Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
CAERNARFON.
CAERNARFON. CYNYG .A.11 BARC C?HOEDDUS.—Prydnawn ddydd Llun cyn y diweddaf, cynaliwyd eyfarfod eyhoeddus yn y Guild Hall, i'r dyben o gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o droi Morfa Seiont yn bare cyhoeddus, ac yn lie o adloniant. Cymerwyd y gadair gan y Maer (yr Henadur Lewis Lewis), yr hwn a eglurodd fod llawer o siarad wedi bod o dro i dro gyda golwg ar droi y Morfa i'r amcan uchod, ao yr oedd hyny mor bell yn ol a'r eisteddfod ddiweddaf a gynaliwyd yn y lie, pan y cynygiwyd gwobr am draethawd ar y modd goreu i droi y Morfa yn lie o adloniant. Cynwysa y Morfa dros ddeugain o erwau: acyr oedd yr holl feddianwyr yn barod i'w roddi yn rhad at yr amean uchod. Cyfeiriodd hefyd at fod llawer yn codi cwyn y byddai y trethi yn siero godi llawer iawn os dygid hyn oddi amgylch. Eglurodd gryn lawer o ffigyrau gyda golwg ar hyn, a dywedai ei fod yn sicr nad oedd neb yn awyddus am fyned i mewn i gynyddu y trethi, a theimlai yn hapus iawn i'w hysbysu y byddent 2c y bunt llai y flwyddyn hon ac yn ol pob tebyg, byddai i ostyngiad pellach gymeryd lie yn mkellach yn mlaen. Dymunai efe gyfarfod bob tretbdalwr mewn ffordd deg a chynawn ac os byddai y cyfarfod yn dymano gohirio, y gallid gwneyd hyny yn bur rhwydd. Dymunai efe gynyg y penderfyniad canlynol Fad perchenogion tir- oedd, yn gystal a threthdalwyr, bwrdeisdref Caer- narfon, yn cydweled a'r cwrs a gymerodd y Cynghor i sierhau mesur i droi y Morfa yn bare cyhoeddus,a,o yn lie o adloniant." Bu cryn lawer o siarad gyda golwg ar y cynygiad uchod, a chymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan amryw o ddynion mwyaf cyhoeddus y dref. Ac o'r diwedd, daethpwyd i'r penderfyniad mai gohirio y cyfarfod hyd nos Fawrth oedd oreu. Ymgyfarfyddwyd nos Fawrth, a chym- erwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan y Maer, Mr Allanson, y Parchn Herber Evans. ac Alun Roberts, y Cynghorwr liichard Thomas, yr Henadur W. P. Williams, Mr John Evans, Caellenor, a'r Henadur G. R. Bees, yn nghydag amryw ereill. Wedi cael siarad lied fywiog, penderfynwyd derbyn y cynygiad a osodwyd i lawr gan y Maer, ac nid oedd ond tri yn gwrthwynebu. Cynygiodd Mr Jno. Evans, Caellenor, a chefnogodd yr Henadur G. R. Rees, benderfyniad yn deisyf ar i'r Cynghor beidio gwario mwy na 2,000p yn chwanegol at y costau er cael gweithred seneddol, ac na byddo treth y dosbarth yn fwy na 2s 60 yn y bunt. Cytnnwyd a hyn. Cynygiwyd diolchgarwch gwresog i Mr Assheton-Smith, a'r tir. feddianwyr ereill, am eu rhodd haelionus i'r dref.
LLANDUDNO.
