Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Llythyr o'r Gogledd.
Llythyr o'r Gogledd. Gan Pwy? BEIRDD YN Y PULPUD. Y mae Pulpud y Beirdd," yr hwn a osodwyd wrth ei gilydd gan v pen-saer Gwernogle, wedi cyrhaedd y Gogledd yma er ys rhai dyddiau. Dyma ryw- beth newydd tan yr haul—cyfrol o bre- gethau gan wyr sydd wedi cymdeithasu llawer a'r awen. Y mae amryw o hon- ynt yn brif-feirdd y genedl. Y mae ami i gyfrol wedi ei chyhoeddi er dyddiau Lampau y Demi" hyd Pulpud Ceredigion," yn cynwys casgliad o bregethau gwyr amlwg yn y pulpud; ond gallaf ddweyd yn ddi- betrus, mai dyma y gyfrol oreu o gasgliad o'r natur yma sydd wedi mynd trwy fy nwylaw i. Mae yn gyfoethog o feddyliau. Mae yma fwyd i feirdd, pa mor farddonllyd" bynag y bydd- ont; ac mae yma hefyd ddarnau digon rhyddiaethol i gwrdd ag archwaeth y mwyaf di-awen yn ein gwlad. Na fedd- ylied neb mai rhyw gyfrol hedegog yw hon, ac nad yw yn cwrdd a bywyd bob dydd. Na mae yn llawn o wirioneddau ymarferol y gellir gwneud defnydd o honynt bob dydd, yn o gystal a ehed- iadau i fyd dychymyg i ddifyru y meddwl sydd yn blino aros o hyd yn myd ffeithiau celyd. Mae y gyfrol yn brydferth iawn o ran ei throad allan, ac yn cynwys mwy o fater nag a geir, fel rheol, mewn llyfrau tri a chwech." Nid wyf yn meddwl y siomir neb a bryno y gyfrol hon. Wrth gwrs, mewn cyfrol lie mae 35 o wahanol bregethwyr, nis gellir disgwyl i'r pregethau fod yn gyfartal mewn teilyngdod. Rhaid fod yma dda, gwell, goreu. Yr wyf wedi darllen y rhan gyntaf o'r gyfrol yn fanwl, ac efallai y byddai gair neu ddau ar y rhan a ddarllenais ddim yn anfuddiol.
GRISIAU'R PULPUD.
GRISIAU'R PULPUD. Y mae gan Gwernogle ragymadrodd coeth i "Bulpud y Beirdd," ac mae y dyfyniadau, er yn lluosog, yn hynod bwrpasol. Mae yn gwneud un sylw nad wyf yn ei hoffi yn niwedd y rhag- ymadrodd i'r gyfrol. Dywed fod pre- gethwyr un enwad neillduol yn lluos- ocach yn y gyfrol nag eiddo yr un enwad arall. Mae hyn yn hawdd i'w ganfod i'r sawl a fedr rifo un ar bym- theg. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? Y ffaith fod y golygydd yn perthyn i'r enwad hwn. Pe yn aros gyda dweyd hyn, ni byddai genyf gwyn yn erbyn y rhagymadrodd; ond a yn mlaen i ddweyd nad oedd y ffaith fod nifer luosocach yn perthyn i un enwad, yn dweyd fod yr enwad hwnw yn meddu mwy o feirdd-bregethwyr na'r enwadau eraill. Ai nid yw yn ffaith ddigon hys- bys i'r sawl a wyr rywbeth am yr en- wadau yn Nghymru, fod yr enwad Anibynol yn fwy cyfoethog o feirdd cadeiriol a di-gadair, na'r un enwad arall? Y mae pob enwad yn cyfaddef hyn. Mae i enwadau eraill eu rhagor- iaethau ond nid mewn cyfoeth awen y rhagorant hwy ar yr enwad Anibynol. Os oedd ar Gwernogle eisiau rhoi cyfrif am y ffaith fod mwy o Anibynwyr yn ei Bulpud nag o bregethwyr un enwad arall, dylai roi dau reswm dros hyny: (1) Mae y golygydd yn perthyn i'r en- wad Anibynol, ac felly yn fwy cynefin a beirdd yr enwad hwnw; ac (2) mae nifer luosocach o feirdd yn y pulpud Anibynol na'r un enwad arall. Gwyr Gwernogle yn dda fod y rheswm olaf yn bodoli, ac fod yn rhaid i bwy bynag sydd yn dod a Pulpud y Beirdd allan -os yn meddwl iddo fod yn gynrych- ioliadol, roi nifer luosocach o Anibyn- wyr ynddo nag eiddo yr un enwad arall.
