Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Newyddion Cymreig. )

News
Cite
Share

Newyddion Cymreig. ) Yr oedd yn wyl gyffredinol yn Llandudno ddydd Mercher, ar achlysur diolch am y cynhauaf. Mr Herbert Roberts oedd yr aelod Seneddol Cym- reig cyntaf i gymeryd ei sedd yn Nh9" y Cyffredin boreu ddydd Mawrth pan agorwyd y Senedd. Cyfarfu etifedd Syr Watcyn a damwain ddifrifol yr wythnos ddiweddaf trwy roi ei law yn un o'r peirianau amaethyddol. Ofnir y rhaid tori ei fraich ymaith. Yn y Wyddgrug, ddydd Gwener, anfonwyd Mar- garet A. Whitley, merch postfeistr y Tryddyn, i'r -frawdlys ar gyhuddiad o ladrata llythyr ac 20p o'r llythyrdy. Bu Mr Law, ar ran y Llywodraeth, yn Ngwrec- sam ddydd Gwener yn gwrando cais y Cynghor Trefol am gael benthyca 24,000p at oleuo'r dref a. thrydan a gwelliantau eraill. Anrhegwyd Mr John Roberts yr wythnos ddi- weddaf ag anerchiad hardd a phwrs o aur gan bobl Llandudno fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth deheu- jg fel pier master y lie. Wedi bod wrthi yn meddwi er's peth amser, cyf lawnodd Frederick Leece, pobydd, Gwrecsam, hunanladdiad trwy dori ei wddf a chyllell fara nos Fercher ddiweddaf. Ddydd Mercher, bu farw Susannah Roberts, 49 oed, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd, nad wyr neb sut, ar y ffordd haiarn rhwng Brymbo ,a Choed Talon. Yn Eglwys Llanfaglan, ger Caernarfon; ddydd Mercher diweddaf, priodwyd Mr Caradoc Row- land, y darlunydd, a Miss Salisbury, aelod o hen deulu parchus yn sir Gaer. Addawa Arglwydd Tredegar-Ifor Hael wrth ei "enw barddonol—roddi benthyg ei holl geffylau i'r Llywodraeth, er mwyn dwyn yn mlaen yr ymgyrch bresenol yn y Transvaal. Y Cadben John Vaughan o'r Nannau sydd yn prynu mulod ar ran y Llywodraeth yn yr Eidal. Dywedir fod eisiau tua phum' mil o'r creaduriaid hyn i wasanaethu yn Neheudir Affrica. Bwriada'r Annibynwyr yn awr gychwyn llyfrfa .cyifelyb i eiddo'r Methodistiaid; a dygir allan ar fyrder lyfrau ar egwyddorion a hanes yr enwad gan y Parch Dr Probert a Proff J E Lloyd, Bangor. Yn nghyfarfod Llys Llywodraethwyr Coleg Prif- ysgol Caerdydd, ddydd Mercher, cyflwynwyd ad- roddiad pur auffafriol o berthynas i iechyd y Prif- athraw Viriamu Jones, yr hwn sydd eto oddicartref. Cafodd Mr Lloyd Kenyon, llywydd Ilys chwarter Croesoswallt, bar o fenyg gwynion ddydd Gwener am nad oedd carcharorion i'w profi. Dywedid na fu hen dref y goror cyn laned o droseddau er's ped- air blynedd. Yn llys Ffestiniog, ddydd Mercher, dyfarnwyd 7p 15s i Mr E B Lloyd a Mrs Thomas yn erbyn Mr Owen Lloyd am niweidiau a achoswyd trwy i'r di- ffynydd yru ceffyl a cherbyd i ganol dead ell o ff- ddefaid. Cynaliodd Mr Vaughan Davies, A.S., a Mr Wm. Jones, A.S., gyfarfod