Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYLCHWYL GERDDOROL HARLECH.

News
Cite
Share

CYLCHWYL GERDDOROL HAR- LECH. Cynaliwyd nawfed Gylchwyl Gerddorol Undeb Ardudwy ddydd Mercher, Gorph. 12fed, yn Nghas- tell Harlech, vr hwn yn garedig a ganiateir bob blwyddyn i'r Undetygan y boneddwr hawddgar Mr. W. W. E. Wynne, y cwnstabl. Y Llywyddion am y dydd ydoedd Mr. D. Davies, Arthog; Syr Llewelyn Turner, Caernarfon; a'r Parch D. Owen, Harlech. Arweinydd, Eos Morlais. Pianist, Mr. John Pritchard, Dolgellau. Yr oedd presenoldeb Madame Edith Wynne hefyd yn ychwanegu at yr attyniad i'r gylchwyl eleni. Dechreuwyd y gweithrediadau boreuol dan lywyddiaeth Mr. D. Davies, am 10 o'r gloch, drwy ganu 'Daliwch afael,' gan yr holl gorau gyda'u gilydd, yn cael eu dilyn gan Brass Band Harlech. Yna caed ton gynulleidfaol dlws, Trefdeyrn, o flaen anthem gyfansoddedig gan Mr. D. Emlyn Evans, 'Goruchafiaeth ar Angau,' yr hon a ganwyd yn chwaethus gan gor Talsarnau. Ar ol cael ychydig eiriau gan y cadeirydd, caed 'Gloria' (Haydn) gan gor Dolgellau; a'r cydgan, 'To the Cherubim and Seraphim,' gan gor Penllwyn. Er, fel mater o gerddoriaeth, fod cor Dolgellau i'w restru yn uchel, a bod cyfansoddiadau clasurol yn cael pob chwareu teg oddiar eu Haw, eto niJ yw y lleisiau wedi eu r mantoli gystal ag y dymunid-ditfyg ag y mae gan yr arweinydd i ymladd yn ei erbyn, er ei fawr anfantais. Y mae y soprano hefyd yn wan, olaiaf mewn llais, os nad mewn rhif. Y mae cor Pen- llwyn i'r gwrthwyneb, yn meddu lleisiau o gryn deilyngdod yn y soprano, ac ymddengys yr oil wedi eu mantoli yn well. Derbyniwyd eu cyf- lawniad gyda cbymeradwyaetb. Yna eafwyd 'By Babylon's wave,' gan gor Porthmadog, y rhai a ganasant gydag effaith ardderchog. Ar ol hyn, cafwyd 'Ar lan Iorddonen ddofn,' gan Eos Morlais, gydai allu arferol. Anthem, 'Pa fodd y glanha llanc, gan gor Corris—y duett gan Mr. J. Jones a Miss Sarah Evans. Ar ol hyn, caed y don gynull- eidfaol'Brooklyn,' gan y corau gyda'u gilydd; ac ar ol hyny cydgan Mendelsshon, 'Mor fawr ydyw'r ^yfnder,' gan gor Machynlleth. Daeth Madame Wynne yn mlaen ar ol hyn, a chanodd 'Let the bright Seraphim,' o 'Samson' Handel, ond nid gyda'r fath lwyddiant ag a welwyd ar achlysuron blaenorol. Wedi i'r corau yn nghyd ganu, 'A bydd arwyddion,' ae i Brass Band Dolgellau chwareu chorus, cynygiwyd a chefnogwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, yr hyii a derfynodd gyfarfod y bore. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am ddau o'r gloch drwy i'r corau yn nghyd ganu yr 'Hen Gan- fed;' ac eilwaith, wedi i Brass Band Corris fyoed drwy eu detholiad, caed 'Yn curo, euro, 0 pwy yw?' Yna araeth ragoral gan y cadeirydd, Syr Llewelyn Tnrner, yr hon, oblegid prinder gofod, nas gallwn ei cbyfleu yma. Canodd cor Corris, 'Cydgan yBradwyr,' o eiddo Proffeswr Parry; Meistri J. Jones, R. Roberts, a W. Jones, yn cy- meryd y solos, y rhai oeddynt yn, grynedig iawn, ac felly canohg oedd y