Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. CAN Å P COR W Y N T. 1 LLYTHYR XV. Frawdoliaeth Barchus,—Yr ydym yn cyf- arfod, heno, dan amgylchiadau pruddaidd a galarus iawn. Y mae y rhan fwyaf ohonoch sydd yn ymgyfarfod yma yn perthyn i ddos- -barth y gweithwyr tanddaearol, a diau eich bod wedi eich clwyfo i'r byw gan y newydd ,trydanol fod cynifer o'ch brodyr caledweith- iol wedi cyfarfod a'u hangeu mewn modd truenus a disymwth iawn. Fel y dywedodd ein Harglwydd mewn perthynas i ddameg y Morwynion," felly gellir dweyd yma. Ar haner nos y bu gwaedd." A dyma waedd fel udgorn-floedd croch y daran wedi rhybuddio rhyw dri-ugain o'n cyd-ddynion i wyddfod eu Barnwr heb awr na mynud i ymbarotoi ar gyfer yr ymdaith bell a difrifol hono. Gwyddoch oil, fechgyn, nad 'wyf fi yn lowr, na mab i lowr ond gwyddoch, hefyd, fy mod bob amser wedi arfer cydym- deimlo a'r dosbarth hwnw trwy y blynyddau, ac wedi dadleu yn gryf dros eu hawliau, mor bell ag yr oedd yn fy ngallu eiddilaidd i wneyd. Efallai fod genyf, lawer pryd, well mantais nag amryw ohonoch i astudio eich sefyllfa a'ch helynt, ac oddiar hyny i draethu fy marn heb ofni na manager na gaffer nac •overman; canys, er fy mod yn adnabod llawer o'r brodyr hyny yn ol y cnawd, bid hysbys i chwi oil nad wyf rwymedig na dar- ostyngedig i neb ohonynt, ac nid oes yr un ohonynt a fedr roi ffrwyn yn fy ngenau cyhyd ag y traethaf eiriau gwirionedd a sobr- rwydd. Yr wyf, bellach, yn tynu yn mlaen ar fy oedran, ac er's tua 35 mlynedd, wedi darllen hanes am y gwahanol danchwiioedd yn y pyllau glo o flwyddyn i flwyddyn ac yn wir, y mae y cyfryw hanesion yn cyfansoddi un o'r penodau duaf yn helynt y wlad a -clwir yn Gwalia Wen. "Gwen" yn wir! Du, a du iawn yr wyf fi wedi ei gweled yn nghyswllt &'r glo er pan yr wyf yn cofio dim. Gyda bod yr hen oruchwyliaeth (sef y levels) yn darfod, dyma y pyllau yn dyfod i weith- rediad a byth oddiar hyny, y mae damwain yn dilyn damwain, ne3 y mae clustiau y wlad wedi eu llwyr ferwino gan y newyddion trychinebus a'n cyrhaeddant o ddydd i ddydd. Beth feddyliech chwi am y rhestr dorcalonus a ganlyn ? il858 Dyffryn Casnewydd 20 wedi eu lladd. 1859 Chain Colliery, Castellnedd26 „ 1860 Risca 145 „ „ 1862 Gethin 47 „ il863 Margam 39 „ „ 1863 Maesteg 14 „ 1865 New Bedwellty 24 „ „ 1865 Gethin 3u „ 1867 Ferndale 178 „ „ 1869 Ferndale. 60 „ „ 1870 Llansamlet 19 „ „ 1871 Pentre 38 „ „ 1871 Victoria, Ebbw Vale 19 „ „ 1871 Gelli, Aberdar 4 „ „ 1872 Dyffryn Llyfnwy 11 „ 1878 Abercarn 270 „ „ Dyna 898 o bersonau, yn ystod rhyw ugain mlynedd o amser, o'n cydgreaduriaid wedi eu byrddio i fyd arall trwy ddamweiniau tan- ddaearol ac ychwaneger at hyny y tri-ugain diweddaf yn y Ddinas, 958, sef mil ond dau a deugain wedi eu llorio gan y gelyn tan- ddaearol Darfu i Arglwydd Aberdar a'i gyd-seneddwyr lunio Deddf Rheoleiddiad y Glofeydd, a dysgwylid, ar ol i hono ddyfod mewn grym, y rhoddid atalfa, i raddau mawr, ar y daweiniau parhaus yn ein pyllau glo. Ond cyn wired a'n geni, nid felly y mae, canys y mae y trychinebau yn dyfod yn fwy difrifol bob blwyddyn. Y mae genyf, hefyd, gwyn yn erbyn arolygwyr y Llywodr- aeth, ac yu erbyn y Llywodraeth ei hun. Yn gyntaf oil, hyny o arolygwyr sydd yn awr ar y maes, credwyf nad ydynt yn talu ym- weliadau mor fynych ag y gallent a'r gwahan- ol byllau yn eu dosbarthiadau. Ond can i gynted ag y cymer tanchwa Ie, how fati I— I dyma hwy yn cyrchu tuag yno am y cyntaf. I