Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

, Ymddiswyddiad Ysgol- j feistr…

News
Cite
Share

Ymddiswyddiad Ysgol- j feistr j WEDI PUM' MLYNEDD A DEUGAIN 0 WASANAETH DDIDOR. j M:ae genym y pleser y tro hwn i anrhegu I darllenwyr y SEREN a darlun a braslinelliad bywgraffyddol o Mr Griffith Thomas Miles, ysgolfeistr Ysgol y Cynghor, Llwynhirion, Cross Roads, Nevern, Penfro. Ganwyd ef Gorphenaf 24a:n, 1844, yn Cwmmorgan, plwyf Cilrhedyn, ger Cistetfnewydd-Emlyn, Yr oedd yn un o ddeuddeg o blant. Enwau ei rieni oeddynt Nathaniel a Mary Miles, y rhai oeddynt golofnau yr achos Bedyddiedig yn Rehoboth. Bu ei dad yn flaenor canu yno am ddeugain mlynedd. Ei dadcu o ochr ei fam oedd berchenog liuaws o fferm- ydd a adnabyddid fel ystad Cilwenydd, ac yn swyddog yn y fyddin. Ei dadcu o ochr ei dad oedd James Miles efe a John Jones, Nantycastell, oeddent ddau o brif gynnorth-1 wywyr yr achos yn Rehoboth am driugain mlynedd. Pan yn bedair ar ddeg oed bedyddiwyd ef gan y Parch David Jones, i gweinidog. Derbyniodd ei addysg foreuol yn Penrhiwfawr, Capel Evan, ac yn ysgol Ramadegol Castellnewydd Emlyn. Ei athraw yn y lie olaf oedd T. T. Elias. Fel efrydydd yr oedd yn ddiwyd gyda'i wersi a thagorai ar ei gydfyfyrwyr. Arferai ei athrawon ei gyhoeddi y tnwyaf boddhaol, a proffesent ddyfodol disglaer o'i flaen. Yn Rhagfyr, 1865, cafodd ei appwyntio yn ysgolfeistr Ysgol Conwil Elfed. Et ragflaenydd yno oedd Timothy Richards, yn awr Dr Richards, cenadwr enwog China. Pan yn y lie hwn ymaelododd yn eglwys Ffynonhenry, lie hefyd y cymmerodd at arweinyddiaeth y canu yn olynydd i Dr Richards. Wedi bod yma am rai blynydd- oedd symudodd i Blaencoed oddiyno i Sketty a Clydach am dymhor. Tra yn y lleoedd hyn defnyddiai ei amser harnddenol i ddysgu cerddoriaeth y Solffa a'r Hen Nodiant trwy y cylchoedd. Mehefin 18, 1872, symudodd i Velindre, plwyf Nevern, a thrwy ei ddiwydrwydd a's ysbryd caruaidd daeth yn fuan i barch ac anwyiid ef gan bawb ddelai tufewn i'vv adnabyddiaeth. Tra yn y lie hwn yr oedd yn aelod yn eglwys Penuel, Cemmaes, lie hefyd yr oedd yn arweinydd y gan. Yn Gorphenaf, 1878, symudodd i ysgol newydd Llwynhirion, Cross Roads, lie y mae wedi aros hyd yn awr, yn llwyddianus ac mewn parch mawr. Pan y daeth iblwyf Nevern, nid oedd braidd neb yn abl darllen cerddoriaeth, yn enwedig y Tonic Solffa tufewn i gylch deng milldir. Cynnaliai Ddosbarth Solffa bedair gwaith yr wythnos am lawer o flynyddoedd yn dysgu pob enwad yn ddiwahaniaeth. Oidiar pan y daeth i Llwynhirion mae wedi bod yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn eglwys Oaersalem ac ar hyn o bryd yn ddiacon a thrysorydd yr eglwys. Trwy ei b-iodas a Miss Picton, march henaf Stephen Picton, Conwil Elfed, cafodd ddeuddeg o blant, tra mae rhai o'r cyfryw wedi marw mae ereill yn fyw ac yn llanw safleoedd am hydeddus yn Clynderwen, Bristol, a Deheudir Affrica. Merch iddo yw priod y Parch J T. Gregory (A.), Bryn- berian. Erbyn hyn y mae yn briod eilwaith a merch henaf S mon Harries, diweddar Penbenglog Farm, Meline, yn yr hon drachefa y mae wedi cael ymgeledd gym- hwys. Mae wedi bod yn oSerynol i ddysgu cannoedd os nad rhai miloedd yn ei ddydd. Mae llawer o'r cyfryw wedi marw tra ereill yn wasgaredig trwy y wlad a'r gwledydd. Yn nihiith y rhai fu ya cael addysgiaeth wrth ei draed gellir cyfrif llu iws o vveinid. ogion y gwahanol enwadau, ac un o'r cyfryw yw y Parch H. Elvet Lewis,, M A. Mae ereill mewn safleoedd da ac enwog fel meddygon, cyfreithwyr, capteniaid, &c,. y rhai allant olrhain eu haddysg foreuol iddo eft Yn awr y mae yn myned iymddiswyddo wedi bod yn ysgolfeistr am bum' mlynedd a t deugain yn ddidor. Mae yn amheus genym a oes ysgoifeistr arall yn awr yn ei swydd (o leiaf yn Nghymru) all gjstadlu a hyn. Da genym gael ar ddeall fod mudiad ar droed i'w anrhegu a thysteb fel arwydd o barch am ei wasanaeth gwerthfawr a maith, yr hyn y mae yn wir deilyngu. Gobeithio y bydd i'w gyfeillion lluosog yn mhell ac agos i ddal ar y cyfleustra trwy ddangos 'parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus,' 4 oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o hyn iddo.' Dymunwn iddo brydnawnddydd clir a dedwydd, ac yn y diwedd i dderbyn y gwahoddiad croesawol nefol. Da was da a ffyddlawn,' &c,

MISS MAGGIE WINTER JONES,…

MR. R. JAMES HUGHES, PENUEL…

--0--CWRDD DOSBARTH ABERAVON…

-0-CARMEL, SIRHOWY,

--0--RUHAMAH, PENYBONT.