Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HAWLIAU CYMRU I DDADGYSYLLTIAD.

News
Cite
Share

HAWLIAU CYMRU I DDAD- GYSYLLTIAD. (Papyr a ddarllenwyd yn Nghynadledd y Dadgysylltiad yn Nghaernarjon, Tachwedd 20,1883, gan y Parch. J. Thomas, D.D., Le'rpwl.) Mae y teatun yn awgrymu fod rhywbeth yn eithriadol yn amgylchiadau Cymru sydd yn hawlio iddi Ddadgysylltiad ar wahan & rhanau eraill y deyrnas. Buasai yn well genyf gymeryd y mater i fyny ar dir mwy eang a chyffredinol. Goreu pa leiaf o deimladau cenedlaethol a wthir i'r golwg yn ngtyn & phynciau eyhoeddus. Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Lywodraeth, ac yn cael ein cynrychioli yn yr un Senedd gyffredinol, or y mae ein gwir nerib yn ein hunoliaeth; ae mewn achosion cyffredinol, dylem ystyried beth sydd oreu i'r holl wladwriaeth. Ac y mae yn rhaid i mi ddweyd nad oea ynof ond ychydig o gydymdeimlad &'r cri a. godir yn y dyddiau hyn am gael "Plaid Gymreig" yn y Senedd, yn enwedig os ydyw hooo i fod ar lun a delw y Blaid Wyddelig sydd yno yn barod. Mae hono yn gwthio ei neillduolion cenedlaethol ai buddianau lleoJ i'r golwg ar bob achlyaur, ar draws pob peth, a hyny yn gwbl ddiystyr o lesiant cyffredinol yr holl wladwriaeth. Nis gellir eyhudio y C> mry o hyny; ond o'r ddau yr ydym wedi bod yo rhy oddefol, a dylasem fod wedi gwneud ein cwynion yn hysbys, ar fwy nag un achlysur, pan yr oedd gwir angen am hyny. Amgylchiadau eithriadol rhanau o'r deyrnas yn unig a gyfiawnha ddeddfwr- iaeth arbenig ar en cyfer, aphan y dygwyddo hyny, dylai fod deallfcwriaeth clir rh wag cynrycbiolwyr y rhanbarth hwnw o'r deyrnas &'u gilydd, a chydym- ymdeimlai trwyadl â. syniadau a theimladau corff y bobl a gynrychiolir ganddynt, Mae yn airesymot hollol i ddysgwyl deddfwriaeth arbenig ar gyfer un. rhyw ran o'r deyrnas, os na bydd cynrychiolwyr y rhan bono yn unol yn galw amdano, a'r unig ffordd i Bicrhau hyny ydyw, cael y bob! yn addfed iddo, ac yn benderfynol i'w gael. Dyma y tir y safwn arno wrth hawlio Dad- gysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Buasai yn well genyf gymeryd y pwnc i fyny ar dir eangach, a'i hawlio fel mater o iawnder gwladol. Yr wyf yn credu fod cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth dan bob amgylchiad yn niwed crefyddol, ac yn anghyf- iawnder gwladol-yn gam â. chrefydd, ac ya gam A'r Wladwriaeth; ond gan ein bod yn myned i mewn am Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru, ar wahan a rhanau eraill y deyrnas, rhaid i ni ddangos betb sydd yn eitbriadol yn Nghymra yn gofyo hyny.

Hawliau Cymru i Ddadgystlltiad.

. TOWYIs, CEINEWYDD.

ABERCARN.