Diamheu y gallent hwy dalu ymweliadau amlach a'r pyllau pe y dewisent, canys y mae lie cryf i gasglu nad ydynt yn gwneyd gormod am y cyflogau haelion a dderbyniant. Fy nghwyn yn erbyn y Llywodraeth yw nad 1 ydynt wedi penodi digon o arolygwyr i fod i yn alluog i ymweled a'r gwahanol byllau mor < fynych ag y dylid. Ein cwyn cyntaf oedd i yn erbyn yr arolygwyr am na fuasent yn ym- < weled a'r pyllau mor fynych ag y gallent. < Ein cwyn hwn yw yn erbyn y Llywodraeth j yw am na fuasent yn apwyntio digon o nifer < o arolygwyr i ymweled a'r pyllau mor ami ag dylid. Gwir yw fod arolygydd wedi bod yn Mhwll y Ddinas ryw ddau fis yn ol, yr hyu a arweiniodd i'r manager golli ei drwy- dded am chwe' mis. Eithr cyfyd y gofyniad yn ebrwydd, A fu Arolygydd y Llywodraeth yno ar ol hyny ? Os naddo, gwelir yn ddigon eglur resymoldeb fy nadl. Mewn gair, dylai arolygydd y Llywodraeth ymweled a phob glofa, unwalth bob pythefnos, ac nid unwaith bob deufis a diau y byddai i ymweliadau mynych felly symbylu awdurdodau y pyllau, a phawb swyddogion danynt, i fabwysiadu mesurau rhagocheliadol er diogelwch y glo- feydd. Dyma fintai fawr o yn agos i fil o lowyr, yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, wedi talu trethi angeu ag anadl eu bywydau, pan y gallasai canoedd ohonynt, os nad yr oil, fod yn fyw ac iach heddyw yn nghanol eu teuluoedd. Yn sicr, y mae meddwl am beth fel hyn yn ddigon i beri i ddyngarwch dywallt dagrau o waed. Taraned y wlad yn nghlustiau swrth y Senedd, nes peri iddynt godi at eu gwaith. Dyma faes helaeth eto i elusengarwch ddyfod i'r maes, canys yr ydym yn deall fod teuluoedd y rhai a gollwyd, lawer ohonynt, yn dyoddef yn enbydeisoes. Ond rhag i mi gael fy nghyhuddo o fod yn rhy hirwyntog, dyma fi yn tewi i roi lie i arall. Gabriel y Coedwr.—Wyt ti wedi gweyd yn dda ac oni bai hyny, fyswn wedi stopo di .er's amser. Ond own i am adael i ti fynd i'r pen, gan dy fod yn siarad synwyr. Wel, fechgyn, yn ngwyneb y damweiniau parhaus yn y pylla glo man, ma un peth ar y meddwl i, ac wy i 'n meddwl ma peth right yw e ed. Nawr, i chi'n gwybod i gyd, pan bo damwain yn dygwydd ar y relwe, a dyn- ion yn CJU. eu lladd, ma cwmnis y relwe yn bownd o dalu iawn i'w gwragedd a'u plant, neu i'w perthynasa, os gellir profi fod y cyf- ryw wedi c&l colletion trwy y marwolaethau. A Dyna'r ddamwen fu yn stashon Merthyr, yn Ngwanwn 1874, i chi'n cofio, yn mha un y lladdwyd gwraig i dafarnwr oddiar y Cefn. Fe gadd i gwr hi ddwy fil o buna gan y Cwmni. Mil iddo fe, a mil at fagu'r plant. 9 11 Nawr, ydych chi'n gweld rhw annhegwch cal deddf i rwymo y mishtri i dalu iawn i wrag- edd y coliars, os gellir profi fod eu gwyr wedi colli eu bywydau trwy sglusdod y mishtri, neu eu ganers ? Servo nhw'n right fydda cal bill wedi baso 'n 'u gorfodi nhw neud hyny. John Dowlais.-Rhwpath fel hyna sydd mewn golwg, feddyliwn i, gan Mr. Mac Donald yn ein Compensation Bill. Diau y deddfir o dipyn i beth yn y cyfeiriad hyna, a gallwn feddwl fod gwir angen am hyny. Er hyny, pan edrychwch chi ar y mater o bob cyfeiriad, hi fydda hi'n dod yn bur galad ar y mishtri. Nawr, meddylwch chi bod un ohonoch chi'n berchan pwll glo, a dyna chi'n employo manager—hwnw yn ddyn a chanto drwydded. Dyna chi off, falla yn Llundan, yn y Parlament, ne falla wedi mynd i Paris i weld yr Exibition. vv el, dyna ddamwen wedi cymryd lie yn ych pwll chi-ugeina o fywyta wedi eu colli, trwy sglusdod y manager a'r gaffers. Nawr, sanoch chi'n gweld, bydda hi'n galad iawn i chi orffod talu miloedd o buna am flyndars dynion ag oech chi'n talu cyfloga mawrion iddynt am neyd eu gwaith yn iawn ? Agrippa.