Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Advertising
S Os ydyw eich golygon yn ddiffygiol, ymghyngorwch a'r B I OPHTHALMIC OPTICIAN, I IMwyaf enwog a galluog yn ICSTGHYMEIJ 3 H ENR Y"M LLOYD FR.M.5., M.R.P.S., L.A5.A-, I Dispensing Chemist a Ophthalmic Optician ft (By Exam. with Honours), I I 28, Victoria Street, I I MERTHYR TYDFIL. I GYUERBYN A DRWS TY'R FARCHNAD. | I O.Y.-OS YDYCH YN GLAF, PEIDIWCH OEDI, ond byddwch yn sicr o alw i wel'd H I MR. HENRY M. LLOYD, FFERYLLYDD, VICTORIA STREET, MERTHYR. « fl Mae ei feddyginiaethau rhyfedd wedi gwella miloedd. Mae sylw neillduol yn cael ■ I ei dalu i archwiliad y dwfr. H I Sylwch ar yr unig gyfeiriad:- < I 28 (Gyfubyn a'r VICTORIA STREET,, MERTHYR Farchnad.) N 28, VICTORIA street, MERTHYR»^J
Ymgom ar Ddysgeidiaeth KeswicK.…
Ymgom ar Ddysgeidiaeth KeswicK. I, Disgybl.—Gwnaeth ymddangosiad eich amiinelliad o 'Ddysgeidiaeth Keswick' greu ynof awydd cryf am ymgom genych. Clywais lawer o gondemnio ar y ddys- geidiaeth, ac awgrym weithiau ei bod yn cynwys h3resi haner-anffyddol. Disgwyl- iwn, yn wir, glywed eich bod wedi cael eich hysgymuno allan o synagogau eich henwad yn herwydd eich perthynas a h,. Carwn yn fawr gael goleuni pellach ar y ddysgeidiaeth hon. Athraw.—Gyda'r pleser mwyaf, fy nis- gybl ieuanc. Gadawer i ni ddeisyf cyfar- wyddyd a nerth Ysbryd Duw cyn dechreu -ein hymgom. Wei, gwn fel tithau fod liawer o gamliwio a cham-esbonio ar y 'ddysgeidiaeth hon gan ddynion anwybod- us a rhagfarnllyd. Paid ofnidim; nid oes ynddi gysgod cyfeiliornad, ac argy- boeddaf di mai dysgeidiaeth hollol Feiblaidd ydyw. Pell ydyw o fod yn new theology,' ond theology' cyn hyned a'r Dysgawdwr ddywedodd, 'Myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.' Disgy bl.- Beth sydd yn cyfrif am fodolaeth yr ysgol hon ? Athraw.-Esgusoda fi yo awr, rhag rhoddi hanes yr ysgol hon a sefydlwyd yn Keswick fwy na deg mlynedd ar hugain yn ol. Gwnawn hyny, os ewyllysi, ar ddiwedd ein hymgom. Credwa iddi gael cychwyniad yn yr argyhoeddiad dwfn fod bywvd lluaws o gredinwyr yn boenus amddifad o wir nerth ysbrydol. Yn gnawdol,' fel dywed Faul yn 1 Cor. iii. 3; yn ddigynydd a diffrwyth,' Heb. v., loan xv 5; ac mai rhagorfraint a dyled swydd pob credadyn yw myned i fewn i fywyd o lawenydd a thangnefedd gwas- tadol. loan xv. 11; xvi. 33; bywyd o fuddugoliaeth lwyr a chyson ar bob pechod, Rhuf. vi. 11; bywyd o wasanaeth €ffeithiol dros Dduw bywyd a grym Ei .adgyfodiad Ef' yn gweith o yn rymus ynddo a thrwyddo,' Phil. iii, 10; bywyd yn yr Ysbryd Glan, Rhuf. viii. 1, 2. Oedwyf fod gan yr ysgol hon genadwri arbenig i gredinwyr, Pwysleisia wirion- eddau Ysgrythyrol oedd wedi cael, ac yn oael eu hesgeuluso yn ormodol gan dduw- inyddion a dysgawdwyr crefyddol; a gwn fod canoedd o gredinwyr drwy oleuni*ei •chenadwri wedi myned i fewn. i\ b^'yd buddugoliaethus a gwynfydedig. Disgybl.—Soniwch yn eich hamlinelliad am chwech o risiau' gwir bwysig man- uals i'ch deall fydd esgyn y grisiaia' hyn, mi gredaf. Dyhead Jyfnaf fy enaid yw cael goleuni mwy ar y bywyd ysbrydol, fel y gwyddoch. Carwn i chwi fod yn isyml, a boddloni i mi ofyn cwestiynau. Athraw.