Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
EISTEDDFOD LLANRWST,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
EISTEDDFOD LLANRWST, Dydd Iau a dydd Gwener, Gorph. 13eg a'r 14eg. Agorwyd yr Eisteddfod ar lan Llyn' Geirionydd boreu Iau, pan y goetegwyd pair Ceridwen, trwy daflu iddo feirdd ac ofyddion, y rhai a ddaethant allan wedi eu puro, dan ofal Clwydfardd, Llallawg, Gwilym Cowlyd, Trebor Mai, lolo Trefaidwyn, &c. Yna, ar ben Bryn y Caniadau, agorwyd Gorsedd Cyfallwy "yn ngwyneb haul a llygad goleuni" i urddo y rhai a ddaethant allan o'r pair. Yna, aed i Llanrwfct i gynal yr wyl, a myned trwy y gweddill o'r urddau a'r defosiynau yn yr Orsedd a agorwyd yn y dref. Am lleg, ffurfiodd y pwyllgor, &c., yn orymdaith i gyfarfod y llywydd am y dydd-H. R. Sandbaeh, Ysw., Hafodunos Hall, a'i arwain i'r babell, yn cael eu blaenori gan Band Llanrwst. Arweinydd yr Eisteddfod oedd Mynyddog. 1 Alaw Gymreig (Gwyr Harlech), gan gor yr Eisteddfod. 2 Anerchiad i'r Llywydd. 3 Anerchiad gan y Llywydd. Ni welwyd bardd y boreu hwn; ac felly, aed heibio i rbif 4 ar y rhaglen. 4 Can yr Eisteddfod (Gogoniant i Gymru), gan Llew Llwyfo. 5 Beirniadaeth Clwydfardd ar y Chwe' Englyn i hen Eglwys Ysbyty Ifan, 4 yn cystadlu; goreu, Griffith John Griffith. 6 Beirniadaeth Pencerdd America ar yrUnawd ar unrhyw eiriau Cymreig; gwobr, haner gini; 12 yn cystadlu; goreu, Bugeilydd—heb atebi'w ecw. 7 Cystadleuaeth gerddorol—I'r tri a gano oreu, "Heddwch fo i lwch y Gwroniaid," gwobr gini; S. R. a'i barti, Llanrwst, yn unig a ganodd. 8 Beirniadaeth Gwilym Hiraethog ar y Cywydd- au,"Y Gerbydres;" gwobr, dau gini; 2 yn cystadlu; goreu, Gar mon, Thomas ap Arfon Williams, Henryd. 9 Beirniadaeth Scorpion ar y Traethodau, "Llanrwst fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod;" gwobr tri gini; un a ymgeisiodd, sef Hen Drigian- ydd, W. Jones, Bodrenig. 10 Unawd ar y delyn gan T. Griffith, Ysw., Tel- ynor i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. 11 Can, "Fe ddaw Llewelyn eto'n ol," Mrs. Maggie Jones Williams. 12 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr Englrn, Amnaid y Llygad (wink); gwobr, coron, gan Ffer- yllfardd; 15 yn cystadlu; loan Glan Dyfrdwy a Rhys Gethin yn gyfartal. loan Glan Dyfrdwy heb ateb i'w enw-Rhys Gethin yw Tudur Arfon. 13 Cystadleuaeth y Seindorf Bres; gwobr 5 gini; tri yn cystadlu, sef Trefriw Band, Llanrwst Local Band, a Garn Dolbenmaen Band; goreu, Garn. 14 Beirniadaeth Messrs. Knight and Davies on the best Pencil Caracature of the Drunkard; gwobr, haner gini; un ddaeth i law, ond yn annheilwng (am nad oedd yn ddigon meddw, meddai yr arweinydd). 15 Cystadleuaeth ar esgynlawr yr Eisteddfod, Nyddu gyda'r Droell Fawr Gymreig. Beirniad Mr. Ebenezer Jones; 'gwobr, 15s., ail, J Os., tryd- ydd, 58. Daeth chwech yn mlaen i'r gystadleuaeth hon; goreu, Mrs. Lloyd, Bettwsycoed, ail, Mary Jones, Hafodarthen, trydydd, Jenny Jervis, Bettws- ycoed. Rhoddwyd pwys o dê i bob un a ddaeth ar yr esgynlawr yn yr hen wisg Gymreig. 16 Cystadleuaeth Gerddorol—I'r Cor heb fod dan ugain o nifer a gano yn oreu Gwaiia Wen, gan D. Jenkins, Trecastell; gwobr, 5 gini; pedwar cor yn cystadlu, sef Llanrwst, Rhiwbryf<jir> Ffestiniog, Garn Dolbenmaen, a Bro Aled; goreu, Rhiwbryfdir. 17 Beirniadaeth Gethin ar y Llawffon Ddraenen Ddu oreu; gwobr, 5s; saith ffon i law; goreu, Jacob, aef Henry Jones, Tyddynbach, Bettwsycoed. 