Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
For Breakfast, Dinner and Supper, use only Ambrose's Cocoa,
!"O'R UN WAED A'R AWEN WIR."
"O'R UN WAED A'R AWEN WIR." XII.—TALIESIN 0 EIFION. ER i'r bardd penigamp hwn dreulio bron ei holl oes yn Llangollen a'r gymydogaeth, brodor ydoedd o Eifionydd, fel y mynai ddangos wrth ddewis ei ffug- enw-un o wehelyth yr 0 Wen, y sonir am danynt gan Elis Owen, Cefnymeusydd, mewn hen rifyn o'r Brython. Yn Llanystumdwy y ganwyd ef," ond daeth ei rieni i fyw i Langollen pan oedd ef yn blentyn-ond yn ddigon hen i gofio am dani, ac i'w serch ymglymu wrthi fel y dywed yn yr englyn a wnaeth ar ei ymweliad olaf a'i hen blwyf gen- edigol Yn Eifion y mae'm hynafiaid,-huiiaiit Yno, 'rhen anwyliaid Wylo'r wyf dy adael raid,—fro lonydd Ond tir Eifionydd yw cartre' f'enaid." Tafliad go ryfedd ar draws gwlad yn yr oes hon a fuasai o Lanystumdwy i gwr Dyffryn Maelor ond dyiid cofio fod Llangollen driugain mlynedd yn ol ar y brif-ffordd o Eifion i Lundain, a cherbydau yn myned yn ddyddiol heibio y lie o'r naill fan i'r llall fel gwenol y gwehydd. Naill ai gyriedydd neu guard ar un o'r rhai hyn oedd tad y bachgen Thomas Jones, a ddaeth wedi hyny yn Daliesin o Eifion. Dygwyd y bardd i fynu yn baentiwr,— meddylid ar y cyntaf mai mewn paent y buasai yn barddoni; ond er fod ganddo ddawn neillduol at gymysgu lliwiau, ac amcan da at dynu lluniau, o ddiffyg y eyfarwyddiadau hyny y rhaid hyd yn nod i'r athrylith fwyaf uchelryw wrthynt, mewn paentio yn enwedig o bob gwaith cain, ni lwyddodd Tal. yn y ffordd hono i radd gwerth son am dani. Dechreuodd hefyd brydyddu pan yn ieuanc ac o'i ben ei hun, gyda help ei glust deneu, graff, y meistrolodd y cynghaneddion, yn hytrach na thrwy efrydu "gramadeg cerdd." Cyrhaeddodd berffeith- rwydd neillduol yri y gelf hon a chyda thri neu bedwar eraill, nodir ef yn bencampwr yn y gynghan- edd. Ond daeth helyntion y byd hefyd i bwyso yn gynar ar ei ysgwyddau. Collodd wraig ei ieu- engtyd ar ol hir nychdod; bron na ddyrysodd ei feddwl tyner yn y brofedigaeth fawr hon; ail briododd, a symudodd o'r naill fan i'r Hall, ond heb byth bron fyned o olwg mwg Llangollen. Bu yn y Cefnmawr am rhyw yspaid, yna yn y Rhos, a phan gyfansoddai ei awdl i'r Mor," ar gyfer Eisteddfod Caerlleon, yr wyf yn cofio ei fod yn byw mewn hongol o hen ffermdy mawr yn Mhentref Cristionydd. Ond ei ial ef oedd y Llan dychwelai yno o bob man, nes y dychwelodd o'r diwedd yno i aros yn mhriddell Mynwent y Ddol. Bu Taliesin farw Mehefin 6, 1876, yn rhywle tua 56 oed. Chwe' diwrnod cyn hyny, yr oedd wedi postio ei awdl ar Caradog yn Rhufain" i'r gystadleuaeth ar Gadair Eisteddfod Genedlaethol Gwreesam, ac efe a enill- odd. Ychydig ddyddiau cyn yr Eisteddfod, deall- wyd mai gwaith y bardd