—Gyda pharodrwydd, a cheis- iaf dy arwain yn ofalus a ris i ris. Cred- wyf yr ymagora byd newydd o dy flaen, ,ac yr ymdrechi fyned i mewn iddo. Y ris gyntaf yw' ymwrthodiad diatreg a phech- od ac a phob pwys sydd yn atal a rhwystro'r bywyd ysbrydol.' Gwyddost mai deffiniad loan o bechod yw aanghyf- uaith,' 1 loan iii. 4. Mae pob cyfraith yn ymgorffoliad o ewyllys. Mae cyfraith yr Arglwydd yn ymgorgoliad o EwyJIys yr Arglwydd.' fel mae y gwyriad gwanaf oddiwrth Ei gyfraith, a'r methiant lIeiaf i gydymfEurfio a'i gyfraith yn ol syniad loan, yn bechod. Felly, beth bynag sydd yn dy fywyd—gweithred, gair, meddwl, ewyllysiad—yn groes i Ewyllys Duw, sydd bechod,' ac yn rhwystr i dyfiant y bywyd ysbrydol. Ffrwyth fy sylw am profiad yw gelli ddangos llawer o weithgarwch a moesoldeb, a chrefyddoldeb, heb dy fod yn tyfu mewn nerth, ffrwythlondeb' ac ysbrydolrwydd. Dywed Pedr mai 'wedi rhoi heibio bob drygioni y cynyddir yn y bywyd ysbrydol—,1 Pedr ii. 1, 2. Mae y pechod lleiaf yn rhwystro tyfiant y %wyd. Disgybl.-A wyf yn eich deall-fod yn rhaid rhoi heibio bob pechod ? Athraw-—Oes, pob pechod a phwys.' Wrth gwrs, cytuna pawb fod yn rhaid rboi heibio arfer pechodau cyhoeddus, megys meddwdod, cabledd, anonestrwydd, digofaint, ceufigen &c. Ond yr wyf am ddod yn nes atat. Dichon fod yna bechod yn dy fywyd na wyr neb (,nd Duw a thith- au am dano—pechod fynwesir genyt- pechod parod gwranndo, rhaid i hwna gael myn'd, pa mor chwerw bynag yr oruchwyliaeth. Dichon hefyd fod genyt ryw arferion nas gellir eu galw yn bech- odau,' ond sydd yn bwysau.' Rhwystr- ant di i redeg ar negeseuau Duw, ac i rodio'n gymunol gyda Duw, Heb. xii. 1. Gwyddost beth olygai wrth bwysau '—y pethau hyny sydd rg amheuaeth yn eu cylch, a ydynt yn iawn ai peidio; y peth- au ddaw i'th gof ar nos Sul cymundeb, ac wrth ddarllen dy Feibl; y pethau ddaw o flaen dy wyneb pan yn cau dy lygaid mewn gweddi. Pan ofynaist a oedd yfed g!asaid o gwrw, ac ysmocio, a darllen nofelau, a mynychu'r theatre' a'r 4 foot- ball matches yn bechod ? gwelwn fod genyt ry iN amheuaeth yn eu cylch; ac y mae pobpeth amheus i gael eu 'rhoi heibio.' Cofia eiriau cyfaill i mi—' Os bydd genyt y doubt lleiaf a yw rhywbeth yn dy fywyd yn right, rho'r benefit o'r doubt i Iesu Grist.' Bwrw ymaith beth nad yw yn rhyngu bodd yn ei olyg Ef. Disgybl — Gwaith graddol iawn yw dringo y ris gyntaf, bith bynag. Athraw.—Nage cofia mai ymwrthodiad diatreg a phob pechod a phwys sydd i fod. Dyna syniad Paul yn y ffigwr ddefnyddia yn Eph. iv. 22. Gwn y dywedir yn gyff- redin mai gwaith graddol yw sancteiddhad. Ofoaf y cysgoda llawer tu ol i lwyn y syn- iad hwn i bechu, ac mae eisieu ei symud. Graddol yw'r gwaith o wisgo y dyn new- ydd;' ond uniongyrchol yw'r gwaith o ddiosg yr hen ddyn.' Gad i mi roi engh- raifft hawdd ei hamgyffred. Achubwyd lleidr yn y diwygiad; cyfiawnhawyd ef drwy ffydd yn uniongyrchol. Yn awr, ai graddol yw ymwrthodiad hwn a phechod i fod ? Lladrataodd 500p y flwyddyn cyn ei a> hubiaeth. Ai ei gymhell i ladrata dim ond 200p wnawd v flwyddyn wedi'r diwyg- iad, a 50p y flwvddyn ar ol hyny, a 10p y flwyddyn ddilynol ? Nage, ond cyhoeddi uwch ei ben, Yr hwn a ladrataodd, na latrataed mwyach.' Os felly gydag un pechod, felly gyda phob pechod. Nid yw'r gwaith saucteiddiol yn cychwyn nes ymwrthod a phob pechod gwybyddus a gwirfoddol. Disgybl. — Ofnwyf eich bod yn dysgu perffeithrwydd I Athraw.-Wel, gadawn hi heno yn y fan hon, hyd y tro nesaf.
