Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHBBWYR. Yu ein nesaf.-O Oror y Werydd; Dr. Parry a'r Tonic Solffa; Briwsion o'r Bermo.
PLAID GENEDLAETHOL A MR CHAMBERLAIN.
News
Cite
Share
PLAID GENEDLAETHOL A MR CHAMBERLAIN. Camgvmeriad fyddai tybied, am nad yw Mr Chamberlain yn ddiweddar wedi gwneu.d cyfeiriad cyhoeddus at ei feddyl- ddrych am blaid Genedlaethol, ei fod, ob- legid hyny, wedi rhoddi y meddwl hwnw heibio. Mewn llythyr eyfrinachol a anfonodd adref yn ddiweddar, parha i chwareu ar y tant, ac yn ei ddull hyderus, ffromwyllt, ymresyma yn flair fod y peth yn ymarferol. Y mae yn feddylddrych tra hudolus, ac mor ad-dyniadol fel nad ydyw yn newydd. Y mae achos bron mor debyg yn cael ei osod allan mewn hanesyddiaeth Seisonig yn agos i gant a haoer o flynyddau yn ol. Yn 1742, ar derfyn Gweinyddiaeth ysblenydd, yr hon a barbaodd am ugain mlynedd, enillodd y derfysgblaid yn erbyn Syr RobertWalpole ddigon 0 nerth i galonogi ei elynion i roddi yr ergyd oedd wedi yn cael bod ei bygwth yn hir. Yr oedd yr Wrthblaid ar y pryd wedi ei rhanu yn ddwy blaid wrthwynebol i'w gilydd o ran syniadau gwleidyddol, yn debyg fel y mae yRbyddfrydwyrAcfoddog a Cheidwadwyr y dyddiau hyn; ond unwyd hwy yn eu gelyniaeth tuag at Walpole. 'Gelyniaeth at Walpole,' fel y dywed un awdwr 0 enwogrwydd, 'oedd bron yr unig deimlad oedd yn gyffredin iddynt hwy. Ar yr un pwynt hwn yr 0 iddynt yn canolbwyntio eu holl nerth. Gwnaethant sail eu dadl mor gul, a'r cwestiwn mor lwyr bersonol, fel y taflent allan aw- grymiadau cyfeillgar i aelodau eraill y j weinyddiaeth, gan ddadgan eu bod yn gwrthod arbediad i'r Prifweinidog yn unig.' Cyinerid y rhan arweiniol yn y gyfrinach yn erbyn y Prifweimdog yn briodol ddigon gan Ddue Argyll y dyddiaa hvuy. Breuddwydiodd freuidwyd Mr Chamber- lain am blaid Genedlaethol, gwir 'Undeb- wyr,' y rhai oeddynt i achub eu gwlad, a dinystrio y Gweiniiog, 0 dan awdurdod imbenaethol yr hwn yr oeddynt wedi bod yn ymdreulio am ugain mlynedd. Yr unig wahaniaeth rhwng y cynygiad am blaid Genedlaethol heddyw, a hwnw yn 1742 sydd mewn enwau. Yn erbyn Syr Robert Walpole, ac nid Mr Gladstone, y bradgyn llunient hwy. Gelwid y cyfuniad y blaid waelod llydan—nid y w yn agos mor dden- iadol a'r enw a ddyfefsiodd Mr Chambei lain. Llwyddodd plaid y gwaelod llydan yn eu hanturiaeth drwy raniad cyfyng. Gorchfygasdut Walpole ,yr hwn a ymddi- swyddodd, ac a aeth i Dy yr Arglwyddi. EfaUai mai y rhan fwyaf poenus o'r hanes, er nad y leiaf addysiadgol, ydyw hono sydd yn dal oysylltiad a Due Argyll, yr ysbryd symudol yn y gyd-gyfrinach. Daeth i ofid yneiymgais iffurfio gweinyddiaeth,gwth- iwyd ef 0 swydd, ac ymsuddodd i satle heb fod o fwy 0 bwysigrwydd yn y byd politic- al d na hwnw a feddienir heddyw gan etifed ddiweddaf y teitl.
