Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
CONGL Y MARWGOFION.
News
Cite
Share
CONGL Y MARWGOFION. Y PARCH. E. MORRIS, CEF^, MERTHYR. Bu farw yr hen frawd a'r pregethwr adna- byddus uchod dydd Sadwrn, Mawrth 12fed, 1892, yn 68 mlwydd o'i oedran. Brodor ydoedd o sir F6n. Daeth i'r Cefn o Glynceir- iog er ys rhagor na 37 mlynedd yn ol. Cafodd ei alw gan yr eglwys yn Carmel i'w bugeilio. Cydsyniodd &'r cais, ac ordeiniwyd ef gan y diweddar gawr-bregethwr Jones, Seion, Mer- thyr. Bu yn llafurio yn galed yma am 15 mlynedd. Wedi hyny cerddodd lawer; pre- gethodd yn ami; gwerthodd filoedd o lyfrau ar hyd a lied y wlad. Yr oedd yn bur heini hyd 9 fewn ychydig fisoedd cyn ei farw. Ond o gwmpas mis cyn ei farw, clafychodd o'r cryd- gymalau; wedi hyny aeth y galon i fethu; yna trodd y clefyd yn ddropsical, a bu farw y dydd a nodwyd. Claddwyd ei ran farwol dydd Mawrth, Mawrth 15fed, yn mynwent Carmel. Heddwch i'w Iwch. Gadawodd weddw oed- ranus a merch i alaru ar ei ol. Duw pob daioni weno arnynt, ac a roddo iddynt lawer o ddyddanwch, ac a gaffont fyw yn nghanol lluaws o dosturiaethau."
YR HYBARCH HENRY PRICE, RHYDWILYM.
News
Cite
Share
YR HYBARCH HENRY PRICE, RHYDWILYM. Diau fod darlleny cofnodisd aymddangosodd yn ddiweddar yn y SEREN o barthed i farwol- aeth y gweinidog da uchod i lesu Grist wedi effeithio yn bruddaidd a galarus ar feddwl llawer o eglwysi y saint yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Yn ei farwolaeth collodd Seion un o'i chymmeriadau puraf, un o'i phregethwyr mwyaf Beiblaidd ag esboniadol, ac un o amddi- ffynwyr cadarnaf bedydd y crediniol. Mae y tadau yn ein gadael a'r prophwydi yn syrthio i'r bedd, ond cysur Seion ydyw fod Josuah i arwain y genedl ar ol claddu Moses yn y myn- ydd, ac El sous i brophwydo yn enw yr Ar- glwydd, ar ol i Elias fyn'd adref mewn cerbyd o dan. Ffaith gysurlawn iawn yn hanes eglwys Rhydwilym ydyw, nad oes yr un u cyf- arfod ymadawol i weinidog wedi ei gynnal ganddi, ag ystyried mai hi ydyw yr eglwys henaf ond un. Pan y mae gweiaidog yn ym- adael o Rhydwilym, ymadael am wlad well y mae. Faint o eglwysi Cymru, sc y mae y ffaith hon yn sylwedd yn ei hanes. Ofnwn mai prin ydynt. Yn y cotnodiad parchus a ymddangos- odd am Mr Price, credwn fod dwy nodwedd bwysig yn ei gymmeriad cyhoeddus heb eu nhodi, pa rai a ychwanegent lawer at ei bob- logrwydd, sef ei gymhwysder mawr fel cadeir- ydd a'i allu fel bardd. Mewn cyfarfodydd llenyddol a pholiticaidd y mae o bwye mawr cael dyn o ddylanwad, o allu ac o arabedd i fod yn gadeirydd. Yn hyn, yr oedd Mr Price yn Hawn. Byddai bob amser a rhyw stori ganddo a hono yn llawn o wit, yn codi hwyl a bywyd yn ei wrandawyr, a byddai yn rhaid i'r darlith- iwr dynu allan, onide