LLANDUDNO. Bwriedir cynal Dawnsfa yn y Masonic Hall, nos Lun nesaf. Gelwir ef yn Fancy Dress Party am y rheswm, mae'n debyg, mai yehydig o gefnogaeth a roddid iddo gan grefyddwyr pe gelwid ef wrth ei enw priodol, sef Ball. Tybed a ydyw y gwahanol enwadau crefyddol yn y Dywysogaeth yn gwneyd yn iawn i ganiatau i rai sydd yn aelodau eglwysig fynyehu y cyfryw gymdeithasau ? Dymnnwn longyfaich Mr Edward Jones, Conwy, a. Mr J. Harrison Jones, Dinbych, ar eu dyrchafiad i'r swydd anrhydeddus, y naill i faeroliaeth hen dref Conwy, a'r llalli'r unrhyw swydd yn Ninbyeh fawr. Yr ydym yn sier fod y ddau foneddwr hyn yn teil- yngu yr anrhydedd, a dymunwn lawer iawn o hawdd. fyd ac iechyd i'r ddau i gyflawni y awydd sydd wedi ei hymddiried iddynt er boddlonrwydd iddynt hwy eu hunain ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Gwyr llawer o'r darllenwyr fod y ddau foneddwr yn Wes- leyaid gweithgar a selog, ac at hyny eu bod yn breg- ethwyr parchus yn y Cyfundeb. Hir oes iddynt i wneuthur daioni yn mhob modd. Dywedir fod gobaith am gapel newydd i'r Anni- bynwyr Cymreig yn myned ar gynydd, ac fod Mr Hudson, gwneuthurwr y dry soap, wedi addaw pum' cant 0 bunau at y symudiad. Nid gwir fod Mr Wm. Evans wedi cael gwahoddiad i fod yn fugail ar yr Eglwys Annibynol, pregethu iddynt yu hynod gymer- adwy ddarfu y cyfaill ychydig Suliau yn ol, a dyna yn ddiau roddodd gychywyniad i'r sibrydiad. Cynaliodd cyfsilliori Moriah eu cyfarfod pregethu nos Fawrth a dydd Mercher diweddaf. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. John Jones (Vulcan), ac Evan Evans, Treffynon. Cafwyd pregethau grymus ac effeithiol a chynulleidfaoedd lluosog. Da genym ddeall fod yna son am gapel newydd yn y gymydog- aeth; nid heb eisian, yn enwedig adeg eyfarfod mawr. Y Sul diweddaf cynaliwyd cyfarfod ysgolion Dos- barth Conwy yn Llandudno. Llywyddwyd y boreu gan Mr Wm. Williams, builder, llywydd yr ygol, a'r prydnawn a'r hwyr gan Mr E. P. Hughes, Conwy. Holwyd Mathew vi., gan Mr E. P. Hughes, yr Hgwyddorydd gan Mr Rees Davies, Conwy, Hanes Paul gan Mr W. Evans, Llandudno, a'r plant gan yr jhybarch dad John Hughes, Moriah. Adroddwyd penodau, &c., gan Mrs Williams, Miss Jane Owen, Mr Henry Williams, Master J. Davies, a chan y Misses M. E. Jones, M. E. Evans, L. A. Rawling, Gracy Hughes, Hannah Powell, ae Elizabeth Wil- liams. Areithiwyd yn y cyfarfod hwyrol gan y Mri. Hugh Hughes a Jas. Williams, Colwyn, a John Hughes, Moriah, ac adroddodd Mr W. Evans bedwar obenillion a gyfansoddwydganddo ef ei hun,i'r Ath- raw Ffyddlon." Deallwn mai barn y lluaws ydoedd mai hwn oedd y cyfarfod ysgolion goreiu a gynaliwyd yma er ys talm yn wir, yr oedd yna rhyw fyn'd ar bobpeth bron. Hyderwn y bydd daioni yn dilyn yr oil. Am 1 a 5 o'r gloch, eyfarfodydd y dirprwy, a threfnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf yn Bethel, yr ail Sul yn Chwefror. Diolchwyd i'r ysgrifenydd am ei wasanaeth, a dymunwyd arao barhau yn y swydd. Etholwyd Mr Wm. Evans, Llandudno, yn llywydd yr undeb am y flwyddyn ddyfodol. Dysgwylir y bydd Maer Conwy yn holi yn y cyfarfod nesaf. Darllen- wyd adroddiad yr ymwelwyr, Meistri Wm. Williams, draper, a W. A. Evans, Llandudno, am sefyllfay gwa- hanol ysgolion yn y Dosbarth. Yr oedd yr adroddiad yn dangos ol llafur nidbychan, agallem dybio fod y ddau frawd wedi sylwi yn dra manwl ar y moddau y cerir y gwahanol ysgolion yn mlaen. Credwn y byddai yn fantais i'r ysgolion i fabwysiadu rhai o'r oweatiynau a ddygwyd gerbron gan yr ymwelwyr. Diolchwyd yn wresog iddynt am eu gwasanaeth.— Goh.
