Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DYLEDSWYDD YMNEILLDUWYR I…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DYLEDSWYDD YMNEILLDUWYR I AN- FON EU PLANT I'R YSGOLION BRUTANAIDD. MR. GOL.Trueni fod angen ysgrifenu ar bwnc o'r nodwedd yma, a bod dynion mor ddiegwyddor a gweith- redu yn groes i'w hegwyddorion, neu i'r hyn y maent yn ei broffesu. Ond gan mai fel hyny y mae, nid oes dim i'w wneud ond cymeryd hyn fel y mae yn mhlith lluaws o Ymneillduwyr ein gwlad. Ac er mwyn trefn, sylwn ar y ddyledswydd hon mewn tri o osodiadau. 1. Y mae yn ddyledswydd ar Ymneillduwyr anfon eu plant i'r Ysgolion Brutanaidd, am eu bod yn fwy CYDWEDDOL a sefyllfa cymdeithas yn gyffredinol na'r Ysgolion Cenedlaethol. Pan fyddo unrhyw sefydliad yn cael ei osod yn ein plith, y mae yn ddyledswydd arnom wneud ymchwiliad i'w ansawdd a'i dueddiad tuag at gymdeithas yn gyffredinol. Os bydd ei duedd- iad yn ddaionus, a'i egwyddor yn gydweddol a chyfiawn- der cyffredinol cymdeithas, y mae yn ddyledswydd arnom ei bleidio fel sefydliad sydd yn tueddu at lesiant cyffredinol. Gwir fod cymdeithas wedi derbyn budd mawr trwy yr addysg Genedlaethol; ond etto, wrth sylwi ar yr egwyddoi ar ba un y mae yr ysgolion hyn yn sylfaenedig, yr ydym yn canfod eu bod wedi eu sefydlu ar egwyddor sydd yn groes i syniadaeth y wlad o ran y cyffredinolrwydd o honi. Gan mai addysg dymmorol yn unig y mae y wlad yn ei ofyn gan y llyw- odraeth, hyny yn unig ddylai- gael. Gan mai y wlad sydd yn talu tuag at addysg, y mae yn rhesymol iddi gael addysg fel yr ewyllysia gan y llywodraeth. Peth hollol afresymol yw fod yr offeiriaid yn cael mwy o hawl ar addysg y wlad na rhyw ddosbarth arall yn y wladwriaeth. Pe byddai y wlad wedi rhoddi yr hawl hon iddynt i arolygu sefyllfa addysg y deyrnas, gallasent ddweyd fod ganddynt rywbeth tebyg i bavl; ond gan nad yw y wlad wedi eu penodi hwy, y mae eu hymddyg- iad yn hollol annheg ac yn anghyfiawnder a'r lluaws. Felly y mae pob Ymneillduwyr a roddo gefnogaeth i sefydliad o'r fath, trwy anfon eu plant iddynt, yn dangos yn eglur nad ydynt yn teimlo dros ryddid na chyfiawnder cymdeithasol. Y mae yr Ysgolion Cenedlaethol yn rlly barod i ddangos gormod o bartiaeth i blant Eglwyswyr yn hytrach na phlant neb arall; ac felly yn profi fod yr anonestrwydd mwyaf yn y sefydliad hwn. Y mae hyn wedi ei brofi lawer gwaith mewn cysylltiad a'r Ysgolion hyn. Gwelwyd llawer athraw yn diystyru plant eraill yn unig er mwyn boddio plant Eglwyswyr, a thuedda hyn i wneud i bob dyn gonest eu casåu. Ac y mae mil- oedd o bunnau yn cael eu talu bob blwyddyn gan y llywodraeth o arian y wlad tuag at addysg yr oes sydd yn codi, a'r arian hyny yn cael eu gwario gan y sefydl- iad hwn i ddybenion anghywir. Y mae y plant sydd yn yr ysgolion hyn yn gorfod treulio un ran o dair o'u hamser i ddysgu y Llyfr Gweddi Cyffredin, heb unrhyw angen am hyny, a thelir arian mawr am lyfrau ac i'r athrawon, er cyrhaedd yr amcan hwn. Felly y mae eymeriad y sefydliad yn siarad yn uchel, a dywed wrth bob dyn gonest ac egwyddorol am ei wrthwynebu fel un anghymhwys i sefyllfa y wlad yn gyffredinol. O'r tu arall, y mae yr ysgolion Brutanaidd wedi eu sefydlu ar egwyddor ag sydd yn fwy cydweddol a sefyllfa cym- deithas yn gyffredinol. Y mae gonestrwydd eu hym- ddygiadau yn fwy ffafriol gan y wlad, a'r addysg a gyf- renir i'r plant yn hollol rydd oddiwrth draddodiadau a mympwyon dynol; a dylai Ymneillduwyr eu pleidio, trwy ddanfon eu plant iddynt i'w haddysgu. 