Advertising
CANADA The cry for unskilled Labour greater than ever. Splendid oppor, tunities for healthy men and women. Britain's nearest and greatest colony. 160 Acres Free Get your own Farm quit paying Rent; Happy Homes; Healthy Bracing Climate; Under the old Flag; Cheap Fares; Comfortable and Speedy Travel. Work is found On Farms for experienced or inez, perienced Men, for Domestic Servants,, for Navvies, Carters and all willing workers. For Maps, Pamphlets, lufl information and directions, apply- J. BRUCE WALKER, Assistant Superintendent Canadian Emigration, ir-i2, Charing Cross, London, S.W., or to H. M. MURRAY, 81, Queen Street, Exeter. -=-¡¡.
CWMDAR. ..--",
CWMDAR. MR. GOL.Yn mysg y pentrefi bychain sydd o amgylch i dref boblogaidd Aberdar (cartref 'Tarian y Cweithiwr '), nid y Ileiaf mewn pwys yw Cwmdar. Er nas gwn am rhamant bwysig yn hanes y lie, nac hanes am un rhyfel t wysig a ymladdwyd ar y fan hon o'r ddaear, eto y mae yma ddigon o bethau o ddyddordeb yn hanes y lie i ofyn am oiod bychan o'ch papyr i'w traethu. Y mae Natur wedi cynysgaeddu y He hwn a digon o amrywiaeth golygfeydd fel ag i'w wntul yn ddyddorol i'r rhai hyny sydd yn hofif o olygfeydd naturiol. Yn yr haf gellir syllu gyda phleser ar y meusydd gwyrddion, y bryniau cribog, y graig gadarn, a'r goedwig fawre dog. Brith- lr y mynydd a defaid, a bryniau a chwning- od, y goedwig ag adar o bob math—o'r dryw bach at y gwcw fwyn, ac o'r ystlumun at yr hebog. Os nad yw trigolion y He yn cael cyfle i wrando hwiangerdd yr eos ar fin nos, cant eu gwala o seiniau y deryn du, y fronfraith, a'r ehedydd bach yma bob blaryddyn. Nid yw y llwynog ffals ychwaith wedi llwyr adael y He, oblegid y mae iddo le braf a dinas noddfa yn Nghraig y Bwllfa, lie y gall edrych yn llyg- aid y cwn hela a'u herio, unwaith y caiff ei draed ar ddibyn y graig non. Y mae safle ddaearyddol Cwmdar yn dda hefyd. Saif yn uchel ar y bryniau, gan wynebu ar y deheu (south)-site iachus, ys dywec y doctoriaid. Y n amI galluogir trigolion y lIe i edrych i lawr ar Drecynou ac Aberdar fel lleoedd sydd yn cael eu gordoi gan niwl y glyn, pan y byddant hwy yn mwynhau pelydrau llachar y boreu yn mhell uwchlaw y niwl. Yr wyf wedi sylwi gyda phleser lawer boreu ar y niwl yma fel pe ar ei oreu i ddringo^ryn Gobaith, a'r haul mawr yn ei fwyta cyn y cyrhaedda gopa'r bryn. Gwelir y niv, I hefyd yn ceisio dod i fyny dros afon fejhan y Dar, ac y mae yn llwyddo i fyned i'r lan bob cam o'r ffordd i'r Bwllfa; ond pan yn ceisio croesi y meusydd i g/meryd tref fechan Cwmdar yn garcharores, j mae yn methu yn ei ymgais yn ami iawn y mae pelydrau yr haul yn y