Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
YR AR3YLLFA.
YR AR3YLLFA. Gwelaf fod ymdrafodaeth faith wedi sy* meryd lie yn MwrddGwarcheidwaid Bangor' rai o'r dyddiau diweddaf, o berthynas i'r dretb. Mae'r Cynghor Sirol yn gofyn treth uwch eleni na'r llynedd; ac wedi gwneud ymholiad yn nghylch hyD, caed mai y rhee- wm ydJw ymweliad Tywysog Oymru ag Eisteddfod Caernarfon! Fel y dywedai un, os na all yr ymwelydd hwn dd'od i Gymru beb ychwanegu treth ar ddynion, gwell iddo aros yn ei wlad ei hun, gan fod ei gadw yn y fan hono yn Hawn cymaint ag a ellir ei wneud heb ychwanegu y dreth. Dyma brawf fod cycffona i'r mawrion yn costio yn ddrud i rywrai, a'r werin yn gorfod dyoddef. Gweled fod Undeb Ysgolion y Methodist- iaid Oalfinaidd Dolgellau, wedi anrhydeddu brawd cymhwys am y gwasanaeth a wnaeth i gerddoriaeth. Dyma barch i'r hwn y mse parch yn dflyledus, a phrawf fod yr Undeb wedi gwerthfawrogi y llafar. Caffed Mr Roberts flynyddau lawer i wasanaethu ei wlad, a chadwed yr oriawr yr ameer yn gywir iddo. Gweled fod tramps yn heidio drwy'r wlad y dyddiau hyn, ac y dylid gwneud rhywbeth er atal y giwaid diog. Bu y taater o flaen cyd-bwyllgor heddgeidwadol Maldwyn; ond methwyd a pbasio un penderfyniad arno. Yn ystod y tri mis diweddaf, ymwelodd a'r air dros ddwy fil o'r crwydriaid yn rhagor na'r chwarter cyferbyniol y llynedd! Dyma destun treth eto mae'n ddiamheu, canys y bodau Irwyaf diog sydd yn costio drymaf ar y wlad. Gweled fod 'gwyr da' y Rhyl yn psnder- fynu gwneud y dref mor lan ag y medrant erbyn y dydd yr ymwela Tywysog Cymru a hwy. Y dvdd o'r blaen yr oedd y Bwrdd Lleol yn trwyddedu; ac yr oeddynt yn ben- derfynol o beidio rhoddi trwydded i berch- enogion mulud, os nad elent ar eu llw y byddai y mulod ya cael eu cadw mewn gwedd dda, y cyfrwyau yn lan a gslygus a'r gyrwyr yn dwt, ac o edrychiad parchus! Dyma'r tro cyntaf i ddeddf o'r fath gael ei phasio mi goeliaf; canys cre-,dariaid anolyg- i us iawn oedd mulod Rhyl, a'r rhan fwyaf o'r gyrwyr yn droednoeth a budr. Tybed fod y Bwrddd Lleol am roddi 'Donkey ride' i'r Plince1 Modd bynag hyderaf y cedwir at y rheol ar ol i'r Tywysog fyned yn ol i'w wlad. G weled fod yr.ymladdfa fwystfilaidd a gy- merodd le yn Aberdar, wedi tynu sylw llawer man heblaw y dref ei hun; a da oedd pasio penderfyoiadau cryfion yn cosdemnio boxinc/ nouses. Mae tua dwsin o ddynion ieuainc wedi eu cymeryd i fyny ar y cyhuddiad o fod yu gyfranog o ladd, heblaw yr un a fox- iodd y dyn ieuanc i farwolaetb. Beth bynag a ddaw o laonyjat, dyma brawf nad diogel dilyn owmpeini drwg, a gresyn meddwl fod y dyn ieuanc a laddwyd wedi bod yn aeiod o'r YsgolSabbathol, ac yn mynychu moddion gras pan yn blentyn, Ond newidiodd ei flyrdd a'i gwmpeini, a chostiodd hyny yn y diwedd ei fywyd iddo. Dylai rhieni fod yn ofalus o'a plant, a oiynu gwybod pa gwm- peini a ganlynant er atal profedigaethau chwerwon o'r natur yma. Gwelad fod pwyllgor Rhyddfrydol, Sir Drefaldwyn, wedi nodi amryw wyr fel rhai oymhwys i frwjdroyn erbyn Syr Pryce Pryce Jones, yr aelod Toriaidd; ac fod un o bonynt sef Mr Hugh Lewis, Drefoewydd, wedi boddloni i ddyfod allan. Gwn y dylid cael rbywan heblaw y 'Syr' i gynrychioli y sir, ond pwy sydd yn meddu digon o ddylanwad i enill y sedd sydd bwnc arall. Dylai yr ymgeisydd Rhyddfrydol fod yn dra adnab- yddus drwy yr etholaetb ,-In wr o fedr, ac yn siaradwr effeithiol; ac oblegid hyny dylai y pwyllgor fod yn dra gwyliadwras yn eu dewisiad. Gweled fod y DYSGEDYDD am Mehefin yn llawn o ysgrifau darllenadwy. Ysgdfena y Proff. J. M. Davies, M. A, Bangor ar y tastun amserol, (Gogwyddiadau Duwinyddol yr Oes,' a da fuasai genyf gofnodi rhai sylw- adau o'i eiddo ar y pwnc; ond ni chaniata gofod. Gan fed ysgrif arall i ddilyn, dichon y ceir gwneud hyny eto. Rhydd y Parch H. Ivor Jones, Porthmadog, ysgrif ragar- weiniol ar 'Arloeswyr y Tir,' a pharha Mr Carno Jones gydag 