Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PAN OEDD >VN YN HOGYN.-I

News
Cite
Share

PAN OEDD >VN YN HOGYN. Pan oeddwn yn hogyn fe'm clwyfwyd gan serch, Pan arnaf yn wylaidd y gwenodd y fereh Ei gwyneb a'i ffedog a guddiai y Fun,— O'r adeg ei gwelais mi deimlais yn flin. j Teimlwn waelodion fy nghalon fel clwyf, A d'wedais i'r eneth, Mewn penbleth yr wyf, 0 eisiau cael arllwys holl gynwys fy mron," .10 dwed," ebe hithau, a gwenai yn lion. Ar ol i mi siarad fy nheimlad fy hun, Hi dd'wedodd o'i gwirfodd y teimlai hi'r un Credasom ein gilydd, carasom yn boeth, A chredu ni fynem nad oeddym yn ddoeth. Yr amod a blenais yn nyfnder fy mron Yn fuan, fel mesen yn goeden daeth hon, A geiriau y rbian a'i grudd fel y rhos, Ireiddiai ei gruddiau fel gwlith yn y nos. Yn fuan hi dyfodd, blodeuodd yn frith, Y ffrwythau a lanwai y cangau fel gwlith Ac arnyat hi wenodd, a d'wedodd mewn gair, Mae'r ffrwyth wnai hi dynu oedd Modrwy o aur." Y mellt o'r tywyllwch ymwibiant yn chwim, Mi deimlais i bob peth, a theimlais i ddim; Mi basiodd y noswaith nis gwn i pa sut, Oherwydd mi dd'rysais a syrthiais i (fit. Pan wawriodd y bore mi godais fy mhen, A gwelais y fodrwy ar fys ei llaw wen; Mi geisiais ymgomio, ond o'r own i'n dost, Yn fud ac yn fyddar, a dall fel y post. 0 rwymau'r perlewyg pan ddaethum^yn rhydd, Mi gefais f' angyles a'i grudd ar fy ngrudd, A chlywais hi'n sibrwd,—ac o dyna swyn,— Mi cadwaf hyd farw yn bur er dy fwyn." J. ALDES.

1DIC;SIONA.