-Rhyw bethau fel hyna sydd yn milwrio yn erbyn y Bilt; ond y mae yn ddiau y gellir dwyn mesur i mewn i gyfarfod a'r amgylchiadau. Wel, os nad yw hi yn deg i roddi'r meistri i dalu iawn i weddwon a theuluoedd y glowyr, dodwch y manager a'r gaffers i dalu am y gwall. Sam yr Halier.—Ie, machan i, ond be sa rheiny yn rhy borcaidd i dalu, ble chi'n mynd weti ni ? Dyna'r pishin. Tomos Ashtons.-Wel, ta beth, y mae hi yn hen bryd nithir rhwbeth i atal yr holl ianiadau tragwyddol hyn yn y pyllau glo, a gore po gyntaf i ddihuno yr awdurdadau at 3U ffwaith. Cofnodydd.—Ie, waeth i ni pa mor gynted i gychwyn, canys y mae ein rhengoedd ni yn cael eu teneuo yn druenus gan y gelyn tan- ddaearol ac fe ddylai trenglefau y rhai hyny, os cawsant amser i lefain rhyw gymaint, ddyrchafu i fyny o ffau frwmstanaidd y pyllau, ac ymdori fel taranfloedd uwch Ilys ein Senedd. Y mae gan y morwyr Plimsoll galon-gynes i bleidio eu hachos a phan oedd gweinyddiaeth Dizzy am osod deddfwr- iaeth i'r morwyr ar y shelf, dyma Plimsoll yn angherdd ei sel dros achos y morwyr yn cau ei ddwrn, ac yn myned i ysfa gynddeiriog, nes y gorfu i'r Weinyddiaeth fyned at y gorch- wyl yn ddioedi. Gwir fod Mr. MacDonald yn cymeryd plaid y glowyr yn ami; ond y mae yn rhaid gwneyd rhywbeth heblaw siarad. Y mae y flwyddyn hon wedi dechreu yn gynar ar ei damweiniau; gobeithiwn mai hon fydd yr olaf am hir amser. Yr oeddwn wedi meddwl galw sylw at .fater arall, neu ddau ond gan fod y ddamwain yn y Dinas wedi cymeryd cymaint o amser, cawn ohirio hyd y tro nesaf. Good night.
PUBLIC OPINION Y DARIAN.
PUBLIC OPINION Y DARIAN. MR. GOL. ,-A welwch chwi fod yn dda hysbysu "Pnblic Opinion y Darian nad oes ganddo ef yr hawl lleiaf i bardduo ein cymeriad Ilenyddol a moesol fel ag y gwnaeth yn y Darian ddiweddaf, ac y gelwir ef i gyfrif yn fuan iawn am ei ymddygiadan. Ni arbedir unrhyw draul er rhoddi iddo yr addysg briodol. G. B. Y GWLAD.
RHYDDFR YDIAETH V. Y DARIAN.…
RHYDDFR YDIAETH V. Y DARIAN. MR. GoL.,—GeHir meddwl-wrth fost ] wyntog, arferion, ac ymddygiadau rhai bodau < yn ein byd bach ni-nad oes dim hawl gan ereill hyd yn nod i deimlo pan yu cael eu sarhau a'u henllibo, ond y dylent orwedd yn i dawel, llonydd, a mudion, i gael eu sathru ] dan draed; ac os beiddia un amddiffyn y gwirionedd a'i gymeriad ei hun, trwy daflu J eu llysnafedd yn ol i ddanedd yr enllibwyr, I dechreuant floeddio blue murders, gan gyfeirio ( at gyfraith libel, &c. Can' mil groesaw i ] unrhyw un ddefnyddio y gyfraith hono am 1 unrhyw beth a ysgrifenais. Sonir, hefyd, i am gymeryd safon isel, &c. A fedr unrhyw j hen wrach benchwiban fyned yn is na chy- I huddo ei wrthwynebydd o fod yn euog o i ddweyd celwydd heb brofi hyny 1 Dyma'r geiriau :—" Nid yw Mr. Gladstone ei hun yn j edmygu dynion troellog, ac ni ddiolchai i un ] dyn am ddweyd celwydd er mwyn ei fawrhau j ef." Na wna yn ddiau, a rhoddaf her i unrhyw un i nodi y celwydd a ysgrifenais er ] mwyn ei fawrhau ac ychwanegaf nad wyf wedi ysgrifenu er mwyn ei fawrhau o gwbl. Y mae ambell hen gymeriad yn y byd wedi I arfer dweyd celwydd mor ami, ac y mae cynefindra blynyddoedd lawer a'r arferiad wedi ei wneyd yn ail natur iddynt, fel y maent yn tybied (os nad yn credu) eu bod yn dweyd y gwir, pan yn haeru y celwyddau erchyllaf. Ma.e