Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
(Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr).
COLEG Y BALA.
News
Cite
Share
COLEG Y BALA. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Os bydd rhai o'r eglwysi eisieu gwajganaeth y myfyrwyr am y ddau Saboth, Ebrill 4ydd a'r neg, anfoner at yr Ysgrifennydd \ViJIi.am Morris, Malioel Road, Blaenau Ffestiniog. Yr eiddoch, yn gywir, Coleg y Bala. W. MORRIS.
COLEG DIWINYDDOL ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
COLEG DIWINYDDOL ABERYSTWYTH. AT -OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Carem hysbysu'r eglwysi mai cyf- eiriad Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau am Wyliau'r Pasc—sef o Saboth, M.awrth 27am, tros Saboth, Ebrill iieg— yw Mr. Wm. Edwards. M.A., T raws- coed, Aberdare Road, Mountain Ash. Yr eiddoch, &c., D. J. EVANS. Coleg Diwinyddol, Aberystwyth.
ABERYSTWYTH A'I SIOPWYR.
News
Cite
Share
ABERYSTWYTH A'I SIOPWYR. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Wrth ddarllen eich nodiad ar siopwyr Aber- ystwyth sydd yn agor ar y Saboth, teimlaf mai iawn ydyw cadarnhau mai nid brodorion o'r hen dref ydyw y rhai hyn ond dyfodiaid o Iddewon a ch-enhedloedd. dieithr ydynt, yn Ffrancod ac yn Saeson. Na, mae gan hen frodorion Aberystwyth fwy o harch, i'r Saboth ac i'w Arglwydd na dar- ostwng eu hunain mor isel, ond fel yr awgrymwch gresyn nad oes modd ymddwyn yn galetach tu.ag at y giwed poenu's, a gresyn hefyd Mr. Gol., fod siop- wyr parchus yn goddef i'r fath outlaws' i gyd- eistedd a hwy yn y cyngor masnachol (' chamber of trade) a hwynt hwy ydyw y siaradwyr uchaf eu llais a mwyaf eu swn. Onid yw yn gywilydd i ni Gymry ein bod yn goddef hyn ynglyn a bron pob sefydliad o'n heiddo? Pwy ddarfu wneud Aberystwyth yr hyn ydyw i dderbyn y fath ddynion diegwyddor. Mae eu digywilydd-dra hwy yn warth i bob sefydliad a chymdeithas barchus. BRODOR.
UN COLEG CYFUNDEBOL.
News
Cite
Share
UN COLEG CYFUNDEBOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-Gorchymynir i'ch gohebwyr ar y .cwestiwn pwysig hwn i fod yn fyr a chryno. Cad- waf at eich rheol er fod Rawer i'w ddwevd. Dat- ganaf fy llawenydd1 fod eich cyhoeddiad vn rhydd a diduedd i ddadleu y mater. Rhaid i lais y bobl- aelodau y corff-gael ei glywed a'i ystyried y tro hwn. Credaf fod rhesymau Bugail mewn rhifyn diweddar o'r Cymro' yn hollol deg ymhlaid un Coleg, ac Did hawdd yw dirymu ei ymresymi,ad. Hoffwn nodi un ffaith o bwys y gallesid disgwyl iddo ei ddefnyddio, sef agosrwydd y ddau goleg pres- y 11 ennol at eu gilydd yn ddaearyddol. Nid oes lawer o filltiroedd o'r Bala i Aberystwyth. Nid ydynt fel pe buasai un yn Wrexham a'r IJall yn Caerdvdd, neu fel yr oeddynt gynt y naill yn y Bala a'r llall yn Nhrefecca. Clywsom ddywedyd lawer gwaith:- "Aberystwyth is geographically in S. Wales but virtually in North Wales." Mae Coleg y De yn ymarferol yn y gogledd, ac yn ddiddadl atdynir myfyrwyr goreu'r gogledd yno yn raddol oherwydd manteision y Brifysgol a chvsuron y coleg diwinydd- ol. Dylai yr arweinwyr yn y gogledd a phwyllgorau addysg y Cyrddau Misol ynghyda rheolwyr hen Goleg rhagorol y Bala gofio fod aelodau y Cyfun- deb trwy y Gogledd yn dymuno i'r Cyfarfodydd infisol a r Gymdeithasfa ystyried yn llawn y pwnc o uno'r ddau goleg cyn gwneuthur unrhyw benod- iadau arhosol yn y Bala. Yr eiddoch Syr yn gywir, PROGRESS.