dyffryn, fel y mae'r tywod yn cadw'r mor yn ei wely. Nid yn ami y gwelir professional tramp' yn Nghwmdar ychwaith, oherwydd nid oes yma ffordd i un man ond i'r myn- ydd a'r gwaith glo, ac nid yw y 'tramp,' fel rheol, yn hoff iawn o un o'r ddau Ie. Y mae son am y mynydd yn peri i ni gofio am lawer trem gafwyd ar ddyffryn Aberdar o gopa'r bryniau hyn. Os edrychir tua'r gogledd, ceir oddiyma olygfa ysplenydd ar Fanau Brycheiniog; ac os edrychir yn fwy tua chodiad haul, gwelir meusydd pryd- ferth Ysguborwen ac Abernantar y llethr- au draw. Nid ffol ychwaith yw yr olygfa ar dref Aberdar o'r bryniau hyn, Ar ddi- wrnod clir, gwelir y dref yn bentwr o dai cryno odditanona megis a chlochdy yr eglwys 3'i ysgwyddau yn uwch na'r holl adeiladau, tra mae'r bryniau sydd o'r tu cefn i Gwmbach yn ffurfio I back-ground rhagorol i'r darlun, a'r bont fawr fel pe yn nodi ffin y dref tua chyfeiriad Cwmdar, Nid yw y lie hwn yn henafol iawn fel pentref. Dywed Hanes Morganwg mai tua'r flwyddyn 1853 y dechreuwyd adeiladu tai yn y pentref. Cyn hyny, nid oedd yma ddim ond ffermdai yma a thraw, a thebyg fod y lIe yr adeg hono yn llawer mwy pryd- ferth a rhamantus yr olwg arno nag yn bresenol. Yn sicr, nid yw y pyllau glo weci gwelta dim ar wyneb anian, na gloewi dim ar ddyfroedd yr afon ychwaith. Dywed yr un hanesydd, sef y diweddar Dafydd Morganwg, yn ei lyfr rhagorol a nodwyd, sef (Hanes Morganwg,' fod yma dri phwll glo wedi eu suddo yn y blynydd- oedd 1851, 2, 3, sef rhai a elwir genym ni yn awr wrth yr enweu Bwllfa, Pwll Rhys, a Phwll Powell. Eto, cawn fod yma un lefel yn cael ei gwsithio mor foreu a'r flwyddyn 1750, sef Lefel Penrhiwllejh, yr hon oedd ger amaethdy Penrhiwllech. Ond te gafodd yr amaethwr lonydd am dipyn wedyn, fel y gwelir uchod, i godi llawer cnwd o yd cyn i fasnach ddod a'i chyllell fawr i dori y ddaear, a thynn ei pherfedd- ion i fyny, er rhoddi tan cynhes i rai fyddai yn oer ar for a thir. Ond yn 1853, daeth y masnacbwyr yma i aros, ac yn fuan gwelwyd yma bentref crwn yn cynwys tua 137 o dai gweithwyr, tri chapel, ac ysgoldy i blant y lie. Ych- ydig ar ol hyn, cawn fod y rheilffordd yn estyn ei braich haiarn i fyny at y pyllau, nes peri i Gwmdar ac Abertawe ysgwyd dwylaw megis. Dilynwyd y fraieh hon gan fraich haiarn arall a ymestynai i fyny o Gaerdydd i ofyn am y black diamord,' ac y mae y ddwy fraich gref yma yn parhau i dynu y glo o Gwmdar. a'i wasgaru i bedwar ban y byd oddiar hyny. Ha fasnach greulon. y mae ol dy fys- edd duon di yn ddwfn ar Gwmdar heddyw. Nid oes yd i'w weled ar y meusydd mwy- ach, ond yr wyt wedi metbu cuddio y glaswellt gwyrdd, na'r blodau gwylltion sydd fel bwtymav prydfeath yma. Er i ni daflu yr ysbwrial du dros wyntb glan y meusydd, eto y mae y glaswellt yn penderfynu gwisgo y creithiau duon hyn a siaced werdd yn y gwanwyn a'r haf. Ac er i ti dori liawer o goed yn y He hwn, y mae yr adar yn par- hau i nythu yn y llwyni; ac os y llwydd- aist i drochi dyfroedd tryloewon y Dar, y mae yn penderfynu rhedeg i Gaerdydd a'i gwyneb yn ddu ar dy waethaf. Aberdarian. (I'w bar ha u.)
