Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR A'N DERBYNWYR. TANGNEFYDDWR.—Mae yn annichonadwy i ni gael lle i lythyr o h £ d eich eiddo chwi i feirniadu llai na banner brawddeg yn hanes y cyfarfod a fu yn eich ardal. Yr ydym am i'n holl Ohebwyr, pan yn ein anrhegu ag banesion, i roddi y ffeithiau, a gadael allan gyfcir.adau anngharedig at bersonau ond nid oes eisieu i hen wr fod mor groen- denau a'ch cyfaill chwi. Dylai fod yn fwy profiadol. MORGAN BACH a'r Cricket.—Gofynwch pa fodd mae creadur mor fychan yn gallu gwneyd llais mor uchel ? Nid llais y cricket yw y own ag ydych yn ei glywed, ond mae yn creu y swn trwy offerynol- iaeth ei adenydd. UN AR BRIODI.—Mae priodas rhwng ewythr a nith yn annghvf- reithlon yn mhob gwlad yn Ewrop ac.'America. Mae priodas a chwaer gwraig flaenorol yn gyfreithlon yn Denmark, Sweden, Prwsia, ac yn rhai o'r talaethau Americanaidd. BONAPARTE.—Ganwyd Louis Napoleon. yr Amherawdwr presenol, yn y Tuileries, Ebrill 20, 1808. Efe a'i gefnder, Brenin Rufain, oedd yr unig rai o deulu Boni a anwyd yn y palas breninol yn Ffrainc. UN AR YMFUDO.-l. Mae dolar America yn werth 4s. 14e. o arian Prydain. Rhenir y dolar fel y canlyn i 10 Dimes, 100 Cents, 1 000 Mils. 2. Mae miloedd-dros 12,000—0 ymfudwyr wedi dychwelyd o America yn 1859. THOMAS WILLIAMs.-Ein rheol ni, Mr. Williams, yw gwneyd cyfiawnder â'n holl ohebwyr hyd ag y caniatiio ein gofod. Nid yw cynnyg gwobr ar y naill du, na bygwth gwg ar y tu arall, yn cyfnewid e dim ar ein barn, na'n penderfyniad i wneyd yr byn sydd iawn. Yr ydym mewn cyssylltiad a'r wasg bellach er's blynyddau, heb gael ensyniad am ddiffyg gonestrwydd tuag at ein Gohebwyr, cyn i ni ei gael oddiwrthych chwi. MWNWR.—Mae MAnglawdd Fruttenburg yn Bohemia yn fil 0 latheni o dan wyneb y ddaear. Dyma y dyinaf a wyddom ni am dano Y mae wmbredd o ohebiaethau-yn Lythyrau at y Golygydd hanesion cyfarfodydd, &c.—wedi dyfod i law ond o ddiffyg lie, yr ydym yn methu eu gosod i fewn yindrechwn foddloni ein gohebwyr yn y Rhifyn nesaf. ° Y GOHBBIAETHAC i'w hanfon i ofal y Parch. T. Price, Aberdar. Y FARDDONIAETH i ofal y Parch. John Rhys Morgan (Lleurwg), Llanelli. HANESION o bob math i ofal y Cyhoeddwr, i'r Swyddfa.

Y PYTHEFNOS.