hyn yn profi yn amlwg plant pwy ydynt, oblegyd y mae ei ddelw arnynt. .Y Pe efelychem rai, gallem yn hawdd ddef- nyddio yr Ysgrythyrau, a'u cyfeirio yn lied gywir hefyd, oud nid adnodau o'r Beibl sydd i brofi pwnc etholiad 1874, ai Ie ? "Gwyr pawb (chwedl yr Erthyglydd) fod Satan yn lied gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac iddo eu defnyddio hyd yn nod i demtio yr Ar- glwydd Iesu Grist ac fe ddywed y Beibl ei fod yn ymrithio yn angel y goleuni, &c. Mae rhai o'i blant yn y byd o hyd, y rhai, pe troent eu telescopes ac edrych adref, dichon na fyddent mor barod i bardduo a chamddarlunio personau Ilawn cystal a hwy, beth bynag, yn unrhyw ffair. Ond dyna, y maent wedi hen arfer a'r dull hwn felly, nis gallant oddiwrtho. Gan fod y case yn un drwg, rhaid dweyd pethau anmherthynasol, ac ni waeth beth. Wrth osgoi testyn gwreiddiol y ddadl trwy yr amser, daw Erthyglydd y Darian ar draws Eglwysyddiaeth-cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth-diffygion Mesur Addysg Foster -erledigaethau crefyddol pob oes a gwlad-a mil a mwy o bethau anmherthynasol ereill, gan eu trin yn y fath fodd fel pe buaswn yn pleidio a dadleu dros y pethau hyn. Nis gwti beth yw ei amcan yn hyn, os nad ceisio enill cydymdeimlad y darllenwyr, a'm camddarlunio fel amddiffynwr neu bleidiwr y pethau a nodwyd. Os nad dyna ei amcan, nis gwn i ba ddyben y llusgodd efe y pethau hyn i mewn o gwbl. Os tybiodd fy mod yn bleidiol i'r naill neu y llall ohonynt, gwnaeth gamsyniad dybryd. Gan ei fod wedi dwyn y pethau hyn i mewn, gwnaf sylw byr arnynt, er egluro pethau. Nid wyf yn credu fod nemawr wahaniaeth barn rhyngom ar y pync- iau a drinir ganddo ef, ond nid pwnc y ddadl ydynt. Gwn nad wyf, ar unrhyw adeg o'm bywyd, wedi coleddu syniadau rhy uchel am egwydd- orion Eglwys Loegr; ac yn brawf o hyn, gallaf ychwanegu i mi dderbyn cymhelliad oddiwrth Esgob presenol Bangor i ymadael a Methodistiaeth, ac uno a'r Eglwys, ac y cawswn yr un manteision addysg a Llawdden, sef addysg athrofaol ar gyfer yr offeiriadaeth. Yr oeddwn yn ieuanc y pryd hwnw, dim ond deunaw oed, eto, gwrthodais y cynygiad, gan ddewis yn hytrach weithio yn galed tan y ddaear, ac addoli yn unol ag argyhoeddiad fy nghydwybod. Mae tystion byw ddigon ag sydd yn gwybod hyn gystal a minau. Mae hyn yn dangos faint o barch sydd genyf i egwyddorion Eglwysyddiaeth. Gyda golwg ar undeb yr Eglwys a'r Wlad- wriaeth, nid wyf yn gwybod am neb yn y deyrnas yn edrych arno gyda mwy o atgas- rwydd na mi. Nid wyf yn gwybod am ddim ag sydd yn fwy annheg a gwrthun na bod llywodraeth unrhyw wlad yn edrych yn fwy ffafriol ar, ac yn cydnabod un dosbarth o grefyddwyr gyda mwy o edmygedd na dos- barthiadau ereill. Nid oes neb, ychwaith, tu yma i'r antipodes y sonia efe am danynt, yn fwy awyddus na mi am weled dadgysylltu y naill oddiwrth y llall. Yr wyf yn credu, hefyd, mai dyna y fendith dymorol fwyaf allai yr Eglwys ei hun gael, ac mai iddi hi y deilliai y rhan fwyaf, os nad yr holl ddaioni. Nid wyf yn gallu coleddu syniadau mor uchel am dir-feddianwyr, fel ag i dybio yr arosai y degwm yn llogellau yr amaethwyr. Gyda golwg ar ddiffygion Mesur Addysg Forster, ni phleidiais hwy erioed. Yr wyf wedi ac yn parhau yn bleidiwr selog i secular education. Am ryddid crefyddol, y mae pleidio hyn wedi bod yn bleserwaith fy mywyd a'm harwyddair yw eiddo Roger Williams—cyf- lawn a pherffaith ryddid i bawb, a hyny yn ddiwahaniaeth. Gallwn