Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Tysteb Myfyr Morganwg.
Tysteb Myfyr Morganwg. Ymddengys ddarfod i edmygwyr Myfyr 'benderfvnu cyflwyno tysted iddo, ac i'r perw) 1 h wnw ymgasglasant yn y Butchers m Arms, Pontypridd. dydd Mercher wythnos i'r diweddaf. Disgwylid Mr. Gwilym Williams i lywyddu, ond ni ddaeth efe. Clyflwynwyd i Myfyr cheque am £ 140 12s. Siaradodd yntau a diolchodd am y rhodd, a rhoddodd dro tua'r cromlechau derwyddol cyn ogrphen yn ol ei arfer. Ni chlywsom am un bardd yn bresenol ond y ddau henafg*.vr, Drwi Haran a Nathau Dyfed. 'Gobeithio y cuiff Myfyr flwyddau eto i fwynhau y dysteb, ac y defnyddia hi er gogoniant Cristionogaeth, ac nid er wyn- galchu Paganiaeth.
Y Gwythryfel yn Twrci.
Y Gwythryfel yn Twrci. Hysbysir ni gan newyddion o Vienna fod pedwar ugain o ddirprwywyr gwrthryfelgar yn cynwys brodorion o Croatia, Nvecli yrn- gasglu yn Jamnitz t, fel math o Parliament Y mae math o lywodraeth ddarbodol wedi ei ffurfio Cvrhaerldodd newyddion swyddogol i Antwerp y telir llog-docynau lonawr cesaf yn brydion. Gobeithio fod hyn yn wir.
Damwain ar yr afon Hudson.
Damwain ar yr afon Hudson. Ar y ] af o'r mis hwn, fel yr oedd yr agerlong Sunny Side yn hwylio i lawr dros yr afon Hudson, tarawodd yn erbyn ia, a dechrcuodd y dwfr fyned i mewn iddi. Gan nad oedd gobaith ei atal, gweithiwyd y llestr yn agos i'r lan, a chafwyd y bywyd- -fadau allan. Tra yr oedd y boneddigesau yn myned i un o'r cychod, neidiodd rhai dynion yn wvllt iddo ac er ei atal i ddym- chwelyd, gorchymodd y cadben iddynt ei wthio oddiwrth y Hong. Nid aeth ond ychydig latheni oddiwrthi cyn iddo droi a'i wyneb i waered, a chymerodd golygfa erchyll le. Boddodd uuarddeg o bersonau, ond llwyddwyd i achub y rhai oedd ar fwrdd y llong trwy gyfrwng rhaff.
ANTURIAETHAU I FOR Y GOGLEDD.
ANTURIAETHAU I FOR Y GOGLEDD. Y mae Prydain Fawr, o bryd i bryd, wedi rhoddi ugain mil o bunau i'r gwroniaid hyny fuant yn ymdrechu cael allan y North West Passage, sef chwilio am fynedfa fordwyol o For y Werydd i'r Mor Tawelog, lieibio i arfordir gogleddol America. Gwnaed dau gynyg ar ugain i'w gael allan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ugain yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac un-ar-ugain yn y ddeunawfed ganrif; agos yr oil tri-ugain a thair hyn wedi eu gwneyd gan frodorion o'r wlad hon, a'r rhan fwyaf o lionynt heb un cynoithwy oddi- wrth y Llywodraeth. Yn y ganrif bresenol, dechreuodd yr Anturiaethau Gogleddol rheol- aidd, y rhai a gynllunid ac a gynorthwyid gan ,,y y Llywodraeth, yn 1817 ac yn ystod y deu- gain mlynedd a ddilynodd, gwnaeth Parry, John Ross, Back, Franklin, Lyons, Beecher, Austin, Kelleth, Osborne, Collinson, M'Clure, Rae, Simpson, M'Clintock. a gwroniaid ereill, y darganfyddiadau hyny a gostiodd i'r genedl uwchlaw miliwn o bunau, heblaw amryw fywydau gwerthfawr. Llywyddid un o'r anturiaethau hyn gan Syr John Franklin, a chan ei fod yn hir yn dychwelyd, anfonid allan longau i chwilio am dano flwyddyn ar ol jblwyddyn. Ni chafodd Cadben M'Clure unrhyw hysbysiaeth o berthynas i dynged