PREGETH GYNTAF Y GYFROL.
PREGETH GYNTAF Y GYFROL. Eiddo Cynddylan ydyw hon. Mae yn ddirgelwch mawr i mi paham y rhoddwyd y safle o anrhydedd i'r gwr da hwn yn Mhulpud y Beirdd." Ni welais bill o'i waith erioed. Clywais iddo gyfansoddi pryddest ar Dafydd Frenin"; ond er holi, ni welais neb i oedd wedi ei darllen. Pwy bynag sydd yn adnabod Dr. Cynddylan Jones, gwyr nad yw yr awen ac yntau yn gyf- eillion mawr. Yn wir, yn y bregeth yma sydd yn esgyn gyntaf i'r Pulpud," y mae digon o brofion nad yw Cyn- ddylan yn adnabod yr "awen wir." Y mae yn y bregeth beth wmredd o sylwadau gwerthfawr sydd yn ffrwyth sylwadaeth graff, a thipyn o edrych o gwmpas i lenyddiaeth Groeg a Rhuf- ain. Dywed yr hen stori fod Groeg wedi ei chodi i ddysgu y byd i werth- fawrogi y prydferth; yna dywed mai drychfeddwl llywodracthol yr Iuddew oedd buddioldeb. Ai nid mwy priodol fyddai dweyd fod yr luddew wedi dysgu y byd am brydferthwch sanct- eiddrwydd." Yr oedd gan yr Iuddew syniad cywirach na'r Groegwr am y prydferth. Yr oedd y Groegwr wedi troi y prydferth i wasanaethu y nwydau isaf yn y natur ddynol; ond cysegrodd yr luddew y prydferth i weini arno mewn pethau ysbrydol. Rhydd Cyn- ddylan bwys mawr ar y Beibl fel llyfr buddiol, heb gofio fod prydferthwch meddyliau y Llyfr yn esboniad paham. y mae yn llyfr buddiol. Ysbeiliwch y Beibl o'i brydferthwch, a bydd ei fudd- ioldeb wedi myned. Nerth a phryd- ferthwch sydd yn ei gysegr," medd y Salmydd. Y mae nerth a phrydferth- wch yn perthyn i holl waith Duw, ond gellid meddwl wrth bregeth Cynddylan fod y Beibl yn nerthol iawn, ond heb ei brydferthwch o gwbl. Rhyw gread- igaeth fel eliphant neu forfil, yn ddigon defnyddiol, ond yn hollol amddifad o brydferthwch. Cadwer ein gwlad rhag colli y weledigaeth fod prydferthwch yn o gystal a nerth yn Meibl Duw, yn ei gysegr. Dyma i ti, ddarllenydd, baragraph o bregeth Cynddylan Duw ei hun—y mae yn Fod buddiol iawn. Efe yw y Bod mwyaf buddiol yn y cread heddyw. Mae yr haul mawr melynwyn yn addurn i'r ffurfafen ond heblaw bod yn addurniadol, mae hefyd yn fuddiol. Yr haul yw y bod mwyaf defnyddiol yn y cyfundrefn. Beth a wnaem ni yn y gwanwyn, yn y gerddi a'r meusydd, onibai am yr haul? Felly Duw: y mae yn 'ornament' i'r cread ond heb- law bod yn 'ornamental,' y mae hefyd yn 'useful' iawn. Efe yw y Bod mwyaf c uSeful' ar y ddaear heddyw." A oes awen lednais ar y ddaear all beidio ocheneidio wrth ddarllen am Dduw fel ornament" y cread, ac wrth glywed yr Anfeidrol yn cael ei alw yn "Fod 'useful'" iawn-" y mwyaf useful' ar y ddaear heddyw?" Y mae calon wedi ei disgyblu gan yr Vsbryd Glan a'i choethi gan feddyliau y Beibl, yn gruddfan yn swn familiarity" rhyfygwyr gyda phethau cysegredia fel sydd yn dod i'r golwg yn y paragraph hwn. Yr wyf yn ei ddyfynu i fod yn rhybudd i gadw eraill rhag llefaru am y Goruchaf mewn geiriau fel hyn. Y mae irreverence" yn hyll yn mhob man, ond yn fil hyllach yn y pulpud nag yn unlle arall.
