Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

tfrwvHMOit «ri,»ffifDinol.

News
Cite
Share

tfrwvHMOit «ri,»ffifDinol. Y mae yr Anrhyd. C. R. Spencer, A.S., wedi myned i Cannes er cael adnewyddiad i'w iechyd. Hysbysir marwolaeth Marian Dowagor, yn Cheltenham, yn ei 80ain mlwydd oed. Dysgwylir y bydd chwareudy enwog Al- hambra, Llundain, a losgwyd yn ddiweddar, wedi ei gwbl adeiladu erbyn y Nadolig, gyda'r draul o £ 27,000. Hysbysir mewn rhai cylchoedd fod Arthur Gordon, diweddar Lywodraethwr New Zealand, wedi cael cynyg ar Lywodraethiad Ceylon. Yn nghyfarfod Ceidwadwyr Amwythig ddydd Mawrth diweddaf, dewisiwyd Mr. A. Scoble, Q.C., yn ymgeisydd Tor'iaidd dros y fwrdeisdref yn yr etholiad neaaf. Teimlir yn gryf iawn mewn Iluaws o gylchoedd yn Meirionydd fod y pwyllgor canolog a gynal- iwyd yn ddiweddar yn Nolgellau wedi gweith- redu yn fryaiog, ac y dylid cael pwyllgor eto. Ceisia llawer iawn godi cri yn erbyn Mr. Robertson, a dywed llawer y byddai yn well ganddynt waled Tori Cymreig yn cael myned yn farchog. A hoffai y cyfryw, tybed, weled Gweinyddiaeth Doiiaidd eto yn myned i awdur- dod, gyffelyb i eiddo Beaconsfield? Hysbysir fod Mr. Chamberalin, A.S., wedi ymddiswyddo oddiwrth y Clwb Diwygiadol. Dychwelwyd Mr. John Morley yn aelod dros Newcastle drwy fwyafrif o 2,256 ar ei wrthym- geisydd a Toriridd, Mr. Bruce. Dyma fuddug- I oliaeth i'r Rhyddfrydwyr. Cynierwyd Mr. Clifford, yr aelod dros Cas- newydd, Ynys Manaw, yn glaf tra yn dychwelyd adref o Cannes, yr wythnos ddiweddaf. Darfu i garcharor yn ngharchar Strangewaya, Manchester, gyflawni hunanladdiad, ddydd Mawrth diweddaf, drwy grogi ei hun. Hysbysir fod iechyd Syr Ashton Dilke, y cyn-aelod dros Newcastle, yn gwella, ond nad yw yn hollol foddhaol. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Galway, tynwyd allan ddeiseb yn dymuno ar yr aelod, Mr. John Orrall Lever, i roddi ei sedd f fyny. Arwydd- wyd hi gan dros 600 o etholwyr. Bu amryw o fechgyn Dolgellau yn ymdrechu cicio y bel droed gyda bechgyn Porthmadog, ddydd Sadwrn diweddaf,, a daethant adref yn fuddugoliaethus. Mae y teimlad yn bywiogi cryn dipyn yn mhlith trigolion Dolgellau mewn perthynas i gael y Coleg yma. Hei lwc, os daw. Y mae dyleds tvyddau Prifgwnstabl Meirionydd yn cael eu cario allan, hyd nes y penodir un arall yn Mrawdlys Chwarterol Ebrill, gan Mr. O. Hughes, arolygydd y pwysau a'r mesurau, yr hwn, yn ddiau, fyddai y cymhwysaf i'w llanw. Dysgwylir yn fawr y bydd i'r ynadon yn y Frawdlys Chwarterol chwilio am y cymhwysaf i lanw y swydd o Brifgwnstabl Meirionydd, ac nid dewis un na. wyr ond y nesaf pith i ddim am anhebgorion y swydd. Hysbysid ddydd Llun y bydd iMr. Gladstone ddychwelyd o Cannes, yn cael ei ddilyn gan Mrs. a Miss Gladstone, boreu ddydd Mercher. Ymosodwydyn enbydusar Fyddin yr Iach- awdwriaeth yn Walsall ddydd Sul diweddaf. Ni- weidiwyd lluaws o adeiladau, a thorwyd coes un dyn. Nos Sul, rhoddodd Duces Albany enedigaeth i ferch. Y mae y Dducea air Dywysogea fechan yn d'od