DWY EISTEDDFOD FAWR 1915
News
Cite
Share
DWY EISTEDDFOD FAWR 1915 AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,Afewn llythyr a ddaeth i'm 1 law beth amser yn ol, gofynai hen gyfaill sydd vn byw yn Califfornia fel hyn: Tyb,ed fod beirdd a llen- orion a chantorion Cymru yn gwybod i gyd am Eis- teddfod Gyd-genedlaethol Ffair y Byd, San Fran- •cisco, sydd i'w chynnal ddiwedd Gorffennaf, ac am ei gwobrwyon da?" Ac y mae'-r cwestiwn yma yn codi i'm meddwl innau y dyddiau hyn: Tybed fod Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn gwybod pan yn penderfynu ei chynnal hi yn wyth- » nos gyptaf Awst fod Eisteddfod fawr America wedi eael ei threfnu i fod yn wythnos olaf Gorffennaf? i Y mae un peth go bwysig yn peri y buasai yn dda bod ychwaneg 0 amser rhwng y ddwy. Dyna yw i hwnnw: y mae disgwyl i'r Archdderwydd fod yn y k naill a'r llall; ac nis gall fod, er cynefined ydyw a i; chroesi'r moroedd. oni chaiff fenthvi? Zeppelin gref. Os mai fel y cyhoeddir yn awr y cynhielir y ddwy fe fydd twll a siom pur fawr i lawer Cymro yn y naill neu'r llall, canys chwith i ami un fydd gweled i Eisteddfod Genedlaethol heb Orsedd y Beirdd a'r Archdderwydd. Ond a ydyw y beirdd yn cadw- mewn cof bed galw am iddynt anfon eu cynyrchion ar Weriniaefh (awdl), Abraham Lincoln (pryddest y goron). Bugeilgerdd Bugdil Eryri,' Cywydd y Gwladgarwr, a'r Tri Englyn i Asaph, Colwyn Bay, erbyn y cyntaf 00 Fai? a'r llenorion yn cofio myn'd ymlaen gyda'r Traethodau ar Nodweddion Cenedl y Cymry, Problem y Di-waith, Deffroad presennol y Byd. &c., i'w hanfon i'r un He? Dylent ddiolch i mi am hyn o broc iddynt. Yr eiddoch, GWYDDNO.
Y " MESUR GOHIRIO."
News
Cite
Share
Y MESUR GOHIRIO." AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Y peth fuasai yn rhoddi Cymru yrl dawel fuasai fod y Llywodraeth yn cymervd barn ac ar. gyhoeddiad Cymru i ystyriaeth ar yr adeg gyfyng bresennol, a hynny trwy gydnabod v cynrychiolwyr Cymreig yn y Senedd felly gallesid symud yn un- ol yn y mater hwn fel ynglyn a phob mater pwysig arall, yn enwedig ar gyfnod y gelwir arnom yn ben. naf dim i fod yn unol," Ond hyn ni wnaed ni hysbys-wyd Cymru trwy ei chyprychlOlwyr beth oedd ym .myned ymlaen y tu ol i'r lien ni hysbyswyd ni chwaith i ,ba gytundeb yr oeddis wedi dyfod ni chlywsom ar ba "seiliau yr oedd yr Archesgob yn ymyryd gyda'r Prifweinidog ar ran yr esgobion Cymreig ni ddatguddiwyd dim trwy y Blaid Gymreig fod unrhyw drafodaeth ar droed o,edd yn peryglu buddiannau Mesur Dat- gysylltlad,hyd nes y dygwyd y Mesur gohirio gerbron y Senedd. Yn union fel pe byddai bargen yn cael ei tharaw rhwng y Llvwodraeth a'r Blaid Wrthwynebol, yn ddiarwybod ac heb gydsyniad y Cymry y fargen yn dyfod yn Fesur a'r Mesur yn cael ei basio yn ei holl adrannau drwy Dy yr Arg- lwyddi heb gymaint a chael ei weled ond gan nifer fechan o'r Ty. Fel mai nid rhyfedd fod Cymru yn anesmwytho. Mae Mr. Lloyd George yn ei lythyr at y Parch. Evan Jones yn addef fod rhai o'r Un- debwyr (mwyaf eithafol) yn ceisio einioes Mesur Datgystylltiad, ac na pheidiant d'u hamcanion eto. Paham ynte y rhoddir iddynt achlysur? Ac os dy- wedir wrthym fod gair arweinwyr y BLaid Undebol —megis Bonar Law ac Arglwydd Lansdowne- yn un y gellir dibynnu arno, fel y dywed y Canghellor "I feel confident that they will not be guilty of perpetrating such a gross piece