ABERGELE.
ABERGELE. Y TEMLWYE DA.—Dydd Gwener diweddaf oynal- iwyd Dosbarth Deml Clwyd a Maelor o U.A.T.D., yn y dref hon, o dan lywyddiaeth Dirprwywr y Dosbarth -y Brawd B. Llwydwyn Jones. Daeth eynrychiol- wyr o Demlau Dinbych, Henllan, Bodffari, Rhyl, lilanddulas, ac Abergele. Dangosai yr ystadegau fod yr achos dirwestol mewn sefyllfa galonogol—urddo yn cymeryd lie bron bob wythnos mewn rhai o'r iemlau. Teimlem yn siomedig fod teml "Walter Caradoc," Wrexham, heb anfon cynnrychiolwyr na chyfrifon y chwarter hwn na' r diweddaf. Ni ddylai fod fel hyn. Rhoddwyd y Graddau i tua 12 o ym. geiswyr am danynt. Cafwyd eisteddiadau buddiol, a thriniwyd a materion angenrheidiol. Yn yr hwyr cynaliwyd y deml-nifer fawr yn bresenol; derbyn un aelod newydd a chynyg tri ereill. Cafwyd anerchiadau gan Ddirprwywr y Dosbarth, y Brawd John Davies, Rhyl, ac amrai aelodau o'n teml ein hun. Gwnaed cais am y Ddosbarth Deml nesaf yn Gyffylliog, i'w chynal yn mis Chwefror nesaf-y deml yno i ddewis y diwrnod. Cydsyniwyd a'r apel ar yr amod eu bod yn gofalu am foddion cludiad, i'r chwiorydd beth bynag, a dealiwn eu bod yn barod i wneyd hyny.Aelod.
DINBYCH.
DINBYCH. Prydnawn ddydd Ian, yn ol ei arfer, rboddodd Mr J. Harrison Jones, dreat o de a bara trith i'r plant sydd yn dal cysylltiad a chlwb dillad capel Pendref. Yn gweini wrth y byrddau, clywsom fod Mrs Harrison Jones; Mr a Mrs Jones (Manchester); Mrs Jones, priod ein gweinidog; Miss Jones Miss A. Davies Mrs Jones, Chapel House, ac ereill. Yn ystod y cyfarfod, cafwyd amryw ganeuon, &e. Cynygiwyd diolchgarwch dros y plant i Mr Jones am gofio am danynt fel hyn y naill flwyddyn ar ol y llall, gan ein hoflEus weinidog, y Parch W. Jones. Do," ebai y plant, cawsom de lawer gwaith gan Mr Jones, ond dyma y tro cyntaf i ni erioed gael te gan y Maer." Yr wythnos ddiweddaf, cynaliwyd cyfres o gyfar- fodydd cenadol yn ngwahaBol gapelydd y gylch. daith. Y cyntaf a gynaliwyd oedd yn Llanelwy. Daeth cynulliad lluosog iawn yn nghyd, a thraddod. wyd anerchiadau campus gan y Parch W. Jones, Mr Boaz Jones, ac amryw 0 weinidogion a brodyr o wahanol enwadau. Nos Fawrth, yn Bodffari, nid oedd y cynulliad mor lluosog ac y buasid yn ddis- gwyl, ond cafwyd cyfarfod campus yn ol tystiolaeth y rhai oedd yno. Darllenwyd rhan o'r Mynag gan Mr D. H. Davies, a chafwyd anerchiadau ganddo ef a'r Parch W. Jones yn Ilawn o dan cenadol. Yr oedd cyfarfod i gael ei gynal yn Henllan nos Iau, ond o herwydd rhyw gamddealltwriaeth ni chynal- iwyd yr un. Nos Wener, cynaliwyd cyfarfod o gyffelyb natur yn Llandyrnog. Cynulliad gweddol oedd yma eto, ond cyfarfod da rhagorol. Darllen- wyd rhan o'r Mynag gan frawd 0 Ddinbych, a chaf- wyd anerchiad buddiol gan y Parch W. Jones. Llongyfarchwn Gymdeithas Gorawl Caledfryn ar ei fuddugoliaeth yn trechu naw o gorau yn yr eis- teddfod leol a gynaliwyd yn y Wyddgrug ddydd Iau diweddaf. Yr arweinydd ydoedd Mr T. R. Jones, ae eiddunwn iddo ef a'i gor lwyadiant mawr eto yn y dyfodol.-Gohebydd.