feddwl fod hynyna yn llawn ddigon yn y cyfeiriad hyna. Yn awr, carwn i'r darllenydd ddyfod gyda mi am ychydig, i edrych ar ddarganfyddiad newydd spon, a'r darganfyddiad rhyfeddaf a wnawd erioed o fewn y bydysawd o ddyddiau Adda Jones hyd yn awr. Dyma y dargan- fyddiad, sef bod dywediadau pobl, bedair blynedd cyn etholiad 1874, yn anfeidrol well prawf o'r hyn a wnaethant na'u gweithredoedd ar adeg yr etholiad. Nid oes eisieu gofyn pwy wnaeth y fath ddarganfyddiad, oblegyd nid oes ond un y tu yma i Benybont y allasai ei wneyd. Mae hyn yn peri i mi gofio am achwyniad y Western Mail, wedi i Maitland 1 gael ei ethol dros Brycheiniog, pan y dywedai mai dyna bobl anffyddlon i'w geiriau oedd ] pobl sir Frycheiniog, eu bod yn dweyd y y buasent yn pleidio Hywel Gwyn, ond ar ddydd yr etholiad, iddynt weithredu yn j wahanol. Ond yn ol rhesymeg y darganfydd- 1 wr hwn, yr oedd eu dywediadau yn profi beth ydynt yn anfeidrol well na'u gweithred- j oedd. Dylai gael double patent am y dar- ganfyddiad hwn, a bod yn sicr i chwi. Ceisiodd wneyd darganfyddiad arall, ond y 1 mae heb orphen hwnw yn hollol, bydd yn ] barod yn lied fuan, sef profi na phleidleisiodd 1 yr Ymneillduwyr dros Ryddfrydwyr yn yr etholiad diweddaf. Dyna wir bwnc y ddadl, 4 a dyma y tro cyntaf iddo yntau ddyfod ato. Gwada nad yw ystadegau yr etholiad yn Nghrymru ac Ysgotland yn profi hyn, er eu bod yn dangos mwyafrif Rhyddfrydol, a bod y parthau hyn yn cael eu poblogi gan Ym- neillduwyr gan mwyaf. Rhaid rhesymu y peth. Wel, gan fy mod yn amddifad o reswm, ys dywed ef, dichon y caniata i mi, am fynud, fenthyca ychydig ganddo ef, gan fod ganddo ddigon i'w hebgor. Benthycaf hyn Y mae llawer o Eglwyswyr selog, pleidwyr gwresog i'r undeb sydd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, wedi rhestru eu hunain yn mhlithRhyddfrydwyr cyson, &c." Ei fod yn anmhosibl i Eglwyswr fod yn Rhyddfrydwr cyson yw hyny, onide ? O'r goreu. Yn awr, ynte, yn ol ei reswm neu ei reaymeg ef ei hun, gan ei fod yn anmhosibl i Eglwyswyr fod yn Rhyddfrydwyr evson, y y mae yn canlyn eu bod yn annghyson a chan eu bod yn gweithredu dan gysgod y ballot yn yr etholiad, rhaid eu bod, o angen- rheidrwydd, yn Dorïaid cyson; ac felly, ni phleidiasant Ryddfrydwyr wrth gwrs. 0 ganlyniad, yn ol ei logic ef ei hun, rhaid mai Ymneillduwyr roddasant fwyafrif i Gladstone yn Nghymru ac Ysgotland yn 1874. A wado hyn, JLed A hi, A gwaded i'r haul godi. Wrth gymharu y pleidleisiau lie yr etholwyd Rhyddfrydwyr, ag eiddo y rhai lie yr ethol- wyd Toriaid yn Ysgotland yn 1874, ceir fod y mwyafrif Rhyddfrydol yn 153,478 ac fe fyn Erthyglydd y Darian i'r wlad gredu mai Eglwyswyr Toriaidd oeddynt bob un Ni fuaswn wedi ysgrifenu llinell ar y pwnc hwn o gwbl, oni b'ai ei fod yn dwyn camgyhudd- iad mor bwysig yn ein herbyn fel Ymneilldu- wyr, trwy haeru i ni droi ein cefnau ar Gladstone a'i blaid yn yr etholiad diweddaf, a thrwy hyny ein dal yn gyfrifol, a'n cyfrif yn euog o ddwyn yr aflwydd a'r caledi presenol ar ein gwlad. Yr oeddwn yn gwy- bod fod ystadegau yi etholiad yn profi yn wahanol; ac yr wyf yn dra sicr fod y rhai hyny yn mhlaid y gwirionedd. Beth ddy- wedwch chwi, Ymneillduwyr Aberdar a Merthyr, yn ngwyneb ein bod yn cael ein cyhuddo o beidio pleidio Henry Richard ? A droisoch chwi i gyd eich cefnau ar Rydd- frydiaeth ? Ai Eglwyswyr a Thoriaid a'i dychwelasant i'r Senedd ? Gadawaf y peth i farn yr High Court of Public Opinion. DAFYDD MORGANWG.