ymadawedig oedd y budd- ugol; a gwnaed darpariadau ar gyfer y cadeirio rhyfedd oedd i gymeryd He. Gorchuddiwyd y gadair a brethyn du, ac arweddai'r beirdd a gym- erent ran yn y seremoni arwyddion galar. Gorym- deithient o gylch y dodrefnyn gwag, tra y daliai'r gynulleidfa fawr ei hanadl mewn dystawrwydd, nes yr oedd yn hawdd clywed yr adar yn siarad a'u gilydd ar d6 y babell. Yr oedd yr olygfa fwyaf cyffrous a welwyd erioed mewn Eisteddfod. Gelwid y gadair hono yn Gadair Ddu," a dywedid eu bod wedi cadeirio ysbryd. Hyd yn hyn nid oes yr un llyfr o waith Taliesin o EifiDn wedi ei gyhoeddi. Bu rhyw son am wneud hyny rai blynyddau yn ol, a chynullwyd gymaint ellid gael yn nghyd gan ei fab, ond y mae'r son wedi darfod bellach er's talm. Gobeithio nad a'r casgliad ar gyfrgoll. Un diofal iawn o'i gynyrchion oedd Tal., druan ysgrifenai hwynt ar ddrabiau o bapyr fel y deuent i'w ben, cadwai hwynt yn ei logell nes ai'r papyrach yn siwrwd ac anfonai ei waith i gystadleuon, heb odid byth gadw copi ohonynt. Anfynych y cyfarfyddid mwynach ymgomiwr. Yr oedd yn gyforiog o sylwadau ffraeth, a chofion difyr. Pwy o'i hen gydnabyddion all byth an. nghofio'r wen ddiniwed, siriol hono fyddai ganddo pan yn adrodd rhyw hanesyn digrif, neu yn gwneud rhyw sylw pert ? Cyfarfum ef un tro gerllaw ei gartref-amser y luck time hwnw, fel y dywedir, oedd hi-tua deunaw mlynedd yn ol. "Sut y mae pethau yn dwad yn mlaen ffordd yma 'rwan, Tal?" gofynwn. O iawn," ebe yntau, degpwys o gig a phwys o datws ar bob bwrdd yma i ginio'r Sul." Yr oedd ei awen barod hefyd yn ei helpu yn fawr yn ei ffraethineb. Er engraipht Pan oedd ef yn edrych ar ol gwaith nwy Llangollen, yr oedd hen wreigan yn byw mewn congl neillduedig o'r Llan, dipyn yn hoff o'i dropyn, o'r enw Neli Ffowc. Taen- wyd y gair fod Neli wedi dychwelyd i'w bwthyn yn lied lawn o ddiod, iddi gysgu ar yr aelwyd, i slecyn poeth syrthio ar ei dillad, ac iddi losgi i farwolaeth. Credodd y bardd y chwedl ond yn mhen misoedd ar ol hyny, pan oedd y bardd yn myned yn nghylch ei orchwylion yn ngwyll y cyfnos, pwy ddaeth yn bwtsh i'w gyfarfod ar gongl heol, ond yr ymadaw- edig Neli. Fe ddychrynodd yn ddirfawr, ond cafodd grap ar lawes ei awen, ac mewn munyd, dyna fe'n tori allan mewn englyn byrfyfyr Rhybuddiwch y torwr beddau ;-Hai! wchw P'le mae'r clochydd yntau ? Gollyngwyd o gell angau Neli Ffowc yn ol o'i ffau." Ond yn y tlws a'r difrifol y gorweddai ei brif nerth wedi'r ewbl. Cyfansoddodd ami i awdl fesur- edig gydnerth, ac yr oedd hefyd yn bryddestwr llwyddianus. Y mae rhai o'i englynion ar lafar gwlad fel pe byddent ddihareb, megys Y glos Loer-Fugeiles Ian, -0 mae'n hardd, Yn min nos, o'i chorlan Yn dyfod a'i myrdd defaid man, I geisio'i gwr mewn gwisg arian." Nid yw ei englyn i'r Rhosyn