of tactical folly;" eto paham y rhoddwn demtasiwn o flaen hyd yn oed hwythau? A beth oedd yn galw am i hyn gael ei wneud? a phaham y cymeiwyd mantais ar yr ar- gyfwng presennol i'w wneud? Mewn gair a ydyw yn iawn cyflawni gweithred o anghyfiawnder tuag at genedl sydd yn credu yn ddwfn yn eu hachos er's 40 mlynedd er mwyn heddychu hyd yn oed y bobl oreu o'r Blaid Wrthwynebol. Mae'n wir fod yr argyfwng arswydus presennol yn peri i bob cuawd dewi: yr ydym yn y gwddf a'r gelyn mwyaf creulon, a rhaid ei orchfygu er hynny nid yw ein rhwymedigaeth i wneud yr hyn sydd iawn yn ddim Ilai. Mae'n wir fod ein anhawsterau yn fawr mewn cyfwng fel y presennol, etc ni ddylem betruso sefyll dros y gwir; ni ddylem ar unrhyw gyfrif gymeryd ein anhawsterau yn esgusodion. Gwnaiff ni yn hytrach yn fwy :gwrol dros ryddid os daliwn i gerdded rhagom er ymddangos fod y mor yn cau. Os llwfrhei yn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth." Ac yn yr adeg yr ydym yn amddiffyn iawnderau cenhedloedd bychain ar y Cyfandir-onid cyfleustra ydyw hwn i amddiffvn iawnderau eref-, ydol cenedl fechan y Cymry, sydd bob amser, a heddyw yn arbennig, yn deyrngarol iawn i fuddian. nau y Goron Brydeinig. Hyderwn y chwala y cym- ylau, ac y daw yr Haul eto i dywynu. Maentwrog. H. ELLIS.
YSBRYDEGIAETH.
News
Cite
Share
YSBRYDEGIAETH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr3—Wedi darllen llythyr y cyfaill a eilw ei hun—" Dros degwch yn y Cymro' am Mawrth 3, yr wyf rywfodd ym methu yn lan a chredu ei fod yn onest yn y peth a ysgrifenna. Os ydyw, y mae yn gorwedd mewn awyrgylch mor farwof afiach fel yr wyf yn teimlo mai y caredigrwydd mwyaf a allaf fi wneud ag ef ydyw cynnyg iddo ychydig ddognau o Air Duw yn destun myfyrdud. Yn Lef. xx. 6, ceir geiriau fel hyn, A'r dyn a dro ar ol dewiniaid a bruwyr i buteinio ar eu hoi hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a throaf ef ymaith o fysg ei bobl. Etc, sef Lev. xx. 27, gwr neu wraig a to ganddynt ysbryd dewiniaeth neu frud, hwy a leddir yn farw: a cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd ainynt eu hunain. Yn Deut, xviii. 9, a'r tair adnod dilynol, ceir geiriau fel hyn, Pan elych d.i i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ol ffieidd- • dra y cenhedloedd hynny. Na chaffer ynot—a ar- fero -ddewini.aeth, na phlanedydd, na daroganwr, na swynwr swynion, nac ,a geisio wybodaeth gan gon- suriwr, neu frudiwr, nac a ymofyna a'r meirw, oherwydd ffieidd dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hvn." B'le saif yr ysbrydegwyr yn wyneb y geiriau hyn? Eto, yn 1 Sam. xxviii. 8, darllenwn am Saul ym myned at y ddewines liw nos, megis y gwna yr ysbrydee-wyr yn awr, i geisio ganddi trwy ysbryd dewiniaeth ddwyn i fyny ato ef un oddi- wrth y meirw. Gwyddom beth fu y canlyniad. Ac yn Cron. x. n. gwelwn "felly bu farw Saul am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd, yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori a dewines i ymofyn a hi." Eto yn Act. xvi. 16, cawn Paul a Silas yn ystrydoedd Phillippi yn cael eu dilyn gan, ferch ag ynddi ysbryd dewiniaeth, yr hon a wa-eddai allan, "Y dynon hyn ydynt weision y Duw goruchaf yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth." Perffaith wirionedd, ond gwyddai Paul yr hyn ni ddeall ys- brydegwyr mai ysbryd cythraul oedd yn llefaru, am