Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1803 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F IsTh. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the own, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of axes. Also larger houses at higner rents. (F h~b E. WILLIAM S. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and suburbs. Bouses bought and sold. Mortgage* arranged, &c. Jr JOHN WILLIAMS, —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159, KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and eco- nomically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 177, EVERTON ROAD, LIVERPOOL Kents Collected. Mortgages tanged. TELEPHONE No. 1.779. (F XhTuverpool Land Company., Limited. Rro —To ba Sold, Freehold and .999 TO BUTLp^X^, t t suit purchasers, in Garston, years' Leasehold LAN^, 1 Seaforih. Liberal advances sesBSfcA? sya >*< -» •» -• ocalities,-Appl-p to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, F) 22, LORD STRP-F-T. (T^lTwlLUAMa Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PTOLEYS OF VAUIOt'o ™ STOCK, T,"Iol makers, &C., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works- TAYLOR STREET, OtTi-,e anl Office and -402 & 404 Scotland Rd. Show Rooms T* -r LIVERPOOL. » Tron Gates, and Railings; Hot Kitchen Ranges, uastnfh^rv Engineers; Williams' Water, Greer, Houses, for Shops, &c.; Patent Winding and J Ovens, Chaffers, Boxes, OA^TKEF ODDICARTREF. Or W A E I A HOUSE- PRIVATE HOTEL), 9 Upper Voburn Place, TAVISTOCK SQUARE, LONDON, W.C. ort Fares to Paddington, London Bridge, Victrorta and Waterloo Stations, Is. c ^ings Cross, Strand, St. Cab Fares to A"s4^nHral Places of Amusements, Is. Pivrmnutes' Walk from Huston Station, Midland, King OrOdS and Gower Street Stations, Proprietor R. G. PRICHARD, 1 KU LATH POKTMADOO. Televraph -L^res*— GWYNV A. ..—=.—— I :t I B! su ,gj 1. i 2. i OYFRE8 Y CEINION-Pris Is. yr n LLYFRAU CYHOEDDEDIG gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool 1.—Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch W. REES, D.D. 2.-Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES. D.D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D. D. Y TW LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4.-Gardd Eifion: sef, Barddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDTJ 0 EIFION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Fac-simile o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.-Gwa th Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD CiOCH Hugh Hughes), a ROBIN DDU o FON. 7.—John Blackwell (Alun. Ei holl Waith Barddonol. S.-Vr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES o Bontypwl. 10.—Dihau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a IL-Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EIFIONYDD. Y Gyfres laf a'r 2il. 12.