PENEGOES, GER MACHYNLLETH.
PENEGOES, GER MACHYNLLETH. Cynaliwyd gwledd fawreddog yn y lie hwn ddydd Sadwrn, Tach. 12, dan lywyddiaeth y Parch W. Morgan, a Mr E. Rees, Machynlleth, mewn cysylltiad a diddyledu "Bethesda" addoldy newydd y Wesleyaid yn Penegoes. Rhaid dyweyd fod y frawdoliaeth fechan yn y lie hwn wedi gweithio yn wir ganmoladwy, yn ngwyneb llawer iawn 0 anhawsderan, mewn C, trefn i allu ymryddhau o'u caethiwed poenus hwn. Dylem gydnabod Mr R. Evans, Maes- perthi, fel un a weithiodd yn dra haelfrydig er dwyn hyn oddiamgylch. Priodol dyweyd fod Wesleyaeth yn agos iawn at ei galon, a'i fod bob amser yn dra ffyddlon a haelionus gyda'r achos yn y lie hwn. R. Evans, Maesperthi, y teilwng wr lion, Mae ysbryd John Wesley yn fyw dan ei fron, A gweithiodd yn wrol-diysgog ei ffydd, Er codi Bethesda o'r pydew yn rhydd Llafuriodd yn ddiwyd-ymdrechodd fel gwr, A dydd buddugoliaeth a welodd yn siwr Pob llwyddiant boed iddo, a bywyd iach hir, I wneyd Ilawer eto o dda yn y tir. Cawsom wledd o de ardderchog, gyda theisenau brithion rhagorol, a rhaid i ni eto ddyweyd, fod y rhai fa yn llafurio i'w gwneyd yn bur fedrus, gyda phethau fel hyn, fel y mae y merched yma yn gyffredin gyda phethau dyrus. Gwasanaeth- wyd wrth y byrddau gan y chwiorydd canlynol -Misses S. Wood; J. Jones, Tainewyddion M. Morgan, Penegoes Jones, Pantystyllen; a J. Jones, Craig. yr. hen-ffordd. Ac nid rhyfedd fod pawb yn canmol y danteithion, a phwy yn debyg i'r Wesleyaid am weithio pob cynllun allan i berffeithrwydd.—Grewi.
LLANELWY.
LLANELWY. Nos Fercher, Tachwedd 9, cynaliwyd cyfarfod cenadol yn nghapel y Wesleyaid. Yr oedd disgwyl- iad mawr am gael cyfarfod da wedi meddianu llawer er pan y clywyd y cyhoeddiad fod y cyfarfod i gael eu gynnrychioli gan wahanol bersonau o'r gwahanol enwadan, ac ni'n siomwyd. Wedi ethol Mr P. Roberts, chemist, yn gadeirydd, yr hwn a lanwodd y swydd yn rhagorol, fel mae pawb yn gwybod sydd yn ei adnabod, siaradwyd yn fyr, ond hynod gynwysfawr, gan y Parchn W. Jones (ein harolygwr),B. Hughes(M.C.), J. Elias Hughes (M.C.), B. Evans (B.), a Mr Thomas Jones (A.) Rawdd canfod fod pob enwad wedi ymuno a ni eleni, a chaf. wyd eyfarfod hynod o dda yn mhob ystyr,a gobeithiwn y bydd yn cael yr argraff ddyladwy ar bob meddwl er eu cael i ychwanegu eu rhoddion at hyrwyddo achos mor deilwng yn mlaen. Dymuniad pawb yw cael eyfarfod cyfEelyb eto; a rhaid oedd teimlo gwireb yr hen ddiareb, Mewn undeb y mae nerth." Cyfranodd y lie uchod y swm 0 7p 125 6tc y flwydd- yn ddiweddaf, ao yn ol pob tebygolrwydd y bydd yn fwy eleni. Bydd.ed felly yw dymunniad—Mwy fab.