hynny Paul yn fiin ganddo, a drodd ac a ddy- wedodd wrth yr ysbryd, yr ydwyf yn gorchymyn i ti yn enw lesu Grist fyned allan o honi." A phan y gyrwyd hwnnw allan collodd yr eneth ei gallu i ddewinio. Eto yn Dat. xxi. 8, darllener, Ond i'r rhai ofnog, a'r digred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr a'r swyngyfareddwyr. a'r eilun- addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn o dan a brwmstan, yr hwn yw yr ail farwol- aeth. Yma gosodir swyngyfaredd yn -r un rhwym- yn a phuteindra a llofuriaeth, a'r llyn o dan yw diwedd y rhai euog o hono. Dyna dystiolaeth Gair Duw ynglyn a mater y meddylir mor ysgafn o hono gan lawer yn yr oes hon. Yn wyneb y gwirionedd-
Advertising
Advertising
Cite
Share
The County School, DOLGELLEY. (The Dolgelley Grammar School). Dr. Ellis Endowment, A.D. 1665. BOARDING & DAY SCHOOL FOR BOYS. EXCELLENT general education and training pro. vided, with special preparations for the Universities, the Civil Service and Commerce. BOARDERS received at the HEADMASTER'S HOUSE. For Prospectus, Fees, &c., apply to the Headmaster. Old College School, CARMARTHEN. Principals Rev. J. B. THOMAS, Rev. D. GLYNDWR RICHARDS, B.A., Hons., B.D., Wales. Science and Mathematical Master Mr. M. M. DAS B.Sc. Late Headmaster of Park-y-Velvet Acad. Under- grad. of Lon. University, Open Exhibitioner of Caidiff University. 1st in English, & Distinction in Chemistry, 1St Prizeman in Classics & Mathe- matics at Trevecca College. Welsh Matric. complete 7 Welsh Matric. 5 subjecti 2 College Preceptors, Classes 1, 2 & 49 Banks, Civil Service etc. 11 Aberys. Theol. Coll. Pts. i & n 8 Presbyt. College, C'then 7 Prelim. Theological Exams 3 RESULTS of 1913 64 Brecon 'Memorial Coll. 2 Bangor Independent Coll. 2 Cardiff Baptist Coll. 2 Bangor Baptist Coll. Bradford Coll. 1 Richmond Coll. Glasgow Institute 1 Grand TOTAL for 1914 97 BOARDERS RECEIVED. TFRMS MODERATF. Apply to Principals. Cvmdeitbas Yswfrlol f lIethodlstiald Calflnatdd. Yn unol a phenderfyniad y Gymanfa Gyffredinoli yn Nhrefnewydd, Mehefin 10-q, 1912. ffurfiwyd y- Gymdeithas yn ddioed, a chymeradwywyd hi gan y- Dirprwywyr lechyd Cenedlaethol Cymru ar y 27 0.. Fehefin, 1912. Aelodaeth Gwirfoddol. Bydd yn dda gan yr Ysgnlenyddion ddanfon rhesu- o'r cyfraniadau wythnosol sydd mewn grym oddiar y I sfed o ;Ionawr. Prif Swyddfa- 34, QUEEN STREET, CAERDYDD. Ysgrifenyddion- FT De: THOS. THOMAS, o'r Brif Swyddfa. I'r Gogledd: Parch W. W. iLLOYD, Hawthorne House, Llanbeblig Road, Carnarvon. Trysryddion- I'r De: Mr. EDWARD JENKINS, J.P., 154, Cathedral Road, Caerdydd. I'r Gogledd: Mr. JOHN DAVIES, Caernarfon. Ir. 0 0 Parry, A R.C.M. A.UC.W. Beirniad, Arweindd, ac Organ Recitalist, &a. Parotoir disgyblion gogyfer a'r arholiadau ynglyn a phrif golegau yn unig; mewn chwareu y berdoneg, yr organ, a diwylliant lleisiol. Hefyd, dymunir tynu sylw y Pwyllgorau Eisteddfodol, a Chymanfaol at dri o ddarnau newydd allan o'r wasg. Rhangan, "Bydd yn ffyddlawn" i leisiau T.T.B.B.. Canig, Brenin y Bore,' i leisiau S.S.A. Anthem Gyman- faol, Dy holl weithiedoedd," S.A.T.B. Cyfeiriad SCHOOL OF MUSIC, DLANRWST, N.W. O.Y.—Hefyd argraffiad newydd Perlau Seion." Pence Envelopes At Ossolladou Gffiwyslg 1915. e- ANFONWCH YN GYNAR YN I.LE COLLI AMSER. SAMPLES A PH RISIAU ODDIWRTH E. W. E V 4 N-q- Swvddfa "r e-ymro. PP DOLGELLAU.