-Rheinalit ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing.. Furs. —AND— Millinery. In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. (F PEIDIWCH OEDI. GASTROCYNE [(BENSON EVANS) ydyw y FEDDYGINIAETH SICRAF RHAG DIFFYG TREULIAD, Poen ar ol Bwyta, Cur vn y Pen, Poen rhwng yr Ysgwyddau, Cyfogl Penvsgafnder, Dwtr Poeth, Gwynt, &c. Canoedd o dystiolaethau oddiwrth hen ac ieuainc sydd wedi cael gwellhad drwy 'GASTROCYNE' MEWN POTELAU (13 doses), I/Ii; (4? doses), 2/6. —Ar werth gan bob Fferyllydd.— WHOLESALE AGENTS- EVANS, SONS & CO., LIVERPOOL. R. HORENDEN & SONS, LONDON. OLDFIELD PATTISON, MANCHESTER. Neu oddiwrth y Perchenog- T. BENSON EVANS Manufacturing Chemist, F) DENBIGH, North Wales. 2 Tlyfr MILOEDD, 2 S' NABL ISALAW 18 0 DONAU NEWYDDION AR PN EMYNAU CYMRU, yn ngljyda'r geiriau, Pob archebion gyda blaendal i'r Awdwr, ISALAW, BANGOR. Neu Mr. E. D. WILLIAMS, North Wales Music Co., Bangor. Rhan-gan, "Mawl-gan i'r Gwaredwr." H.N. 4c., Solffa Ie. Pedwarawd, "Draw ymhell." Pris 4c. AT Y CANTORION. New Song, as snng by Mr. Ben Davies at Carnarvon Eisteddfod. "HOFF WLAD FY KGENBDIGAETH" Dear Native Land). Music by Dr, Jos. Parry. 1/- New Songs by the late R. S. Hughes (Pigion o ganeuon B\H,> "ELBNFWYN." 1/- un o'i ganeuon olaf a goreu. Sop. or Tenor., "LULLABY." (Suo-gan) 1/- one of the sweetest Cradle Songs composed. Baritone, "Y MILWR OLWTFBDIQ," 2S The Wounded Cavalier). A Grand Song—Vide the Pres "THE SILENT SINGER." 2/- Words by Oxenford. Music by Dr Rogers- POPULAR SONGS. "Gwlad yDelyn." J Henry. Is. "Bwthyn yr Amddifad." Is "Merch y M orwr," Is. "Y Dymhestl." R. S. Rughes. 2s. "Inchcape Bell."R.S.Hughes,2s. "Bugail yr Eryri." D. Parry, 2s D. TREHEARN, Publisher, Rhyl. -ARGRAPHU- o bob math, Cymraeg a Saesneg, yn Swyddia'r "CYMRO," 18, Brunswick Street, LERPWL.
RHYDI WYLFA AIBOBLOD.
RHYDI WYLFA AIBOBLOD. [Gan YR HEN WYLIWR.] PENKOD XXIII. YCHWANEG AM BOB ROB. PRIN y mae angen dweyd ddarfo(I i'r ysgarmes a gymerodd 1e rhwng Simon Wynne a Bob Rob achosi llawer o gyffro a theimladau annymunol yn Rhyd y Wylfa a'r amgylchoedd. Yr oedd dyn- ion difrifolaf y pentref yn beio y dynion call fuont yn euog o demtio ffyliaid i gweryla.ac ymladd. Yr oedd eraill, mwy cellweirus, yn mwynhau yr haues, ond yn cydymdeimlo a Bob Rob yn hytrach nag a Simon Wynne. Wrth ystyried enwogrwydd Bob fel gwasgwr, synid ddarfod iddo gael ei drechu gan Simon ond yr oedd esboniad Bob yn egluro y mater ar un- waith-" Fasa waeth gin i," ebai efe, "gelsio gwasgu morfil na gwasgu y ffwl gwirion yna yn yr hen got oil fawr yma. Tasa fo heb bono mi faswn i wedi gwasgu pob chwthad allan ohono fo. Ond o ran hyny, ddylswn i ddim cymryd sylw ohono fo, achos mi wyr pawb nad ydi o ddim baner call." O'r ocbr arall, bu lawen gan Simon Wynne glywed—o'i guddfan—fod Bob Rob yn fyw, ac nid gormod fu ganddo fyn'd ato i ddatgan ei ofid oherwydd yr hyn a gymerasai le a dyma fel y symiai yntau y mater i fynu wrth ei gym- 0' ydogion— t, Alaon rhaid i mi gydnabod na neis i ddim yn iawn efo'r creadur yna, a mod i wedi daros- twng fy bun wrth i daro fo dydio ddim yn werth i daro, achos mi wyr pawb nad ydio ddim yn agos i un owns ar bymtheg ar y gora ac mae arna i ofn y bydd o'n sgafnach byth ar ol y r_1 cnoc gafodd o." Ar y cyfan, colled i Simon fu ei enill ond y enill i Bob fu