Franklih, ond gwnaeth y cyfryw ddargan- fyddiadau ag a'n cyfreithlonant i farnu fod y passage, yn bodoli. Mor bell yn ol a 1745, darfu i'r Senedd gynyg gwobr o £ 20,000 i bwy bynag a ddarganfyddai y passage; ni thalwyd y swm hwn, ac ni hawliwyd hi gan neb, a thynwyd y cynyg yn ol yn 1828, ond derbyniodd Parry a John Ross bum' mil o bunau yr un fel cydnabyddiaeth am yr hyn a wnaethant, gan adael i'r wlad wobrwyo darganfyddwyr ereill fel yr ewyllysiai. Y rheswm paliam y gellir ystyried fod Cadben (wedi hyny Syr Robert) M'Clure wedi dadrys y cwestiwn, a ellir nodi mewn byr eiriau. Yn 1850, anfonwyd y Cadbeniaid M'Clure a Collinson allan yn yr Investigation a'r Enterprize er chwilio am Syr John Franklin a'i gymdeithion. Aethant dros y Mor Tawelog a thrwy Behring's Strait, ac yna gweithiasant eu ffordd yn mlaen yn .ddwyreiniol i'r tiriogaethau rhewllyd. Yr oedd llafur Collinson yn cael ei gyfyngu yn benaf i archwilio y dyfroedd agored ger tueddau America, tra y gwthiodd M'Clive yn mlaen yn fwy i'r Gogledd. Bu yno am bedair blynedd mewn gororau anhygyrch, lie mae yn debygol na fu un dyn gwareidd- iedig o'i flaen. Dychwelodd i Lo )gr trwy Divis's Strait yn Hydref, 1854. Y mae yn wir ddarfod iddo orfod gadael ei long ar ei ol wedi ei chloi yn anobeithiol rhwng mynyddau ,0 ia a gorfu iddo gerdded a chael ei lusgo ar .dedges dros ganoedd o filldiroedd o ia, er -cyrhaedd llongau ereill oeddynt wediodyfod o ororau y Gogledd o'r cyfeiriad arall; eto yr oedd dwfr dano yr holl ffordd, ac efe mewn gwirionedd oedd y cyntaf a groesodd y passage. Ni chafodd fynedfa fordwyol mae'n wir, ond eto gallodd benderfynu y pwnc dyrys. Yn 1855, darfu i Bwyllgor o Dy y Cyffredin wneyd archwiliad i'r mater, a phen- derfynwyd rhoddi £ 10,000 am y dargan- fyddiad, yr hyn, gyda'r pum' mil yr un a roddasid i Parry a Ross, a wnae £20,000, a'r hyn oedd gyfwerth a'r swm a gynygiasid ganrif cyn hyny. Cydunodd y Senedd a'r Llywodraeth ar hyn, a rlioddwyd JE5,000 i Cadben M'Clure ei hun, a £ 5,000 i'w swydd- ogion a'i forwyr. Cynygiwyd wedi hyn gan y Llywodraeth £ 20,000 i bwy bynag a ddarganfyddai, neu a roddai ymwarecl effeithiol i ddwylaw llongau ei Mawrhydi, yr "Erebus" a'r "Terror" (y rhai a lywyddid gan Franklin); £ 10,000 i uiirhyw un a roddai hysbysiaeth a arweiniai i waredu morwyr y llongau hyny, a £10,000 i'r neb a gawsai allan i foddlonrwydd dynged y dwylaw hyny. Ni enillwyd y gyntaf a'r ail o'r gwobrau hyn gan neb, canys ni welwyd yr anffodusion yn fyw mewn pryd i gael un waredigaeth, ond rhoddwyd y drydedd wobr i Dr. Rae, yr hwn, wedi taith anhawdd a beiddgar dros y tir, a gafodd dystiolaethau diamheuol o barthed i angeu truenus Franklin a rhai o'i gymdeithion. Yn 1858 ac 1859, darfu i Cadben M'Clintock gwblhau yr ym- chwiliad, gan ei gwneyd yn sicr fod adroddiad Dr. Rae yn wir; ond gan fod y £ 10,000 wedi eu defnyddio, yr oedd yn angenrheidiol i gael ail rodd oddiwrth y Pamliament o £ 6,000 er gwneyd cydnabyddiaeth i M'Clintock am ei wasanaeth. Y mae hanes y cwmni dewr sydd allan yn awr, dan Cadben Nares, yn ddigon hysbys i'n darllenwyr.