ADRODDIAD DIRPRWYAETH PARNELL.
News
Cite
Share
ADRODDIAD DIRPRWYAETH PARNELL. Deallwu fod adroddiad y Ddirprwyaeth yn barod, ond nafydd iddo gael ei ledaenu cyn i'r pdadl ar yr Anercliial gael ei orphen. Gan ei bod yn anocheladwy y cymer dadl frwd le ar y mater, teimla y Llywodraeth yn bryderus am ochelyd rhoddi cyfleusdra i'r byn aiystyriant hwy yn ailfynegiad diangenrhaid. Pe cylch- daenid yr adroddiad yn ystod y ddadl ar yr Anerchiad, nid oes dim yn rheolau y Ty i atal aelodau i'w drafod yn nghwrs 7 ddadl hono, tra yn cadw y fraint o'i ddadleu yn mhellach hyd nes y daw cynygiod neillduol gerbron. Y mae peth camddealltwriaeth yn bod mewn perthynas o'i awdurdod y dyled eyfeirio yr adroddiad iddo. Dywedir mewn rhai cylchoedd y bydd i'r Barnwyr ei gyfeirio i'r Ysgrifen- ydd Cartrefol, tra y myn eraill mai i'r Frenhines yn uniongyrchol yr anfonir ef. Y ffaith yw, y bydd i'r adroddiad gael ei wneud yn y ffordd gyffredin i'w Mawrhydi, yr arglwyddi ysbrydol a thymhorol ac aelodau Ty y Gyffredin, Nid oedd y corff dros yr hwn y cadeiriai Syr James Hannen yn Ddirprwyaeth Fienhinol. Crëw yd ef drwy weithred Seneddol, ac i'r Senedd y bydd iddo reportio yn y ffordd gyffredin.
MR. GLADSTONE A'l DDEILIAID
News
Cite
Share
MR. GLADSTONE A'l DDEILIAID Yn yr anerchiad dyddorol a draddododd Mr Gladstone i'w denantiaid y dydd arall, dywedodd ddau beth gyda grymusder ac eglurder. Un ydoedd, na raid ofni, fudd bynag, i dir yn Lloegr byth fyned allan o driniaeth. Y gall y cynyrch a dyfir gyfnewid ) IJ ol yr amgylchiadau; ond y daw amser byth pan na fydd i'r ddaear dalu am ei tbrin sydd dybiaeth rhy wyllt i'w choleddu am eiliad. lil bwynt Mr I Gladstone ydoedd, fod ein cyfundrefn bresenol, 0 dan yr hon y mae y tir, ar y eyfan, yn cael ei berchenogi gan un person a'i drin gan y llall, yn well i'r amaethwr a'r wild na phe gwelid y tir yn eiddo cenedlaethol neu yn feddiant y gwlad- eiddyn. Y mae achosion yn y rhai y byddai yn ddymunol i'r amaethwr fod yn feddianol ar ei dyddyn, ac hyd yn nod yn angenrheidiol ar seiliau politicaidd; ond, o dan y gyfundrefn Seisonig, fod y canlyn- iadau cynil yn fwy ffafriol i'r amaethwr nag y byddai yn bosibl pe byddai ef y tirfeddianydd hefyd. Nis gellir dysgwyl i dir ildio mwy na 3 y cant, hyd yn nod o dan amgylchiadau manteisiol, ac mae yn angenrheidiol i amaethwr,sydd yn defnydd- io y rhan fwyaf o'i gyfalaf i gynyrchu y fath ad-dali-td bychan, fod yn gyfoethog i ddechreu. Y mae diwylliwr y tir, ar y llaw arall, yn meddu hawl i ddysgwyl cyfran o elw cyfartal gig elw masnach arall, a dylai felly sylweddoli mwy 0 elw ar y cyfalaf a ddefnyddia wrth amaethu nag y gallai obeithio am dano, pe byddai i'r un swm gael ei ddefny'dio mewn tirberchen- ogaeth ac amaethyddiaeth yn nghyd. Dyma olygwedd ar gwestiwn y tirag sydd nid anfynych yn cael ei .adapl o'r cyfrif gan y dadleuwyr dros wreng-berchenog- aeth
