Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

----------------CYMRU, CYMRO…

News
Cite
Share

CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG. NEWYDD TRWM. Yr wythnos o'r blaen, derbyniodd y Parch. R. J. Jones, Rhiwabon, lythyr o Patagonia yn hysbysu am farwolaeth ei chwaer, Mrs. Elizabeth Ann Owen. Ba farw lonawr 3ydd. Unig ferch y Parch. Robert Jones (gynt o Treuddyn, ger y Wyddgrug) oedd Mrs. Owen. Aethai gydai rhieni i Patagonia tua 15 mlynedd yn ol. Gwedi priodi ymsefydlodd hi a'i gwr mewn fferm fawr yn y Wladfa. DIWEDD ADFYDYS BACflGEN. Yn y Waen, wythnos i ddydd Mercher, bu cewest gerbron Mr. Wynn Evans, ar gorph Price Evans, 15 mlwydd oed, Coed yr Allt. Lladdwyd y bachgen y dydd Gwener cynt yn Nglofa r Pare Da. Tystiodd Charles Neate, rheolwr y pwll glo, Thomas Wynne, ac eraill, fod rheso wageni, un ohonynt yn cynwys cerwyn ag ynddi dros dunell o ddwfr, wedi mynd dros y bachgen. Yr oedd digoa o le iddo o bobtu i'r cledrau a lleoedd i gilio o'r neilldu o fewn decllath i'w gilydd heblaw hyny. Bwriwyd mai dacowain a fu. DARGANFYDDIAD ERCHYLL. Darganfuwyd corph Joseph Davies, ffermwr o sir Drefaldwyn, mewn ceunant, a'i wyneb i waered, ac yr oedd ei en wedi ei ch wythu ymalth. Yn ei ymyl yr oedd gwn, a'r ergyd wedi myned allan ohono, dwy o "cartridges," a chyllell. Yr oedd y trancedig yn byw yn Fferoa Cilhaul, Castell Caereinion. Yr oedd yn isel el ysbryd, mewn canlyniad i afiechyd. Cymerodd y gwn gydag ef ar nos lau a dywedodd ei fod yn myned i saethu owningod; ac ni ddaeth ag ef yn o Collwyd golwg arno ddydd Sadwrn cyn y diweddaf. Gadawodd weddw a naw o blant, pedwar ohonynt o dan chwe' mlwydd oed. Y DYMHESTL KOS SUL. Ysgabodd tymhestl ffyrnig a chawodydd trym- ion o eira a chenllysg dros lanau Gogledd Cymru nos Sul. Chwythwyd ysgwner ddsfu hwylbren i'r lan ger Hen Golwyn. Yr oedd hi yn gorwedd ar waelod bane y ffordd haiarn, lie saedrodd y dwylaw neidio pan darawodd y llestr y lau. Gwnaed rhai niweidiau i Glawdd Afon Djfrdwy ger Treffynon. Golchodd y mar dros y muriau amddiffynol, a chyrhaeddai y dwfr hyd y ffordd haiarn, and daliodd y muriau, sydd wedi CMtio yn ddrud i'r Cwmni, bwys y tonau ya ardderchog. MEIRION A'R DDEDDF ADDYSG: RHYBUDD GAN Y LLYWODRAETH. Cyhoeddodd y Daily News, ddydd Ian, fod agwedd newydd a bygythiol yn nglyn ag^addyag yn Nghymru wedi codi. Y mae r kwyddfa Addysg yn awr, ebe fe, yn pwyso yn drwm ar sir Feirionydd, ac mewn llythyr penderfynol gorchymynir iddynt, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, wneyd yn hysbya eu cynygion parthed yr Ysgolion Gwirfoddol. Nid oes dadl na rydd yr awdurdodau yn sir Feirionydd ateb yn dangos eu bod yn barod i frwydr ac os gwesgir hwy yn drymach, mae corph cryf o'r aelodau Cymreig, dan arweiniad Mr. Lloyd-George, yn barod i fYlled i lawr i gychwyn gwrthwynebiad, yr hyn o angenrheidrwydd a leda dros bob rhan o'r Dywysogaetb. LLOSGI I FARWOLAETH. Cynaliodd Mr. W. Wynn Evans, crwner, Gwrecsam, ymchwilddydd lau, yn Johnstown, yn nglyn a marwolaetb Harold Lloyd Thomas, 12 mlwydd oed, a fu farw foreu Mercher. Ym- -'«• h»f»h«en, y nos Lun cynt, fyned yn «i ddiliad nos i ymaw^muu .».