Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Cymru yn y SeneddI

Gohebiaethau.

News
Cite
Share

Gohebiaethau. At Olygydd y Oymro. Awst 23, 1895. SYR,—Arofyn ysgrifennu atoch chwi a'ch gohebwyr yr oeddwn pan welais fod dau o honynt yn cyfeirio holiadau ataf i, un gyda golwg ar Wyddelv:ern a'r Hall ar Buddlan. Am yr enw Rhuddlan y mae llygriad Saesneg ohono a seinir Rudland, ond y mae 'r sillebiad Cym- raeg a'r hen sillebiad Saesneg Rothelan yn profi i mi nad oes dim rhyd i'w gael yma. Clywir rhai Saeson yn cam seinio Rothelan yn dri sill. Nid cywir hynny canys ni chynrychiola rothe ond un sill a hwnnw i'w seinio yn union fel rhydd yn Rhydd-lan fel y clywir y gair yn awr yn ami. Dyna ddull cyffredin y Saesneg gynt o ysgrifennu sain yr y Gymreig yn yr, dy, amynedd: cewch yr un peth yn Montgomery, Llandovery, Dovey, Prothero; ond camseinir hwy yn ami gan roddi iddynt o grove' yn lie o 'love' dyna'r Saeson yn camddehongli eu sillebiaeth eu hunain. Ond er y dywed rhai Rhyddlan ac er fod y sillebiaeth Rothelan yn debyg o fod yn ben, nis gallaf i lai na chredu mai llygriad yw Rhyddlan o'r fftirf Rhuddlan. Profir hyn i'm tyb i gan y sillebiaeth yn y Llyfr Coch, sef Rudlan; a hynach fyth yw y Rud glan a geir yr Anriales Cambrics mewn memrwn ysgrifenedig cyn y flwyddyn 956. Yr ystyr yn 01 hyn yw Glan rudd, glan goch os mynnwcb ac nid Rhuddlan Clwyd yw yr unig Ruddlan y gwyddys am dani—mae Rhuddlan hefyd ar Deifi, ac y mae gennyf ryw adgof i mi glywed mai rhudd neu goch yw glan yr afon honno hefyd yn y gymydogaeth y cynhaliai Pryderi ei lys ynddi. Os camsynio 'r wyf hwyrach y bydd rhywun mor fwyn a'm cywiro yn y Oymro. Gyda golwg ar Wyddelwern, wrth wern y deallaf i dir llaith a gwastad; ond y mae Gwyddel a gwyddel, a pha un o'r ddai sydd gennym yna nis gwn. Tardd y gair gwyddel o gwydd coed a golyga fan dyfiant anial o goed neu ddyrysni I bA glywaist ti chwedl yr enid Y n y gwyddel rhag ymlid ? Drwg pechawd o'i hir erlid. Iolo MSS., t.d. 260. Yn ol hyn gwern lie tyf gwyddel oedd Gwyddelwern ond ar y llaw arall gall mai gwern yr oedd a fynnai rhyw wr o Wyddel a hi" yw yr ystyr. Dyna oedd cred awdwr Buchedd Beuno Sant pan ysgrlfennai fel hyn:— Ac yna y roddes y brenhin le iddaw Gwydel- wernn, y lie a gafas y enw gan yr Yscotf, a gyvodes Beuno o varw yno, ai wreic a vuassei achosawl y angeu ef." Cymerwch eich dewia o'r > dau olygiad. Dyna fi wedi csio ateb eich gohebwyr a hwyrach y goddefwch i mi ddychwelyd at bWlJC y taf die;thoedd Cymreig y cyfeiriata atynt y' Nghorwen y dydd o'r blaen. I ddechreu carwn wybod terfynau y Bowyseg a nodweddir gan feinder y llafa-iad a, a fain ardal Dolgellau a pharthau eraill o F,Ilriot- ac o Sir Drefaldwyn hefyd. Adnebydd pawb hi pan fydd ei sain yn hir, megys yn