byddai araeth y Cadeir- ydd yn myn'd a'r clod. Flynyddau yn ol pan yr oedd yr enwog Kilsby Jones ar ei daith drwy sir Benfro yn egluro cyfraith y Tugel, ac yn herio pob stori trwy'r byd am ei ddiogelwch. Mewn cyfarfod a gynnaliwyd ganddo yn Maen- clochog, etholwyd Mr Prica yn gadeirydd, yn 01 arfer y wlad, a thraddododd un o'r areithiau goreu. A phan yn galw y Mr Kilsby Jones i anerch y cyfarfod, cododd ar ei draed, a dyma y geiriau cyntaf a ddywedodd, CI WeI, wel, dymabeth ydyw cyneu tan o goed gleision." Ac yn ngwres y tan hwnw y traddododd Kilsby un o'r areithiau goreu ar y cwestiwn, er ei fod yn cael ei wylio bob gair a lefarai, ac yn cael ei amgylchynu gan lu o Doriaid rhagfarn- Ilyd. Yr oedd ei egluriadau mor gadarn ar y gyfraith newydd y pryd hwnw, fel yr aeth pob Tori yn fud, a bu o fendith fawr i gadarnbau yr ofnus a'r pryderus. Un waith y bu Mr Price yn darlithio yn ei fywyd. Testun y ddarlith oedd y Beibl; ond bu yn llywyddu mewn ugeiniau o gyfarfodydd. Braidd na ddywedwn mai eigymhwysder penaf oedd y gadair. J?el bardd canodd lawer. Yr oedd barddon- iaeth, beth bynag ydyw, yn gynneadf ysbrydol C7 yn ei feddwl. Bardd gwlad ydoedd fel ben feirdd Cymru, ac nid bardd yr eisteddfodau a'r ymgecru. Canai yn hollol naturiol, tyner a derbyniadol, fel y dengys y penniliion canlynol o'i wa th. Nodwedd ei farddoniaeth oedd cof- iantol..Mae ugeiniau heddyw o'i bennillion yn argraffodig ar geryg beddau yn mynwentydd Carmel, Horeb, a Rhydwilym. Dyma fel y canodd ar ol Mr Abel Thomas, Cilaufawr, ben arweinydd y canu yn Rhyd- wilym am flynyddau lawer,— Mae'r delyn fwyn f nn seinio can Yn ddrylliau gan y pryfaid man Adgyfansoddir hon ryw ddydd, Ei pheraidd gan diddiwedd fydd. Dyma etto fel y canodd ar ol ei anwyl fam, yr hon a ystyrid yn un o'r mamau mwyat duwiol,— Ni fu mwy ffyddlon gwraig na hon, Na mam o lawnach serch mewn bron; Un ddiwyd, ddystaw, dawel-fryd, Er byw yn swn a'r bythol fyd. Dyma un etto ond ei fod mewn. iaith Selsnig ar forwr (seaman), a fu farw yn y gymmydog- aeth,— O'er Neptune raging foaming waves, Sometimes like mountains high, I often left Britannia's Isle For kingdoms far and nigh In spite of Borca's blast and storm I ancbor'd at this place, Till Christ again from sea and land Shall raise the human race. Ceir hefyd yn ei "Farwnad" i'r enwog Thomas Jones, ac yn ei bennillion ar Gardd Gladdu Trefangor," ami i linne'l nerthol ac o farddoniaeth uwcbraddo1. Pwy na deimla pan y cana ar amgylchiad claddu Trefangor fel hyv,- Braidd na wylai'r engyl gariodd Enaid Griffiths fry i'r nef, Am na chawsai'i gorff ei gladdu Yn y man ddewisai ef." Be lach, ni cheir yr un pennill na chan mwyach. Heddwch i'w lwch yn meddrod ei dadau. GALARWR.
MR. JOHN PARRY, DINBYCH.