Guilelimus a'i Suddas-glychau…
Guilelimus a'i Suddas-glychau (Bubbles). (Parhad o'r thifyn diweddaf.) Am y gelwir Hu'r Goleuiii= il\, yn Marddas, yn "Hu Esgyll Adeiniog," cawn fod ei lun yn Haul Adeiniog yn yr Aipht, Persia, Palestina, Phoenisia, Assyria, &c., ac yn cysgodi eu Heirch cysegredig fel yr oedd yn cysgodi y Maen Arch gyda'n hynaf- iaid; ac y mae y Maen Arch, yn ei syml- rwydd, yn profi ei hun y dull cynteficaf o Arch a fu mewn teml erioed. Aeth ein Hu tri-phlyg a thri phelydrog yn dri Duw unol, elwir yn Ysgrythyrau y Brahm- iaid, y Trimurti neu Drindod; ac aeth felly gydag amryw genedloedd ereill hefyd. Rhoddir canoedd o enwau ar Hu yn marddas y Brahmiaid. Weithiau gelwir ef Mahesa, Brahma driphlyg, a Vishnu triphlyg ac hefyd Isa, ac Iswara,—fel y cawn fod Osiris yn yr Aipht—ac yn arwyddo yr Arglwydd Dduw. Isa or Iswara, in Sanscrit is the name of the Supreme Being. This word Isa, or Is- wara, pronounced Hesus by the Gauls [Cymry Gaul]; Asie, by the Irish and Uaelic tribes; As and Aesir by the Goths; Aesar by the Etruscans and Asios also by them; and the Greeks also used the latter term, Asios (a form of the same name also was Hiesous.) Asi. Researches, v. xi. p. 39. Ac yn mhellach dywedir (p. 89, 90) gyda golwg ar enw Hes, neu Hesus: "Thus probably Is-puri, As- burgh, As-pury, came to point the West, and the Western countries were denominated by the Greeks, Hes-peria" -sef, ardaloedd Hes, neu Hu o'r Ynys Wen, yr hon ynys, gynt, oedd Holy Land y Dwyreinwyr, a'r lie gesyd barddas y Brahmiaid fod preswylfa y Duwdod a gwlad enedigol y duwiau; a bod y Trimurti, sef y Trindod, i'w weled yno fyth yn ei ag- wedd wreiddiol. Mae hyny yn berffaith wir, canys felly y mae yn y tri phaladr = /| yn Ngorsedd. Yr un modd dywed hen farddas Groeg am drigolion ynysoedd Atlantaidd a Dedwydd y Gorllewin, eu bod yn gallu ym- ffrostio am danynt eu hunain, eu bod yn preswylio y wlad hono lie ganwyd y duwiau cyntefig. O'r ddau arwyddlun hyn, = /|\ a ^|v trwy ddwyfoli y ffigyrau a ddangosant, y tarddodd pawb o'r duwiau a'r duwiesau hynaf. Yn Ynysoedd Dedwydd y Gorllewin y golygai y Groegiaid gynt fod eu Elysium, lie yr aeth eu gwroniaid i ddedwyddwch. Yno yr oedd Gardd Iau, a Pherllan yr Hesperides a'i Sarff fawreddog, lie oedd y tri afal aur y bu Hercules yn eu chwenych, ac y maent wrth ddefod mewn arfer yn Ngardd Hu, neu Drwn y Beirdd, i'r dydd hwn yn Morganwg. Cawn fod adsain o'r hen dra- ddodiadau clodforus ag oedd yn bodoli am ein hynafiaid yn cael eu coffa, yn ol Diodorus Siculus, gan Hecatajus (600 c.c.), ac yn dywedyd, bod yr Hyperboreaid, pa rai oedd- ynt yn byw (meddai ef) mewn ynys daironglog, dim llai na Sicily, ac yn gorwedd yn y mor draw i Gaul (Ffrainc), a than gydser yr Arth (sef cydser ag sydd yn dyfod yn gywir uwch ben Ynys Prydain bob pedair awr ar hugain), ie, eu bod yn meddu teml gron-gylchog i Apollo [sef i Hu, a'r un modd i'r Hu yn Nghnawd, Tydain Tad Awen], mab Latona, ganedig o'r lie. Bod tref gerllaw a'i phres- wylwyr gan mwyaf yn delynorion a'u bod yn