y geiriau tad, glan, man, ond digwydd hefyd yn fer megys yn y geiriau mam, cam, man. Dynodir hi weithiau gan ieithydd- wyr, fil hyn a, sef a a rhyw nopyn bach dani hi, a gallwn ei galw yo a faiu o leiaf nid oes gennyf un gwell euw i roddi ami. Ar y llaw arall geilw pobl Meirion sydd yn arfer yr a fain hon yr a letach a seinir y' Ngheredigion a Gwys-edd yn "a gegog" dyna'r gwawd a wnant o honom ni sydd mor falch o ragoroldeb ein seiniadaeth. Ond y pwnc yw, pwy sydd yn seinio r a fain. Gofynnais hyn dro yn ol mewn llythyrau at amryw o drigolion Meirionydd, ac etyb un fel hyn :— £ i A fain a seisiir yn y Dyffryn--Dyffryn Ar.Jndwy a feddvlir-ond nid a fain a geir yn Harlech. Clywais a fain yn Llanellyd ond ni chlywais hi y' Nhraws- fynydd a gegog sydd YLJO, ond a fain a glywir yn Llanfachreth." Dyna 'r ateb a gefais o Ddolgellau. A ganlyn yw yr ateb a serais gan un o'r Dyffryn :_H Credaf mai 'r a fain sydd yo teyrnasu cyn belled a Maen T.vrog a chynhwys- af yn ei thiriogaeth Harlech a Tltal y "Sarnau. Am Benrhyn Deudraeth a fain ac a gegog Sir Gaernarfon sydd yno yn gymysg, a'r un fath y mae hi yn Ffestiniog, a hwyrach fod a fain Maen Twrog yn tueddu i iyned yn gegog. Credaf fod. a Trawsfynydd fel yr eiddom ni °heb un amrywiaeth. [Nis gwn yn iawu pa fudd i ddehongli 'r frawdeg hon.] Dyna 'r cylch yn gyflawn o Ddolgellau i lawr hyd Aberrno ac oddi yno drwy Harlech a Thalsarnau i Draws fynydd a thrwy 'r Ganllwyd yn ul i Ddolgellau." Nid yw'r manylion byn oil yn cytuno a'i gilyddV carwn wybcd pwy sydd yn gywir, yn en wedig os cymerir yr a fain mewn silliau byrioii megys mam, cam, lldn, dal, i ystyiiaeth yn g-staler a hirsain. Nid yw hyn ond rhau o'r ymchwiliad, eanys hoffwn wybod pa ffordd y rhed y terfyn o Ddolgellau hyd gyffioiau Lloeur. Hwyrach y gellid gwneyd y llinell allan pe ceid ateb i'r gofyniadau canlynol Pa fath a sydd i'w clilywed yn y lleoedd liyn, Mawddwy, Llan- wddyn, Llanrhaiadr, Llanfyilin, Llansantffraid, Llan y Myneich, a Glyn Ceiriog. Rhag eich blino ni otynaaf chwaneg ar hyn o bryd.- Y r eiddoch yn ddiffuant. JOHN RHYS DARLlTHYDD YN EISIAU. SYR,—Maddeuwch i mi am eich trafferthu. Dyma fy esgusawd dros wneud Yr ydym yn arfaethu cael eyfres o ddHrlithian yn ystod misoedd y gauaf tua chymdogaeth 'Rhenwalia yma, ac mae'r pwyll- gor yn cymeryd i ystyriaeth wyr ag sydd wedi enwogi eu hunain fel darlithwyr er ceisio sicrhau eu gwasanaeth ar adegau cyfleus iddynt hwy a ninau. Dichon y medr rhai o'ch gohebwyr roddi rhyw oleuni i ni parthed un, yr hwn sydd ganddo ddarlith ar "Bregethwyr enwog Arfon," tua'r ddinas yna. I-Iwyrach y bydd rhai o'ch darlien- wyr mor garedig a'n hysbysu pwy yw'r gwr enwog a galluog hwn yn nghyda'i gyfeiriad.— Ydwyf, &c., ZECHARIAH Huws. Rhenwalia, Awst 24, 1895.