Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

IFOR PUW| O'R HENBLAS:

News
Cite
Share

IFOR PUW O'R HENBLAS: NEU Y Cymro Llwyddianus yn un o Drefydd Lloegr. IV. MAWR oeddvnt y parotoadau a gymerent le tua'r Henblas. Yr oedd yr hen adeilad henafol yn ystod bywyd Morgan wedi syrthio i gyflwr o ddadfeilad, ond yn awr y yr oedd yno grefftwyr er's wythrosau. yn ei hrysur adnewyddu, nes y daeth eilwaith yn adeilad tywysogol yr olwg arno. Mawr y difyrwch a gai Ifor yr adeg hon tra yn ughymdeithae y gweithwyr. Yn mhlith y Iluaws ymwelwyr a fynychent yno yr oedd mab yr Ysguborfawr, yr hwn ni byddai yn dyfod braidd un ameer heb rywbeth yn anrheg i Ifor. Synai yn fawr fod ei fam yn ymddangos raor anngharedig ac yn edrych mor fradwrus arno, a' hithau yn arfer bod mor siriol a chymwycasgar i bawb ereil!. Arddacgosai Ifor erbyn hyn dalent neill- duol at ddysgu, er efallai casgallesid eto ei restru gyda'r dosbarth cyflym hwnw sydd yn yfed gwybodaetb fel dwfr; ond, yn ol tyetiolaeth ei ysgolfeistr, efe ydoedd y sicrat ei afael o'r holl ysgolheigion, fel ria ollyngai unrhyw beth o'i law heb ei lwyr feistroli. Penderfynodd ei fam, yn unol ag awgrym- iad ei feistr, i'w anfon i Ysgol llamadegol y dref. A dyna Ifor un boreu yn nghwm- peini Betsy yn rhoddi i'r teulu gusan' ffarwel, gan gyfeirio ei gamrau tua tbref y Derwydd ac er mai ychydig filldiroedd oedd rhwng ei gartref a'r ysgol, eto teimlid y fath hiraeth ar ei ol a phe buasai yn myned i Australia. Wrth ei gyflwyno i ofal yr hen ysgolfeistr, gofalodd Betsy ei rybuddio am iddo ofalu bod yn dirion wrth Ifor bach. Un neillduol ydoedd yr hen Jones, yr ysgolfeistr, er cael allan duedd- fryd naturiol meddyliau ei ddysgyblion, ac fe ddywedir mai anfynych y methodd neb a llwyddo pan yn dilyn cyfarwyddiadau yr hen ysgolfeistr. Daeth ei fam yn fuan i'w weled, ac 0! y llawenydd a deimlai Ifor pan yn d erbyn ei chusan mamaidd. Wedi iddi holi pa fodd yr oedd Ifor yn dyfod yn mlaen, dywedodd Mr. Jones ei fod y dysgwr goreu yn yr ysgol, gyda'r eithriad o fab y Trosnant; ac ond iddo gael addysg briodol, y buasai yn sicr o ddyfod yn feddyg rhagorol, oherwydd mai at hyny yr oedd gogwydd arbenig a neillduol ei feddwl. Synai ei fam at y fath ddywediad, fel yn wir mai o'r braidd y medrodd a pheidio gweru. Pan ar ganol y siarad, pwy yn ddamweiniol a ddaeth i mewn i'r ysgol oud William, etifedd yr Ysguborfawr Yn ol ei harfer, taflodd y fam y sarhad a'r dirmyg mwyaf arno, yn ol barn J for, drwy frioed allan yn uniongyrchol ar ei ddyfod- iad i mewn. Wedi i William holi ei hanes, a chael atebion boddhaol, yn nghyd a chyflwyno iddo goflaid o anrhegion, ffwrdd yr aeth Ifor at ei wers. Wrth fyned ym- aith, clywodd Ifor yr ysgolfeistr yn dy- -wedyd, Y mae hi yn ddynes brydferth