ei golled. Troes cydymdeimlad ieuenctyd o blaid Bob, a chafodd well heddwch ganddynt am amser maith ond bu raid i Simon ddioddef llawer mwy, a'i luchio a tbywyrch, a'i wawdio, ar ol hyn. Heblaw hyny, os oedd Bob Rob yn ddiog cynt, cafodd ec-gns go lew drosto am flynyddau wedi hyn a darfu i waith Simon Wynne yn rhedeg heb ei ffyn baglau a'i got fawr dori ei gymeriad am byth, oblegid profwyd tuhwnt i bob anmheuaeth bellach mai yn ffogio lleso-edd yr ydoedd. Anfynych wedi hyny yr ymdeithiai drwy y pentref; ac ni chymerodd dim neillduol le yn ei hanes ac ychydig iawn o eiriau a basiodd rhyngddo a Bob Rob bytb wed'yn. Ond yr oedd Bob yu hercian o gwmpas fel o'r blaen, gan ychwanegu at restr ei droion trwstan a'i engreiphtiau o ddiogi; ac feallai nad gwaeth i mi groniclo rhai ohonynt yma— Un tro, aeth Bob Rob i ymweled a chyfnither iùdo-Mari Jones, yr hon oedd yn byw mewn ty ar ymyl y ffordd tua dwy filldir o'i gartref. Aeth Bob i'r ty, a gwelodd nad oedd neb i fewn -eisteddocld yn gomfforddus yn y gadair fawr yn y gongl ac i basio yr amser nes y deuai ei gylaither i'r ty, estynodd ddarn o gosyn a darn o dorth oedd ar astell gerllaw, gan eu gosod ar y b-vrdd oedd o'i flaen, a helpodd ei hun—fel arfer-yn bur helaeth. Cyn hir, modd bynag, daeth cwmni i fewn ato, yn y ffurf o fochyn du bychan ond ni hidiai Bob mohono, "c aeth yn mlaen gyda'i saig, gan roddi yr un rhyddid i'r mochyn ag a roddai y mochyn iddo yntau, ac yr oedd y naill mor brysur a'r llall, bob un yn ei ffordd ei bun. Yr oedd amryw lestri o gylch y ty, rbai ar feinciau a rhai ar lawr. Dechreu- odd y mochyn du ar ei hynt ymcawiliadol, gan osod ei drwyn fel trosol o dan feinciau a llestri, ac yn bur fuan yr oedd golwg dryblithog fir lawr y ty—basgedaid o datws mewn un man, dysglau teilchion mewn man arall dillad glan yn cael eu trybaeddu yma, a photiau llaeth wedi eu dymchwel am ben y cwbl o'r fan draw. Ond tra yr elai hyn oil yn mlaen, eisteddai Bob Rob yn ei gadair fawr, yn bwyta bara a chaws, ac yfed llaeth, mor ddigyffro a boncyff pren. O'r diwedd daeth ei gyfnither i fewn, yr hon a fuasai yn brysur yn tacluso yr ardd oedd yn y cefn, ac yn cau bwlch oedd yn y clawdd, drwy ba un y deuai moch i fewn iddi-ac un o'r tros- eddwyr penaf oedd y mochyn du. Yr oedd palis haner crwn rhwng yr aelwyd a drws y cefn, ac felly nis gwelwyd Bob Rob gan Mari Jones ar y cyntaf. Pan welodd hi yr olygfa ar lawr y ty, bu agos iddi fyn'd i lewyg ond catod-l y mochyn brofi yn bur fuan, dan bwysau ysgub gwraig Ty'nyffordd, fod yn rhaid iddo newid maes ei ymchwiliadaeth. Wedi iddi ddechreu ad-drefnu y chwalfa oedd o'i chylch y clywodd Mari Jones swn chwerthiniad, ac y gwelodd ei chef nder, Bob Rob, yn eistedd yn ddidaro yn y gadair fawr, ac ebai hi- Fyth o'r fan ma, Bob, oeddat ti'n ista yn y fan yna ac yn ydrach ar beth fel hyn yn myn'd yn mlaen 2" "Wei," ebai Bob, gan edrych mor ddifrifol a barnwr— Wel, Mari bach, roedd yn dda gin i dy weld di yn dwad i fiawn, achos mi ddoth yr hen fochyn du bach yna i'r ty, ac mi nath fawrion ddryga ma." Sut gebyst na fasa ti yn i hel o allan ?" go- fynai Mari, yn chwyrn. I I Wel, ebai Bob, "yr oeddwn i yn rhyw feddwl i hel o allan o hyd, ond yr oeddwn i'n cael tamad o fwyd yn y fan ma, ac yn meddwl bob munud mod i'n clywad swn troed rywun yn dwad i miawn. Lie buost di, dwad, Mari ?" "Boeth y bo'ch di," ebai Mari, yn ista yn y fan yna, i bel yn dy fol, ac yn gwel'd y moch- yn yn dyfetha nhipyn petha i fel byn. 