18 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau, Yr awdurdod Hanesiol goreu ar darddiad yr enw Dolwyddelen, neu Dolyddelen; gwobr, gini a haner; dau yn cystadlu; a rhanwyd y wobr rhwng Elis o'r Nant ag Elis o'r Cwm. 19 Beirniadaeth Llallawg ar y Cyfieithiadau o r Supplement to Grey's Elegy, &c.; gwobr, dau gini, 7 yn cystadlu; goreu, Young Wales, sef J. Jones (Glan Menai). 20 Cystadleuaeth Gerddorol—I'r Ferch a gano oreuYr Ehedydd; gwobr, gini. Ni ddaeth neb yn mlaen i ganu. 21. Beirniadaeth D. E. Davies, Ysw., ar y Byr- draethodau, Y dull goreu i Weithio Chwarelau Dol- yddelen, Penmachno, a Bettwsycoed; gwobr, gini. Neb yn cystadlu ar hwn eto. 22 Beirniadaeth Meudwy Mon ar Profi ac enwi'r Saith Cysgadur Prydeinig; gwobr, haner gini; tri yn cystadlu; goreu, Cymro, set Robert Evans, Pen- machno. 23 Beirniadaeth Gwilym Parry ar Set o Bedolau Ceffyl Marchogaeth; gwobr, haner gini, dau yn ym- geisio; goreu, Pedotwr—heb a.teb i'w enw. 24 Beirniadaeth T. Fonning Evans, Ysw., aHarri Machno, on the Treatise upon the Lead and Silver Deposits of the Gwydir Estate, and their develope- ment (English or Welsh); gwobr, pum'gini. Dim cystadleuaeth ar y testun hwn. 25. Beirniadaeth Gwilym Hiraethog ar y Prydd* estau, Marwolaeth; gwobr pum' gini, triarddeg yn cystadlu; goreu, Barddon, sef J. H. Evans, Hill St. Liverpool. 26 I'r cor heb fod dau 40 o rifedi a gano oreu yr anthem, Mor hawddgar yw dy bebyll! gan Pen- cerdd America; gwobr. pymtheg gini, a baton i'r arweinydd; saith cor Dolyddelen, Rhiwbryf dir, Bro Aled, Garn Dolbeumaen, Llanrwst, Capel Currig, a Bethesda; goreu, cor Bethdsda. (Hon oedd y brif gystadleuaeth gerddorol. 27 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau, Hynafiaethau Dyffryn Conwy; gwobr, 2p. 2s.; goreu, Gwydion ap Don, set Glan Menai. 28 Unawd ar y delyn gan Miss Griffith, Llanofer. 29 Beirniadaeth Mynyddog ar y Penillion Tel- ynegol i'w canu ar yr hen alaw, Tyb William Owen, Pencraig; gwobr gini, dau yn cystadlu; goreu, lolo Trefaidwyn. 30 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr Hir a Thodd- aid, Cwsg; gwobr, 10s. 6c.; goreu, lolo Trefaidwyn. 31 Alaw Gymreig gan gor yr Eisteddfod. r
Y CYNGHERDD. |
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNGHERDD. Llywydd, y Parch. Canon Jones, Llanrwst. 1 Chorus, (Halelujah), gan y cor buddugol. 2 Song, 'The Sailors grave,' gan Eos Morlais. 3 Harp Duett, gan Mr. a Miss Griffith. 4 'Glyndwr,' gan Proffeswr Parry. 5 'Yr Ehedydd,' gan Miss Hattie Davies. 6 'Captive Greek Girl,' gan Mrs. Maggie Jones Williams. 7 'Cwymp Llewelyn,' Llew Llwyfo; ail ganodd 'The light little Ileand.' 8 'Let me Dream again.' gan Madame Edith Wynne; ail ganodd 'The old Sweet Story.' 9 Canu gyda'r Delyn gan Eos Ebrill ac Eos Mon. 10 'Y Bachgen Dall,' Madame Edith Wynne. 11 Pianoforte Solo, 'Theme with Variations,' Master Joseph Haydn Parry. 12 Duett, -I've Wandered in Dreams,' Mrs. M. J. Williams, ac Eos Morlais. 13 Can gan Mynyddog, 'Y Ffugenwaa;' ail gan- odd. 14 Deuawd ar y delyn, Mr. a Mrs. Griffith; ail chwareuasant. 15 'The Blustering Winds,' Prof. Parry. r 16 'Paham mae Dei mor hir yn d'od,' Miss Hattie Davies. 17 Duett, 'Oh! Maritana,' gan Madame Edith Wynne ac Eos Morlais. 18 'Cadlef Morganwg,' Llew Llwyio. 19 Eryri, Mrs. M. J. Williams. 20 Can, Yr Amaethwr, gan froffeswr Parry. Final, God Bless The Prince of Wales. Y solo gan Madame Edith Wynne.
