr J. M. Henry, Cymer, yn Gymraeg, ar y Rhesymau dros i bob dyn i fod yn llwyrymwrtliodwr oddiwrth ddiodydd meddwol,' a Evan Byewatera John Jones. Adroddwyd gan y Mri S. A. Green, W. Thomas, a D. Evans, Unawd gan Mr Thomas Preece. Canodd y cor amryw ddarnau yn effeithiol iawn. Ar y diwedd rhoddwyd cyfleusdra i rai o'r newydd i ymuno a'r Fyddin, ac ymnnodd naw. Yn mlaen a ni fel milwyr da. CADLE FFOREST FACH.—Dydd Sabboth, Medi 30ain, cynaliodd Ysgol Sabbothol yr eglwys uchod a'r ddwy gangen en cyfarfodydd chwarterol. Cymerodd Mr Samuel, yr ysgolfeistr, at y gorcbwyl o drefnu a llywyddu gwaith y dydd. Cafwyd anerchiadau ar yr Yszol Sabbothol gan Mri D. Charles, Raven Hill; J. Williams, Carngoch, Rees Rees, a Lewis Williams, Weig. Adroddwyd y Salmau i. a'r xxiii. gan Lewis Charles. 2. Yr Ysgol Sabbothol,' gan Daniel Richards. 3. lesn Grist, yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd,' gan Jane Davies, Fforest Fach. 4. Pa beth yw dyn P' gan W. Thomas, Middle Road. 5. Bydd on est,' gan Sarah Thomas, Fforest Fach. 6. Y Croeshoeliad,' gan Miss H. Davies, Middle Road. 7. Y Llong Fawr,' gan W. Hughes, Mynydd Bach. 8. Cwyn y Capel,' gan D. Williams, Weig. 9. Yr Ysgol Sabbothol,' gan Sarah Thomas. 10. Byw ai Marw,' gan Mary Mainwaring, Fforest Fach. 11. 'Cariad Brawdol,' gan Daniel Thomas, Beaufort. 12. I'w dad a'i f'am,' gan Trevor Hopkins. 13. Y hvwyd a'r darlun,' gau Daniel Davies, Beaufort. 14. Adrodd Silmau xxiii. a'r xxiv, gan D. Evans, Fforest Fach. 15. Gwaed lesu Grist,' gan D. Williams, Cadle. 16. Ffordd lachawdwriaeth,' gan D. Evans. 17. Trugaredd Duw,' gan Thomas Thomas, Beaufort. Cafwyd unawd gan J. Rees, Raven Hill, a chanodd parti'r Ystrad o dan arweiniad Mr W. Jones bedair o weithiau yn ystod y cyfarfod- ydd. Chwarenwyd yr harmonium gan Mr W. Hughes. Yr oedd olion llafur ac ymdrech yn y cyfarfodydd, ac er y gallesid gweUa ambell i adroddwr, eto teimlwn fod gwrando ar ddau nen dri o'r prif adroddwyr yn ddia-on o dâl am y cwbL-E. Boiven. TYNEWYDD, CWMOGWY. — Cynaliodd yr An- nibynwyr yn y lie hwn eu eyfarfod haner blynyddol dyddiau Sul a Llun, Medi 30ain a Hydref laf, pryd y gwasanaeth vyd gan y Parchn T. Aelfryn Roberts, Nantvmoel; W. Oscar Owens, Penybont; a W. James, Porth, Hhondda. Cafwyd cyrddau ihagorol yn nabob ystyr, pregethau grymus ac effeithiol yr efengyl yn ei phurdeb, ac yn cael ei thraddodi gyda nerth ac yn eglurliad yr Ysbryd. Yroeddun strain neillduol i'w clianfod trwy'r oil o'r cyfarfodydd, sef pob cymhellion i ddynion i chwilio am Geidwad, ac y mae yr eglwys fechan yn hyderus am y cyfryw ganlyniadau.- Craig fab. PANT-TEG, YSTALYFERA.