CYFIEITHIAD GARWACH ETO.
CYFIEITHIAD GARWACH ETO. lUn o ymadroddion mwyaf cysegr- edig yr iaith Gymraeg yw "Ysgrythyr Lan." Gwyr pawb beth yw ystyr yr ymadrodd. Y mae Cynddylan yn dod a'r ymadrodd i fewn i'w bregeth, a rhag ofn nad yw yr ymadrodd yn ddigon dealladwy i ddarllenwyr "Pulpud y Beirdd," mae yn barnu yn ddoeth i gyfieithu yr ymadrodd yn ol y ddysg- eidiaeth a rodded iddo. Dyma ei gyf- ieithiad i "Yr Ysgrythyr Lan"—"The Clean Book." Y mae genyf ddau wrthwynebiad i'r cyfieithiad hwn: (1) Nid "book" ydyw y cyfieithiad o Ysgrythyr, ac (2) nid clean yw ystyr y gair glan yn yr ymadrodd. Efallai fod gan Cynddylan ferch, ac hawdd genyf gredu, os oes, ei bod yn eneth lan ond a fyddai Cynddylan yn foddlon i mi gyficithu yr ymadrodd geneth lan yn clean girl ? Byddai yn llawer cywirach na galw yr "Ysgrythyr Lan" yn "clean book"! Gwelais ryw ohebydd yn cyfieithu yr Ysbryd Glan" yn Clean Spirit." Rhaid mai fel hyn y cyfieithiai Cyn- ddylan yr ymadrodd. Y mae galw yr "Ysgrythyr Lan" yn "clean book" yn gam a'r iaith Gymraeg, ac yn drosedd yn erbyn y Llyfr yr ydym wedi arfer edrych arno fel yr Ysgrythyr Sanctaidd.
YN EISIAU: COETHDER IAITH.
YN EISIAU: COETHDER IAITH. Yn y ddalen hesaf, y mae Cynddylan yn taflu golwg dros gymdeithas, ac y mae yn gweled pob asgwrn o honi, yn mron, allan o'i le ond nid yw yn di- galoni. Y mae yn gweled Duw'fel bone-setter medrus yn gosod pob asgwrn yn ei Ie; ond rhaid cofio y bydd lot o hulibalw cyn y bydd yr j. esgyrn yn cymeryd eu lie yn nghyf- ansoddiad cymdeithas. Dyma ddywed Beth yw ystyr wylofain cryf a dagrau yn nhroedigaeth pechadur? Nid ydynt ond 'wrenches' y Meddyg wrth osod yr esgyrn yn eu lie." Yna, yn nes yn mlaen dywed: Y mae llawer o wbain ac ysgrechain mewn cymdeithas y dyddiau presenol, a llawer o seiniau anhynod i'w clywed yn y Senedd, ac yn y wlad, nes peri i rai feddwl fod cymdeithas ar syrthio oddi wrth ei gilydd yn dipiau man." Wedi i ni ddarllen y frawddeg uchod, bu swn dwsin o berchyll yn gwichian mewn llidiart yn fy nghlustiau am ddyddiau, ac nid yw y swn wedi llwyr gilio eto. A oes tuedd mewn athrylith yn gwyro i gyfeiriad henaint, i ddefnyddio ym- adroddion 'fel yn dipiau man" ? Dyma fi newydd ddarllen cyfrol newydd o farddoniaeth o eiddo Hwfa Mon. Mae yn y gyfrol ddigon o nodau fod Hwfa yn wir fardd. Mae ganddo ddarn yn y llyfr ar "Adfeiliad." Y mae ynddo lawer o benillion tlws ond tua'r canol, y mae y cyfansoddiad yn i myned yn dipiau" trwy y penill canlynol:- Y gwallt oedd gynt yn ddu ei wawr, Yn awr a esmwyth wyna; A'r corph a gaed yn gryf a chrwn, Mae hwn yn myn'd yn dipia' Ai nid oes yma adfeiliad awen yn y llinell olaf? Os daw "yn dipiau" i fewn i'n barddoniaeth ac i'n pulpud heddyw, bydd y geiriau racs jibiders," strim-stram-strellach," yn curo yn y porth yfory am ddyfodiad i'r un ileoedd cysegredig. 1.