YMOFYNIAD.
YMOFYNIAD. MR. GOL.Pan yn darllen hanes tanchwa Pwll y Ddinas, Cwm Rhondda, yn y GWLAD- GARWR, gwelais yn restr y dyoddefwyr enw un ag oeddwn yn adnabod, sef Charles Penny. Carwn yn fawr pe byddai rhywun sydd yn ei adwaen fy hysbysu o ba le y daeth i'r lie hyna, a pha le y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser. Byddai gwneyd hyn yn foddlon- rwydd mawr i mi. YMOFYNYDD.
BARDDFEIRNIA DA ETH.
BARDDFEIRNIA DA ETH. MR. GOL.Byddwch mor fwyn ag hys- bysu Mr. B. na "churodd J. H. P fechynos erioed am ddarn haner coron," ac nad ym- geisiodd erioed am ddarn haner coron ac nad anfonodd yr englyn dan sylw i gystadleu- aeth ychwaith, er y g$yr pwy a'i anfonodd ac na anfonwyd yr englyn i mewn o gwbl er mwyn y wobr, oblegyd pe cyhoeddesid yr englyn yn fuddugol, ni fuasai neb fyth yn arddel yr enw. Hen englyn buddugol oedd yr englyn, ac a anfonwyd i fewn i bwrpas neillduol. Y mae gormod o fan-feirniaid yn Nghymru. CYNFAEN. Bydded hysbys i Cynfaen, mai nid J. H. P. oedd dechreuwr yr ystori o barth yr an- nghydmhariaeth y sonir am dano yn ei erthygl, ond mai ei chodi a wnaeth o erthygl arall, yr hyn y dylai Cynfaen fod yn gwybod am dano. NICANOR. Nid yw dywedyd mai ysgolfeistr oedd Elis Wyn yn un anfri ar ei gymeriad, os nad yw dywedyd y gwir yn anfri. Ac os oes gan Nicanor ymddiried mawr yn Cynfaen fel bardd a beirniad, nid yw hyny yn rheswm i ni fod ag ymddiried ynddo, ac nid oes gan Nicanor hawl i'm beio am hyny ac nid yw fod Cynfaen yn cael ei alw i feirniadu i'n Histeddfodau, a hyny yn rhy ami feallai, yn un prawf ei fod yn gymhwys i'r gorchwyl. Blynyddoedd ar flynyddoedd o ymbrawf yw y gwarant sicraf o gymhwysder dyn i un- rhyw swydd. Hefyd, nid yr ystyriaethau o gymhwysderau beirniadol y dyn sydd, yn wastad, yn oruchaf yn meddwl pob pwyllgor. Darllened Nicanor Tro ar yr Olwyn," yn yr Herald Cymraeg, ac efe a ga ddeall am lawer o bethau nad yw efe wedi meddwl am danynt hyd yn hyn. J. H. P.
AT CYNFAEN, B., A NICANOR.