LLANGOED.
LLANGOED. CYFARFOD PREGETHU.—N03 Iau a dydd Gweuer diweddaf, cawsom wasanaeth werthfawr y Parch Hugh Hughes, Birkenhead. Nos Ian, pregeth- odd bregeth Genadol, rymus, effeithiol, a phwr- pasol. Darllenwyd rhanau byrion o'r Mynag ganein parchus weinidog, J. Hughes (yr hwn a gynorthwyodd yr ymwelydd dyeithr trwy bregethu dydd Gwener). Cafwyd cyfarfod da neillduol. Er na welwyd neb yn dychwelwyd, da genyf hysbysu darllenwyr j Qwyliedydd fod ychydig o swn achub i'w glywed yn y gylch- daith hon y dyddiau presenol.-R. Hughes.
[No title]
Ni raid i neb fod heb HANES WILLIAM AUBREY A'I OEB, oblegid derbynir y taliadau yn fan sym- au gan y Dosbarthwyr, a rhoddir' tocyn i bob derbynydd ar yr hwn y nodir y swm a delir.
Ig masg. !
g masg. ALMANAC Y CYMRY, sef Blwyddiadur 0 wybodaeiTi gyff. redinol wedi ei ddethol a'i drefnu yn ofalus am 1882, yn cynwys daroganau Francis Moore am y tywydd. Abertawe: cyhoedclwyd gan B. PARRY, Castle St. Dyma almanac newydd" eto, ac mewn llawer o bethau yn tra ragori ar y rhan fwyaf, os nad yr oil, o'r hen rai. Heblaw y mater ymarferol, ceir ynddo gyfraith y Pawnbrokers, Poblogaeth Cymru, Ffeirian Cymru, Oen a lloi daflen (0 wasanaeth mawr i fferm. wyr), Ewyllysiadau, Llanw y mor, Tollau ar gymun- roddion Stampiau, Treth yr Incwm oddiar 1842, Biliau arianol y Llythyrdy, &c., Can ddigrif i'r Hen Gount, Darn o bregeth Williams, Castellnewydd, Amrywion hanesiad Priodasau ymneillduol, Englyn i'r Llwynog, Offeiriad Pabaidd a'i was, Ymweliad Tywysog Cymru ag Abertawe, Prif Ddygwyddiadau 1881, Ffeithiau Meddygol; Y Senedd a'r Iwerddon, Mesur Cau y Tafarndai ar y Sabboth, Marwolaeth Iarll Beaconsfield, Marwolaeth Thomas Carlyle, Bradlofruddiaeth Ymerawdwr Rwsia, Saethiad a marwolaeth Arlywydd America, Darn o bregeth Dafydd Evans, Ffynonhenry (na cbyhoeddwyd o'r blaen), Prif weinidogion Lloegr am yr 150 mlynedd diweddaf, Penaduriaid Ewrop, &c. Dyma gronfa o wybodaeth, a hyny am geiniog Ac yn goron ar y cwbl, cynwysa Rangan newydd i leisiau gwrywaidd o waith Or Parry yn y ddau Nodiant. Y mae bon ei hun yn llawer mwy na gwerth ceiniog. Gallwn yn ddibetrus gymeradwyo yr almanac hwn, fel un o'r goreuon a gyhoeddwyd erioed.
RHYL.'"''