-"--"""--------;--Marwolaeth
News
Cite
Share
Marwolaeth Miss ROUENA JANE THOMAS, Dolgellau. lonawr 3, 1890, bufarw y ferch ieuanc rinweddol hon, ar ol bod yn nychu yn hir yn agafaelion y darfodedigaeth. Merch n hynaf y diweddar Mr Owen Thomas, ceid- wad Carchar Oaerfyrddin, oedd Miss Thomas. Ni bu yn gryf eiioed. Tyfodd yn ieuanc yn d41 iawn, fel mai anfynych y cyfarfyddir a merch o'i thaldra hi. I)i- amheu i farwolaeth ei thad adael ei ol ami, oblegid yr oed3 ymlyniad cryf yn y ddau at eu gilydd. Cafodd bob cymhorth yn bosibl i ysgwyd ymaith ei hen elyn. Treuliodd y gauaf y llynedd yn Ventnor, Isle of Wight, a thybiai ar un adeg ei bod yn cryfhau, ac yn gallu cerdded yn fwy diboen, ond ni pharhaodd i ddyfod ar gyn- ydd, er yr ymddangosai megys wedi ad newyddu ycbydig pan ddaeth adref yn 7 gwanwyn, fel y bu yn alluog i fyned oddi* amgylch am beth amser yn misoedd y haf. Ond pan ddaeth y tywydd oer oddeutu, bu raid iddi gadw i fewn, ac yr oedd barug a rhew y nos yn ei handwyo. Drwy y naill oruchwyliaeth ai ol y llall, yr oedd wedi ei llwyr addfedu i adael y ddaear, am wynfyd y wlad sydd tub wut i'r llen. Sugnai lawer 0 gyauron 0 air Duw yn y misoedd diweddaf, ac yr oedd yn rhaid i bob Ilyfr arail fyned o'r golwg er mwyn gwneud lie i hwn. Siaradai am y cyfnewid- iad mawr, a'r symudiad oedd ar gymeryd lie yn ei berthynas a hi, megys pethau oedd yn fyw yn ei phrofiad yn barod, a thystiolaeth gweinidog yr efengyl oedd yn arfer ymweled k hi yn eichystudd ydoedd, na welodd erioed un mor ieuanc ynamlygu y fath hyder cryf a phrofiad parod i adael y ddaear. Yr oedd yn cael mwynhad neillduol yn emyn godidog y diweddar Dr W. L. Alexander 0 Edinburgh; darllenodd ef ugeiniau 0 weithiau, a dyma ydoedd un o'r pethau diweddaf a ddarllenodd ei mam iddi. fihoddwn yma y penill cyntaf yu Gymraeg:- Penliniaf wrth y rhiniog, Yn flin mewn tristwch mawr, Gan ddysgwyl am blygeiniol Agoriad dorau'r wawr: 'Rwy'n aros nes i'r Meistr, Fy ngalw i godi a d'od I'w wyddfod gogoneddus, I'w gartre'n llawen fod. A chafodd Miss Thomas anadlu ei hysbryd i'r cartref hwnw yn hwyr nos Wener, Ionawr 3ydd, yn 22 mlwydd oed, Claddwyd ei gweddillion y Mercher can- lynol yn nghladdfa Caerfyrddin, yn yr un bedd a'i hanwyl dad. Y nefoedd fyddo yn dyner o'i mam weddw yn nghanol y rhyferthwy blin sydd wedi bod yn curo arni. Cyfaill.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Jlflartoolaetfjau. Ionawr 8fed, yn 5 mis oed, Ada, plentyn byehan Mr C. F. Moul, gardener, Dolserau. .Ionawr 5, yn 1 mis oed, Elizabeth, plentyn byehan Mr Thomas LI. Evans, 0 Ty'nygroes Cottage, Llaaelltyd. Ionawr 3ydd, yn 79 mlwydd oed, yn Ty'nycelyn, Llanelltyd, Miss Catherine Jones, Penbryn, Dolgellau.