Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BETTWS, GER ABERGELE.I

News
Cite
Share

BETTWS, GER ABERGELE. I G WYL LENYDDOL. Oynaliwyd yr wyl bon yn ysgDldy cenedl- aethol y lie hwn, o dan nawdd yr Annit. ynwyr. Llywyddwyd gan Mr W. Wil- liams, Oakfield Housp, Colwyn B<y, ac ar- weiniwyd gan Wnion. Ni chaniata gofod i ni fanylu, ond uodwn y p if enillivyr-En- illvryd y Fedal Arian am haner can' llinell Yr Angel yn Ngwe-syll yr Assyriaid,' gan Mr David Lewis, Dolgellau. Yr oedd wyth wedi ymgeieio, a rhestrid chwech yn wir deilwng o'r wobr. Am y penillion, loan y Dysgybl An wyl,' rhanwyd y wobr rhwng Ceulanydd, Llanefydd, a Mr John Roberts, Dolgellau; ail, Mr Peter Roberts, Bettws. Yr englyn, Y Friallen,' gwobrwywyd Mr Jabez Jones, ysgolfeistr, Traforth, Llanel- ian. Mewn Cerddoriaeth, rhanwyd y brif wobr rhwng corau Llanfair a Bettws. Yr oedd tri c6r yn ymgeisio. Rhanwyd y wobr yn nghydadleuaeth Corau y Meibion, sef Corau Glan Oonway a Llanelian. Gwobr- wywyd Corau Plant yMethodistiaidDalfmaidd a'r Wes'eyaid yn y Bettws; a chawsant gan- moliaeth uebel. Enillwyd hefyd mewn Un- awdau a Deuawdau, &c. Ar y prif draeth- awd, gwobrwywyd Mr R. Pryce Evans, Llanrwst; a barnwyd Miss Kate Evans, Gwyndy, yn wir deilwng o'r wobr am draeth- awd cyfyngedig i ferched. Miss Myfanwy Jones, Trofarih School, ydoedd yr oreu ar y cyfieithiad; a dylaswn fod wedi nodi mai rarti o'r Bettws a ddyfarnwyd yn oreu am ganu 'Saul.' Vroedd nifer y cystadleuwyr yn lluosog tuhwnt, ac yr oedd yr ysgoldy wedi ei orlanw, a llawer yn y drws yn methu d'od i fewn. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn llwyddiant perffaith, ac wedi galluogi y pwyHgor i gynal Eisteddfod ar raddfa eang y flwyddyn nesaf. Bairnind y canu ydoed1 Mr D. D. Rich- ards, Nantgl.vn; a beirniadwyd yr adranau eraillgan Wnion, Bettws; Peollwyn, Colwyo; Gwyneddawg, Colwyn Bay; Parch. D. L. Owen, Bettws; Mri H. M. Lloyd, Dolwen; a J. Yaugh^n, Colwyn. Cyfeiliwyd gan Mr Williams, Oolwyn. Yn ystod y cyfarfod, anrhegwyd Mr Thomas Roberts, Garegfawr, un o ddiaconiaid yr eglwys, A, anrheg hardd gan yr eglwys a'r gynulleiifa, am ei weithgarwch a'i ftyddlon- deb gyda'r achos, yr hyn a gydnabyddwyd gan Mr Roberts mewn ycbydig eiriau doeth a phvvipasol. GOHEBYDD.

ENGLYNION

[No title]

Y CAWYDRYIN.

MOLAVVD MEIRION.

EILIADAU OLAF DEEMING.

OFFEIHIAD YN YMLID LLEIDR.