yn mlaen yn rhagorol. Y mae y Due a'r Duces Connaught ar ymwel- iad yn bresenol a Mentone. Nos Wener, aeth un o aelodau Ty y Cyffredin i gysgu yn y Ty ychydig wedi 12 o'r gloch. Cwympodd ei het dros set, cwympodd ei wig 'hefyd, a phan wedi haner deffro wrth chwllio am ei het, cwympodd ei hun dros y set. hPa ryfedd, wedi iddo dreulio cynifer o nosweithiau dwl gyda'r ddadl ar yr Araeth? Y mae y ty y ganwyd Carlyle yn Ecclefechan wedi ei brynu gan ei nith. Yr oedd dau Fexican yn Socorro, New Mexico, mewn cariad a'r un Feinwen, ac i der- fynu yr ymrafael cauasant eu hunain mewn ystafell i ymladd gyda bwyeili miniog. Dryll- iodd un o honynt ei wrthwynebydd mewn modd dychrynllyd, a thorodd ymaith ei ben, tra y mae yntau wedi ei archolli yn angeuol. Dechreuwyd rhoddi allan y darnau pum' cent newyddion o'r Mint yn Philadelphia, Chwefror laf. Rhoddwyd 102,400 o ddarnau mewn cylch- rediad. Yr oedd cais mawr am y nickles new- yddion, ac am bum' awr yr oedd ffrwd barhaus o ddynion yn eu pwrcasu. Darfyddodd y cyflen- wad yn hir cyn awr cau i fyny. Bathodir gwerth 5,000 o ddoleri o'r darnau yn ddyddiol. 0 flaen pwyllgor perthynol i Ddeddfwrfa Massachusetts, y dydd o'r blaen, dadleuwyd y priodoldeb o gynyg gwobr am ddinystrio aderyn y to (English sparrow). Haerid fod yr aderyn yn achosi dinystr mawr a chynyddol i'r cnydau; a dywedid ddarfod yn agos i haner y cnwd afalau y llynedd gael eu dinystrio gan yr adar hyn. Pe deuent yn gyffredin yn y gorllewin, fel bwyta- wyr ydau, gwnelent niwed mawr. Lleihawyd Dyled Wiadol America yn ystod mis lonawr, 13,636,883 o ddoleri. Gwelwn fod y boneddwr haelionus J. Lloyd Jones, Melbourne, Australia, wedi anfon eleni eto, y swm hardd o 500 o ddoleri, i'w rhanu rhwng tlodion plwyfydd Llandingat a Chilycwm. Genedigol yw Mr. Jones o Lanymddyfri, a pharha i deimlo dyddordeb yn ei hen ardal. Dywedir fod cyrff dau o barti y Cadlywydd Chipp, eu cael, a'u bod yn awr ar y ffordd i Efrog Newydd. Mae da byw Montana mewn perygl mawr o herwydd y tywydd. Mae yn ddeuddeg gradd ialaw zero, a'r tren dridiau ar ol ei amser. Dechreua y Llywydd Pattison, America, deithio yn droednoeth ar ddrain. Mae rhai o'i benodiadau yn hynod annoeth, ond beth sydd i'w ddysgwyl oddiwrth un a benododd Cassidy yn gyfreithiwr cyffredinol1 Barna Schuyler Colfax, y gall y blaid Werin- ol uno ar un o'r tri canlynol, a'i ethol yn Llyw- ydd yn 1884, sef Benjamin Harrison, o Indiana, Robert Lincoln, o Illinois, a William Windom, o Minnesota. Mae deddfwrfa Maine yn anesmwyth eisieu cael trethu rheilffyrdd y dalaeth. Y mae erbyn hyn yn ystyried y. priodolcleb o atal gwerthiant tegan arfau Un; a rhwymo defnyddiad diang- feydd priodol rhag t&n mewn gwest-dai a chwareudai. Yn y Llyn Hallt, ar y 3ydd o Chwefror, cafwyd eira trwm iawn, a thywydd eithafol o oer a gwyntog. Rhwystrodd y tywydd linellau rheilffyrdd yr Union Pacific a'r Utah Northern i redeg; ond, rhedai yr Utah Central fel arfer.

NEWYDDION CYMREIG.

TONDU.,

CANA, MON.I

DINBYCH.

BALA.