RHYL. Rhoddodd Bwrdd y Dirprwywyr ganiatad, ddydd Llun diweddaf, i gais a wnaed gan y Mri Ashdown a Bury, Llundain, i wneyd ffyrdd tram i lawr y mor- rodfa i'r Foryd, ao ar hyd Queen Street i orsaf y ffordd haiarn. Cafod Mri Oldfield, marsiandwyr glo hefyd ganiatad i wneyd ffordd tram o gae priddfein sydd ganddynt tu allan i'r dref i ochr y ffordd haiarn TAN ARSWYDUS. Tuag unarddeg o'r gloch nos Wener diweddaf torodd tan allan yn ydlan Mrs Williams, Penybryn, ger y dref hon, a llosgwyd tua dwsin 0 deisi mawrion yn cynwys gwenith, haidd, &e. Yn ffodus chwythai y gwynt oddiwrth y ty, a phe amgen buasai y tafodau tAn a fforchogai wedi difa yr holl adeiladau. Yr oedd golwg ofnadwy ar yr elfen fel yr ymwthiai 0 flaen y gwynt i ganol y teisi. Aeth y peiriant yno o'r dref, wedi bod tua phuml munnd ar hngain yn disgwy I am geffylau i'w ddwyn i'r He. Aeth canoedd o bobl i'r lie. Yr ydym yn condemnio y fath hir.ymaros- yr oedd y t&n ddiffoddwyr yn barod ac yn y Ile yn bur fuan wedi i'r alarwm eu galw yn nghyd, ac fel y dywedasom eisoes, pe dygwyddasai y gwynt fod yn chwythu yn groes i'r hyn ydoedd, nid amheuwn na buasai yr adeiladau wedi myned yn goelcertb. Tybir nad yw y golled ddim dan 500p, ond deallwn fod yr eiddo wedi ei yswirio mewn rhan.
GAIR 0 DREFFYNNON.
GAIR 0 DREFFYNNON. Bu y Parch Hugh Hughes, Birkenhead, yn preg. ethu yn nghapel Pendref nos Fercher diweddaf. Gan fod y son wedi myned allan mai hwn fyddai y cyfleusdra olaf i'r Treffynnoniaid weled a chlywed Mr Hughes "cyn iddo fyned i'r America," daeth cyn. ulleidfa fawr iawn yn nghyd i'w wrando; a chafwyd pregeth nerthol ac amserol iawn ganddo ar Hab. iii. 2. Ar y terfyn, canodd Mr Hughes ddwy o ganiadau Mr Sankey gydag effeithioldeb tarawiadol. Yr oedd y casgliad a wnaed at gapel Garston yn un hardd iawn-3p 15s. Da iawn, y Treffynnoniaid, onide ? Y mae Mr Hughes wedi addaw talu yn ol i ni, ar ryw ffurf neu gilydd, pan ddychwel efe o'r America; ao y mae yn dra thebyg y bydd i gyfeillion Pendref gofio byny, pwy bynag fydd byw. TEA. MEETING" A DARLITH.-Cynaliwyd cyfarfod blynyddol cyfeillion eglwys Annibynol Saesoneg y Tabernael ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd y cyn- ulliad i'r tê yn llnosog, a'r mwynhad o'r danteithion yn fawr. Yn yr hwyr, traddododd bugail yr eglwys -y Parch Owen Thomas, B.A.-ddarlith ar "Gar. field." Yr oedd y ddarlith yn un ragorol; ac yr oedd y cadeirydd (Parch Evan Evans), yn llenwi ei le yn gampus.-Quilsyn.
I BAGILLT.
BAGILLT. Tach. 6ed a'r 7fed, cynaliwyd eyfarfod mawr yn y He hwn. Gwasanaethwyd ynddo gan y Parchn G. Jones, a J. Jones (r), Ar hyd yr wythnos flaenorol cynaliwyd cyfarfodydd gweddio, a'r nn ddilynoi cafwyd pregethau gan y Parchn J. Jones (r), a T. J. Humphreys. Bendithiwyd y Gair i gael tua 30 i ymuno a'r eglwys, a chredwn fod tyrfa fawr eto i dd'od; dyna o leiaf ein gweddi.
Y FASNACH MEWN HAIARN A GLO…
Y FASNACH MEWN HAIARN A GLO YN NEHEUDIR CYMRU. Yr oedd gryn lawer o fywiogrwydd i'w ganfod braidd yn mhob cangen o fasnach haiarn a dar. Nid oes dim prinder archebion, ac y mae y prisiau yn cael eu cadw i fyny yn sefydlog, Disgwylir y bydd i gryn lawer o lo ager gael ei anfon ymaith yn ystod y dyddiau nesaf. Yr oedd glo at wasanaeth tai yn gwerthu yn bur rwydd.
