Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Mr T. A. Lloyd, Adsolwen, Llanon, un o gyfoedion boreu oes Mr Evans, a ddywedai ei bod yn dda ganddo weled y fath barch yn cael ei arddangos ganddynt fel eglwysi i Mr Evans; ond o ran hyny nid oedd yn gymaint o ryfeddod, oblegid fod Mr Evans wedi arfer bod yn barchus erioed. Yr oedd yn eithriad i'r proffwydi i gyd. Yr oedd efe yn barchus yn ei wlad ei hun-yn Nebo. Gobeithiai y cadwai ei barch drachefn yn v Maerdy. Parch, H. Hermonydd Williams, Llechryd, a ddywedai ei bod yn wir dda ganddo glywed y pethau a. glywai, a. gweled y fath a welai. Nid cyfarfod seboni oedd y cyfarfod hwn, oblegid ni ddywedwyd air yn ormod am Mr Evans. Gwir ei fod wedi cael ei ganmol, ond pa ddrwg oedd hyny ? Rhai pobol yn ofni canmol pregethwr, fel pe na fedrai pregethwr ddal i'w ganmol. Gobeithiai y byddai i'r Wig gael gweinidog da eto,-gweinidog p gymeriad, a gweinidog a all siglo llaw a'i holl irodyr yn y weinidogaeth. Parch. T. J. Morris, o Aberteifi, a gwynai yn enbyd fod Morganwg yn lladratta bechgyn goreu Aberteifi. Byddai y symudiad er hyny yn sicr o fod yn gymorth iddo ddadblygu mewn gwybodaeth meddwl a chymeriad. Llawer o ddywedyd wedi bod y noson hono am ei waith, ond ni fynegwyd mor haner, oblegid nis gallent, a hyny am y rheswm mai unknown quantities yw gorchestion y pwlpud. Nid oes dim ond goleuni y farn a all eu dwyn i'r ami wg. Byddai yn dda ganddo weled ei blant yn myned yn bregethwyr i gyd; oblegid o bob fine art, darlunio trefn yr iachawdwr- iaeth-campwaith y Duwdod-yw y mwyaf fine. Gobeithiai y byddai i Mr. Bvans ddadblygu yn yr I alwedigaeth nefol' hon yn ei le newydd. Parch. J. M. Prytherch, Wern, a deimlai yn ddwys yn herwydd symudiad y brawd anwyl o'r Wig. pel y gweinidog hynaf ond 1 9 un yn Sir Aberteiif, teimlai fod colli cyfaill yn golled anadferadwy iddo ef. Ond er hyny, credai fod gan Rhagluniaeth fawr law yn ei symudiad. Credent hwy yn y Wig eu bod wedi bod yn gyfrwng yn Haw Duw i'w arwain i'r ardal un-mlynedd-a'r-ddeg yn ol, a phaham lai has gellir credu fod eglwys y Maerdy yn gyfrwng i'w arwain o'r ardal 'nawr. Yr oedd meddwl mawr ganddo ef o Mr Evans, ac yr oedd yn sicr nad oedd neb yn adwaen Mr Evans, os nad oeddynt wedi ei weled ryw dro mewn caledi. Yr oedd gallu anrhaethol ganddo i gwrdd ag emergency. Gobeithiai y byddai yr undeb a ddangosidynoy noson hono gan y gwahanol eglwysi perthynol i'r weinidogaeth, yn parhau telly hyd nes y byddai iddynt gael gweinidog newydd drachefn, a hwnw mi obeithiaf yn gawr o bregethwr. Anogai yr eglwysi yn daer i fyned gerbron gorsedd gras i ymofyn am arweinfad pan yn dewis gweinidog. Yna terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parcb. J. Lewis, Penmorfa. Canwyd amrywddarnan swynol gan gor y plant yn ystod y cyfarfod, o dan arweiniad medru s (v; iss James, LIangran' g. 111 I Cafwyd cyfarfod ardderchog o'r dechreu i'w ddiwedd. Y mae Mr Evans yn ymadael gyda dymuniadau goreu ei eglwysi, yr eglwysi cymydogol, a'i frodyr yn y weinidogaeth a gobeitbiwn y derbynir ef a breichiau agored gan Y saint yn Morgan wg. Y mae efe a'i briod hawddgar yn haeddu y parch penaf fedr eglwys y Maerdy roddi iddynt ac yr ydym j yn hyderu y bydd ei symudiad yn fendith iddo ef ei hun, ac i bawb a ddaw o dan ei weinidogaeth yn y dyfodol.—~Goh.