Cyfarfod Misol Methodis. tiaid…
Cyfarfod Misol Methodis. tiaid Calfinaidd Dwyrain Morganwg. Cynhaliwyd yr uchod am y mis hwn yn Bethania, Treharris, dydd lau diweddaf. Llywydd y Parch T. P. Thomas, Hafod.
Y Cyfarfod Nesaf.
Y Cyfarfod Nesaf. Yn ol gwahoddiad caredig yr eglwys, trefnwyd i'r cyfarfod nesaf i fyned i Seion, r Trealaw, Ebrill 3ydd a'r 4ydd. Yn lie Seiat gyffredinol rhoddir yr amser i holi a derbyn blaenoriaid newyddion yn aelodau o'r Cyfarfod Misol.
Ymgeiswyr am y Weinidogaeth.
Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Rhoddwyd caniatad i'r Mri W. H. Williams, Penygraig, Richard Thomas, Crwys road, Caerdydd, Dd Walter Step- hens a John Felix, Heolfach, i gychwyn ar waith Cyhoeddus y Weinidogaeth yn ol y cwrs darparedig.
Trosglwyddiad Gweinidog.
Trosglwyddiad Gweinidog. Darllenwyd Uythyr Cyflwyniad y Parch B. T. Evans o Frycheiniog i Forganwg, a chroesawyd ef yn galonog dros y Cyfarfod Misol gan y Parch W. D. Morris, Cwm aman, a W. Davies, B.A., Caerdydd.
Llythyrau Cydymdeimlad.
Llythyrau Cydymdeimlad. Penderfynwyd i anfon llythyrau yn datgan cydymdeimlad y Cyfarfod Misol at y Parch J. Har is Jones, Aber- aman, yn wyneb marwolaeth ei fam ac at y Parch J. Morgan, Ynyshir, yn ei gystudd trwm. Hefyd at weddwon Mr Peter Rees, Ty Capel, Gyfeillion, a Mr Wilde, Llanilltyd Fardre, a phersonau ereill.
Achosion ac Adeiladau Newyddion.
Achosion ac Adeiladau Newyddion. Trefnwyd i'r pwyllgor adeiladu i fyned i Ystradmynach er ymgynghori a'r pwyll- gor lieol ynghylch dewis site addoldy newydd. Methodd y pwyllgor adeiladu a chymer- adwyo plans capel newydd Merthyr Vale, oherwydd ei fod yn darpar am tror ychydig o eisteddleoedd. Caniatawyd i eglwys Cwmdar i fyned rhagddynt ag adgyweiriad y capel os enilla eu cynlluniau gymeradwyaeth y pwyllgor adeiladu. Penderfynwyd anfon llythyr at ysgri- fenydd Cyfarfod Misol y Gorllewm yn awgrymu y priodoldeb iddynt hwy gych- wyn achos newydd yn y Bryna gan fod yr ardal yn gorwedd yn fwy arbenig o fewn Cylch Gorllewin Morganwg.
Maes Llafur yr Ysgol Sul.
Maes Llafur yr Ysgol Sul. Trefnwyd yr uchod ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y canlyn-Dosbarth Hynaf, Matthew I-VII, arholwr, Parch J Emlyn Jones, Porth. Dosbarth Canol, Actau IX-XVIII, arholwr, Parch H W Thomas, Porth. Dosbarth dan 16, Actau IX— XVIII, arholwr, Pareb W Davies, B.A., Caerdydd. Dosbarth dan 13, Hanes Iesu Grist o'i Enedigaeth hyd y Pasc Cyntaf, arholyddes, Miss Edith Price. Dosbarth dan 10, Yr un maes a'r diweddaf, arholydd, R Williams, Llantrisant.
