Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CENFIGEN Y NEFOLION LEOEDD.

News
Cite
Share

CENFIGEN Y NEFOLION LEOEDD. MR. GOL., Y mae arwyddion cenfigen yn bethau mor gyffredin, fel y mae yn anhawdd i ni eu camsynied. Y mae yr eiddigedd a&ach hwn yn anadlu yn awr yr un awyr, yn byw ar yr un ymborth, ac yn ymhyfrydu yn yr un gwaith ag oedd yn nyddiau Cain, pan y syrthiodd ei wynebpryd am fod aberth Abel yn fwy cymeradwy na'r eiddo ef. Y mae gofid y blaid Dofiaidd, o herwydd llwyddiant Gladstone, wedi dyfod mor eglur, fel y rhedo yr hwn a'i darlleno. Ni thristaodd Haman fwy wrth ddyrchafiad Mordecai, nag y darfu Mr. Dizzi y noson y gorchfygwyd ef gan Gladstone. Ac y mae tdn arall yn llais y blaid Doffaidd; braidd y ceir crybwyll am enw Gladstone-y mae cenfigen yn gwarafun son am ei enw ef. Sylwasom ar y cyffro cysurus a barodd cyfeir- iad un aelod at ryw anghysondeb tybiol, oedd wedi cymeryd lie yn hanes Gladstone—yr oedd y blaid fel pe buasent wedi cael nerth i gael eu hanadl atynt tra y bu yr aelod yn darllen y llythyr hwnw. Y mae cenfigen yn dangos rhyw lawenydd ihawr yn narostyngiad arall. Y mae yn cael gwledd ar drallod arall. Y mae fel y pryfaid sydd yn hoffi disgyn ar fan clwyfus anifail. Ni chyffyrdda y creaduriaid blinion hyny a man iach yr anifail, os cant ryw le clwyfus arno. Y mae Mr. Gladstone wedi cael clywed lawer gwaith am ei waith yn cyfnewid ei egwyddorion, fel pe b'ai yn rhyw ddianrhydedd i ddyn i newid ei farn, pan y bydd ganddo resymau digonol dros hyny. Yr oedd crogbren i grogi Mordecai yn llawenydd dirfawr i Haman. Y mae yn ein Senedd y dyddiau hyn yr un anmharodrwydd i roddi i arall y parch a'r flaen- oriaeth sydd ddyledus iddo, ag a welir yn nghylchoedd isaf y gymdeithas ddynol. Nis gall y cenfigenwr oddef i neb gael ei ganmol ond efe ei hunan. Y mae fel pe b'ai holl rinweddau dynoliaeth wedi eu crynhoi yn ei berson ef ei hun. Y mae hyn yn groes iawn i ysbryd yr efengyl—"Car dy gymydog fel ti dy hun," medda hono, gan dybied arall yn well na chwi eich hunain. Yr oedd teilyngdod Mair a'r ganmoliaeth a gafodd gan y Gwaredwr, wedi cyffroi cenfigen Judas gymaint fel y dywedodd, y gallesid gwerthu yr enaint er tri chan' ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. Yr oedd y weithred mor ganmol- adwy, fel yr oedd yn rhaid i genfigen ei lladd hi. A dyma hefyd welodd Solomon, "Fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog." Nid ydym yn tybied fod ein Senedd ni yn waeth na Senedd-dai eraill ar y pen hwn; ond y mae y mae yr un ysbryd yn teyrnasu yn y natur lygredig yn mhob oes o'r byd. Y mae cenfigen wedi amcanu niweidio eraill, nid yn unig yn eu cymeriadau, ond yn eu meddiannau, eu hamgylchiadau, a'u bywyd, os gallai heb ddwyn ei hun dan y gosb. Ac ofer i ni ddysgwyl ond terfysg, ymryson, a gweithred ddrwg lie bydd ysbryd cenfigenllyd plaid yn teyrnasu. Pe buasai Mr. Dizzi a'i gyfeillion yn ystyried mor afresymol ydyw iddynt genfigenu wrth lwyddiant Gladstone, efallai y buasai hyny yn d'od a hwynt i weithredu yn fwy cyson ag arferiadau y wlad yn y cyffelyb amgylchiadau. Nid yw llwyddiant y Rhydd- frydwyr yn gwneud un niwaid i'r Toriaid, ac ni wnai eu haflwyddiant un lies iddynt. Dylai mwy o wir ryddid, a dweyd y lleiaf, gael ei ddangos yn ein Senedd nag sydd wedi ei ddangos gan Mr. Dizzi. Ac iddynt hwy eu hunain y mae y drwg mwyaf wedi ei wneud, oblegid lladd ei pherchenog y mae hi.

OL-NODIADAU.

Y MYNYDDWR.