—Dyddiau Sul a Llun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod agoriadol y capel uchod. Yr oeddid wcdi bod yn ei baentio yn nghyda gwneyd rbyw gyfnewidiadau mewnol erei 1. Y gweinidogion fu yma yn pregethu yn yr agoriad oeddynt y Parched- igion J. Davies, Cadle; a D. Onllwyn Brace, Ystal- yfera, y Sul am ddeg, dan, a chwech, a nos Lun y Parched'gion H. Elwyn Thomas (W), a J. Davies, Cadle. Yr oedd y capel eang wedi ei orlenwi y Sul, a chanoedd yn methu dyfod i mewn. Cafwyd pregethau bendigedig. Gwnawd casgliadau ar ddiwedd yr oed- faon.—Aelod. RESOLVEN.—Cyfarfod Pregethu.—Gweinyddwyd yn nghwrdd blynyddol Jerusalem, nos Sadwrn a Sul, Medi 29ain a'r 30ain, gan y Parchn B. Davies, Treorci, a D. G. Davies, Glyn-nedd. Cynorthwywyd yn y rhanau defosiynol gan Mri Rosscr (B.), Castellnedd a T. G. Thomas, Resolven. Cafwyd cyfarfodydd wrth fodd y bobl, ac o dan wenau Duw, a chasglwyd X21 ar gyfer gwneyd y £100 gofynol erbyn Mawrth nesaf er sicrhau yr £18 challenge o'r Jubilee Fund.—Pres- xvylydd. TABERNACL, LLANRWST. Cynaliodd yr eg- Iwys uchod ei cbyfarfod pregetbu eleni ar y dyddiau Merchcr a Iau, Medi 2Gain a'r 27ain, blwyddyn i agor- iad y capel newydd. Gwasanaethwyd gan y Parchn D. M. Jenkins, Liverpool; J. Miles, Aberystwyth a T. Nicholson, Dinbych. Cafwyd cyfarfod campus yn mhob ystyr. Dcrbyniwyd y swm o jC81 at Jeihau y ddyled yn ystod y cyfarfod, yr;hwn swm a gynwysai rodd o zC25 oddiwrth Mr Joseph Evans, Haydock a Phlas Mado^, Llanrwst. Gwisga yr achos wedd lewyrchus. Teimla y frawdoliaeth yn gysurus yn en teml newydd hardd, a meddant ar galon i weithio yn nglyr) a chasglu er talu am dani. BETHANIA, TROEDRHIWGWAIR, TREDE- GAR.-Dydd Sul a nos Lun, Medi 30ain a Hydref laf, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd casglu, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch E. James, Nefyn. Yr oedd y pregethwr yn ol ei arfer, ar ei uchel fanan, a'r dorf luosog yn mwytihau eu hunain drwy y cyfarfodydd. Nos Lun, Hydref laf, yn Saron, traddododd y Parch E. James, Nefyn, ei ddarlith odidog ar y testyn, Tair haner awr gydag nn o brif arwyr Cristionogaeth." Os ydyw Mr James wedi an- farwoli ei hun fel pregethwr, rhaid i ni ddyweyd ei fod yn dyblu ei allu fel darlithiwr. Nid ydym yn cofio i ni erioed glywed gwell darlith. Cadeiriwyd gan Mr J. Holmes (W.), grocer, Circle, Tredegar. Cafwyd anerchiad pwrpasol gan y Cadeirydd. Rhoddwyd y diolchgarwch gwresocaf i'r darlithiwr gan y Parch E. Powell, Saron, ac eiliwyd gan y Parch T. Rees, Eben- ezar. Rhoddwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd gan y Parch W. Jones, Elim, ac eiliwyd gan y darlithydd. Faenolog. CARMEL, LLANGIWC.