Achosion 0 Flinder.
Achosion 0 Flinder. Cyfiwynwyd gan y Parch J Morgan Jones, Caerdydd, a Mr Walter Williams, adroddiad nianwl a thrylwyr o'u hymch- wiliad i'r amgylchiadau anhapus ynglyn ag eglwys y Dyffryn Rhondda, yr hyn a ddangosai eu bod wedi llwyddo i olrhain y diffyg arianol i'w ffynhonell, nes cwbl glirio cymeriad moesol y gweinidog a rhoddi boddionrwydd i feddwl yr eglwys. Hefyd cyflwynwyd gan y Parch J Morgan Jones, adroddiad y pwyllgor a fu yn yr Aber yn gwrando cyhuddiad ar gwestiwn o athrod yn erbyn person neiil- duol yno. Cymeradwyai y pwyllgor i wneyd diarddeliad hollol o'r Cyhuddeaig o'r pglwys gan ei warafun i ymielodi yno mwyach. Cyflwynodd y Parch M H Ellis, Trealaw, adroddiad y pwyllgor fu yn Lib- anus, Aberaman, yr hwn a gymeradwyai fod holl flaenoriaid a gweinidog yr eglwys iggael eu diswyddo fel canlyniad yr an- ghydfod yn eu plith. Cadarnhao d y Cyfarfod Misol yr adroddiadau uchod ac awdurdcdwyd y pwyllgorau drachefn i ymweled ?'r eglwysi er dwyn y penderfyniadau i weithrediad, a threfnu ar gyfer y dyfodol.
Pry dies a'r Goll.
Pry dies a'r Goll. Penodwyd pwyllgor i wneyd ymchwiliad ynghylch prydtes ty gweinidog Heolfach yr hon drwy ryw amryfusedd neu gilydd sydd heb gyrhaedd Cist haiarn y C.M.
Ymweliad Cranogwes.
Ymweliad Cranogwes. Rhoddwyd croesaw cynhes i Miss Rees (Cranogwen) ar ei hymweliad a'r cyfarfod misol ar ran Undeb Dirwestoi Merehed y De. Cafwyd ganddi anerchiad gwych yn apelio am tiawdd a chydweithrediad y cyfarfod misol ynglyn a'r mudiad teilwng sydd o dan ei gofaf hi, a phenderfynwyd ar gynygiad y Parch J Morgan Jones i gyd ymffurfio a'r apel gan ddatgan llawen- ydd oblegid y llwyddiant a'r cynydd sydd yn hynodi yr undeb.
Y Seiat Cyffredinol.
Y Seiat Cyffredinol. Yn y prydnawn cafwyd Seiat eglwysig pan yr agorwyd ymdriniaeth ar y testyn, Haelioni Crefyddol,' gan y Parch D Jones, M A, Penrhiwceiber, yn cael ei ddilyn gan amryw frodyr ereill. -:0:-
BLAEN RHONDDA.
