Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

i'r penderfyniad mai y 'Llywodraeth bresenol YV vr UD salaf fu yn ilywodraethu ein gwlad erioc^d. Ydych chwi yn fy amheu? Cymer- wch y Cabinet-mae hwnw mor ddialla fel nas gallent gytuno arddim. Beth ydynt hwy, a'u cydmaru a'n Local Boardni? Pe bae nhw yn dwad i lawr yma, i drenlio en holidays, yr wyf yn siwr y caeut dicket i fyned i mewn i ystafell j bwrdd i weled pa fodd i wneud gwaith. Scientific Statesmen yn wir! y mae yna fwy o science yn mhoced gwasgod ambell aelod o'r bwrdd nac sydd yn yr oil o honynt. Men of Business! mae gwell dyn am fusnes yno na dim un sydd ganddynt. Self taught hefyd. Nid wyf yn amheu dim, pe bae nhw yn anfon gair yn mlaen Haw, na buasai y "Dyn a gollodd y gadair" a "Bos y Bwrdd" ya cana duett adnabyddus o waith y bJaenaf.o'r enw "y trethi," er dangos iddynt yr ysbryd yn mha un y dylent fod. Bu'm yn gwrando arnynt yn rehersio nos Fawrth. Edrychai awdwr y duett mor ddifrifol a phe bai yn adrodd y gweithredoedd da a gyflawn- odd, gerbron y cyfarfod misol. Edrychai ei gydymaith yn llawer mwy siriol. Cyn dechreu, tynai hwn yn hamddenol gefn ei law drcs ei wefusau. Cydgordiant yn gamp- us hyd nes y daethant at y man lie cyfeirid at estyniad y terfynau;-wedv'n y diluw! Edrychwch ar waith y LIywodraethyn ng^n a'r Rhyfel, yn anfon rhyw generals an- wybodus i South Affrica. Pe byddent yn gofala am y trethi mi fuasent wedi anfon gwell dynion yno er's talm. Mae yea ddigon o honynt. Yr wyf yn bur sicr, y munyd yma, fod yna well generals dan bendis v I Market Hall neu wrth y Bont Fawr na'r un a anfonwyd yno. Mae wrth y Bont bob nos, ac yn Stryd fach bob amser ciniaw, ddyniton a fuasai wedi dwyn y rbyfel i derfyn er's amser malth. Ni buasai dal De Wet ond chwareu plant iddynt; am Botha, buasai hwnw yn yr wytbnos nesaf mewn dim amser, ac mi fuasai gan ein hen frawd Mr Kruger, lai yn ei boced, yn enwedig y dyddiau sych a phoethion hyn, pe anfonwyd hwy yno. Yr wyf yn protestio (diolch i'r Local Board am y gair bendigedig hwn),yn erbyn gwaich y Llywodraeth yn estyn cardod i'r personiad a'r landlords. Os cardod o gwbl—cardod all round, dyna mholisi j. 0 Yr wyf yn gryf yn erbyn y Llywodraeth bresenol fod mewo awdurdod ar ol y dydd cyntaf o Ebrill nesaf, ac yr wyf yr un mor gryf yn credu, mae mantais fawr fyddai i'r wlad gael ei Ilywodraethu gan bwyllgor o un dyn, ac mai fi ydi y dyn hwnw. (Dan gyfarwyddyd y wraig. Yr eiddoch yn barchns, SETH JENKINS.

WILLIAM EVANS, YSW., A'R SIR.!

Y DIWEDDAR JOHN PUGH (BARDB…

Family Notices

-----"---'----j RHYFEL. ^

NEWYDDION CYMREIG. I

' BIRKENHfciAD.