-jj yr ystafell-wely. Cyneuodd ei ddillad, a bu farw oddiwrth effeithiau y llosgi a'r dychryn foreu Mercher. Yr unig ddau dyst a alwyd i IrOi tystiolaeth oedd ei chwaer fechan, Lily Thomas, a'i dad, Mr. John Thomas, cigydd, Trem Maelor. Nid oedd wedi llosgi yn ddwfo, ac nid oedd bai ar neb. Gwnaed pobpeth pedfe-i gan y teulu i atgL gi boenau, ac yr oedd y Meddyg Davies, Rhos, yn gweini arno yn mhen ugein munyd wedi digwydd y ddamwain. Bwr- iwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol." Cyaygiodd Mr. C. Morgan, blaenor y rhaith, ac eiliodd Mr. Lee, Johnstown, gydymdeimlad a'r rhieni yn eu profedigaeth. "STREIC" CRWYDRIAID YN NGHAERNARFON: ANFON DAU-AR-BYMTHEG I GARCHAR. Mewn llys arbenig yn Nhaernarfon, ddydd Gwener, gerbron y Maer (Mr. Lake) a Mr. Gregory, cyhuddwyd 17 o grwydriaid o beidio gwneyd y gwaith a roddwyd iddynt yn y Tloty yn Nghaernarfon, yn ol fel y gofynai Bwrdd Llywodraeth Leol. Nid oedd yr un Cymro yn ttiyag y diffynyddion, y rhai a ddygwyd o'r tloty i'r dref yn rhwym wrth eu gilydd. Addefasant oil eu bod yn euog, ond yr oedd ganddynt gwyn yn erbyn awdurdodau y tloty, sef eu bod wedi gorfod cysgu ar y llawr mewn blancedi oeddynt heb fod ya sych. Dywedodd un ohonynt hefyd fod y Ilawr tiles yn wlyb. Gwadai Mr. Parry (y meistr) yr hyn a ddywedai y diffynyddion. Dywedodd un o'r diffynyddion fod y lie yn wlyb y funyd hono. Golchwyd y llawr, ac nid oedd wedi syehu.-Y Maer (wrth y meistr) Yr ydych yn dyweyd fod y lie yn ffit iddynt gysgu yoddo ? —Y meistr: Ydwyf, syr.—Dywedodd y diffyn- yddion nad oedd y lie yn ffit iddynt aros ynddo. AfIldefent fod y bwyd yn dda, ond nis gallent Weitbio oherwydd eu bod yn rhynu.—AnfoHwyd y diffynyddion i garchar am fis, gyda llafur caled. —Sylwodd y Maer fod crwydriaid fel pe yn Cytuno a'u gilydd i beidio gweithio, ac yr oedd yn bryd rhoddi terfyn ar hyoy.-Mewn atebiad i'r Fainc, dywedodd y meistr nad oedd y tloty 'Wedi cael ei gysylltu a'r telephone.-Sylwodd yr Uch-Arolygydd Griffith fod yn gywilydd na fuasai y tloty wedi ei gysylltu a'r telephone. Pe y torai terfysg mawr allan nis gallai ddyweyd pa beth. a wnai y meistr.—Awgrymai yr ynadon y priodoldeb o ddwyn y mater o flaen Bwrdd y Gwarcheidwaid, ac ymgymerodd Mr. J. H. Thomas (y clerc) a gwneyd hyny. Y DIWEDDAR MR. E. RICHARDS, CBF^ST. Bu. farw y gwr adnabyddus uchod, yn ei breswyl- f od yn King-street, Cefn, Chwef. 14eg,yn 64 mlwydd Oed. Granwydef ynyr uaheolag- y bufarw. Bu qf a'i briedyn America am oddeutu pedair blynedd. Dych- "welodd Mrs. Richards i'r Cefn, o flaen ei phriod, ae agorodd shop yn Crane-lane. S mudasant i King- street rai blynyddau yn ol, lie y torodd iechyd Mr. Richards i lawr, ao y bu yn nycbu am gryn amser. (J ad vyd ef yn rnynwent Trefynanfc,yn nghanol pob arwyddion o barch a chydymdeinalad a'r weddw. Qweinyddwyd yn y ty gan Mr. Arthur Davies, Cefn, ac yn y fynwent gan y Parch. H. Jones, Pont. cysylltau.

Advertising

CAPEL AC EGLWYS.

YSBRYD YN TRWBLO LLAMBED.

Advertising

HYN A'R LLALL.

LLOSGI GWRAIG GYDA CHORPH…

[No title]

Advertising