News
Cite
Share
MR. JOHN PARRY, DINBYCH. Terfynodd y dyn hynaws a'r Cristion diym- hongar ond dysglaer hwnei yrfa ddaearol boreu dydd Llun, Mawrth 28ain, yn 82 mlwydd oed. Bu farw o henaint a gwendid, heb ddyoddef ond cystudd byr. Yr oedd yu un o hen fas- nachwyr parchus a thra adnabyddus Dinbych, ae yn un a feddai le uchel yn marn ac anwyl yn nheimlad ei gyd-drefwyr ar gyfrif ei ddini- weidrwydd, ei garedigrwydd, a'i haelfrydedd ac uwchlaw yr oil, ar gyfrif ei grefyddolder. Bu yn aelod ffyddlawn a defnyddiol am lawer o flynyddoedd yn eglwys y Bedyddwyr, ac yr oedd gan y frawdoliaeth y pirch mwyaf iddo, a'r teimlad cynesaf tuag ato ac yn ei farwol- aeth y mae yr eglwys i ba un y perthynai wedi colli un o'i haelodau anwylaf, siriolaf, a mwyaf profiadol. Cymmerodd ei gladdedigaeth le dydd Gwener, Ebrill laf. Cynnaliwyd gwas- anaeth crefyddol am 1 o'r gloch yn nghapel y Bedyddwyr, pryd y darllenwyd rhan o Air Duw ac y gweddiwyd gan y Parch 1. James, Ruthyn, yr hwn hefyd a draddododd aaerchiad byr. Cafwyd hefyd anerchiadau byrion gan Mr J. Simon, Ruthyn, a'r Parchn. R. Griffiths (M.C.) ae E. Jones, Dinbycb, yr hwn befyd a cierfyn- odd y gwasanaeth yn y capel drwy weddi. Yna cychwynwyd a'r corff i'w gymmeryd i dy ei hir gartref yn mynwent plwyf Llanrhaiadr. Claddwyd ef o dan y drefn newydd. Siarad- wyd wrth y bedd gan y Parcha. I. James ac E. Jones, a therfynwyd drwy weddi gan y Parch Mr Roberts (A.) Yr oedd yr ell o'r siaradwyr yn dwyn y dystiolaeth uchelaf i grefyddolder a duwioldeb diamheuol yr hen bererin ag ydoedd yn cael ei gladdu, yr hwn ydoedd wedi rhedeg ei yrfa yn y byd hwn i'r peo, ond wedi dechreu bywyd o ddedwyddwch a. llawenvdd mewn byd arall na fydd iddo der- fyn bytb. Dangosodd ei frodyr a'i chwiorydd I crefyddol, yn nghyda'i gyd-drefwyr perthynol i bob enwad crefyddol, yn Angliydffurfwyr ac Eglwyswyr, y parch mwyaf i gofl'adwriaeth ac enw da yr anwyl Mr John Parry.
ADULAM, PONTARDAWE.
News
Cite
Share
ADULAM, PONTARDAWE. CWRDD MAWR. — Cynnalioad yr eglwys uchod ei chyfarfodydd hanner-blynvddol Sul a Llun, Mawrth 20f'ed a'r 21ain, pryd y cafwyd gwasanaeth y Parchn W. A. Jones, Castell- nedd, ac R. D. Plli!lip¡¡, Moriab, Ynystawe. Nid yw y brodyr hyn ond ieuainc, etto gwydd- aDt yn dda pa fodd i ddefnyddio yr arfau nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwv Dduw i fwrw cestyll i'r Ilawr." Cawsom gyfarfodydd wrth ein bodd, a thystia llaw-r na chawsant well cyfarfodydd erioed. Yr oedd y cynnulliadau yn liuosog, a'r casgliadau yn weddol drwm. Credwn fod y gweision wedi cael llawn eym- maint o fwynhad a ninnau, ac nid rhyfedd, oblegid cawsant letty diddos, a phob eysur ac hwylusdod, Ïe, ac ambell ystori hanner-ysbryd- oledig gan eu llettywyr, yn arbenig Dafydd Lloyd. Ymadawsant gan hanner-awgrymu y carasant ddyfod yma etto, ac yn wir yr ydym o'r un farn. Llwyddiant mawr iddynt. CWRDD ANRHEQU.