—Cyfarfodydd blynyddol -Dydd Sul a Llun, Medi 30ain a Hydref laf, cawsom y fraint o glywed yr efengyl yn cael ei thraethu gydag hyawdledd gan y Parchedigion canlynoI :—Jones, B.A., Aberhonddu; Williams, Tabernacl, Llanelli; Rees, Alltwen, a Selby Jones, Aberdar. Ni raid i un ohonynt wrth gaumoliaeth. Digon yw dyweyd eu bod yn eu hwyliau goreu, a chredwn fod yr Hwn sydd yn march- ogaeth y gwynt, ac yn rheoleiddio y moroedd yn Wr canol yn y gwahanol gyfarfodydd. Un amcan mewn golwg oedd lleihau y ddyled sydd yn aros ar y deml. Trwy ymdrech y brodyr a'r chwiorydd, casjlwyd yn y gwahanol gyfarfodydd dros £50. Dymunwn gydnabod ein diolchgarwch gwresocaf i'r brodyr fa o amgylch yr anedd-dai yn casglu. Hefyd, derbynied Mrs Arabi ein diolchgarwch mwyaf diffuant am eu llafur caled yn mhlith y Ilancesao ieuainc-aed yn ei blaen. Rhyfedd fel mai moesoldeb wedi dyrchafn ei ben yn ein cymyd- ogaeth yn y deg mlynedd diweddaf. Gallwn ymffrostio mai ef ydyw prif arwr ein hardal y dydd heddyw. Ond nid yw wedi codi i'r safle bresenol heb orfod ymladd llawer brwydr galed, a gwolir ambell un o'i elynion yn saethu ei fwlçdi gwan tuag ato hyd y dydd heddyw. Gallem nodi rhai, ond ymataliwn gydag awgrymn at y weithred ysgeler o eiddo teml Sitan y dydd o'r blaen. Cofied fod cymeriad y diniwed yn rhy werthfawr i ymyraeth ag ef. Hyderaf y derbynia hynyna fel broad hint. Os na, dichon y bydd a wnelwyf & hi maes o law .—Hen frawd. TABERNACL, PENFRO. — Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol eleni ar y Sul, Medi 30ain, a nos Fawrth, Hydref 2il. Pregethwyd dair gwaith y Sul gan y Parch D. Jones. B.A., Abertawy. Nos Fawrth can y Parch Lindon Parkyn, St Paul, Abertawy. Cafwyd cynulle'dfaoedd rhagorol, a chasgliadau da. Yr oedd Mr Jones wedi bod yma o'r blaen, a dywed y bobl, Moes eto. Yr oedd Mr Parkyn yn hollol ddyeithr, ond dymuniad calon pawb a'n clyw- odd ydyw ei glywed yn fnan eto. Yn y ddau wr parchedig cawsom specimen da iawn o'r arddull Gym- reig a Seisonig o brogethu. Yr oedd Mr Jones yn pregethu Se;sonig gydag hwyl Gymreig, ac fel y mwy- afrifobregethwyrCymreigaryr uchel-wyliau-gwir. ioneddau am y groes, yr enaid, a byd tragywyddol, oedd baich ei bregethau cf. Ond gan Mr Parkyn cawsom bregeth ar yr Hydref-eyfnewidiadan yn y flwyddyn yn ogystal ag mewn bywyd. Yr oedd y bregeth yn amsero! ac ymarferol, yr iaith yn dlws, a'r traddodiad yn eglur ac effeithiol. D i genym weled golwg mor lewyrchus ar yr achos dan weinidogaeth y Parch H. Powell. Yn ystod tymhor byr ei weinidogaeth, y mae y gynulleidfa wedi ychwanegu llawer mown rhif, rhai fu'n mhell wedi dychwelyd, a llawer wedi eu derbyn i gymnndeb, ac yn ol yr adroddiad a ddarllenwyd ar ddiwedd yr oedfa nos Fawrth, deallwn i'r eglwys daln £100 o'r ddyled ddechreu y flwyddyn yma, ac y mae gauddynt mewn Haw yn awr £51 2s., a bwriedir gwneyd y £100 i fyny o hyn i ddiwedd y flwyddyn. Felly gwelir fod yr eglwys a'r gweinidog yn gweithio, a chredwn y cawn yn faan y fraint o