Family Notices
Œ)tnthigadgatt, frifllrasTO &t. ( Genedigaethau. HUGHES-Taoh. 3, priod Mr Joseph Hughes, y gof, Top Hill, Bagillt, ar fab. JENKINs-Tach. 11, priod Mr Edward Jenkins, ar- weinydd y canu yn nghapel y Wesleyaid Cymreg, Oxford-street, Birmingham, ar fereh-eu eyntaf. anedig. Gelwir hi Sarah Elizabeth Jane. JONEs-Hyd. 24, priod Mr Henry Jones, 6, Catherine Street, Birkenhead, ar fab. Gelwir ef Ezra. ROBERTS—Hydref 20, yn Pentreuchaf House, Gwes- pyr, priod Mr Henry Roberts, Birkenhead, ar fereh,-eu cyntaf-anedig. Marwolaethau. EVANs-Tach. 13, yn 45 oed, wedi yehydig ddyddiau o gystudd,Mr Sylvanus P. Evans, cofrestrydd priod. asau, Queen-street, o'r dref hon. DATIEs-Tach. 10, yn Llandudno, yn 52 mlwydd oed Mr Isaiah Davies, St. George's Hotel. PIERCE-Tach. 9, yn 31 mlwydd oed. Mr John Pierce, Golden Goat, Caernarfon. GMpriTH.—Taoh. 4, yn 56 oed, Jane, priod Mr T M Griffith, Tycoch, Brynsiencyn, Mon. J oNEs-Tachwedd 3, yn Hemington Villa, Wyddgrug, yn 65 oed, Mr Roger William Jones, gynt o Rhydorddwy Fawr, ger Rhyl. ROBERTs-Tach. 3, Jane Roberts, Penbol Isaf, Am- lwch. W ATKINs-Hydref 22, Elizabeth, anwyl briod Mr Thomas Watkin, Cambrian Terrace, Llanfyllin, yn 72 oed, wedi bod yn proffesu crefydd am dros 45 o flynyddau. Gellir dweyd yn ddibetrus am y chwaer hon, Wele Israeliad yn wir, yn yr hon nad oedd twyll." Yr oedd yn un o'r hen stamp, un oedd yn caru y class, ac nid oedd arni ofn dweyd am dda- ioni Duw iddi yn nhaith yr anial. Cafodd gystudd maith am fisoedd lawer, ond ni bu neb yn fwy tawel ac ymroddgar i ewyllys ei Harglwydd, ac yr oedd, er's amser, yn awyddu am gael myned i gar- trefu gyda'r Arglwydd. Traddodwyd ei phregeth angladdol gan ein parchus weinidog yn hynod o effeithiol. Gadawodd briod a saith o blant i alaru ar ei hoi; bydded eu diwedd hwythau fod fel yr eiddo hithau yw gwir ddymuniad-Ap Dafydd. WILLIAMs-Tachwedd 1, Mary, anwyl briod David Williams, Peniel, Bethania.
Newyddion Diweddaraf.
Newyddion Diweddaraf. Boreu Dydd Mawrth. LERPWL (YD) DYDD LLUN.—Yd yn sefydlog, gydag ychydig alw am dano. Dim cyfnewid- iad yn y blawd. Ffa a phys yn cadw eu pris- iau. Indrawn yn sefydlog, ac o'r ddau yn erbyn y prynwr. LLUNDAIN.-Marchnad farwaidd. Araf j gwerthai yr yd. Eiddo Seisnig heb newid yn ei bris; y tramor yn gogwyddo yn fEafr y prynwr. Blawd yn farwaidd heb newid yn y prisiau. Pethau eraill rhywbeth yn debyg. Wedi tair blynedd 0 absenoldeb cyraeddodd Ardalydd Lome, (mab-yn-ngnyfraith ei Mawr- hydi y Frenines,) Llywodraethwr Canada, yn afon Lerpwl brydnhawn ddoe. Cyfarfyddwyd ef gan y Dywysoges Louise, &c. Aethant gyd a'r gerbydres i Gaer am Eaton Hall. Dychwelwyd Arg. Ebrington yn aelod dros Tiverton trwy fwyafrif o 252 ar ei wrthwyneb- ydd Ceidwadol. Boddwyd pedwar o ddynion-pysgotwvr- yn Caerdydd trwy ddymchweliad cwch. U Yn Llys yr Apeliadau ddoe rheolwyd yr ach- os, Clarke yn erbyn Bradlaugh, yn yr hwn yr oedd y Barnwyr wedi penderfynu yn erbyn yr anffyddiwr, trwy gydolygu a'r Barnwyr.