'Doedd- wn i fawr feddwl, pan oeddwn i yn cau y bwlch oedd yn nghlawdd yr ardd, rhag i'r hen foch yna fyn'd yno, dy fod di yn gadael i'r mochyn du wneud peth fel hyn. Mae rhyw adnod yn deyd ma duw rhai yw eu bol,' ac ma hyny'n wir am danat ti, beth bynag. Am chydig gin i na rown i yr ysgub yma ar dy gefn di, y gelach diog 'Rydw i'n gwel'd fod rwbath y matar arnat ti heiddiw," ebai Bob, "achos yr wyt ti mewn tempar drwg iawn. Ma'n difar gtn i mod i wedi dwad i ydrach am danat ti, yr hen ffolog wirion. Rhaid i ti gael edliw tamaid o fwyd i dy gefndar." "Oesryw sens, meddi di," gofynai Mari, mewn i ti adal drws y ty'n agorad, a gadal i'r mochyn ddwad i neud y peth natb o, a thitha yn ista yn dawal i ydrach arno fo ?" Ddyliwn i, Mari," atebai Bob, "fod y mochyn du bach wedi gneud i feddwl i fynu y lUyn o fod yn yr ardd neu y ty, achos creadur bach aflawan ydio a nghred i ydi y bydda'n well i ti agor y bwlch fuost ti'n ei gau, a gadal iddo fo fyn'd i'r ardd, yn lie iddo fo ddwad i'r ty fel hyn. Mi ddyla peth fel hyn fod yn wers i ti ar gyfar y dyfodol, Mari." Yr olygfa gymerodd le, gydag i Bob orphen ei araith goeglyd, oedd ei weled yn bercian allan o'r ty, a phwysau ysgub ei gyfnither rhwng ei ysgwyddau. Er hyny, ymgysurai Bob o dan ei erledigaeth, a'i eiriau ymadawol oedd- ynt- Gwna dy waetha, Mari, mi ges ina y pleser o neud dy fara a chaws di yn dipyn llai. Yr hen ffolog wirion iti Hysbyswyd eisoes fod Bob Rob yn byw mewn tyddyn gyda'i dad a'i frawd, lie y cedwid bnwch a cheffyl. Yn gyffredin, byddai un darn o gae yn dir llafur a'r llall yn wair. Un tym- hor yr oedd y gwair wedi ei gario o un darn o'r maea a'r adladd yn dechreu tyfu, tra'r oedd yr yd yn dod i'w dywysen yn y darn arall. Un diwrnod tesog, gollyngwyd y fuwch i'r borfa, a dywedwyd wrth Bob am ei chadw o'r yd. Aeth Bob i'r cae, a gorweddodd ar ei hyd rhwng yr yd a'r borfa, a'r holl wasanaeth wnaeth efe oedd gofalu na chai y fuwch groesi drosto. Yr oedd ffordd yn rhedeg heibio y cae, ac wrth weled y fuwch yn yr yd, gwaeddodd geneth oedd ya myn'd heibio,— "Bob! Bob!" Cododd yntau ar ei led ochr, a gofynodd, Be' sy', dwad ?" "Mae'r fuwch yn yr d, Bob," ebai'r eneth. Tyr'd dithau yma i bel hi ohono fo," oedd yr atebiad chwyrn, "neu dwad wrth roi ohonyn nhw yn y'n ty ni, achos does gynyn nhw ddim byd i neud yno ond siarad," a gorweddodd ei fawrhydi ar ei hyd ar lawr fel o'r blaen Fe gofir befyd fod Bob Rib yn grydd, ac weitliiau anfonid ef ar nege<seuau Crispinaidd. Anfonwyd ef un tro gyda pbar o esgidiau new- ydd eu gwadnu, pcrtliynol i Humphrey Roberts, Bryn Uchel. Yr oedd ilwybr Bob tua'rffermdy yn croesi hen bont gareg dros afon fawr. Elai Bob yn ei flaen gan swnio canu, a chariai yr