nemawr llai adnab- yddus:— "Yr harddaf yn yr ardd ferth-wyt, Rosyn, Mewn trwsiad didrafferth Briodfab y lili brydferth,— Aroglydd balch,—arglwydd y berth Anaml er's rhai blynyddau bellach y gwelir y crynhodeb canlynol o ewyllys da i'r Hen Wlad yn absenol o fysg cyswyn-eiriau pabell yr Eisteddfod:— "Cymru lan, Cymru lonydd,—Cymru wen, Cymru anwyl beunydd Cymru deg, cymer y dydd,- Gwlad y gan,—gwel dy gynydd." Ebai am y Cleddyf,— Gwneud gloddest ar gnawd glewddyn- Yfed gwaed yw ei fyd gwyn." Efe a'u oarodd hwynt hyd y (liwedd "— Wedi'r Gorphen," a'r penyd,—yr Iesu, Pan roes fynu'r ysbryd, Welaf, yn ei olaf funyd, Yn gwyro'i ben i garu byd." Dyma bedwar englyn o'i ei IJo i Adfeilion Castell Dinas Bran," hafal i waith leuan Brydydd Hir i Lys Maesaleg :— ADFEILION CASTELL DINAS BRAN. 0 mor hoff drwy'r muriau hyn,—unwaith, Clywid tannau'r delyn Tra yn awr, wedi troi'n wyn, Tymhestl gan drwyddynt emyn. Hen binagl hardd uwch ben glyn,—ty iesin Tywysog y dyffryn Beth yw'r Ilys heddyw?—lie syn, Hwn i feirdd sy' hen furddyn. I'r Castell llwm trwm yw tramwy,— gwaliau Gweilion dê ac aswy Neuaddoedd glan Myfanwy, A'u palmant teg, p'le maent hwy Englyn a thelyn a thant,—a'r gwleddoedd Arglwyddawl ddarfuant: Lie bu bonedd Gwynedd gant, Adar nos a deyrnasant. Gallaswn lanw colofnau a dyfyniadau eyffelyb ond rhaid dybenu gan obeithio na chedwir Uenorion Cymru yn hir heb gyfleusdra i ddarllen cyfrol o holl waith cyhoeddedig Taliesin o Eifion. -0-
NANT CONWY.
NANT CONWY. BRWYNIAID. Brwyniaid yn mhob man yn eu hadeg, wir Na, nid ydynt i'w cael yn Mhrydain ond mewn tair afon, ac yn Nghymru y mae y tair hyny, sef y Rheidiol, yn gyfagos i Aberyst.vyth afon Gaer, neu y Ddyfrdwy a'r Gonwy. Nid ydynt yn nofio i fynu ynuwch yn y cyfryw afonydd chwaith nag y mae y Ilanw yn gwneud ei ffordd. Tua diwedd Mawrth a dechreu Ebrill y ceir hwy yn agos i Drefriw yn y Gonwy. Dyma adeg y claddu iddynt hwy. Mae dwfr eira wedi eu hatal hyd yn hyn eleni. Pan y bydd eira ar gopau y mynyddoedd a hwnw yn toddi y mae yn eu cadw ymaith fel na ddaw nemawr un i fynu hyd nes y diflana yn llwyr. Ni wyr "Hen Bysgotwr o Lan Llyn Mynyllog ddim byd yn eu cylch. Enw hir heb ddim yn galw am dano. PYSGOTA BRITHYLLIAID. Mae y tymhor wedi dechreu er dydd Gwyl Dewi. Nid ydyw y genweirwyr wedi gwneud rhyw fare neillduol, er fod amryw wedi dal cryn nifer o rai o ddeuddeg wns i lawr i haner wns. Bydd pysgota eogiaid yn dechreu y cyntaf o Fai. Mae y Graianllyn, sef y rhaiadr, wedi ei dori, fel y ceir digon o rydd fynediad iddynt ddyfod i fynu i Dolyddelen eleni. Nis gellir disgwyl cynhauaf toreithiog y tymhor hwn gan fod yr haint fungus wedi difa rhai miloedd derfyn y tymhor blaenorol. Mae yn rhywbeth tebyg i glafr ar ddefaid. Buan iawn yr ymleda ar hyd arwynebedd