telynori ar eu telynau, ac yn canu eu can- iadau yn y deml, gan uchel fawrygu Apollo (Hu). Bod Apollo yntau yn eu mysg yn hynod wrth ei fodd yn chwareu ei delyn ac yn dawnsio mewn tes ysblenydd o wyl Alban Eilir hyd godiad y Twr Ser yn niwedd yr haf. Y Bardd Pindar, yntau, ag oedd yn byw agos yr un amser a Hecatseus, a ddywed am Apollo, pa mor hynod yr oedd yn mwynhau ei hun gyda'r Hyperboreaid a bod y bobl hyny yn hoff iawn o'r Awen, a'u bod yn meddu corau o forwynion yn canu, a thelyn- orion yn chwareu yn eu cyfarfodydd lie yr oedd y cynulleidfaoedd wedi eu coroni a brigau y llawrudd euraidd, gan gyfeirio, fel y mae yn debyg, at yr uchelwydd a wisgai ein hynafiaid yn eu Heisteddfodau Gorseddog. Cawn fod cenedl y Cymryyn parhau rhyw- beth yn debyg i'r dydd hwn. Gwlad y gan erioed oedd gwlad ein hynafiaid, ac o'r her- wydd mae canu wedi dyfod yn ail natur i'r Cymry, a hyny yn y fath fodd fel y mae yn debyg nad oes cenedl ar wyneb y ddaear a all gystadlu yn llwyddianus i'w herbyn. Mae y Cymry gyda'r canu fel chwyaid yn y dwfr. Darfu i'r fuddugoliaeth ogoneddus a enillas- ant ar Loegr yn y gystadleuaeth oruchel yn y Crystal Palas, yn ddiweddar, brofi eu medrusrwydd annghydmarol mewn miwsig. Yn y llythyr nesaf ceir gweled pwys ac amcan y llythyr hwn. Rhag. 18, 1875. MYVYR MORGANWG. (I barhau).
MYFYR A'I HYMBYGOLIAETH.
MYFYR A'I HYMBYGOLIAETH. MR. GOL. Erfyniaf eich caniatad i ddat- gan fy niolch i Guilelimus am ei ddynoethiad dysgedig o ffoleddau annherfynol y so-called Archdderwydd o Bontypridd. Os "llanc" yw "gwr y gadach wen," amlwg yw ei fod ef, fel y llanc y dy Jesse y Bethlehemiad gynt, yn gryfach ei fraich na Goliath y Bont. Yr oeddwn i yn bersonol yn onest awyddus am gael gwybod beth oedd gan Myfyr i'w ddweyd am ei ogoneddus Farddas, ar ol brolian o hono am flynyddoedd o barthed i'w chyfrin- ion annghydmarol. O'r diwedd, dyma'r gwr yn anturio allan o'i gell, ac yn rlioi i ni ar gyhoedd gwlad amlinelliad o'i gyfundrefn. Pe cadwasai Myfyr ei bin ysgrifenu yn sych, a'i bapyr mor wyn a'r "gadach wen," efallai y gallasai gadw ei friedd i fyny am ei ychydig ddyddiau gweddill. Awr wan ar Myfyr oedd yr awr hono pan y cydsyniodd a'r cais i gyhoeddi ei gorlf duwinyddiaeth a darfu iddo lwyr annghofio y wireb "Oh that mine enemy would make a book!" Yn ddiau y mae Cristionogion wedi cael llwyr ddial ar eu gelyn drwy waith ei law ef ei hun. Addawai o'r dechreu y gwnelsai i ni "synu," ac y mae wedi gwneyd i ni synu gyda syndod yr holl syndodau-ond synu uwchben pa beth ? Uwchben y cruglwyth mwyaf erioed o ynfyd- rwydd, honiadau hunan-fawraol, herfeidd- dra, a self-importance. Y gwir yw 'does gan y dyn, yn ei holl lythyrau, ddim Vw ddym- chivelyd: pan elom i geisio ymaflyd yn ei Farddas wag, nis ceir gymaint a llonaid llaw o nhd i'n had-dalu am y drafferth. 