annghyffredin," a William yn dywedyd rhywbeth am tua'r gwyliau, gan ar yr un pryd haner wincio ar Ifor. Ond nis gall- odd ddeall ystyr y fath ymadroddion, ac felly nis gwnaeth ychwaneg o sylw ohon- ynt. Dywedasom fod Ifor y dysgwr goreu yn yr ysgol, gyda'r eithriad o fab y Trosnant. Uwriedid dwyn Henry i fyny i'r gyfraith, ac yr oedd cyfeillgarwch neillduol rhyngddo ag Ifor; a chan nad oedd y Trosnant ond tua milldir o'r dref, byddai Ifor yn talu ymweliadau yno. Ar un o'r adegau hyn, yr oedd yno eneth tua blwydd yn ieuengach nac Ifor, ac yn gefnither i Henry, wedi dyfod ar ymweliad a'r Trosnant o Loegr. Yr oedd rhyw swyn neillduol o'i chylch, nid yn gymaint oherwydd ei phrydferthwch, er nad oedd yn hyny yn ail i'r un o hil Efa. Medrai Caroline fach enill serch ac edmygedd y mwyaf Stoicaidd ei deimlad, a liyny heb yn wybod iddo, ïe, yn wir, ac yn fynych er ei waethaf. Gan fod Ifor yn ifafryn yn y Trosnant, daeth Caroline ac yntau yn gyfeillion ar unwaith. Yr oedd y pryd hwnw yn amser cynauafu gwair, a mawr y difyrwch a fwynhaent wrth gyf- lawni eu campau diniwed rhwng y teisi gwair. Byddai y gwasanaethwyr yn fyn- ych yn anog Ifor i ddwyn cusan oddiarui, ac yn wir nid rhyw lawer o waith cymhell oedd arno; ond buasai can hawdded iddo ddal y corwynt a cheisio ei dal hithau y pryd hwnw. Nis medrai Ifor fod yn es- mwyth nac yn ddedwydd am haner mynud heb Caroline, na hithau ychwaith heb Ifor; ac eto pan geisiai nesau ati, ciliai oddi- wrtho fel ewig. Aeth Ifor yn foreu i'r Trosaant dydd ei hymadawiad er canu yn iach. iddi, a phan yn rhoddi ei law ymad- awol iddi, cododd rhywbeth i'w wddf, a'r ihywbeth hwnw na theimlodd ef erioed o'r blaen ei debyg. Yr oedd ei fron yn rhy lawn i'w dafod lefaru," ac felly bu raid tori y gair ffarwel ar ei haner; ond os jnethodd Ifor a siarad, medrodd y boreu I hwnw roddi cusan ar ei grudd rhosynawg. Cyflwyoodd hithau anrheg fechan iddo yntau fel cofarwydd' o'r cyfeillgarweh, hapusrwydd, a'r serch a fodolai rhyngddynt A oeddynt yn cam y naill. y llall yn wir- ioneddol? Caru, nac oeddynt; pa gariad a allasai fodoli rhwng plant mor ieuainc ? Pa enw vntau a osodir ar v teimlad a fodolai rhyngddynt ? A fuost ti erioed, ddarllen- ydd, yn, teimlo dy galon yn myned gyflym- ach, gvflymach, ar ol ryw wrthddrych oedd yn anwyl a gwerthfawr yn dy olwg, a phan yn ceisio ei antighofio, dy gof yn ei bortreiadu o'th flaen yn ngwyliadwriaethau y nos ac yn ngoleuci llachar y dydd, a'th serch yn ymblethu am daao fel eiddew am y mur. Wel, dyna'r teimlad a fodolai rhwng Ifor a Caroline, galw di yr enw a ewyllysi arno. (Vw barhau.)

Undeb Cerddorol Dosbarth Aberdar.

Siap yr Eilliwr.

Cor Aberdar a'r diweddar Asaph…

Nodiadau Ymylon y Ffordd.

Nodion Siaspar.

Bwrdd Ysgol Aberdar

Advertising