Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

---..---NODION CYMREIG.|

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. ———— YMWEL A NI. Ymwel a ni, 0 nefol. Dad, Er mwyn Dy enw mawr Dy hun; Mae ainghredinjaeth yny wlad Yn ail groeshoelio Mab' y dyn. Prin yw cawodydd Calfari, Er fod cymylau gras yn 11 awn; Ac ar Dy hen allorau Di, Mae'r tan yn llosgi'n isel iawn. Pechodau'r nos yng ngoleu'r dydd 0 Z, Sy'n rhoi Dy ddeddfau dan eu traed; Ac uchel floedd ynfydrwydd sydd Yn boddi swn anthemau'r gwaed. 0! Ysbryd sanctaidd, tyrd i lawr, I droi ein 'gpLwg tua'r nef; Os na chawn dwrf daeargryn mawr, Doed heibio swn y ddistaw lef. Addewaist wedi'r ingoedd llym, Y ty walltdadau yn ddiced1; Mae'r hen addewid yn ei grym, Mor ddigyfnewid! ag erioed. Os rhaid it' ddal d guro'n hir, O paid a chefnu air y ddor; Gorchiyged Dy gymhellion, clir, A thyrd i mewn, fendigalidlor. DYFED. .—«+— Mae'r Parch. J. J. Thomas, B.A., wedi ei sefydlu yn fugadl ar eglwys Saesneg Crwys Hall, Caerdyddt Ymdd'engys hanes y -cyfarfoci yn y CYMRO nesaf. —- A Celtic Psaltery ydyw enw llyfr o waith Alfred Perceval Green sydd' newydd gael ei gy- hoeddi gan. yr S.P.C.K. Ceir ynddo gyfieith- iad i'r Saesneg o amryw emynau mwyaf adttab- yildus Cymru. -+-- Bwriadwyd rhodldi crynhodeb o araith y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., ar Williams, Pantycelyn, yn y oolofn.au hyn. heddyw. Ond rhaid arcs am y wIedid honno hyd yr wythnos nesaf. --+-- Y mae Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr Rhosybol yn vmunc i gyinrtal cyfarfod gweddiau yn ystod yr wythnosau dyfodol. Eir i'r Eglwys a'r caperau yn eu tro, ac y mae y syniad newydd yn cael derbymad brwdfrydig gan drigolion yr ardal. --+-- Y tebyg yw fod Cymru a Scotland wedi, gwneud i fyny eu meddwl ar gwestiw n pryniant y Fasnach Feddwol. Pasiwyd yn erbyn Pryn- iant yng N ghymanfa Ddirwestol Gwynedd gyda mwyafrif gorthrechol. Y chydlig iawn ond y rhai sydd yn siarad o bLaid Pryniant sydd yn pleidleisio dros hynny yng Nghymru. -+- Penderfynwyd yn unfrydol gan eglwys Salem, Trethomas, Bedwas, Mynwy, nos Sul diweddaf, i ychwanegu tal am y weiridogaeth Sabothol, ac hefyd i roddi War Bonus i'r gweinidog parch- us, y Parch. T. E. Davies. Y teimlad, cyffred- inol ydcedd mai.1 ein rhesymol wasanaeth fel eg- lwysi yn gyffredinol ydyw meddwl am ein gweil1.. idogion a"u teuluoedd yn y d'yddiau ofnadwy hyn, a'u gosod uwchlaw pryder. Hyderwn y bydd i'r eglwvsd mawrion ddilyn esiampl y rhai bychain yn hyn o beth. Y mae'r eglwys, fechan hon yn llawn brwdfrydedd; a gweithgarwch, ac mae'r gweinidog a'i deulu wedi gwneud lie cynnes i'awn yn mynwes yr eglwys. Bu cystadleuaeth ddyddbrol ynglyn a Seren Cymru ar ddewis chwech o emynau goreu'r iaith Gymraeg. Syndod mawr yi gystadleuaeth ydoedd nad oedd un o emynau Williams, Pant- ycelyn, ac Ann Griffiths,, ymhlith y goreuon! Chwá Fethodistiaid sydd wedi bod yn son cymaint am Williams ac Ann Griffiths, a welwch chwi gymaint o anwybodaeth sydd yn y byd Mae Mrs. Lloyd Jones, Llandinam, wedi gwaddoli ysgoloriaeth ynglyin