'Does yna DDIM ond chwedlau, cysgodau, a rhith- iau Ni sonir dim ganddo am fodolaeth Drwg Moesol, nac, wrth gwrs, am Feddygin- iaeth ar ei gyfer: ac eto, rhaid fod rhyivbeth allan o'i le mewn byd sy'n cynyrchu bodau o fath Palmer a Wainwright, a'r fath gyflafan- au ag a fu yn Waterloo, y Crimea, a Sedan Ai perffaith y fath fyd, Myfyr ? Ac onid oes genych chwi well darpariaeth idd ei well- hau nag "iachawdwriaeth o flwyddyn newydd" trwy ailenedigaeth yr Haul tranc- edig bob lonawr Yn wir, fe ddylai yr Haul fod yn alluog i wneyd rhywbeth rhagor drosom na goleuo ein llwybrau, ar ol cael ei "aileni" gynifer o filoedd o weithiau Cydmarer athrawiaeth Myfyr a'r Bregeth ar y Mynydd! Pa un o'r ddwy sy debycaf o lesoli y byd I Pa un y gellir ei liebgor rwyddaf I Nodwedd amlwg yn y llythyrau rhyfedd hyn yw, gelyniaeth Myfyr at y Grefydd yr hon gynt a bregethasai: gelyniaeth ag sydd yn amlygu ei hun nid yn y ffordd o resymeg deg, ond yn y ffordd isel o spleen, a.gwawd, a sarcasm, pe b'ai ef yn alluog o watwareg, yr hyn nid yw. Amlyga, hefyd, ffafraeth i Fahometaniaetn-sef cyfundrefn sydd wedi troi ymerodraeth Twrci yn domen o bob budreddi, o harems, ac o ddirywiadau o bob math, nes y mae ar hyn o bryd yn llwyr ogwyddo i ddinystr dymchweliad bythol. Hyny yw, rhywbeth ond y peth a eilw efe, yn gableddus, "y Gristionogaeth Iuddewig na'r hon nid oes, ni fu, ac ni ddaw Cristicfe- ogaeth arall yn dragywydd. Y mae gwr galluocach na Myfyr, gwr ag y mae ugain canrif wedi eistedd yn ufydd a dedwydd wrth ei draed, gwr oedd yn ddysgedig yn mhob dysgeidiaeth, gwr mil agosach at y Fountain liead na neb yn Mhontypridd ydyw, y mae PAUL wedi dyweyd, Pe byddai i ni, neu i angel o'r nef, efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema." Avnlwg, yn mhellach, ydyw nad yw "Barddas" yn ychwanegu at ledneisrwydd ac addfwynder Myfyr, canys y mae efe yn peltio Guilelimus a llaid yn lie a rhesymau. Penboethyn coelgrefyddol," "llanc," "gwr y gadach wen a'r gadach ddu," &c. Cofied Myfyr nad yw geiriau cas ynpi-ofi dim, oddi- gerth gwendid yr hwn a'u defnyddio. Nid yw "Barddas," ychwaith, yn eangu calon Myfyr, nac yn ychwanegu at Gatholigrwydd ei ysbryd, canys y mae trugaredd Derwydd- iaeth wedi ei chau oddiwrth Guilelimus. "Pe byddai i Guilelimus gael braint na chafodd, ac na chaiff byth, o gael telescopes Cyfrinion Barddas o flaen ei lygaid," &c. Eiriau sobr Pa fodd, Guilelimus, y sefi di o flaen y Papal Bull hwn o ganon bapur y Bout I Dal di dy dir, ninau a'th bleidiwn. CREDADYN.
Y FFUGENW DEWI MYRDDIN.
Y FFUGENW DEWI MYRDDIN. MR. GOL.,—Wrth ddarlleny GWLADGARWR yr wythnos cyn y diweddaf, gwelais fod un Maelog Wyllt yn gofyn, "Pwy ydywy Dewi Myrddin a ymddangosodd yn y GWLAD JARWR, yr wythnos ddiweddaf I" Dymunaf hysbysu Maelog Wyllt mai Mr. David Williams, 42, Long Row, Blaenllechau, ydyw y person. Yr oeddwn yn arfer credu bob amser mai efe oedd ei berchenog. Ond yr oedd Maelog Wyllt yn meddwl mai Mr. D. H. Williams, Caerfyrddin, oedd Dewi Myrddin. Carwn gael gwybod gan Maelog Wyllt, trwy gyfrwng y WLADGARWR, pa faint o amser sydd er pan y mae Mr. D. H. Williams, Caerfyrddin, yn arddel y ffugenw Dewi Myrddin, er mwyn cael gweled pa un o'r ddau ydyw gwir berchenog y ffugenw. MAELOG DDOF.
YMWELIAD A PHONTYPRIDD.