NEWID YR HINSAWDD.
NEWID YR HINSAWDD. Dipyn yn arw yw y porth i fewn i'r deml hon lie y cododd Gwernogle ei Bulpud y Beirdd ond wedi myned trwy erwinder y porth, yr ydych yn cael tan eich traed mosaic" o feini gwerthfawr, ac o'ch cwmpas golofnau marmor a chedrwydd Libanus wedi eu cerfio a lluniau seraphiaid a cherub- iaid, gwerth cerdded y llwybr garw trwy ganol ceryg gwyllt y mynydd, na fu morthwyl yn agos atynt, er mwyn cael y golygfeydd sydd tu fewn i'r porth. Y mae pregeth Pedrog fel efe ei hun, yn gyfoethog o feddyliau ar- uchel. Golwg hardd sydd yma ar Dduw yn codi y tlawd o'r pydew, gan osod ei<draed ar y graig a chan yn ei enau. Gogoneddus yw y Duw a ddes- grifir yma! Mor llawn o gysur i bechadur ar lawr ydyw geiriau fel y rhai hyn: Diolch i Dduw, y/mae geneuau holl bydewau duon pechod a thrueni dyn ar y ddaear yn agored tua'r nef." Brithir y bregeth gan ym- adroddion tebyg. Gwelir yma hefyd, os yw Duw yn ogoneddus, mai corsen wan i bwyso arno yw dyn ar y goreu. 5f dyn mwyaf anhebyg i Grist ar y ddaear yw y dyn hwnw sydd yn gwrthod help llaw i'r gwan i godi-yn rhy falch i ymostwng i roi help i ddyn sydd yn llefain o'r dyfnder am gymorth. Nid dyma hanes ein Duw ni: Efe a ym- ostyngodd ataf." Y mae rhai brawdd- egau gwir hyawdl yn niwedd y bregeth hon. Dyma i chwi engraifft: Mell- dith yr eglwysi Cristionogol yw y peth a elwir yn' I dignity,' ac a wna grefyddwr yn rhy haiarnaidd i ym- ostwng mewn cydymdeimlad at frawd yn ei gwymp. Ceir rhai crefyddwyr selog na fynant er dim blygu modfedd i godi enaid anfarwol fyddo yn eu Ivymyl, rhag ofn iddynt wrth wneud hyny golli graen y 'starch' oddi ar wisg eu 'dignity.' Chwi bobl y dignity mawr-dywedwn gyda phob parchedigaeth i'r Presenoldeb Dwyfol -a welwch chwi hyn ? 'Ac Efe a ymostyngodd ataf.
PARNASSUS A SEION.
PARNASSUS A SEION. Yn dilyn Pedrog y mae Cranogwen. Ychydig ddyddiau cyn darllen ei phregeth, yr oeddwn wedi bod yn dar- llen llyfr Trine—" In Tune with the Infinite," ac y mae hi a Trine yn cerdded yr un llwybr,—a llwybr y byddai yn iechyd i gorph ac ysbryd miloedd i ddilyn eu hesiampl. Pan yn darllen pregeth Gwylfa, yr ydym yn anadlu awelon Parnassus, ac yn cerdded hyd lethrau Mynydd Seion yr un pryd. Cefais fwynhad digymysg, wrth ddarllen y bregeth hon. Y mae- yr awen yn amlwg yn y bregeth hon,, ond nid yw y bardd yn gwneud cam. a'r efengylwr. Gyda'r golyg'feydd sydd yma, hawdd fyddai i'r awen gario y pregethwr i'r anialwch, ond cadwodd Gwylfa y ffrwyn yn dyn yn ei law, ac ysgrifenodd ar y ffrwyn, "Sancteidd- rwydd i'r Arglwydd." Dengys y golled gafodd y disgyblion wrth beidio gwylio yn yr Ardd, gyda'r Gwaredwr. Meddai, Pe wedi gwylio gydag Ef, bron nad allent fod wedi gweled y cwpan o law y Tad yn llithro rhwng y brigau yn y nos, fel pe yn chwilio am wefus y Mab."