BLAEN RHONDDA. Canu Gyda'r Delyn. Nos Lun, Chwefror lleg, 1907, yn ughapel y Methodistiaid yn y lie uchod (pa rai a fu mor garedig a rhoddi ei fenthyg i'r Annibynwyr) cafodd canoedd y pleser o glywed y datganwr enwog Eos Dar a'i gwmni talentog Miss Eliza Hall, Burry Port (un o brif gantoresau cyng- herddau Cymru), a Mr Tom Bryant, y telynor ieuaDc enwog, yn myned trwy eu Rhaglen o 4 ganu gyda'r delyn.' Cafwyd hanes canu telyn; llyfrau a darnau ynddynt at y gwasanaeth hyny tai canu telyn penillion telyn trioedd a triban- au i'w canu gyda'r delyn gan y datganwr enweg. Canodd yr Eos hefyd e: greifft- iau o hyny. Dyddorol dros ben oedd y datganiad o'r penillion rhyngddo ef a Miss Hall. Cafodd Miss Hall dderbyn- iad gwresog- Canodd gyda'r delyn y caneuon caulynol, a bu yn ofynol iddi ail ganu rhai o honynt' Hedydd Lon,' Y fam a'i baban, Gwlad y delyn,' Clychau Aberdyfi.' -Amser hapus dreuliwyd yn i' Bryn y Delyn/ yi yr hen dy lie 'roedd pistill bach gloew yn disgyn dan ganu wrth dalcen y bwthyn. Yn hynod o shy oedd Miss Hall pan yn canu y gan am beidio dweyd wrth ei charir d.' Merch Bryn y Delyn oedd Miss Hall y nos hon. Cynrychiolai yr Eos mab-yn-nghyiraith y ty hwnw-canmolai ef ei wraig yn hwyl- us. 'Yn -wir,' meddai. 4 Mae'n werth rhoi diolch am wraig Ion, ac aelwyd lan,' a diameu genyf fod yno ^anoedd yn cyduno ag ef. Coron pob cartref yw boneddiges hawddgar ac aelwyd lan a chysurus. Rhoddodd Tom Bryant dreat o'r fath oreu yn y fan hon, a bu yn ofynol iddo ail chwareu. Cafodd y telynor a'r delyn dderbyniad tywysogaidd. Traethai yr Eos yn hwylus ac eglur, ac yn hynod o ddyddorol, rhwng y siarad bywiog a'r canu gwresog a hwylus, a swn y tanau yn cael eu tynu yn swynol; ac aeth dwy awr heibio heb yn wybod. Carem yn fawr gael Melus moes eto.' Llywyddwyd yn absenoldeb E H Davies, Ysw., Y.H., Pentre, gan Mr S Nicholas, yn ddeheuig. Talwyd diolchgarwch i'r darlithydd a'i gwmni, i'r cadeirydd, ac i'r brodyr a'r chwiorydd am fenthyg y capel, a diwedd- wyd trwy ganu Hen wlad fy nhadau.' Cetais ar ddeall fod yr Eos a'i gwmni yn agored i dderbyn ymrwymiadau. Danfoner ato ef i'r Maerdy. Pob llwyddiant iddynt, ni bydd yn edifar gan neb o'i ddweyd. IAGO RHONDDA.
Urdd y Rechabiaid
Urdd y Rechabiaid Cyfrinfa Lili Glancynon, a gynelir yn Saron Hall, Aberaman. Nos Sadwra diweddaf, da oedd genym gael y pleser o dderbyn yn aelod Dr Pearoyd, Swyddog Meddygol i Drysorfa Feddygol Gweithwyr Aberaman (Aberaman Workmen Doctor's Fund).' Siaradodd amryw o'r brodyr yn llon- gy:arch y Drar ei dderbyniad i'r Urdd. YSG.
Codi Pris Glo a Chyflogau…
Codi Pris Glo a Chyflogau y Glowyr. t 1 Penderfynodd c/farfod o feistri a chyn- i rychiolwyr y glowyr yn Dean Forest, dydd Mercher, godi pris glo at wasanaeth tai swllt y dynell, a chyflogau y glowyr bum punt y cant, o ddydd Gwener.