YMWELIAD A PHONTYPRIDD. Mr. GOL., — Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf daeth galwad ar eich ufudd was yn dmsymwth i fyned i dre'r Derwyddon, sef Pontypridd, er cyfarfod a masnachwr cyfrifol. Wedi gweled y boneddwr hwnw cyfeiriais fy nghamrau i dy Dewi Alaw, y self-taught printer ocncl stereotyper. Pan yn eistedd yno gyda Dewi a Mrs. Dewi, a'r hen fardd Nathan Dyfed, pwy ddaeth i mewn ond Brynfab, ac ar ei ol yd fuan Homo Ddn. Cychwynodd Brynfab a minau i weled y Bardd Gwyn, a chawsom ef yn ei faelfa, yn llon a siriol. Cychwyuwyd oddiyno i dy Dewi Alaw lie y cawsom weled y stereotyping process. Nid oes ddadl nad yw ein hen gyfaill dihoced Dewi Alaw yn lwmp o genius, ond ofnwn ei fod yn cadw i fewn yn ormodol er lies ei iechyd. Wedi myned allan pwy gyfarfydd- wyd ond bardd tan Chicago, sef Carnelian a'i briod. Cafwyd ymgom ddyddorol ar bynciau y dydd, ac yr oedd yn dda genym weled yr holl feirdd uchod yn edrych mor galonog. Cyhoeddwyd heddwch rhwng Samson a Brynfab, a hyny heb dywallt un dafn o waed, na galw am wasanaeth gen asyn na dim o'r cyfryw. Gwelsom Dewi Haran hefyd am ycdydig fynudau, ond yr oedd efe mewn brys i barotoi ar gyfer myned i dysteb Myfyr. Cyfarfyddasom hefyd a'r cyfaill Ieuan Glyn Cothi yn yr orsaf. Y mae Pontypridd weith- ian yn drigle tyrfa o feirdd ond yr oedd yn dda iawn genym ddeall nad oedd sympathy neb at baganiaeth, o'r rhai a gyfarfyddasom. Pob un yn ffieiddio y system, ac yn tosturio wrth benwendid yr awdwr.-Yr eiddoch, SAMSON.
AT MISS HUGHES (EOS MEUDWY.)
AT MISS HUGHES (EOS MEUDWY.) Mr. GOL.Anaml iawn yr wyf yn gweled neb o'ch gohebwyr yn cael yr anrhydedd o ddweyd cymaint a gair wrth y rhyw deg trwy gyfrwng y wasg. Ond rhywfodd, ac yn hollol annysgwyliadwy, daeth i fy rhan am unwaith beth bynag i ddweyd gair wrth un o'r dos- barth hwn. Ond coeliwch chwi fi, Mr. Gol., buasai yn llawer gwell genyf gael cyfle i ddweyd gair yn ddystaw bach yn ei chlust na dwsin ar bapyr. Ond waeth heb siarad, rhaid boddloni i'r drefn a dyfod at y pwnc, gan fod mor dirion ag y medraf heb dori ar draws deddfau tiriondeb ei hun. Y mae ger fy mron un o hysbysleni y gyngherdd a gynelir yn Bulah, Cwmtwrch, nos Fawrth, Rhagfyr 28ain, ac ami res o enwau y can- torion, ac yn eu plith gwelaf eich enw chwi ac ar ei ol y lien enw Eos Meudwy. Nid wyf yn gwybod sut y bu hyn, pa un ai bwriad- ol ai anfwriadol. Ond yr oil a geisir genych chwi a phawb ereill ydyw peidio ei ddefnydd- io o hyn allan, os gwelwch yn dda, oblegyd Miss Hopkins, Ynysmeudwy, ydyw ei iawn berchenog. Rhoddwyd ef iddi gan Gwilym Cynon, yn Eisteddfod Gwauncaegurwen, yn 1871, ac y mae wedi enill degau os nad ugein- iau o wobrwyon teilwng ar ol hyny o dan yr enw Eos Meudwy, ond os gellwch chwi brofi eich bod chwi wedi ei ddefnyddio o'i blaen neu wedi ei gael gan rywun yn rhywle, ac heb ei ddefnyddio hyd yn bresenol, pob peth yn dda. Cawn siarad eto yn mhellach ar y pwnc.—Yr eiddoch, PANTHER.
GWYLIAU CERDDOROL CYMRU.