2. Er mwyn bod yn GYSON a'u hegwyddorion. Sef- ydliad dan nawdd yr Eglwys Wladol ydyw yr Ysgolion Cenedlaethol, ac y mae sawyr yr Eglwys yn rhedeg trwy eu cyfansoddiad. Ond am yr Ysgolion Brutan- aidd, y maent hwy wedi eu sefydlu yn hollol rydd oddiwrth unrhyw enwad mwy na'u gilydd, ond at was- anaeth pob enwad yn ddiwahaniaeth. Y mae yr Ysgol- ion Cenedlaethol yn rhwymo pob plentyn i ddysgu egwyddorion crefyddol croes a chyfeiliornus i blant yr Ymneillduwyr, fel plant pawb eraill, yr hyn sydd yn hollol afresymol. Nid oes dim yn fwy naturiol i'w gredu na bod y plant yn derbyn argraff ar eu meddyl- iau o'r hyn a ddysgir iddynt pan yn ieuainc, a bod hwnw yn aros ar eu meddyliau wedi iddynt dyfu i fyny. Dy- wedai un daearegwr lied enwog unwaith am yr hen, ddaear yma, sef y rhan galed o honi-y graig- ei bod yn feddal fel toes pan y daeth gyntaf o dan law ei Gwneuthurwr, a bod pobpeth braidd yn gwneud ei argraff arni, ac yn aros yno wedi iddi galedu. A medd- yliwyf mai oddiwrth hyn y maent yn profi ei bod wedi bwrw gwlaw cyn y diluw. Nii ydwyf yn gwybod ai gwir hyn neu beidio; ond gallwn benderfynu fod y peth a ddysgir i'r plentyn pan yn ieuanc yn cario dylanwad arno wedi iddo dyfu i'w faintioli. Hefyd, y mae y rhieni sydd yn anfon eu plant i Ysgolion yr Eglwys Sefydledig, er eu dysgu mewn egwyddorion croes i'r hyn y maent hwy yn gredu sydd fwyaf cywir a gwir- ioneddol, yn dangos nad ydynt yn gweithredu yn gyson a hwy eu hunain; oblegid nid oes dim yn fwy athronyddol na bod pob rhieni yn dysgu eu plant yn yr hyn a gredant eu hunain sydd yn gywir a gwirioneddol; a phan y maent yn ymddwyn tuag at eu plant yn groes i'w credo eu hunain, nid ydynt yn gweithredu yn ol rheswm a chyfiawnder. Ac er mwyn cyfiawnder a'r wlad, a chysondeb A chwi eich hunain, danfonwch eich plant i'r Ysgolion Brutanaidd, fel y delo y wlad i gredu fed eich proffes a'ch gweithredoedd yn gyson a'u gilydd. 3. Er mwyn AMDDIFFYN egwyddorion y tadau Ym- neillduol. Nid gwaith bychan oedd cael y rhyddid ag ydym yn fwynhau yn bresenol. Y mae cannoedd o'n tadau Ymneillduol wedi dyoddef llawer o erledigaeth- au, carcharau, a'r ffagodau, er mwyn ennill y rhyddid sydd genym ni yn awr. Ie, gallwn ddweyd na fuasai y rhyddid sydd genym, yn wladol a chrefyddol, yn ein meddiant, oni buasai ymdrechion diflino ein tadau Ym- neillduol. Ac un o ragorfreintiau y rhyddid hwn, ydyw yr Ysgolion Brutanaidd sydd yn ein meddiant. Llawer o ymdrech sydd wedi cael ei wneud er cael addysg rydd oddiwrth draddodiadau Eglwys Loegr, a dyma ni wedi ei gael; ond trueni meddwl fod yr un Ymneillduwr mor ddiegwyddor i ddiystyru y fraint werthfawr hon, trwy anfon eu plant i ysgolion sydd yn groes i'w hegwyddor- ion. Bydded i bob Ymneillduwr weithredu yn onest yn y pwnc hwn. Y mae cyfiawnder a chrefydd yn dysgwyl i ni fod yn onest yn ein holl ymddygiadau. Dywedwn etto unwaith, Ymneillduwyr, anfonwch eich plant i'r Ysgolion Brutanaidd, fel y delo daioni iddynt yw ol hyny. Cap Coch. T. MATHEWS.

Y TUGEL A'I BLEIDWYR.

BREUDDWYD HYNOD.