ADOLYGIAD Y WASG.
News
Cite
Share
ADOLYGIAD Y WASG. Geninen Gwyl Dewi.- Daeth y rhifyn hwn allan yn brydloh, end y mae ein hadolygiad arno yn lied ddiweddar o herwydd amgylchiadau nad oedd genym ddim llywodraeth arnynt. Ond gwyr ein holl ddarllenwyr yn dda ein bod yn mawr gaamol y cyhoeddiad hwn er ys llawer o flynyddoedd. Ac wrth ddarllen rhifyn ar ol rhifyn, ofnem bob tro ne welid byth ei gystal eto. Ond parhau i ddyfod y maent yn yr un nerth ao awdurdod hob ddiffygio mewn dim, fel yr ydym wedi rhoi i fyny bob ofnau am y dyfodol. Y Geninen fydd y Geninen mwyach tra byw y golygydd gor-ddyfal, gor-ddiwyd Eifionydd; yr hwn sydd bellach yn adnabod dawn neillduol pob ysgrifenydd Cymreig trwy'r byd. Eu HADNABOD ? Ie, yn hollol, wendidau a rhagoriaethau yr Hen a'r Ieuane, y rhai sydd wedi dyfod yn enwog, a'r rhai sydd. i fod yn enwog hefyd. Adnebydd hwynt oil nid yn ol y eoawd, nid yn ol eu henwad, nac yn ol Ymneilldu- aeth yohwaith, ond yn ol en dysg, a'u dawn, a'a hysbryd, a'u gwladgarweh Oymreig. Yr ydym yn dymuno taer anog Ieuenctyd Cymra i bryna ae i ddarllen yn fyfyrgar y oyhoeddiad gwir genedlaethol hwn. Nis gallant ei ddarllen heb ddyfod i deimlo yn gynesach at enwogion Oymreig o'r rhai byw ac o'r rhai sydd wedi ein rhagflaenn. Addefwn yn ddiolchgar nad oes un eyhoeddiad arall, ar y maes yn rhoddi i ni gystal golwg ar adnoddau llenyddol yr hen genedt anwyl, ae ar amledd mawr ysgrifen- wyr rhagorol yr hen Gvmraeg anwyl, ac ar dlysni a nerth a godidogrwydd ein hen Iaith fendigedig, Ac mewn ystyr lenyddol, tybiwn yn wir na bu rhifyn erioed yn gyfoethocach na'r un am Gwyl Dewi 1895 I I CofiEadwriaethol i enwogion Cymreig yw cynwysiad Geninen Gwyl Dewi bob blwyddyn. A cheir yn yr un presenol goflantau gan ysgrifenwyr galluog ar yr enwogion caniynol: Ieuan Gwynedd Dr. Price a John Garmon Lewis Jones, Llanddu- las Taliesin Hiraethog; Ellis Owen Ellis, y Bryn Coch; Bardd Du Mon; Dewi Havhesp; Owen Thomas, D.D.; Hiraethog; Onllwyn fel Bardd; Gwilvm Teilo; Y Dr. William Owen Pughe; Y Myfyr; Edward Mathews; loan ab Gwilym; John Thomas, D.D.; Gwilym Berwyn; Joseph o Golwyn; Hugh Gwynton Jones Eifioneilydd; Eryr Arfon; John Elias a Christmas Evans; Eben Fardd; Mervivian Erfyl; Cynddelw Dan Isaac Davies; Maldwynog; Thomas Aubrty; Thomas Rees, D.D" Abertawe Gwilym ab loan Nicander Caeronwy H. Lleehryd Dr. Saunders Clwydfardd a Lewis Edwards, D.D.