YR AIL DDIWRNOD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR AIL DDIWRNOD. Cadeirydd y dydd, Syr Watkin Williams Wynn. Methodd gyrbaedd mewn pryd i agor y cyfarfod boreuol am 10.30., felly bu raid dechreu hebddo trwy ddewis Llallawg i'r gadair er myned yn mlaen gyda'r gwaith. 1 Alaw Gymreig gan gor yr eisteddfod. 2 Anerchiadau gan y beirdd. 3 Can, Yr Eisteddfod, gan Llew Llwyfo. 4'Cyflwyno haner gini o wobr i wneiithurwr y par esgidiau dyfrbrawf goreu at hela; 2 yn cystadlu. Goreu Edward Thomas. 5 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr englyn, Cymru, Lloegr, a Llanrwst; 10 yn cystadlu. Goreu Cowper, sef lolo Trefaldwyn. Dyma yr englyn:- Lliwgar fro yw Lloegr fras-ac 01 mor fyw Yw Cymru fach werddlas; Lion a hardd, llawn o urddas, A Llanrwst sy'n llawn 0 ras. 6 Cystadleuaeth delynol. I'r chwareuwr goreu ar y delyn dair rhes; gwobr gyntaf 5 gini, ail 4 gini; 3ydd 3 gini; 4ydd 2 gini. Goreu Hugh Hughes; ail Owen Jones, Dolgellau; 3ydd John Roberts, Newtown; 4ydd Owen Jones (Telynor Siriol). 7 Beirniadaeth Dr. Hughes, a'r Parch. J. J. Rob- erts, ar y traethodau, Ar anfantetsion Trefriw fel lie i gleifiion, yn nghyda rhinwedd ei ffynonau; gwobr X3 3s. Un a ymgeisiodd, ond yn annheilwng o'r wobr. 8 Can, It was a Dream, gan Miss Hattie Davies. 9 Cystadleuaeth gerddorol. I'r pedwar a gano oreu, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon. Gwobr gini; 3 yn cystadlu. Goreu John Hughes a'i barti, Bethesda. )0 Cystadleuaeth ddadgeiniol. I'r dadganwyr penillion gyda'r delyn, ar dair alaw Gymreig. yn ol hen ddull Gwynedd; gwobr laf dau gini, 2il, gini, 3ydd, haner gini; 4 yn cystadlu. Rhanwyd y ddwy wobr flaenaf yn gydradd rhwng Eos Mon ac Eos y Berth; y 3ydd i Edward Jones. 11 Beirniadaeth Pencenfgd America ar y canigau Cymreig; gwobr Y.2 2s.; 3 yn ymgeisio; goreu Richd. Wagner. Yn awr, daeth Syr Watkin i mewn, a derbyniwyd ef gyda bloeddiadau cymeradwyol. l2 Beirniadaeth Mrs. Roberts ar Hosanau Coch- ddu y ddafad; gwobr 5s., 8 yn cystadlu. Goreu Anne E. Davies, GIan'rafon,B!aenau Ffestiniog. 13 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau Henygaer, &c.; gwobr £ 3 3s neb wedi cystadlu. 14 Beirniadaeth Scorpion ar y Rhamantau Dafydd ap Siencyn; gwobr tri gini. Neb wedi anfon i mewn i'r gystadleuaeth hon. 15 CSngan Mynydog; Teulu Die Sion Dafydd. 16 Can, Let the Bright Seraphim, gan Madame Edith Wynne. 17Beirniadaeth yr Eryr, 4 yn cystadlu. Goreu, John Price, Pontygath, Maenen. 18 Beirniadaeth Pencerdd America ar y deuawd- au. Gwobr gini. Neb yn deilwng. 19 Ton gan gor yr Eisteddfod. Cyfarfod ,) prydoawn am ddau o'r gloch. Syr Watkyn yn y gadair. 1 Alaw Gymreig gan gor yr Eisteddfod. 2 Anerchiad i'r Llywydd. 3 Anerchiad gan y Llywydd. 4 Anerchiadau y Beirdd. 5 Can yr Eisteddfod gan Eos Morlais. 6 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr englynion Cyf- reithiau Hywel Dda; gwobr 10a. 6c., 3 yn cystadlu. Goreu Evan Morris, Abergynolwyn. 