—Ychydig wythnosau yn ol, cynnaliwyd cyfarfod neillduol i anihegu y brawd ieuanc Charles James Pipe a darlun hardd o hono ei hun. Ere yw chwareuydd yr harmonium er's blynyddau. Yr oedd efe yn haeddu gwneuthur o honom hyn iddo." Mae yn uchel yn marn a theimlad yr eglwys, gobeitbiwn y ca oes hir i'n gwasanaethu. Bachgen rhagorol ydyw yn ngwir ystyr y gair. Nid oes yr un brycbeuyn ar ei gymmeriad, a. meiddiwn ddweyd ei fod yn esiampl i Jawer- oedd, yn enwedig i'n becbgyn ieuainc. Ad- roddwyd a cbanwyd amryw ddarnau pwrpasol, a chafwyd gwledd flasus. Llywyddwyd gan ein gweinidog, y Parch E. R. Evans. YR YSGOL SUL.—Mae hon yn weddol lew- yrchu?, ond nid yw i fyny a'r mark. Blin genym orfod dweyd hyn..Nis gall neb osod y bai ar ysgwydd yr arolygydd parchus, sef y brawd W. Jones. Mae yu ymdrechol a ffydd- Ion. Dalied ati, peidied er dim a digaloni, oblegid gwvr "nadywei lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Nid arwydd dda mewn unrhyw fan yw fod yr ysgol yn llai ei rhif na'r eglwys. Dyma'r achwyniad sydd yn y mwyafrif o'n heglwysi. Mae yn llawn bryd i aelodau ein gwahanol eglwysi i ddeffroi o gysgu, canys y mae'r Barnwr wrth y drws," ac nis gwydd- ant pa bryd yr ymddangosant ger ei fron. Gan hyny, prynwn yr amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. YR ACHOS GOREu.-Da genym allu dweyd fodheddwehynnynuofewn ein muriau, fed pawb yn un a cbytun, sc yn ymestyn at gyr- haedd v cod uehaf, set gogoniant yr Arglwydd Jesu. Nid ydymyn derbyn llawer i fewn qrwy fedydd, ond derbyniwn iawer drwy lythyrau. y Mae yr eglwys yn cynnyddu mewn rhifedi fis ar ol mis. Gallwn ddweyd ein bod yn mwynhau gweinidogaeth y brawd Evans i'r graddau eithaf posibl. Meddyliem yn uchel am dano ar y cyntaf, ond meddyliwn fwy am dano yn awr. Gweddiwn ar i ni gael gras mawr i gydweithio a chyd-dynu byd derfyn yr yr yrfa, Llwydd- iant parhaus iddo ef a ninnau, ac i bawb sydd yn "caru ein Harglwydd lesu Grist mewn purdeb."
HILL HOUSE COLLEGE, HWLFFORDD.
News
Cite
Share
HILL HOUSE COLLEGE, HWLFFORDD. Prydnawn dydd Mawrth, Mawrth 29ain, cyf- lwynwyd y tystysgrifau i ysgolheigion yr ysgol uchod a basiodd yn llwyddiannus arholiadau Coleg y Drindod mewn Cerddoriaeth, Y rhai a dderbyniasant dystysgrifau am Arholiad Ymarferol oeddynt Miss Edith Thomas, dosbarth hynaf; Miss Anna Thomas, dosbarth ieuengaf; a Misses Lily Collard a Edith Rowlands, dosbarth cyntaf. Arboliad Golygiannol, Miss Edith Carruthers, junior honours. Wrth gyflwyno y tystysgrifau rhoddodd y Parch B. O. Johns anerchiad cym- hwysiadol a chalonogol i'r ysgol. Siaradwyd ychydig eiriau. hefyd gan Mrs Rouse, a chafwyd detholiad o gerddoriaoth leisiol ac offerynol gan yr ysgolheigion. --0--
Advertising
Advertising
Cite
Share
DEAFNESS ABSOLUTELY CUBED.—A Gentleman who cured himself of Deafness and Noises in the Head of 14 years standing by a new method, will be pleased to send full particulars for 2 stamps. Address HERBERT CLIFTON, U, Shepherd's-place, Kennington Park, London, S.E.