—mown cyfansoddiadaa rhagorol o ryddiaeth a b rddoniaeth a llawer o destynau eraill. Byddai crybwyll enwau yr holl awdnron yn bwysau trwm yn mhiaid ein cymhelliad ar Ieuenctyd Oymru i brynu a darllen Geninen Gwyl Dewi. A byddai, yr un modd, yn anrheutbyn blasus i hen bob! o deimlad gwladgarol. Robert Dafydd, Bryneugan,— Gan y Parch. Henry Hughes, Brynkif, pris Sob. [ Mae hanes Robert Dafydd. neu fel yr ysgrifenai efe ei hun ei enw, Kobert Dafydd, hyny sydd o hono, yn ddyddorol iawn, fel hanes ami un cyffelyb iddo yn yr oes hono gan y Trsfnyddion Oalfinaidd, mewn gwisg blaen, wledig. dirodres, ac o dafod ac iaith atw, sydyn, flniog, yn ymylu ar y rtjyfygus, a phob amser 511 hyf anghyflfredin ar gyflyrau dynion. Ac o oes i oes y mae rbai o'r Annibynwyr wedi ceisio eu hefelycha, ond no go fix eu rhan hwy. Rhaid, cael hinsawdd a gweryd Fethodistaidd i feithrin y dosbarth neillduol hwn ac nid yw y gweryd hwnw mwyach yn cynyrchu y dosbarth hwn, a dichon nad oes dim colled ar eu hol. G worth parbaol y llyfryn hwn yw yr hanes. dyddorol a rydd am ddechreuad yr achos Methodist. aidd yn Bryneugan a'r eylelboadd; a lledaeniad dylanwad yr eglwys hono yn Siroedd Arfon a Meirion. Gwerthfawrogwn lafur Mr Hughes, am eifodynihoddi i vi (dwg mor eglur ar y-bryd hynodol y Methodistiaid cyntaf Oanmolwn ei lyfr blaenaf—Amcdiffyniad y Methodistiaid gan Charles o'r Bala, am yr un rheswm yn union, fel mynegiad .•oywir b. ysbryd y Methodistr-od yn yr oes hono. Ceir mwy o oleuni ar ypwno hwn mewn llyfrau bychain o'r fath hyn nag mewn llyfrau llawer mwy goiygus a chostus Am yr un cyfnod yr ysgrifenai E!lis o'r Nant yn ei I Nanws Ach Rhobert,' ac y mae'r llyfr hwnw yn cydgordio yn hollol a'r desgrifiad a geir yn hwn gan Mr Hughes. Bydd y ddau waith yn anmhrisiadwy i'r hanesydd dyfodol. Da genym fod tueddfryd Mr Hughes yn rhedeg mor naturiol ynycyfeiriad hwn. Cyflawna gwasanaeth llawer mwy o werth nag sydd ganddo ef yn awr un dychymyg am dano. Calonog cymeradwywn ei lyfr i bawb a garent ymgydnabyddu ag ysbryd neillduol a dechreuoi y Dlwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Y Gawell Saethau,- Gan Mephiboseth, pris swllt. Gwaith barddonol yw hwn, a darllena yn llithrig iawn. A dyna agos y owbl a anturiwn ni ei ddweyd am lyfr barddonol. Mae ei ffugenw yn awgrymu ei gyflwr ei hun, yn gloff o'i ddau droed—o'r bru. Ond rhoddodd Rhagluniaeth iddo feddwl cryf a bywiog. oblegid nid oes gwendidBa chloffni i'w weled ar gynyrch ei fyfyrdodati Y saw! o fyno feddn 'm OAWELL, Deuwch, prynwoh heb eich cymeU. Oewch ynddo lawer math o saethau- Arfau rhaid y gad a'r brwydrau.' Bydd pawb a bryno y llyfr hwn yn gwneathur cy mwy nas a werthfawrogir gan y Mephiboseth hwn. Cyfeiriad J. J. Mephiboseth. Bangor.