'Iechydiaeth.' Mae'r ddau yn nodedig o dda, yn ogystal a Tawel. fryn ar y diweddar wron o GarBo-y Parch Joseph Thomas,. Ganmoliaeth ddigymysg a roddir i'r 'Nodiadgiu Misol;' a Herber yn ddoniol gyda'i gartref newydd yn Mangor; a gwelaf nad oedd Mr W. J. Parry yn ang- hofio y misolyn hyd yn nod yn Monte Video. Beth pe buasai Mr Parry yn anrhegu y dar- Ilenwyr a hanes y daith. Nid wyf yn gofyn hyn gan olygu fod 'Gwybodaeth a Chariad' yn llai dyddorol—pell wyf o dybio byny; ond gwn fod cael ysgrifau tebyg i'r 'Fonedd- iges yn Nghanaan' yn dderbyniol iawn g. n y darllenwyr. Cymerer yr awgiym. Gallwn feddwl fod Cwrdd Chwarter Meirion wedi cael gwledd yn mhapur y Parch John Hughes, Tanygrisiau. Testun yr ysgrif yw 'Y Cyfarfod gweddi Cenadol.' Ysgrif ya cynwys awgrymiadau gwerthfawr ydyw. Da genyf weled rhifyn Mehefin o'r DYSGEDYDD ac ysgrifau mor deilwng. 0 Yr hyn a ddywedwyd uchod, ellir ei ddweyd am ynadreohion y Parch D. Silyn Evans, gyda DYSGEDYDD Y PLANT; a diau y ceir adroddiad mynych gan y Plant, o 'Jonah a'i helyntion,' yn y Binds of Hope, er na cheir peuawd yr ysgrif ar y wyneb- ddalen o'r rhifyn; a diau hefyd y cenir y d6n, 'Mae'r gwaed a redodd,' &o., yn lied gyffredinol drwy Dde a Gogledd Cymru. Llwyddianfc mawr i'r misolion i wneuthur daioni lawer yn yr enwad Annibynol. GWELEDYDD.
Advertising
COFIANT DARLUNIADOL Y PARCH WILLIAM WILLIAMS O'R WERN. y MAE y gwaith uchod yn awr yn y wasg, a bydd allan yn mhen ychydig. fisoedd, 0 ran Papyr, Argraffwaith, Darluniau a Rhwymiad, dygir ef allan yn y rnodd goreu. Gan y bydd oddeutu 15 0 ddarluniau rhagorol, bydd y draul o'i I gyhoeddi yn un fawr; ond er byny, gwerthir ef am bris isel i'r rhai a anfon- ant eu henwau fel derbynwyr y Gyfrol (ond bydd yn uwch i bawb eraill.) Byddis yn ddiolchgar am bob cynorthwy i gael Derbynwyr i'r gwaith. Rhoddir yr elw arferol i'r Dosbarthwyr. Cyhoeddir yr enwau yn niwadd y Llyfr, a bydd y rhestr yn agored hyd MEHEFIN 15fed. Aufoner yr enwau i'r Awdwr—y Parch D. S. Jones, Ohwilog, R.S.O. Neu i'r Argrafiydd—William Hughes, Dysgedydd Office, Dolgellau. D.8.-Bydcl y Cofiant yu cynwys dros 500 o dudalenau., ac ni bydd ei bris i danysgrifwyr ciros 5s; ond i bawb eraill bydd ei bris yn 6s. 6c. A chan na ar- gieffir ond Difer neillduol, da genym 1 jael enwau y tanysgrit'wyr ar unwaith. I LARGEbT & LEADING PAPER IN wales 4 ins wkst Ov AN'L-i-"D SOUTH WALES DAlLf NEWS ublished every Morning, Price Id THE LARGEST DAILY PAPER In Wa es and the West of England, and the LEADING ADVERTISING 'MEDIUM The 'SOUTH WALES DAILY NEWS has a very large and constantly increasing circulation ancla distributes throughout an unusually extensile area The "SOUTH WALEO DAlL Y NEWS circulated every town and Village in Nortb South Wales Monmouthshire, the forest of Djan and a large portion in the West of England, and it is unsurpased for general Advertising Medium —partticuay fer communicating with the Commercial, Mining, Ship ing, Manufacturing and Agricultural senctio fo the community. -:0:- THE "CARDIFF TIMES AND SOUTH WALES WEEKLK NEw Enlared to Sixty Two Column, and HE LARGEST NEWS-SHEET IN THE KINGDOM WEEKLY ADVERTISING JOURNAL For Wales & the West of England AMERICA. CUNARD LINE. Five and a Half Day Passages. ROIAL MAIL STEAMERS FROM RIVER L\< POOL, CALLING AT QUEENSTWON FOR NEW YORK. FOR BOSTOIS ETRURIA.Sat., June 9 GALLIA. Tues., June 7 LUCANIA Sat. June 16 CEPHALONIA Thur June 14 AURANIA Tues. June 19 CATALONIA Thur., June 2 SUPERIOR ACCOMMODATION at moderate fares for FIRST and SECOND Class Passengers also through to CHINA, JAPAN, NEW ZEA. LAND, and AUSTRALIA. Steerage Passengers to all parts of America and Canada at low rates; those by Boston steam- ers booked to New York without extra charge. THE CUNARD STEAMSHIP COMPANY LIMITED WATER STREET LIVERPOOL or to their agents R. JONES, AND SUN DRAPERS, BARMOUTH R C. EVANS, DOLGELLEV. tt