AT CYNFAEN, B., A NICANOR. MR. GOL.Goddefwch i mi, os gwelwch yn dda, gael cornelyn bach o'ch gofod er ateb y dysgedigion uchod. Cyfaddefaf fy mod yn ymgymeryd a gorchwyl pwysig ac ofnadwy, canys nid dim o beth yw ymgyfar- y fod a'r fath giants llenyddol, criticyddol, athronyddol, a dwfn-feddyliol a'r rhai hyn ardudalenaunewyddiadur. Dyn "cymedrol" < wyf fi, o ran athrylith a thalent; gan hyny, ] ni fyddaf mewn dychryn a braw yn ngwyneb ] galluoedd cyrhaeddfawr y classical scholar ar | "Lan y Mersey." A Newfoundland dog e never condescends to notice a cur; felly, yr i wyf yn go safe yn y mater, debygwn. By the bye, dylaswn fod yn fwy gofalus, rhag ofn i i'r cwestiwn ddyfod am fy nhraws: Pa 3 faint o wahaniaeth sydd rhwng dychryn a r E braw ?" Mae dynion mor griticyddol yn awr, a wyaaocn, tel nas gwyr dyn, ar ei oreu braidd, pan y gwna "lapsus toribendi." Wei, boed a fo, atebaf, os gelwir am hyny. Yn awr, dechreuaf. Nid oes genyf lawer i ddweyd am Cynfaen. Y mae wedi contradictio y report (holo brawddeg Seisnig eto-rhaid mindo onite caf gafod o fwlets am fy mhen). Wei, y mae wedi amheu yr haeriad a briodol- wyd iddo yn nghylch awdl Elias, a da ei fod wedi gwneyd hyny, canys gwyr erbyn hyn fod Elias yn un o'r giants barddonol, a bod yn rhaid cael dyn o herculean power i ymaflyd codwm &g ef yn mhob ystyr. Gwelais awdl Elias yn ddiweddar, ac, yn wir, y mae yn ddifaeddu mewn meddwl a thlysni barddonol. Rhaid fod yr awdl fuddugol yn nefolaidd dros ben os yw yn rhagori ar hon. Gair yn awr am analytical power B., sef beirniad (feddyliwn) rhyw bwt o Eisteddfod yn Aberd&r. Af yn ddirect at yr englyn y I mae yn ei gondemnio :— Cariad, yn wir, yw coron -y Duwdod." Nid yw Duw yn trafod coranau o aur nac arian," meddai. WeI, dyma nonsense ben- digedig mewn beirniadaeth Siarad am ein prif-feirdd Seisnig Pa fardd all sefyll o ilaen critic crushing fel hwn O Walia Wen mae tynged dy gymeriad llenyddol, a'th fri barddonol wrth y drwa Mae yr haeriad uchod yn waeth ac yn fwy 1wnsensical nag eiddo golygydd barddonol un papyr pan y dywedodd am ryw gyfansoddiad a anfonwyd ato yn ddiweddar, yn yr hwn yr oedd y frawddeg Eira gwyn." "Pwy welodd eira du," meddai y beirniad treiddgar ac uchel- ddysg hwaw ? Dyna i chwi specimen o graff- der beirniadol diguro, onite? Fe ddichon J fod yr eira yn wynach tua chymydogaeth y cyfaill hwn nag oedd ar fynydd Salmon, am yr hwn y canodd pSr-Salmydd Israel gan hyny, rhaid rhoddi tipyn o scope a license beirniadol i'r golygydd am ei sylwadan an- farwol. Byddant fyw am oesoedd dirifedi, a bydd afon Taf yn sych cyn byth yr an- nghofir hwynt. Wel, at y pwnc. Ai nid coron yw'r peth gwerthfawrocaf ar y ddaear hon ? Ai nid oes moroedd o waed wedi eu tywallt o bryd i bryd er mwyn meddianu coron ? Felly, coron yw'r penaf beth a feddir ar y ddaear. Onid addas a chywir, gan hyny, yw priodoli y term" caron" i uno brif nodweddiadau y Duwdod, sef Cariad ?" "Duw cariad yw." The Infinite condescends to make me of terms which are intelligible to the finite, so the finite make1 use of the loftiest terms in reference to the Infinite. Cymaint a hyn am y ffwlbri beirniadol am y llinell gyntaf. Yn awr, at yr ail:- Dedwydd gan nefolion." Onid cariad sydd yn gwneyd y nefolion yn ddedwydd," meddai y dysgawdwr dyfnddysg 1 Gwir, mewn un ystyr ond sylwch ar gyson- deb y beirniad, a chraffwch ar orthodoxy ei dduwinyddiaeth. Ai nid cariad Duw'yn anfon ei Fab i'r byd yw testyn can y Crist- ionogion er's oesoedd bellach ? Ac os yw y bywyd dyfodol yn ddadblygiad mwy cyflawn o fywyd y gwir Gristion yma, felly cariad Duw fydd "Dedwydd gan nefolion" am oes oesoedd. Nid oes Cristion yn Aberdar a wada hyn, a darllened y beirniad Ddatgudd- iad loan yr Efengylwr, a gwel ei gamsynied yn fuan buan. Sylwch eto "Dyna i chwi 'dedwydd,' 'hedd,' 'rhad,' a 'golud,' yu yr englyn yn golygu yr un peth," meddai. Wei, os golygant yr un peth, nid