ag Ysgol y Cyngor, Llandinam, er cof am ei mab, Capten E. W. Lloyd Jones yr hwn a syrthiodd yn y rhyfel. Galluoga yr ysgoloriaeth yr enillydd i fyned d ysgol sir Drefnewydd neu Llanidloes, a thelir ei gostau teithio, hefyd. Mae Bwrdd Addysg SIr Drefaldwyn wedi derbyn cynhygiad Mrs. Lloyd Jones, ac yn darpmu trefniadau ynglyn a'r ysgoloriaeth. — Bu Mr. Hugh Edwards, Liverpool, yn siarad yn erbyn Cenedlaetholi yng Ngbymanfa, Ddir- westol Mon. Hwyracb y ceir cyfle rhagllaw i gael bam Mr. Edwards yn y CYMRO, oblegid ma.e efe yn wleidyddwr cra,ff. Hwyrach mai gwleddyddwyr ac nid crefydd\vyr sydd i bender- fynu'r cwestiwn pwysig hwn. Gall fod llawer gwleidyddwr yn ddyn crefyddbl, ond mid pawb, a gallai pan ddaw dydd barn y cwestiwn na bydd dadlieuon moesol a chrefyddol yn. cario cymadnt o ddylainvad ag y maent heddyw. Nid yw Cyngor Dinesdg Caerdydd o blaid Cyngor Addysg Cenedlaethol. Gwell gand'dynt fod dan lywodraeth yr awdurdodau yn Llundain na chael eu llywodraethu gan gynrychiolwyr Cymreig, a gwrthun a chwerthingar yw'r rhes- ymau ddefnyddir i ategu hyn. Dyma brawf arall nad' yw'r ddinas honina fod yn brifddinas Cymru ddim mewn cymaint cydymdeimlad ag y zn dylai fod a delfrydau Cymreig. Ond beth ellir ddisgwyl pan y cofir fod cynifer o'ti phenaeth- iaid yn Saeson rhonc. Hysbysi'r fod yn mryd! Esg,obion Cymru i sicrhau lleiafswm o gyflog o ddau cant o bun- nau'r flwyddyni a'r ciwradiaid o dan y drefn newydd. Os gwneir hyn fe gyll Ymneilltuwyr y wlad rai o'i' doniau goreu, gan, eu bod yn sicr o groesi drosodd, a hynny nid oblegid eu bod yn caru gwneud, ond am fod yn rhadd iddynt wrth foddion cynhaliaeth. Nid amhriodol i lawer fyddai cofio yr hen odl- A glywaist ti a gant yr ych oedd yn dyrnu ? Na ad i'th bregethwyr d hanner newynnu." 1 Dathlwyd dau can'mlwyddiaint geni Williams, Pantycelyn:, gan Gyfarfod Misol Llundain, nos lau, Hydref, i ieg-, ynjewdn Newydd. Y siar- adwyr gwahoddedig oedd Dyfed a'r Parch. Emrys James (A.). Am na ddaeth yr olaf yno, siaradwyd gan Elfed yn ei le. Lliywydd y cyfarfod oedd Mr. Wm. Lewis, Llywydd y Cyf- arfod Misol. Caed gynulleidfa wych i anrhyd- eddu coffadwriaeth yr Emynydd. Paratoisid rhaglen O1 Emynau a Thonau, a chanwyd Dyn ulieitlir ydwyf yma," a:r Scopas," gan Madame Laura Evans-Williams yn berffaith. +—, Ar ei bregeth yng Nghonwy y Sul o'r blaen, dywedai y Parch. R. R. Jones, Ysbyty, mai yr hyn ddysgid yn y-Beibl a'r Ysgol Sul oedd yn gyfrifol am wrthodiad llawer o wyr ieuainc Cymry i ymuno a'r fydddn. Gwell fai gan lawer ohonynt farw na bod yn filwyr, ac fe weithi'a llawer dan gyflog ar y ffermydd er mwyn osgoi hynny. Siaradai yn ddiweddar, meddai, gyda ffermwr oedd, hefyd yn ddiacon, a gofyniodd eli farn am' y rhyfel. Wei," oedd yr ateb, '• a siarad fel din con ac arweinydd crefyddol, yr wyf yn gresynu'r peth, ond a siarad' fel ffermwr, dy- wedaf am iddi fyn'd ymlaen am bytli." Un o brif dddgwyddiadau yr wythnosau hyn ydyw ymweliad Mr. A. L. Fisher, gweinidog Bwrdd Addysg, a Chymru. Daeth ,i lawr i ym- holi i ansawdd Addysg Golegawl, Ganolraddol ac Elfennol, ac