GWYLIAU CERDDOROL CYMRU. MR. GOL.—Yn fy llith ar "Amrywiaeth ein Heisteddfodau," addewais ysgrifenu ychydig ar destynau perthynol i'n "Gwyliau Cerddorol yn Nghymru." Addefa y rhan fwyaf nad ydyw ein cynulliadau cerddorol yn cael eu dwyn yn mlaen yn y modd mwyaf dymunol; hyny yw, mewn ymddygiadau a threfn. Gwir ein bod fel cenedl yn barod i ymffrostio yn ein heisteddfodau, a'n bod i'n hedmygu yn y cyfeiriad hwn gan ereill; ond credwyf pe bernid a phwysid ni yn ol fel y dygir hwynt yn mlaen yn bresenol mai syniadau lied isel a chyfyng a goleddid gan ddyeithriaid am danom. Y mae yn wir fod ein prif gantorion a'n corau yn anrhydedd i ni fel cenedl; ond, mor wir a hyny, y mae ymddygiadau llawer o'n corau a'n cantorion yn darostwng Cymru, "Gwlad y Gan," lawn cymaint ag y maent yn ei dyrchafu. Cred- wyf ei bod yn ormod o'r dydd i ni gelu y ffaith o fod ein heisteddfodau yn rhy ami yn grynodeb o aflerweh ac anweddeidd-dra (ceir rhai eithriadau gogoneddus). Y mae yn drueni fod sefydliad ag sydd yn ein codi i fri mewn ystyr farddonol a cherddorol, yn ein darostwng i warth a bychandra mewn cyfeiriad arall. Beth ond bychandra ar ran llawer o'n cystadleuwyr yw yr achwyn parhaus am y cam a dybiant eu bod wedi ei dderbyn oddiar law ami i feirniad I A ydyw achwyniadau. o'r fath yn deilwng o Gymru gerddorol I A ydyw yr ysgrifenu dibaid i'r papyrau wyth- nosol, gan luchio llwcli i wyneb ein dynion cyhoeddus, yn foddion i'n dyrchafu fel cenedl 1 Rywsut, yr ydym wrth adeiladu ein lxunain mewn un cyfeiriad, yn tynu ein hunain i lawr mewn cyfeiriad arall. Y mae ein pwyllgorau yn rhoddi cyfieusdra i annghydfod o'r fath drwy ddewis dynion i feirniadu ag y mae y wlad yn anmheus am eu cyineriad a'u cymwys- der i lanw swydd o'r fath. Os ydym am gynal ein huchelwyliau mewn bri, ie, eu cynal yn y fatli fodd fel y gallwn wahodd y dynion mwyaf dysglaer a feddwn fel cenedl, yn breg- ethwyr, seneddwyr, a lleygwyr, i roddi eu presenoldeb ynddynt, y mae yn rhaid i ni ysgubo ymaith yr anfoesoldeb presenol sydd yn nglyn a hwynt, nid yn unig o blith y gwrandawyr a'r cystadleuwyr, ond hefyd oddiar yr esgynloriau. Clywais mai terms un beirniad am wasanaeth mewn eisteddfod oedd 2p. 10s. a'i ddiod, ac i'r pwyllgor hwnw edi- farhau o'r engagement, gan fod y ddiod wedi cyrhaedd i swm lied uchel. Pa ryfedd fod cymeriadau o'r fath, yn nghyd a'r twrw a'r annhrefn a welir yn rhy ami yn ein heistedd- fodau, yn tarfu ein dynion goreu a mwyaf dysglaer ? Hen syniad ag sydd wedi gwreiddio yn lied ddwfn mewn llawer yn Nghymru yw, nad oes yn bosibl bod yn ganwr ac yn gerddor heb fod yn hoff o'i lasied, ac mai anfynyeh y gellir gweled bardd heb fod yn llymeitiwr ac yn jolly fellow (yn ol eu syniad hwy am jolly fellow). Diolch fod engreifftiau gogoneddus o gymeriadau dysglaer, ac yn ddirwestwyr selog, yn proffesu yn y ddwy gangen. Os ydyw Cymru am fagu beirdd a cherddorion a. ddaw a gwir anrhydedd iddi, rhaid iddi edrych i'r dosbarth moesol a dirwestol am y cyfryw ddynion, ac os yw yr hen sefydliad anwyl i ddal ei dir yn ngwyneb y cynydd amlwg mewn addysg a diwylliant, mae yn rhaid i'r par, y da, a'r coeth gael eu cefnogi yn gystal a'r doniol a'r digrifol. Arferiad lied isel sydd gan lawer o'n pwyllgorau i ofyn telerau gwa- hanol feirniaid, beth bynag fyddo eu gallu a'u cyrmvysder, ac yn fynych yr iselaf ei bris fydd yn cael eu ddewis. Gwyddom am rai sydd wedi ysgrifenu at bump neu ddeg o'n dynion cyhoeddus, a da genyf ddeall fod rhai wedi gwrthod rhoddi pris o gwbl. Terfyliwn ein llith y tro hwn, gan ddymuno Hir oes" a. "Blwyddyn newydd dda" i'r hen eisteddfod. —Yr eiddoch, D. JENKINS (Trecastell), U.C.W.