esgidiau wrth linyn ar ei fraich. Fel yr oedd efe yn croesi y bont gareg, llithrodd ei droed ychydig, ac i arbed ei hun gollyngodd yr esgid- iau a suddasant i'r afon. Safodd Bob dros enyd, a syllodd i'r Ilif, ond cerddodd yn ei flaen heb ymchwil pellach i hanes yr esgidiau. Aeth i'r Bryn Uchel, a phan welodd efe Hum- phrey Roberts, dywedodd wrtbo,- "Middarunhad wadnu'eh sgidia chi, Wm- phra Roberts, ac mi danfonodd fi yma efo nhw." "Dyro i mi gwel'd nhw, Bob 1" ebai Hum- phrey Roberts. "0, dydy nbw ddim gin i nvan," atebai Bob. Ddim gin ti, a tbitha wedi dy ddanfon yma efo nhw ?" gofynai gwr Bryn Uchel. "Wei," ebai Bob, "i neud y matar yn ola i chi, Wmphra Roberts, pan oeddwn i yn croesi y bont dros yr hen afon yna, mi lithrodd y nhroed i, ac mi syrthiodd y sgidia o ngafael i ac i'r afon ond mi ddois i yma i ddeyd wrthoch chi lie mae nh w, gael i chi fod yn fodlon." Yr oedd gan Bob Rob ddawn i golynu, a chafodd rhai brofi ei eiriau miniog. Un diwr- nod heulog, fel yr oedd Bob yn hercian yn mlaen drwy'r pentref, daeth Yswain y Glyn allan o'r Red Lion yn union i'w gyfarfod yr oedd yn amlwg wrth ei wedd ei fod wedi yfed llawer llwnc o ddiod, ac wedi iddo sychu ei enau cyfarchodd Bob fel hyn,— "We1, Bob Rob, mae hi yn braf iawn, yn tydi hi." Troes Bob ei geg gam tuag ato, a dywedodd,— "Ydi, mae hi yn braf gynddeiriog ar rai, ddyliwn i," ac aeth yn ei flaen yn orchfygwr, yn swn chwerthiniadau iachus yr hen Yswain blon- egog. 'Doedd ar Bob ddim llawer o ofn hyd yn nod ysweiniaid. Cafodd yr hen Ddr. Lloyd, Plas y Fron, er mor ddiystyrllyd ydoedd o Bob, deimlo un o'i ergydion. Yr oedd y Dr. Lloyd yn hoff iawn o alw yn yr efail gyda Sbon Gruffydd. Un tro pan yn myned yno, gwelai Bob Rob yn eis- tedd ar hen olwyn trol tu allan, yn ofni myned i fewn, oherwydd y ddeddf yn erbyn hyny. Dechreuodd Dr. Lloyd fwrw geiriau gwreichion- Hyd o wawd ar ben yr hen frawd, a'r hyn ni byd iai byth yn colli cyfleusdra, a dirwynodd ei sylwadau i fynu fel hyn,— Wel, wel, peth truenus cynddeiriog ydi pod yn ffwl ac heb wbod hyny. Mae'ntebyg pod hwn yn meddwl i fod o'n call iawn." t> Cynhyrfodd Bob trwyddo, ac ebai efe wrth ei watwarydd,— Peidiwch cbi a chamgymerpd, er cimin gwr ydach chi yr ydw i gan galled ag y buoch chitha 'rioed, a challach hefyd. Tasa nillad i am danoch chi mi fasach y lob pena yn y wlad yma. Yr hen ffwl gwirion Fe gafodd Bob lonydd gan yr hen Ddr. Lloyd o hyny allan. I wneud cyfiawnder & Bob Rob, dylid nodi fod ganddo, nid yn unig dalent i fwyta a diogi a cholynu, eithr hefyd dalent gerddorol. Dis- gynai o hen linach enwog yn y ddawn bon. Yr oedd traddodiad yn Pkyd y Wylfa fod ei daid wedi canu bas nes torodd ffenestri capel dan y dirgryniadau, Yr oedd ei dad yn arweinydd canu gwych. Nid rhyfedd gan hyny fod rhan o'r un ddawn wedi disgyn arno yntau. Yr oedd ganddo lais pur swynol, a chanai fas yn well na dim arall. Ond yr oedd honiadau Bob fel cerddor yn llawer mwy na'i allu. Tybiai ei fod yn ganwr diail, ac nad oedd neb yn Rhyd y Wylfa yn agos ato. Rees Jones, Glan yr Afon, oedd cerddor penaf y cylch o ddigon ond dy-