wyf fi yn deall Cymraeg, a chan ei fod yn Philologist o'r radd uchif, carwn gael etymology y geiriau nchod ganddo. Os caniata ei fawrhydi dysg- edig hyn o ffafr, siaradaf yn mhellach ag ef yn nghylch y mater. Gresyn na fuasent yn mhell cyn hyn wedi ethol y fath genius yn Celtic Professor yn Rhydychain. Y mae'r fath ddyn yn filwaith deilyngach i wisgo yr Oxford hood nag wyf fi, canys dyn cymed- rol wyf fi, er fod hono genyf. Yn awr sylwaf yn fyr ar lythyr Nicanor. Dyn classical yw hwn, feddyliwn, oblegyd y mae sawr glasurol gan yr enw, ac y mae wedi coglais fy nhrwyn gymaint till it made me sneeze. Ar fengoch i (chwedl Talhaiarn), rhaid mindo yma eto. Os gosodaf fy nhroed yn y trap, hi fydd yn byth a hefyd cyn deuaf allan. Ond ati, beth bynag. Y mae hwn yn gynghorwr go lew. Feallai ei fod yn bwt o ddoctor yn y lie y trigfana. Y mae rhyw arddull esboniadol iawn ar ei lythyr ond haeriad yw y cwbl. Darllened J. H. P. medd hwn, Gweinidog Crist,' c Udgorn yr Ad dia Adgyfodiad,' a 'Themtiad Crist,' gan Cyn- faen, a cha weled," &c., &c. Wel fe ddichon fod J. H. P. wedi darllen v 1nnrlpl.<l. of compositions yma y cyfeirir atynt (nis gwn hyny, cofier); ond beth bynag, methodd y gwr dysgedig (crwt o amddiffynydd yw hwn eto) enwi mwy na thri o orchestweithiau y bardd cyrhaeddfawr (inter nos, Mr. Gol.) Cynfaen; ac oherwydd hyny, lol botas yw haeru fod y cyfryw yn addas i fod yn feirn- iaid, heb son am y sefyllfa bwysig* o fod yn ganolwyr, mewn Eisteddfodau. Pe gwyddai Nicanor pwy yw J. H. P., a'i safle yn y byd llenyddol, fe grynai o'i goryn i'w draed, a byddai yn St. Vitus dance arno am flwyddyn, beth bynag. Fe ddichon y cewch ragor eto ar hyn, Mr. Gol., oblegyd yr wyf yn bwriadu parotoi dogn neillduol o purifying pills, er gwellhau clefyd beirniadol ein Heistedd- fodau. VERITAS.
BETH AM Y CHECK-FIREMAN?
BETH AM Y CHECK-FIREMAN? MR. GOL., Dyma lot arall ohonom wedi eu hyrddio i fyd arall ar darawiad amrant, heb un wedi dianc i ddweyd pa fodd y bu. Mae hyn yn waeth nag y bu ar weision Job gynt; ond dyna, dyna, dyma'r ffasiwn yn awr, yn yr oes oleu hon. Nid oes eisieu i neb ddianc fel cynt, canys y mae gwybodaeth wedi cyrhaedd i'r fath berffeithrwydd, fel ag iallu dweyd pa fodd y bu, a hyny cyn cael yr un corff allan, er nad oedd dim tan yn y gwaith Beth sydd i'w wneyd 1 Os oes sylw i'w wneyd o reports y glofeydd, nid oes dim tan yn un ohonynt A oes mwy o sylw yn cael ei wneyd fod y llyfrau hyn yn cael eu llanw rhywf odd, na bod y reports o sef- yllfa'r glofeydd yn ateb eu gilydd ? Pwy a etyb hyn ? Lowyr Deheudir Cymru, a ellwch chwi nodi allan ryw ffordd mor llesiol i ni yn nglyn &n diogelwch ag a fyddai i ni gael check-fireman ? Os gellwch, deuwch allan, ac eglurwch y cynllun yn ddiaros. Os nad oes, cymerwch i ystyriaeth y cynllun hwn. Os yw y peth y credaf ei fod, bydd y cam goreu eto at ein diogelwch fel glowyr. Wedi cael y check-fireman, bydd gan hwn ei reports i gwrdd kg eiddo firemen y meistri, a chan y bydd yr olaf yn gwybod am y blaenaf, byddant yn fwy gofalus wrth roddi eu reports i lawr, a bydd arnynt lai o ofn canlyniadau annymunol wrth ddweyd y gwir nag sydd arnynt fel y maent yn bresenol. Wedi cael y swyddogion hyn i weithrediad* byddai'r effaith yr un fath yn nglyn a. reports y glofeydd ag y bu yn nglyn a'r pwyso, wedi cael y check-weighers i gydbwyso ag eiddo'r meistri. Yr oedd pob p .vyswr gonest, a phob meistr gonest, yn llawenhau ar osodiad dyn y gweithwyr yn y pwysd £ canys iddynt hwy yr oedd yn profi eu gonestrwydd, a gwyddent Nad gwaeth y da o'i chwilio." Am y rhai drwg, yr oedd dyn y glowyr yn eu hatal i barotoi rhagor o ddefnydd tan erbyn byd arall, yr hyn oedd yn feudith ddirfawr iddynt. Yr un fath y byddai hi eto wrth gael check firemen. Byddent yn dal breich- iau y gonest i fyny. ac yn gorfodi y diog a'r diegwyddor i wn. yd eu dyledswyddau yn ol y ddeddf, er ei bod ya beth tra dveithr iddynt.