ymddengys iddo wneud ym- chwiliad manwl a phersonol i'r naill a'r Hall, ac i'r gwr dysged'ig a dylanwado-l hwn gael allan nifer o bethau nad oedd yn feddiannol arnynt yn fiaenorol. —+ Dyddorol iawn oedd ei ymweliad ao, Aberyst- wyth. Dydd Sadwm anercho'dd gyfarfod o garedigion addysg yn Y sgol y Sir ynglyn a. dathliad yr un flwyddyn ar hugain o'i sefydliad,, ysgol, a adwaenid gynt, fel Ardwyn, o dan lyw- yddiiaeth y diweddar Barch. Llewelyn Edwards, ond sydd bellach o fewn cylch cyfundrefn yr Ysgolion Sirol, o dan ofal gwr tra adnabyddus i'ch darllenwyr a thrwy Gymru oil,—Mr. David Samuel, M.A. Saif yr ysgol mewn llannerch hyfryd, yn agos i'r dref, eto allan o dd'wndwr swn ei heolydd, o dan gysgod y LIyfrgell Gen- edlaethol, syddl megis yn gwarchae ar y bryn uwchben: —+ Prynhawn Sadwrn ymgasglodd nifer fawr o ysgolfeistrii blaenaf Ceredigion, Maldwyn, a Meirioni, i'r neuadd, a chafwyd cyfarfodJ rhag- orol, o dan lywyddiaeth y Parch. R. J. Rees, M.A., Cadeirydd y Llywodraethwyr, pryd y cafwyd amldnelliad gan Mr. Fisher o'i Fesur Addysg gogyfer a dyfodol, y wlad. Yr argraff a roddodd ar bob! sylwgar ydoedd, er nad yw yn feddiannol ar areithyddiaeth wefreiddiol, eto e.i fod yn llefaru am bethau ag y mae yn berffaith feistr amynt, ei fod yn d'eall ei broblem drwyddi draw, a'i fod yn feddiannol ai ddigon o benderfyniad a grymuster argy- hoeddiad d'w cario d'rwodd er gwaethaf pob rhwystrau. --+-- Cafwyd araith fer, ond tra brwdfrydig, gan Mr. Herbert Lewis, A.S., yn dangos y budd a ddaw i Gymru drwy fesur Mr. Fisher, a gair byr gan Mr. D. C. Roberts, Cadieirydd1 Pwyllgor Addysg y Sir, gwr sydd wedi bod bob amser yn flaenllaw gyda'r gwaith hwn, yn silcrhau Mr. Fisher y bydd i'r Pwyllgor hwn, wneud yr oil yn ei allu i weinyddu y ddfeddf yn yr ysbryd llydan a rhyddfrydig ymha un y Iluniwyd ef. Ddydid Llun ymwelodd a'r ysgolion elfennol, t) a chymerodd sylw manwl o'r modld y cyfrenhir addysg ynddynt, a dywedir ei fod wedi cael ei foddhau yn fawr yn yr hyn a welodd. —♦— Ond mae yn dra thebyg mai ei ymweliad ag ysgol y Tabernacl brynhawn Saboth gydia Mr. Herbert Lewis a achosodd fwyaf o ddyddordeb iddo. Ymwelodd i ddechreu a'r festri, lie yr oedd y plant yn cael hyfforddiant yn y Gair sydd yn cadw." Eglurodd yr arolygwr, Mr. Arthur Jones, iddo y drefn o ddysgu o'r wyddor i fyny i,'r Testament, y modd y ceir dynion; a merched yn barod i aberthu amser a thrafFerth i'w dysgu o gariad at y gwaith. Gwrandawodd arnynt yn adrodd y GorcymyniOlt1 ac yn canu, yna, ymwelodd a'r ysgol uwchben, a mawr oedd ei syndod i weled gwyr a gwragedd mewn: oed- t, 1-1 ran yn ymgodymu a phynciau y Ffyddl drwy holi y Pwnc. Diau i'r boneddwr galluog hwn gael "syniad cliriach nag erioed o'r blaen o'r achos o'r gwahaniaeth mawr a, fodola rhwng y Cymro a'r Sais. Credwn mai nid yn ofer y daeth I>lywydd Bwrdd Addysg i Gymru. Bu ei ym- weliad yn gyfrwng i roddi goleuni ar ei fwriad- au, o'r ochr arall diau ei fod yntau fel gwr craff a meddyliwr traiddgar wedi derbyn goleuni ar lawer o bethau, ac argraffiadau nas dileir hwy yn fuan.