Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ORIAXJ OLAF Y MADCCIAID ^…

News
Cite
Share

ORIAXJ OLAF Y MADCCIAID CONDEMN IEDIGr. Y pedwerydd cyfisol y dienyddwyd Cadben Jack a'i gyfelllion am lofruddiaeth Y Cadfridog Canby a'r dirprwywyr hedd- Wch. AT noson y 3ydd, hysbyswyd iddynt yr hyn oedd i gymeryd lie yn y boreu, ac yr oedd yn amlwg fod y newydd yn achosi teimlad dwys. Elai Boston Charley yn ttlaen a chnoi tobacco yn ddiwyd. gan boeri y sudd o amgylch y llawr. Hysbys- Wyd iddynt y cymerid gofal am eu gwrag- edd a'u teuluocdd, ac os oedd ganddynt rywbeth i'w ddweyd, y celent yn awr gyfle. Traddododd Cadben Jack araetb, hirfaith, swm a sylwedd yr hon oedd, nad oedd efe yn gyfrifol am y llofruddiaethau. Dywedai ei fod ef yn fwy diniwed na Bogus Charley, Hooker Jim, Steamboat Frank, a Shack Nasty Jim; mai y rhai hyny a gyn- Uwynasant ac a weithiasant allan y lof- mddiaetb, am yr hon yr oedd efe yn cael ei ddal yn euog. Erfyniai am i'w berthynas, Scarfaced Charley, gael ei ddienydd^o yn ei Ie, er mwyn iddo ef gael eymeryd gofal o'i deulu. Wedi gweled mai ofer oedd ei holl erfyniadau, dywedodd yn dawel, Yr "Wyfyn barod i fyned i weled fy Nhad Mawr sydd uchod." Boston Charley, yr ieuangaf o honynt, a dderbyniodd y new- ydd wrolaf, pryd y dywedodd, "Bachgen ydwyf, ond yr wyf yn teimlo fel dyn. Pan yn edrych o'm deutu, y mae y dynion hyn fel menywod. Yr ydwyf yn ddyn c^fr lawn, ac nid haner menyw."

WESLEYAETH A THEMLYDDIAETH…

Advertising