allanol y croen, try yr eog yn wyn a dihoena fel y daw y croen ymaith yn llwyr a'r cig a ddadgysyllta oherwydd adfeiliad braenllyd oddiwrth yr esgyrn. Nid oedd bywyd chwaith yn wyau y rhan fwyaf o'r rhai fuont i fyny yn claddu. Parodd hyn i'r claddu mewn lluaws o amgylchiadau droi allan yn fethiant llwyr. Mae wyau y rhai sydd dan yr afiechyd yn wyn pan fwrir hwy allan-yn hollol wywedig. Chwaneg eto. ELLIS O'R NANT. UNDEB CERDDOROL NANT CONWY Sefydlwyd yr uchod 20 mlynedd yn ol; a. bu leuan Gwyllt yn arweinydd y gylchwyl hyd ei farw- olaeth, pryd y dewiswyd Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth, yn olynydd iddo; a chafwyd digon o brawf fod y dewisiad yn un doeth. Mae y cymanfaoedd yn myned yn fwy poblogaidd ac yn enill nerth y naill flwyddyn ar ol y llall. Ymunodd cyfeillion Capel Curig a'r Undeb eleni, a chynhal- iwyd rehearsal yn Nghapel Tanygarth, y 18fed cyfisol, i barotoi ar gyfer y Gymanfa a gynhelir yn Mettwsycoed y 30ain o Fai. Dewiswyd amryw donau o gasgliad rhagorol Mr. Jenkins, sef y Gemau Mawl, yr hwn a gynwysa ddetholiad chwaethus a thra pwrpasol at wasanaeth y eysegr, ac y mae wedi ei gyfaddasu yn arbenig ar gyfer cymanfaoedd canu Y cydgan a ddewiswyd eleni ydyw "Dyrchefwch fry (Handel), ac yr ydym yn dra hyderus y ceir cymanfa boblogaidd a llewyrchus. AELOD. o
CREFYDDOL.
CREFYDDOL. RHIFA y Presbyteriaid Seisnig am y flwyddyn hon 65,688 o aelodau mewn 289 o eglwysi, yr hyn a ddengys gynydd o 669 yn yr aelodau y flwyddyn ddiweddaf. Ordeiniwyd Mr T. B. Griffiths (A), o Goleg Bangor, yn yr Adwy, ger Gwrecsam. Casglwyd f,326 yn agoriad capel newydd y Bed- yddwyr yn Mlaenclydach, yr eglwys ieuengaf o ganghenau Jerusalem, Llwynpia. Rhoddwyd galwad wresog i'r Parch Joseph Jones (M.C.), Fflint, i eglwysi Moriah a Ponkey. Derbyniwyd yr alwad o Eglwysi Brymbo a'r Lodge gan y Parch W. Williams (M.C.), Llanberis. Bwriedir i blant Ysgolion Sul y Bedyddwyr gasglu can' mil o goronau, er dathlu can'mlwydd- iaeth y Gymdeithas Genhadol, ac anrhegir y casgl- wyr a thlysau coffadwriaethol. Yr oedd y diweddar Dr Osborn yn un o gyn- lywyddion Cynhadledd y Wesleyaid. Dewiswyd ef yn llywydd ddwywaith, ac efe lywyddai yn Lerpwl yn 1881. Etholwyd ef yn 1868 yn athraw duwinyddol y Coleg yn Richmond, ac yno y treul- iodd y 17 mlynedd olaf o'i fywyd cyhoeddus. Dy- wedir ei fod yn gwybod hanes a chymeriad pob pregethwr yn y cyfundeb. Ganwyd ef yn 1808, yn Rochester. --0--
[No title]
Dygwyd cwyn am athrod gan Arglwydd Penrhyn, yn Llys y Frenhines, yn erbyn Cwmpeini Newydd- iadur y Licensed Victuallers' Mirror, oblegyd fod y papyr hwnw yn awgrymu anonestrwydd mewn cysylltiad a rhedeg ceffylau ei Arglwyddiaeth. Gwadai y cwmpeini y cyhuddiad, ond cytunwyd fod yr amddiffynwyr i dalu,6100 o iawn a'r costau.