glywed seinio udgorn y Jubili yn Penfro. Dring rhagot efeng- yles Seion. Un oedd yno. HEBRON, LLEYN. Bu y Parch R. Rowlands, Treflys, yn y lie uchod yn prelethu am ychydig 0 nos- weithiau, yn dechreu nos Wener, Medi 28ain, hyd y nos Fawrth ganlynol. Yr oedd y capel bob nos yn orlawn o wrandawyr. Nid ydym yn gwybod i pi weled y capel yn llawnach nag ydoedd y nosweithiau hyn. Yr oeid Mr Rowlands yn pregethu gyda nerth a dy- lanwad mawr. Daeth pedwar o'r newydd at grefydd. Wrth edrych ar y gynulleidfa, a gweled hen wrandawyr a'u dagrau yn dylifo dros eu graddiau, buasem yn meddwl y buasai llawer yn ychwaneg yn aros, ond ryw- fodd yr oeddynt yn ymgyndynu, ac fel yn mynu myned allan. Ddechreu y flwyddyn bu Mr Rowlands yma o'r blaen, a daeth 21 yn mlaen y pryd hwnw, ac y maent yn rhai gweithgar iawn erbyn hyn yn y winllan. Felly mae 25 wedi dychwelyd at grefydd yn y He uchod trwy weinidogaeth rymus ac effeithiol Mr Rowlands. Hyderwn y cawu gyfarfodydd cyffelyb yn fuan eto. Dewisodd yr eglwys uchod gynal cyfarfodydd fel hyn eleni, yn hytrach na chynal cyfarfod pregethu yn ol ei harfer.—W. Owen. BEREA, MON. CynaIiodd yr eglwys AnnibynoI yn y lie uchod ei chyfarrod blynyddol dyddiau Iau a Gwener, Hydref 4ydd a'r 5ed. Gweinyddwyd cleni gan y Parchedigion E. James, Nefyn J. Alun Roberts, B.D., Caergybi; R.¡P. Williams, Ebenezor; a T. E. Thomas, Abergynolwyn. Cafwyd pregethan gafaelgar a hyawdl, a gwrandawiad astud iawn gan gynulleidfa- oedd mawrion. Deallwn fod y casgliadan yn rhagoi i eleni rhagor nn flwyddyn. Tystiolaeth pawb ag y buom yn siarad a hwy oedd fod y cyfarfod htvn yn un o'r cyfarfodydd goreu a fu yn y lie erioed. Yr oedd yr hen efengyl yn ei bias megys yn y dyddiau gynt, "fel gwlithwlaw ar irwellt, a chawodydd ar laswellt." Arosed ei effeithiau daionns yn hir i ddwyn ffrwyth i ogoniant Duw. JERUSALEM, COED-DUON.-Dydd Snl a dydd Llun, Medi y 30ain a Hydref laf, oynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol. Y cenadon eleni oeddynt y Parchedigion T. D. Jones, Plasmarl, Aber- tawy; Griffiths, Casnewydd; Evans, Nelson; a Evans, Bodringallt. Cawsom hin ffafriol, cynulliad lluosog, casgliadau da, ac arwyddion amlwg fod ar- ddeliad dwyfol ar y genadwri. Mae yr eglwys yn teimlo yn wir ddiolchgar i Mrs Morris a Mrs Jones, y rhai ydynt (er yn perthyn i enwad arall) bob amser yn barod i dderbyn ein gweinidogion, ac i wneyd pob peth yn en gallu i'n cynorthwyo yn ein gwendid i gario yr achos yn mlaon yn y lie.—(?. TYNYCOED.-Cynaliodd yr eglwys yny lie uchod ei chyfarfodydd blynyddol nos Fercher a dydd Iau, Hydref 3ydd a'r 4ydd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn R. W. Rees, Ltbanus; R. Williams, Rrychgoed; J. P. Williams, Llanelli; a T. Johns, Capel Als, Llanelli. SEION, A BE RCANAID. —» Cynaliodd yr eglwya hon ei chylchwyl ar y Sul, Medi 30ain, pregeihwyd ftr yr,achlysur gan y Parchedigion D. C. Jones, Bethesda, J, Thomas, Soar, Merthyr, a Miss Griffiths, Dowlais. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog, progethau grymus a dylanwadol, a chasgliadau gystal ag a allesid ddysgwyl o dan yr amgylchiadan.—John. PENYBONT-AR-OGWY. Nos Fawrth a dydd Mercher, Medi 25ain a'r 26ain, cynaliodd eghvys y Tabernacl ei chyfarfod blynyddol. Pretethwyd ar yr achlvsur gau y Parchn D. Jones, B.A., Abertawy B. Williams, Canaan; a J. Thomas, Soar, Merthyr. Cyf- arfod rhagorol yn mhob ystyr. HENLLAN. — Nos Lnn, Hydref laf, ymwelodd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, a'r lie hwn, a thra- ddododd ddarlith glir, gref, a hwylns. ar y fasnach mewn opium a orfodir ar China gan Lywodraeth Lloegr. Cymerwyd y gadair gan y Parch D. E. Williams. CROSS INN.-Nos Fercher, Hydref 3ydd, cawsom y pleser yn y lie hwn o wrando darlith gan y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ar yr opium trade. Mae Mr Jones yn deall y ewestiwn yn drwyadl, ac yn ei osod allan mewn dull swynol a chynhyrfus. Cariai argy- hoeddiad i bob cydwybod dyn. Cadeiriwyd gan y Parch T. F. Williams (B.). TABERNACL, AMWYTHIG. — Cynaliodd yr eg- lwys hon ei chyfarfod blynyddol nos Sadwrn, Sul, a nos Lun, Medi 29ain, 30ain, a Hydref laf. Pregethwyd gan y Parchn D. Roberts, Wrexham; J. Charles, Croesoswallt; a P. W. Hough, Merthyr. Yroedd y gwasanaeth nos Lun yn Saesoneg, yr hwn a gyflawn- wyd gan y Parch D. Roberts, Wrexham. Gwed i'iwyd yn daer am i'r Arglwydd dd'od gyda'i weision, a ben. dithio eu llafur, a chawsom brofion eglur na wrthod- odd Duw ei bobl y rhai a adnabu efe o'r blaen. laith profiad y-lluaws a ddaethant yn nghyd i wrando y Gair oedd, mai da oedd bod yno, oblegid teimlid fod yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw yn disgyn gyda'r weinidogaeth. Yr oedd y casgliad rhagorol a wnaed, sef ychydig dros .£20, yn dweyd fod gan y bobl galon i weithio. CASLL WCR WR.-Sabboth. Medi 30ain, a'r Llun canlynol, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Horeb. Preg- ethwyd yn rhagorol, efengylaidd, ac effeithiol, gan y Parchn Rees Rees, Alltwen Evans, Maesteg; Emlyn Jones, Treforris a T. Daries, Llanelli. Yr oedd y cenadau wedi eu gwisgo a nerth o'r uchelder, a'n gwoinidogaeth yn disgyn fel gwlaw ar gnu gwlan, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. Yr oedd yr hin yn hynod ddymunol, y cynulliadau yn lluosog, a'r casgl- iadau yn ardderchog. Yr oedd y ddyled ar y cysegr cyn y cyfarfod hwn yn £ 150, ond nid ydyw yn bresenol ond .£100. Yr ydym yn teimlo yn ddedwydd yn y llwyddiant.

[No title]

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.