CRUGYBAR, SIR CAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
CRUGYBAR, SIR CAERFYRDDIN. Y mae J. D. Williams, Ysw., ail fab Mr. a Mrs Williams, Borthyn, wedi dyrchafu yn uchel iawn fel cyfreithiwr. Daeth Mr Williams allan yn flaenaf o 800 yn Lincoln's Inn, a hyny pan oedd bechgyn galluog o Lloegr, Iwerddon, &c., yn yr ymdrechfa. Enillodd y medal aur hefyd. Y mae Mr. Williams wedi pasio yn uwch nag un Cymro yn nghangen Y Gweithredoedd. Brawd ydyw i Mrs Davies, priod y Parch. T. R. Davies (A.), Pisgah, Sir Aberteifi a brawd i'r pregethwr dysgedig E. J. Williams, Southport. Bu Mr. Williams yn Deputy Town Clerk Dinbych, a dewiswyd ef wedi hyny yn Deputy Town Clerk Caerdydd, ac y mae bellach yn llanw y swydd bwysig 0 Town Clerk South- port. Y mae newydd basio ei LI. B. with honours, a thebyg y bydd yn fuan yn Queen'8 Councillor.
NODIADAU GYPPREDINOL.
News
Cite
Share
NODIADAU GYPPREDINOL. Dydd Llun diweddar cynhaliwyd trengholiad gohiriedig ar gorff Mark Morris, glowr, Pont. ygwaith, Rhondda Fach, yr hwn a fu farw wythnos yn ol yn Ngharchar Abertawe. Dygid tystiolaethau gerbron i. brofi fod y trancedig wedi ei gamdrin gan dri 0 hedd- geidwaid, — Perkins, Evans, a Thomas. Dygwyd rheitbfarn o Ddynladdiad yn erbyn y tri, a thraddodwyd hwy dan fachnïaeth i sefyll eu prawf ar y cyhuddiad o achosi marwolaeth Mark Morris. Mae Mri. T. 0. &f E. C. Jack, Grange Publishing Works, Edinburgh, newydd ddwyn allan y chweched ran,—a'r olaf,—o Alawon Gwalia. Y mae y chwe' cyfrol hardd hyn yn llawn cymaint 0 gTod ï anturiaeth y cyhoedd- wyr, ac i lafur cerddorol Dr. Joseph Parry, ac awen seinber Dewi Mdn. Mae'r argraffiad wedi costio yn ddrud i rywun. Gobeithio y cant eu talli yu dda, heblaw yn y mwynhad 0 gredu eu bod, drwy ddwyn allan argraffiad mor rhagorol, wedi agor drws i gerddi Cymru i fyned i mewn i lawer preswylibd, o gastell y Frenhines—i'r hon y cyflwyniry gwaith,- i lawr. Dydd Sadwrn wytbnos i'r diweddaf, bu etholwyr Llanuwchllyn yn nghanol twrw etholiad, er mwvn mabwysiadu Deddf y Llyfrgelloedd.. Dyma yr etholiad cyntaf o'r fath yn Nghymru, ac y m ie yn hapus meddwl fod y canlyniad wedi tr i aiiau mor hynod ffafriol. Pleidleisiodd 152, ac allan o'r rhai hyn yr oedd 134 yn S'afr mabwysiadu y ddeddf, a 19 yn erbyn,—mwyafrif o 115. Diau mai yni a haelioni Mr. 0. M. Edwards a Mr. L. J. Davie 4 fu yn foddion i sicrhau canlyuiad mor ddymunol. Addawodd Mr. 0. M. Edwards gant o gyfrolau, a Mr. L. J, Davies haner cant at gychwyn llyfrgell, ar yr amod fod y plwyfolion yn mabwysiadu y ddeddf.