Advertising
Ambrose's Cocoa, the best made. use no other "Ceffilimbp LLINELL Y BEAVER. r LERPWL I CANADA A R UNOL DALEITHIAU BOB DYDD GWENER, Gan lanio Teithwyr yn Ngorsaf Reilftordd v Canadian Pacific, Montreal. 160 ACR 0 DIR YN RHAD, gyda rhodd o £3 i'r rhai fydd yn setlo. i X Saloon i Montreal neu Quebec £ 8 & Xio. 2il Gaban eto eto Steerage eto eto Teithwyr yn cael eu bookio i bob parth o CANADA a'r UNOL DALEITHIAU am gludiad isel. R. W. ROBERTS, Goruchwyliwr. 21, Water Street, Lerpwl. PAPAYANN! STEAMSHIP COMPANY. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS ™SLregularly t0 the LEVANT, BLACK SEA EGYPT PnrN^t'- ,MAIiTA> and other Mediterranean I'orts, taking the following two routes alternately — (1) MALTA, SYRA, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain. TjTj.vr. £ £ £ IERS' MALTA> ALEXANDRIA, CYPRCS BEYROUT, and ALEX AND RETT A. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. -Lofty weIl- ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Moderate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships' stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers taking a trip by this Line wil find it most enjoyable and interesting. For further pariicu ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpool. LIVERPOOL & MOSTYN. THE STEAMER "SWIFT S U PlE," Will Sail between Liverpool and Mostyn, as under From Liverpool. From Mostyn. Friday, May 1 3 15 p.m. Saturday, 2 2 30 p.m. Monday, 4 5 30 „ 8 30 a.m. Wednesday, 6 8 30 a.m. Goods to be down at Chester Basin not less than 2 to 3 hours before time of sailing. For further particulars apply to Capt. DAWSON, Harbour Master, Mostyn or to R. & D. JONES, 28, Brunswick Street, Liverpool EADACHE Cured in half-an-hour by n taking GABITES'S Stomach and LIVER PILLS. CURE FOR INDIGESTION AND BILIOUSNESS. Testimonial. Trinity College, Cambridge, Dec. 5, 1889. Your Pills are the best I ever took. Prompt in action, and effective.—Yours faithfully, HOLBERRY HAGYARD] Price Is and 2s 6d per box, by post Is Id and 2s 8d. Prepared only by Wm. Gabites, 51, Upper Warwick-street. GABITES'S City Depot, 36, St. Johns-lane, Liverpool. 30 PHCENIX OIL MILL CO. LIMITED, Idvevpool, g £ 4MUFAgn»EIS OF FEEDING STUFFS EXTENSIVELY UBS g THE LEASING PEDICBEE STOCK OWNERS. "FHCENIZ PUBB" CALF MEAL Per 17/6 Cwt. Delivered at any Station. LED C KEI COTTON IZ (SERGE| JACKETS |6aBYROMs! 0 I
iProfedigaethau Enoc Huws.