brwdfrydig yn Llangeitho, pwy noson, pryd yr ymdriniwyd ganddynt ar y Transvaal, Pwnc y Tir, a Dadgysylltiad. Y cadeir- ydd ydoedd Mr J H Davies, Cwrtmawr. Y mae Mr Solomon Andrews, y masnachwr Cym- raeg llwyddianus, am efelychu Syr Thomas Lipton, a chreu tipyn o ddyddordeb mewn rasus cychod yn Nghymru. Addawa roddi cwpan gwerth 500p i gystadlu am dano gan glybiau Cymreig. Dylai y pregethwyr Cymreig sydd yn bwriadu ym- sefydlu yn mysg y Saeson ofalu fod eu henwau yn rhai y gall y Sais cyffredin eu hynganu yn rhwydd. Gelwir y Parch Cynon Lewis gan rai o'i braidd yn Seynon Lewis. Heblaw Pwllheli, y mae Mr Solomon Andrews yn creu tref newydd yn Nghyffordd y Bermo, ac wedi prynu hen gors fawr Aberdyfi, tua 160 acr, i'r dyben o ddadblygu," chwedl un o eiriau'r oes. y lie diffaith hwnw. Oes neb gymer drugaredd ar Harlech, druan ? Bwriedir cau cronfagoffa Mr T E Ellis ddiwedd y flwyddyn hon, a gwneir ymdrech arbenig yn ystod y misoedd dyfodol i wneud y mudiad yn berffaith lwyddianus. Dywedir yn awr yr amcenir i'r arian fyned at godi cofadaU deilwng ohono yn mynwent Cefnddwysarn. Nid oes gan drigolion sir Aberteifi-yn enwedig y rhai sydd yn byw ar lan y môr-le i achwyn eleni. Ni welodd y morwyr na'r ffermwyr y fath dymhor -erioed. Rhoddir y penwaig (neu ysgadan fel y dywed y Cardi) i ffwrdd bron am ddim, ac y mae'r tatw yn hynod o rad. Dychwelodd Dr Joseph Parry o'r America yr wythnos ddiweddaf, ar ol talth gerddorollwyddianus yn y wlad hono. Dechreua ar unwaith yn awr ar ei waith newydd ar gyfer Eisteddfod Lerpwl. Dywed- ir y bydd y gwaith yn barod erbyn diwedd y fi wy ddyn. n o'r pethau goreu yn araith Mr Michael Davitt yn Nhy y Cyffredin y nos o r blaen oedd yr ateb llendant a roddodd i areithiau Mr Ellis J Griffiths ar bwnc y Transvaal. Trueni nad oedd yr aelod dros ton yn y Ty ar y pryd i wrandaw y Gwyddel ffraeth hwn yn ergydio arno. Cafodd Wm. Roberts, gwestty'r Queen's Head, Glynceiriog, ddiangfa gyfyng rhag angau wrth ddy- chwelyd o ffair Corwen yr wythnos ddiweddaf. Ar riw serth ger Berwyn, dychrynodd y ceffyl, a thaflwyd yntau bendramwnwgl i'r ffordd, ond heb dderbyn fawr niwed, ac ystyried. Dydd Iau. cynaliwyd Cyfarfod o Gynghor Dos- barth Gwledig Llandudno, dan lywyddiaeth Mr John Owen. Bu dadl frwd yno ar y cwestiwn o roddi atalfa ar fasnachwyr i arddangos eu nwyddau .oddiallan i'r masnachdai, a thrwy hyny gadw y llwybr yn glir. Ar ymraniad, cyflwynwyd y mater ;11 ol i'r pwyllgor. Dygwyd cynygiad yn inlaen o olaid prynu j'olj links gan Mr Cummin am l,000p, •.Cyflwynwyd y mater i'w ystyried gan y pwyllgor. :o!

Y MOR-GWISGOEDD Y MOR.

Yr Ymdrechwyr Crefyddot.

ICapel Coffa i Hiraethog.…

Cofofp Btrwttet.

Advertising

IEisteddfod Gadeiriol Gwynedd,…