7 Beirniadaeth Cowlyd ar yr arddangosiad goreu o'r crythau chwethant Cymreig. Neb yn ymgeisio. 8 Beirniadaeth Messrs. Knight & Davies ar y Best Landscapes. Gwobr X3 3s., gorea Mr. Johnson, Trefriw. 9. Beirniadaeth Scorpion ar y Traethodau, Ty- wysogaeth Cymru mewn cysylltiad a chelfyddyd; gwobr, pum' gini; un yn ymgeisio, ac yn deilwng o'r wobr, sef Edward Thomas, DYDD Office, Dolgellau. 10. Cyftadleuaeth Gorawl, Y Gwlithyn; gwobr. tair gini; tri c6r yn cystadlu, sef Llanrwst, Rhiw- bryfdir, a Chapel Currig; goreu, cor Llanrwst. 11 Yn awr, y mae testun Y GADAIR. Beirniadaeth Gwilym Hiraethog ar yr Awdlau Syr John Wynne o Wydir; gwobr lOp. a chadair a chad- eiriwyd ynddi y bardd a'r cyfaill awenyddol Cethin Jones. Yna eguwyd gyder delyn yn ol yr hen ddull yn y seremoni hon. 12 Can gan Madame Edith Wynne. 13 Beirniadaeth y traethodau, Ama;ethyddiaeth Dyffryn Conwy. Un ymgeisydd, sef Glan Menai, a derbyniodd y wobr. 14 Cân Y Gwcw, gan M. J. Williams. 15 Beirniadaeth Trebor Mai ar y Tweed Cymreig. Goreu Moses Roberts. 16 Beirniadaeth Pencerdd America ar yr Anthemau cynhauaf. Gwobr pum' gini; pump yn cystadlu. Goreu Alaw Ddu. 17 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau, Hynanaeth,&c., MynachlogMaeden,&c. Gobr gini. Un ymgeisydd, ond yn annheilwng. 18 Beirniadaeth yr Hulyn Gwely. Un ymgeisydd, ond ddim yn deilwng o'r wobr. 19 Cystadleuaeth Gerddorol, i'r mab a gano yn oreu, Why to the Nations; bass solo gan Handel. Gwobr gini; 4 yn cystadlu, ond methwyd enill y wobr. 20 Beirniadaeth yr Antimacasar. Gwobrwywyd Miss E. Roberts, Vron Cottage, Penmaenmawr. 21 Beirniadaeth y nyddu gyda'r clroell fach Gy- mreig. Enillwyd hon gan Mrs. E. M. Laran, Trefriw. 22 Cystadleuaeth gorawl Y Danchwa, gan Alaw Ddu. Gwobr dwy gini, 3 chor yn cystadlu, Rhiw- bryfdir, Llanrwst, a Dolyddelen. Rhanwyd y wobr rhwng y cyntaf a'r olaf. ,r 23 Beirniadaeth Mynyddog ar Yr Aradrwr Aflwydd- ianus, chweoh yn cystadlu. Goreu Casnodyn, sef Jacob Davies, Llanefydd.
Y CYNGHERDD.
News
Cite
Share
Y CYNGHERDD. Cynaliwyd cyngherdd mawreddog yn yr hwyr gan y rhai wasanaethodd y nos naenorol. Digon yw dywed- yd i'r Eisteddfod fod yn llwyddiant yn mhob ystyr. Ceir sylwadau eich gohebydd ami yr wythnos nesaf. GOMBTDD. —
SEGURWYR.
News
Cite
Share
onest, pryd y gadaway gweilch hyn i'r borfa dyfu cyfuwcb a'u migyrnau, ac y safant i rwystro y ddaear i dyfu, fel y dywed y Beibl. Y mae y dyn a wastrafto ei amser a'i nerth mewn diogi yn cynyg ei hurian yn darget i'r diafo), yr bwn sydd yn rygnddrylliwr hynod 0 dda, ac a ridylla y diogyn &'i beleni: mewn geiriau ereill, terotia y diogyn y diafol i'w demtio ef. Medda yr hwn sydd yncbwareu pryd y dylai weithio, ysbryd drwg yn gyd- chwareuydd] a'r hwn na weitbia na chwareu, y naae yn eiop waith i satan. Os dal y diaf- ol ddyn yn segura, fe'i gosoda i weithio, a chwilia offerynau iddo, a thai ei gyflog iddo yn fuan.—T Wasg.