pen arall i'r ystafell, nac yn cymeryd unrhyw ddyddordeb ytiddynt. Cyn gadael y Brown Cow y noswaith hono, trodd y Capten i'r bar, a gof- ynodd i Mrs. Prys pwy oedd yr hen foneddwr yn y parlwr ? Ni allai Mrs. Prys roi inwy o wybodaeth yn nghvlch y boneddwr na'i fod yn Sais-yn dod o'r 'Merica, ac yn ol pob argoelion yn gyfoethog iawn,—yn bwriadu aros am ddiwrnod neu ddau,—nad oedd yn yfed dim diod feddwol,—yn dweyd dim wrth neb os na fyddai raid i dd o, -ac yn darllen neuysgrifeuu o byd. Ychwanegodd Mrs. Prys ei bod yn siwr fod y dyn diarth yn wr boneddig mawr, achos yr oedd ganddo aur lon'd ei bocedau. Just y dyu i mi," ebe'r Capten, ar ei ffordd gartref, "ond y mae o yn rhy hen i speciletio, ac nid yw am aros yma ond deuddydd neu dri, ac y mae yn ditot. Welais i erioed ddaioni o'r titots yma oddigerth Enoc Iluws. Mae nhw yn rhy cautious i speciletio, ac felly, good bye, Yankee, not worth another thought." Dranoeth, gwelodd y Capten yr hen foneddwr ar yr heol yn siarad a. Jones y Plismon, fel pe buasai yn holiamypethyma a'rpeth arall; acwedi edrych arno, cytunai a. Mrs. Prys fod golwg bon- eddwr arno,-safai yn syth a chadarn ei wedd, er ei fod yn ddianmheu yn wr pumtheg a thri- ngain os nad ychwaneg Yr oedd ei wisg yndda, ac yr oedd wedi eillio ei fochgernau yn lan, gan adael ei farf ar ei wefus uchaf a'i en, a slouch hat am ei ben. Real American," ebe'r Capten. Arosudd yr hen foneddwr yn y Brown Gow amryw ddyddiau,—byddai yn ei gongl yn gyson yn darllen naill ai newyddiadur neu lyfr. Yn gymaint ag mai Sais Americanaidd oedd y bon- eddwr, ac mai Cymraeg a siaradai y Capten a'i gyfeillion, ni tbeimlai y cwmni fod ei bresenol- deb yn un cyfyngiad ar eu rhyddid. Yn gymaint hefyd a bod y gwr dyeithr yn ymddangos fel yn perthyn i gylch uwch o gymdeithas na hwy, ac yn hynod neillduedig, ni theimlai neb o'r cwmni awydd i agoshau ato, ac aeth pobpeth yn mlaen fel arfer. Ond pe buasai un ohonynt yn ddigon craff, gallasai ganfod nad oedd y boneddwr mor hollol ddisylw o'r cwmni ag y tybid ei fod. Oblegyd bob tro y byddai y Capten yn siarad, gallesid gweled y boneddwr yn cau ei lygaid- nid i fyfyrio ond i wrando yn astud. Bryd arall tremiai ar y Capten dros ymyl y llyfr neu y y papyr a ddarllenai. Hyn a wnai etc bob tro y siaradai y Capten, ond ni sylwai neb arno. Yr oedd y boneddwr wedi bod yn y Brown Cow wyth niwrnod. Rhwng ei brydiau, cerddai yma ac acw yn y gymydogaetb. Ni wnai gyfeillion o neb, ac ni welwyd ef yn siarad a neb oddigerth Jones y Plismon. Mae yn wir y byddai yn myn'd i Siop y Groes bob dydd yn mron i brynu sigars, oherwydd yr oedd yn ysmygwr dibaid. Ond Jones, yn ol pob ymddangosiad, oedd yr unig un oedd ar delerau cyfeillgar ag ef, ac yr oedd y Plismon wedi ei gynysgaeddu a. hyny o wybodaeth a feddai am y gymydogaeth a'i phobl. Ond ni wyddai byd yn nod Jones beth oedd busnes y boneddwr yn Bethel, ac