[No title]
PEDWAR 0 DDYNION WEDI MYGU MEWN FPYNON.— Dydd Tau diweddaf yr oedd dyn o'r enw Moran yn gwneyd rhyw orchwyl mewn ffynon a gloddiwyd ar dir Cwmpeini Gwaith Nwy York, pryd y gwelwyd ef yn syrthio oddiar y scaffold i'r gwaelod. Aeth dau ereill i lawr ar ei ol i chwilio yr achos, ond ni ddychwelasant. Wrth ganfod hyny aeth y pedwerydd dyn i lawr, ac ni ddychwelodd yntau; a chanfydd- wyd mai yr achos oedd ddarfod iddynt oil gael eu mygu gan awyr afiach. Llwyddwyd i gael y cyrff allan.
Advertising
BAZAAR WESLEYAID CYMREIG, CAERLLEON. Cynelir yr uchod yn Awst neu Medi nesaf. AMCAN yranturiaeth ydyw, CHWYDDO THY- SORFA Y CAPEL NEWYDD. Teimlir yn dra diolchgar am bob cyinorth mown nwyddau, neu arian. Tosturiweh wrthym mewn estronol wlad. Parch MOSES ROBERTS, Oadeirydd y Pwyllgor. Mr D. WILLIAMS, St. Werburgh St. 1 m Mr R. DAVIES, Northgate Street j Trysorwyr Mr J. T. WILLIAMS, St. Werburgh St Ysgrifen. Mr T. A. LEWIS, Frodsham Street ydclion.
[No title]
THROAT IRRITATION.—Soreness and dryness, tickling and irritation, inducing cough and affecting the voice. For these symptoms use Epps's Glycerine Jujubes. Glycerine, in these agreeable confections, being in proximity to the glands at the moment they are excited by the act of sucking, becomes actively heal- ing. Sold only in boxes, Hd. and Is. ljd., labelled "jAMEsEpps & Co., Homceopathic Chemists, Lon- don." A letter received: "Gentlemen,—It may, perhaps, interest you to know that, after an extended trial, I have found your Glycerine Jujubes of con- siderable benefit (with or without medical treatment) in almost all forms of throat disease. They soften and clear the voice.— Yours faithfully, GORDON HOLMES, L.R.C.P.E., Senior Physician to the Muni- cipal Throat and Ear Infirmary." Hollowafis Ointment and Pills.—Diseases of the Skin.-No case of disease of the skin, be its nature what it may, has failed to be benefited when these potent remedies have been properly applied. In scrofulous and scrobutic affections they are especially servicable. Scurvy, eruptions, and grandular swel- lings, which had resisted all other modes of treatment and gradually become worse from year to year, have been completely cured by Holloway's cooling Oint- ment and purifying Pills, which root out the disease from the blood itself and leave the constitution free from every morbid taint. In the nursery Holloway's Ointment is simply invaluable it will give ease in sprains, contusions, burns, scalds, and infantile erup- tions, and may always safely be applied by any ordinary attendant.
[No title]
I G-ofaler am ddweyd pa un o lyfrau "HANES WILLIAM AuBRBY A'l OES" a gymerir: yr eiddo Haner Coron heb y Darlun, neu yr un Tri Swllfc hefo y Darlun. Ni argreffir ond nifer penodol o'r Darlun. Argraffwyd (dros y Gwalia Printing and Publish- ing Company Limited), gan AMOS BROTHERS yn eu Swyddfa Argraffu, 13, Suswox Street Rhyl.