Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

flTN A'R LLALL O'R DE.

News
Cite
Share

flTN A'R LLALL O'R DE. [GAN AP Y FRENI FACH.] Eglur yw oddiwrth ddedfryd y Barnwr Hawkins yn achos herwhelwyr Llanelli, nad gan y werin, nac er mantais y werin y gwnaed aeddfau bel wrolein gwlad. Rai wythnosau yn ol, daliwyd pedwar herwbeliwr gan ddau geidwad ar dir Mr C. W. Mansel Lewis yn nyfnder y nos. Yr herwhelwyr a ddechreu- asant ffoi pan welsant y ceidwad, ond golly ngodd y ceidwad ergydion o ddryll ar eu hoi. Daeth un o'r herwhelwyr i ornest a'r ceidwad a chollodd ei fywyd. Yr wyth- nos ddiweddaf daeth yr aehos i'r Ilys, a der- byniodd yr herwhelwyr dri mis o garchar gyda phenyd-wasanaetb. Yn awr, ai nid yw yn eglur fod delw "bonheddig" ein gwlad ar y ddeddf. Wel, yr oeddwn i yn myned i alw yn gythreulig y ddeddf y gweithredai y barnwr ami, ond gosoded pobl mwy cymhedrol na mi air arall yn ei Ie. Dywedai Louis XIV. "y Wiadwriaeth! Hyny yw, myfi." Gallai cyfoethogion ein gwlad ddywedyd hefyd pan basiwyd deddf fel hon "Y Wladwriaeth, hyny yw, nyni." Tybed na ddylai fod gan Cynghorau Sirol y y fwy o hawl ar yr belwriaetb ? Ai ni ddylai yr ysgyfarnogod ar cwningod, yr adar a'r pysgod fod yn eiddo dyn yn fwy nag yn eiddo yr arianog ? Rhaid ail eni holl ddeddfau ein gwlad cyn y gall y werin gyda chysondeb ddyweud Nyni yw y Wladwriaeth." | Trwy ryw anealltwriaeth un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, daeth y papur dyddiol Toriaidd i'm Haw yn lie yr un Rhyddfrydol. Ni fyddaf yngyffredin ond yn cymeryd trem ar y Mail. yn y ddarllenfa gyhoeddus. Ond darllenais ddarnau o'r Mail dyrld Mawrth diweddaf beb feddu gwawr drwgdybiaeth mai yr Arch-Dori oedd yn fy llaw. Maen- tumiai mai llithro dros w.vneb y drwg y mae y gohebydd Cymreig a. ysgrifena i'r Times parthed yr Eglwys yn Nghymru, fod sefyllfa yr eglwys yn y rha-na-u gwledig yn rhyfeddol o anfoddhaol, y gall yr offeiriaid am amser byr gamarwain y Seison ond yr erys y drwg, fod yr oil yn hysbys i'r plwyfolion, mai ychydig iawn o offeiriaid yn Nghymru a allant ddarllen y Gymraeg yn rhesym^l o weddus, eu bod yn boenus gwrando llawer o hunynt, a.c mai anmhosibl bOron yw dyfod o hyd i bregethwr yn yrEg-lwys Wladol yn Nghymru. Ac Eglwyswr Lleyg," ddar- llenydd anwyl, sydd yn danod ffaeleddau fel hyn i Eglwys Loegr a hyny yn y Mail. Nid yw yn rhoddi i Gymry yr un new/dd, ond y mae yn iechyd i glywed Eglwyswyr yn cyd- nabod gwirioneddau y mae eraill wedi bod yn eu cyhoeddi ar,nenan y tai er's oesoedd lawer. Swniant fel newyddion bron. Ac nid wyf hollol sicr na byddai y pregethu yn yr Eglwys Wladol yn Nghymru latfer yn waeth nag ydyw, pe b'ai lie, oni b'ai fod gweinidogion Ymneillduol yn ami yn traethu eullen o bwlpudau sefydledig. Beth, preg- ethwyr Ymneiilduol yn esgyn i bwlpudglan oysagredig y plwvf ? 