ni wyddai Mrs. Prys byd yn nod ei enw. Un noswaith—nos Lun ydoedd-yr oedd y Capten braidd yn hwyr yn ymuno a'r cwmni yn y Brown Cow. Tra yr oedd ef yn ymddiheuro i'r cwmni, ac yn esbonio iddynt y rheswm am ei ddiweddarwch, sef ei ohebiaethau lluosog, digwyddodd edrych i'r cyf eiriad lie yr eistedclai yr Americanwr, a gwelodd ei fod yn syllu yn ddyfal arno dros ymylon y llyfr a ddarllenai. Grostyugoad y gwr dyeithr ei lygaid ar y llyfr. Tarawyd y Capten gan rywbeth, oblegyd petrusodd yn ei ymadrodd a chollodd ei ddawn, yr hyn oedd beth dyeithr iawn iddo ef. Wrth weled y Capten yn edrych i gyfeiriad y boneddwr ac yn petruso, edrychodd pob un o'r cwmni i'r un cyfeiriad, ond canfydd- ent fod y boneddwr wedi ymgolli yn ei lyfr. Nid oedd y Cap! en fel efe ei hun y noson bono -yr oedd yn fwy tawedog, ac yn ymddangos fel pe buasai rhywbeth yn blino ei feddwl. Ac felly yr oedd efe, yn fwy cythryblus ei feddwl nag a ddychymygai neb. Yn mhen ychydig funydau dywedodd yn ddistaw wrth ei gyfeillion y byddai raid iddynt ei esgusodi y noson hono—fod rhyw- beth wedi dod drosto-nad oedd Y:1 teimlo yn iach. Ychwanegodd fod yn rhaid ei fod wedi cael oerfel, neu ynte ei fod wedi gweithio yn rhy galed y diwrnod hwnw, oblegyd," ebe fe mewn ffordd o siarad, yr wyf yn teimlo quite yn faintish." Cynygiodd un o'i gyfeillion ei ddanfon gartref, ond ni fynai y Capten. Pan yn gadael yr ystafell, edrychodd gyda chil ei lygad ar y boneddwr, ond nid oedd ei ymadawiad yn effeithio dim ar yr hen wr,—yr oedd ei lygaid yn sefydlog ar ei lyfr. Synai Mrs. Prys fod y Capten yn tioi adref inor gynap, a phan ddywed- odd ef nad oedd yn teimlo yn iach, gwthiodd yr hen wreigan, yn erbyn ei waethaf, botel beint o mountain dew i'w boced, gan ei siarsio i gymeryd "tropyn cynhes cyn myned i' wely." Rwyf yn ftwl, yn berffaith ffwl Dychymyg ydyw'r cwbl! Mae yn anmbosibl Mae fy ffausi wedi chwaren cast a fi heno. Ond fedrwn i mo'i helpio, er nad ydyw ond nonsense perffaitb. Beth na ddychymyga cydwybod euog Mae gen i flys myn'd yn ol,—na, 'da i ddim yno eto heno, er mai nonsense pur ydyw." Fel yna y siaradai y Capten ag ef ei hun wrth fyned adref. Ac erbyn cyrhaedd Ty'nyrardd yr oedd ei feddwl wedi ymdawelu, ac yn llwyr ar- gyhoeddedig fod ei ddychymyg wedi chwareu cast &g ef ac eto, teimlai yn awyddus i gael rhywun i siarad ag ef, oblegyd yr oedd yn gwmni drwg iddo ef ei hun y noswaith hono. Nid oedd Enoc Hows yn Nhy'nyrardd y noson hono, ond yr oedd Susi yno, a diolchai y Capten am hyny-ni fu erioed mor dda ganddo am ei chwmni. Yr oedd Miss Trefor wedi synu ei weled yn troi adref mor gynar, ac yn synu yn fwy ei gael mcr fwyn, cared ig, ac awyddus am iddi aros gydag of i ymddyddan, ac yntau hefyd yn berffaith sobr. Dyma gyfleustra wedi dyfod iddi i ddweyd ei stori wrtho-ni chai byth well cyfle. Hyny a wnaeth, fel y eeir gweled. (l'w barhau yn ein nesaf.)