YR AWEN YN RHEDEG YN WYLLT.
YR AWEN YN RHEDEG YN WYLLT. Awen wedi ei dofi yw eiddo Gwylfa, ond heb fod yn nepell oddi wrtho y mae awen heb ei gwareiddio-awen fel tir gwyllt yn dwyn drain a mieri, ysgall a bulwg; ond yn nghanol yr anialwch y mae ambell flodeuyn prydferth iawn yn tyfu. Perchenog yr awen wyllt ydyw y Parch. Evan Phillips, Castell- newydd Emlyn. Dyma bregethwr sydd a'i fyrdra a'i felusder yn hysbys i filoedd yn Nghymru. Rhaid sylwi ar arddull a nodwedd awenyddol y bregeth hon.
: YR HEN "CHRISTMAS" AT DDYCHYMYG.
YR HEN "CHRISTMAS" AT DDYCHYMYG. Y mae yn hawdd adnabod ansawdd meddwl dyn wrth y dyfyniadau wneir ganddo yn ei ysgrifau, neu ei bre- gethau. Y mae dyfyniad wneir gan y Parch. Evan Phillips yn y bregeth hon yn ddangoseg o'r awen sydd yn cyffwrdd a'i natur. Sonia am Christ- mas Evans yn son am y tad yn rhedeg i gwrdd ei fab afradlon. Dyma ddywed y Parch. Evan Phillips: Dywedai yr hen Christmas Evans ei fod yn camu yn fras ofnadwy, yn rhoddi un droed ar ben y Wyddfa a'r llall ar ben Cader Idris, un ar ben Plinlimon a'r llall ar ben y Frenni Fawr yn Sir Benfro." Os darfu i'r hen Gristmas ddweyd fel hyn, rhaid i mi gredu ei fod wedi dweyd y peth mwyaf gwrthun ddaeth o ddychymyg gwyllt erioed. Os darfu iddo ddweyd y fath syniad, diau ei fod wedi edifarhau ganoedd o weithiau am ddefnyddio y fath ymadroddion ffol, Efallai i'r hen bregethwr gael ei gario ymaith gan ei ddychymyg nerthol yn un o hwyliau cymanfaoedd y dyddiau gynt; ond cam a'r hen seraph ydyw cadw yn fyw y geiriau a gam- ddywedodd a'i wefusau." Y mae y dyfyniad yma o sylw Christmas yn dangos yr awen sydd yn plesio Mr. Phillips.
YN /DILYN Y CAWR.
YN DILYN Y CAWR. Dyma ddyfyniad o eiddo y pregeth- wr sydd yn dangos ei fod am dreio cerdded fel Christmas ac yn wir, rhaid i mi gyfaddef ei fod wrth ei sodlau. Wele'r dyfyniad: "Bachgen wedi ei' barotoi i ddistryw oedd y bachgen- bachgen wedi bookio ac wedi ei roddi i fewn yn ngherbydres distryw, a swyddogion y fagddu wedi ei swyno a'i dwyllo a'i daclu i fyned i lawr i dywyllwch eithaf. Yr oedd pob station hyd y Ilinell wedi ei £ chrowdio gan edrychwyr gwancus yn disgwyl am ei dren i ddyfod heibio; ond yn fuan dyma'r newydd yn dyfod i lawr hyd y llinell1 nad yw yn dyfod. Dim yn dyfod, yn wir!' Nac ydyw; y mae wedi newid ei dren i fyny yn y junction yna. Gwelwyd ef yn croesi y (Parhad ar dudalen 3.)