0 ydyw weithiau, ond mewn gwisg wen, ac mewn cnawd sydd wedi ei gysegru gan ddwylaw eszobion, ac wedi eu himpiodrwy ordeinind i'r llinach apostolaidd Pan gvhoedda gweinidog Y mneillduol gyfrol o bregethau, ymddengys mai y prynwyr cyntaf ydyw offeiriaid a chiwradiaid y plwyf. Yn ddiweddar, pan aeth y son allan fod gweiaidog neillduol yn myn'd i gyhoeddi cyfrol, dyma gais yn dyfod o'r cyfeiriad a nodais, yn gyfrinachol with gwrs, am i'r gweinidogofalugoaod yn eu plith bregeth ddiolchiadol am y cynhauaf, neu fwy nag un os yn bosibl. Felly y gwnaed. A m'wy na thebyg fod fy nghyfaill Radicalaidd wedi bod yn pregethu yn ddiweddar mewn amryw o wyliau diolchiadol yr Eglwys Lan Gatholig. # :I(: Penderfyha hyd vn nod Eglwyswyr Llan- elli wneuthur eu rhan i ddwyn oddiamgylch ly Ddadgysyiltiad yr Eglwys Wladol. Ganon Williams ydyw arweinydd deheuig eu hym- gyrch presenol. Yn ddiweddar gwnaed ad- gyweiriadau ar gladdfa y plwyf. Mynai y glwyswardeniaid fanteisio ar hen ddeddf i osod yr holl draul ar y trethdalwyr. Gwrth- dystiodd yr Anghydffurfwvr, ond ar yr un pryd cynygiasant i dalu yr bolt draul drwy danysgrifiidati gwirfoddol. Ond teimlai Canon Williams, gyda'i wardeniaid ei bod yn sarhad ar Eglwys y Wladwriaeth i gysyl,tu ei henw ag egwyddor bwdr, anghristronogoj gwirfoddolrwydd. Rhaid cadw urddas yr eglwys i fyny drwy orfodi yr arolygwyr plwyfol i dalu y draul. Ni wyddis eto pa le y gorphena, ond fel dadgysylltwr brwdfrydig diolchaf fi yn gynes i'r Eglwyswyr am eu cymhorth i gloddio dan seiliau y, Sefydliad Gw!adol ei hun. jb W TV Yr anal byddaf yn dyfalu pabam y rhaid rhoddi pob gorchymyn parthed cau drysau, p agor ffeneStri, &c., mewn capeli Ymneiilduol yn gyhoeddus. Pe b'ai angen troi y nwy lawr ychydig, er bod y gwr sydd a gofal y nwy arno yn eistedd yn ymyl y gweinidog, rhaid fydd i'r olaf yn nghlyw yr holl gynull- eidfa gyhoeddi yn groch y gorchymyn. Neu os bydd ar y pregethwr a fydd ar fedr gweini awydd cael rliyw ffenestr neillduol wedi ei chau, rhaid fydd iddo aros hyd oni esgyna y pwlpud cyn gofyn gan neb wneuthur hyny, yna gofyna ar gyhoedd tel pe b'ai angen cael yr holl gynulleidfa i roddi eu holl allu ar waith i gyflawni y fath orchwyl pwysig ac anhawdd! Ai nid oes gormod o dwrw yncael ei wneuthur yn gyff redin iawn gyda gorchwyliou bychaia fel hyn mewn addoldai Ymneillduot ? Oni ellidmewn perffaith ddistawrwydd roddi awgrysa syml i'r personau y perthyn iddvnt ymrw ystro. gyda negeseuau bychain l"el hyn'?

HYN A'R LLALL O'R GOGLEDD.

---------... CYFIAWNDER I'R…