.--.-CHWAETH BREGETHWROL YR…
CHWAETH BREGETHWROL YR OES. MR. GOL.—Yn mhlith yr holl bynciau dy- ddorol y cylioeddir erthyglau hirfaith arnynt yn y gwahanol gofnodolion, nid wyf yn cofio i mi weled dim yn ffurfiol wedi ymddangos yn ddiweddar ar fater ein hysgrif bresenol. Hwyrach mai yr erthyglau a gyhoeddir yn ystod y misoedd hyn yn Maner ac Amscraio Cymru sydd wedi gwneuthur y cyliyrddiad agosaf a'r pwnc o ddim a ymddangosodd drwy gyfrwng y wasg Gymreig. Yn wir, nis gallwa lai na chanmawl golygydd a gohebwyr y Fauer am yr hyn a wnaethant eisioes yn y cyfeiriad hwn. Ond yr hyn sydd yn destyn syndod nid bychan i ni ydyw fod yr oil o'r papyrau Cymreig ereill yn gwbl ddistaw ar y mater drwy gydol y blynyddoedd diweddaf, yn y rhai y mae ffurfioldeb a rhwysg wedi cynyddu yn fawr. Fodd bynag, drwy eich caniatad chwi, Mr. Gol., cymerwn ni ein rhyddid i godi y pwnc hwn i sylw yn ngholofnau y KI WLADGARWR, gan y teimlwn fod gwir angen i rywun ymaflyd yn y gorchwyl beilach. Cyn myned yn mhellach, dymunwn geisio gosod argraff ar feddwl y cyhoedd mai nid ein ham- can yn y sylwadau hyn ydyw tramgwyddo neb, ond os cymer rhywrai eu tramgwyddo oblegyd y gwirionedd, arnynt hwy y gorphwys y bai ac nid arnom ni, bid siwr. Cwynir yn ami yn y dyddiau hyn fod y dylanwadau a fu gynt yn cydfyned a gweinid- ogaeth yr Efengyl wedi myned i golli, a bod rhyw lwydni a marweidd-dra wedi meddianu proffeswyr crefyddol ein gwlad. Wel, mae'n ddiau mai nid heb achos y cwynir oblegyd y pethau hyn. Mae yn ddigon eglur i bob llygad eraffus fod ysbryd crefyddol a duwiol- frydig yr amser gynt wedi ei .golli o eglwysi ein gwlad. Ond y pwne ydyw, pa beth ydyw y rheswm am hyny ? A dyledswydd pob Cristion ydyw ceisio ehwilio atebiad i'r cwestiwn pwysig yna. Wel, gan mai y pwlpud, yn gyffredin, a ystyrir y lie mwyaf pwysig a, chysegredig yn ein heglwysi, ac mai y rhai hyny sydd yn ei lanw a ystyrir yr oraclau uchaf ar bob materion crefyddol; onid oes genym hawl yn ein hymchwil i lygadu ar y lie sanctaidd hwnw er cael gweled a ydyw pethau yn agos fel y dylent fod ynddo i Yr ydym yn hen gynefin beilach a'r syniad, mai y pwlpud ydyw y gallu cryfaf a mwyaf dylan- wadol yn Nghymru. Os felly y mae mewn gwirionedd, y mae o'r pwys mwyaf i'r gallu hwnw fod yn bur a dilwgr yn holl gynulleid- faoedd ein gwlad. 0 hyn hyd ddiwedd ein hysgrif, ni a gymerwn fantais i edrych ar y .1 y gallu hwn yn ei wahanol agweddion ar hyd Gymru yn y dyddiau hyn. Tybiwn mai un dilfyg neu gyfeiliornad oy pwysig yn ngweinidogion Cymru yr oes hon ydyw y gofal mawr a gymerant, hyd y mae yn eu gallu, i geisio porthi cyivreinrtvydd eu gwrndawyr yn hytrach na'u dwyn o dir coll- edigaeth at Geidwad. Hawdd ydyw dyfod i'r penderfyniad mai porthi chwilfrydedd a, chywreinrwydd eu gwrandawyr ydyw amcan penaf lluaws mawr o honynt. Tybiwn y gellir cynwys holl wrandawyr pregethiad yr efengyl mewn rhyw dri dosbarth, sef y bobl nad oes dim ond swn a wna eu boddio, y bobl na fedr dim ond ymdriniaeth fedrus a rhyw bynciau eu boddloni, yn ngliyd a'r bobl hyny sydd yn ymofynwyr gwirioneddol am les i'w