cyflawniad. Yr unig ymgais a ddangoswyd at feddu hyder yn y canu ydoedd yn rhan olaf y cydgan, yr hwn a gynorthwyid gan Brass Band Corns. Encoriwyd hwy, ac atebasant yr alwad. Cafwyd un arall o gyfansoddiadau Proffeswr Parry, Gweddi Gwraig y Meddwyn,' gan gor Porthmadog; yna cafwyd detholiad o alawon Cymreig gan Brass Band Harlech, a Glee o eiddo 'Alaw Ddu, Y Gauaf, gan gor Talsarnau Trefn- wyd yn nesaf i gael perfformiad o gyfansoddiad newydd Proffeswr Parry, 'Yr Ystorm,' gan gor Machynlleth. Prin v canasant haner dwsinofarau cyn bod y tenor wedi disgyn haner ton, ac yno dilynodd ystorm berffaith o discord. Cychwynwyd o newydd gydag ychydig gwell canlyniad, a pher- fformiwyd y- cydgan ardderchog drwodd heb wneud yr argraff a adewir yn gyffredin yn Aberystwyth a Ueoedd eraill pan y cenir cyfansoddiadau y Proffes- wr Parry. Chwareuid y piano gan Miss Mary Jones, Aberystwysh, yn ei dull chwaethus arferol, a'r harmonium gan Mr. Rowland Davies. Hyd yma, ni chafwyd clywei cyfansoddiadau y Proffes- wr i fantais; gan hyny gorphwysai ar y corau gyda'u gilydd, dan arweiniad Eos Morlais, i wneud cvflawnder ag ef yn mherfformiad y glee brydferth, 'Ffarwel i ti Gymru fad.' Can gan Madame Edith Wynne, 'It wap a dream.' Yna cafwyd 'The Comrade's song of hope, gan gor Dolgellau, mor dda nes cael encore gwresog; cydnabyddodd Mr. Roberta y compliment drwy ymaflyd yn y baton eil- waith. Cafwyd 'Can y Tywysog,' gan Eos Morlais gyda dylanwad, a chafodd encore. Glee gan gor PenUwyn; can gan ¡Mr. Isaac Jones, 'Crymru, Cymro, Cymraeg;' ac yna ton gynulleidfaol, 'Wynnsray,' o'r Aberth Moliant, gan y corau oil; ac i orphen gweithrediadau y prydnawn, cafwyd detholiad cerddorol gan Brass Band Corris. Yn nghyfarfod yr hwyr, cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Owen, Harlecb. Dechreuwyd gyda glee gan Brass Band Dolgellau. yn cael eu dilyn gyda chydgan, 'Cenwch glychau'r nefoudd,' gan yr holl gorau. Cafwyd araeth gan y cadeirydd, yn yr hon yr eglurodd paham yr oedd ef yn ymgymeryd a'r swydd yn lie y person a benodwyd ar y dechreu, sef Mr. W. R. M. Wynne, Peniarth. Canu cynull- eidfaol yn benaf oeid yn nghyfarfod yr hwyr, ac yr oedd holl leisiau y gwahanol gorau wedi eu dos- barthu a'u casglu at eu gilydd; ar yr oedd y Cor Undebol, mewn canlyniad, o din arweiniad Eos Morlais, yn alluoz i ymddangos i fantais, ac ddangos i'r gynulleidfa pa mor bell yr oedd amean yr Undeb—gwellhau y canu eynulleidfaol-wedi ei gyrhaedd. A barnu oddiwrth y gymeradwyaeth, yn nghyda'n teimladau ein hunain, yr oedd y cyf- lawniadau yn ardderchog, yn enwedig pan ystvriwn nad oedd y corau wedi cael ymarfer gyda'u gilydd. Canodd Madame Edith Wynne deirgwaith yn y cyfarfod hwn gyda chymeradwyaeth uchel. Gallwn derfynu drwy fynegu fod y Gylchwyl eleni yn llwyddiant perffaith.

CYMANFA Y BEDYDDWYR YN NHREFFYNON.-

, BRYN SEION, BRYMBO.

ODDIWRTH .GYMANFA GYNULLEIDFAOL…

PANTEG, SALEM, CO^DGRUFFYDD.

[No title]

CYFARFOD LLENYDDOL LLAN-FACHRETH,…