Advertising
DR. HOPKIN'S BLAST PILLS BLAST PILLS The celebrated Pill, originally prescribed by the late DR. HOPKINS, of Oarmarthen, for the cure of ERYSIPELAS, or as it is frequently called by the Welsh-speaking Inhabitants of this neighbourhood BLAST. Under such a name these pills are now sold and sent all over the land. The words Dr. Hopkins' Blast Pills are familiar in thousands of ho mes, and they have been the means of bringing health to innumerable sufferers. Try them for yourself, and be convinced of their wonderful efficacy. This justly celebrated pill is without doubt the safest and best remedy to resort to for all kinds of influenza, fevers, skin diseases, sore teps. t blood poisoning, glandular enlargements, catarrh of the stomach, jaundice, dropsy, gout, headache, indigestion, kidneys, backache, bilious and sore complaints. it « PERFECT HEALTH.—If yon wish tc recover or retain perfect kealth, cheerful spirits, con- tented mind, consequent on good digestion, you may attain the desired object by taking a dose of DR. HOPKINS' BLAST PILLS at bed-time occasionally. There is no pill to compare with it. Send for a box at once. They are sold in lilt and 2s. 9d. boxes, and prepared only by the sole proprietor, Arthur Arthur, Chemist & Druggist 6, NOTT SQUARE, CARMARTHEN, And see that his name Is on the Label, together with the bill showing the picture of Old Mortimer's Shop, Hen Siop Mortimer, where the late Dr. John Hopkins, M.D., used to have all his Prercriotions made up, and which is now, together with all the old books and Prescriptions, owned by AliTlltlR ARTHUR. Y Feddyginiaeth Fawr Gymreig. QUININE BITTERSGWILYMBVAJIIS QUININE BITTERS GWILYM EVANS Y mae miloedd wedi cael iaehad trwy ddefnyddio y meddyglyn UIfI- bydmarol hwn, pan oedd pob ll £ D0YG»liAETH ARAU. WEDI MTW. Ni ddylai uo teulu fod hebddo. Mynwcb ei gaeL Adfera I echyd cyflawn. Y mlidia afiechyd ymaith. Nid yw bytb yn siomi. Rhoddwcb brawf arno. QUINPNE BITTERS GWILYM EVANS QUININE BITTERS GWILYM EVANS Meddyginiaeth Lysieuol Y MAE QUININE BITTERS GWILYM EVANS QUININE BITTERS GWILYM EVANS Yn cynwys rhinweddau iachaol Quinine, Sarsaparilla, Saffrwm, Lafant, Dan ty Hew, Crwyn- Ilys (Gentian) a'r Cynghaw (Burdock), &c.; mewn gair mai braidd pob llysieuyn a gwreiddyn meddvoiniaethol yr y meddyglyn rhy:- fedd hwn ac y .i»aent wedi cael eu par- oto a'u cyfartalu i wneud cymysgedd cel- fyddydgar o'r fath mwyaf hapus a Uwydd- ;an us i sicrhau cydweithrediad yr elfenau meddyginiaethol a gynwysir yn y llys- iau hyn.ac i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg wrth barotoi y feddyg- iniaeth hon. Derbynircanoedd o dystiotaethau yn flynyddol yn tystio nad oes un meddyglyn a all gystadlu ag ef mewn effeithiolrwyad i symud ymaith holl anhwylderau y cyila, yr afu, a'r giau. Mae rhai o feddygon goreu deyrnas yn defeyddio Quinine Bitters Gwilym Evans. Quinine Bitters Gwilym Evans QUININE BITTERS GWILYM EVANS Gwelir felly fod y Quinine Bitters hyn yn feddyginiaeth anmhris- iadwy ac a barnu oddiwrth brofiad doctoriaid, teithwyr, fferyll- wyr, gweinidogion, a chanoedd lawer gleifion wedi gwella, y mae yn feyddyg iniaeth anfFaeledig. Pabam y dy0d4- efwch mwyacb oddiwrthy doluriau ucbod, pan y mae meddyginiaeth naturiol, syml, ac effeithiol i'w chael ? QUININE BITTERS GWILYM EVANS Er RHYBUDD GOCHELWCH DWYLLWYB, Edrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp, a PboteL Gwerthir ef mewn poteli 2b. 9c. a 4s. 6c. yr un; blycbau yn cynwys tair potel 48. 6c. am 12s. 6c. I'w cael yn mbob man, sett danfonir ef yn rhad am prisiau ucfeod drwy y post yn uniongyrcbo oddiwrth Perchenog;on QUININE BITTERS GWILYM EVANS QUININE BITTERS GWILYM EVANS TYSTIOLAETH. 18, Railway st., Lewistoo Treharris. Anwyl Syr,—Y mae yn bleser genyf eich bysbysu fod Quinine Bitters Gwilym Evans, yn ngbyd a'r Digestive Pearls, wedi bod ya foddion i'm gwella ar ol dyoddef yn hir gan Ddifiyg Treuliad. Y mae caethiwed fy ngalwedigaeth mewn siop dilledydd yn tueddu I niweidio fy iechyd, a'm gwneud yn bruddglwyfus, ond y mae eich meddyginiaeth chwi yn cryfhau y eyfansoddiad a bywiogi yr ysbryd mwy nag un feddyginiaeth a gy- merais o'r blaen. Yr wyf yn galonog yn ei gymeradwyo i'1II ho gyfeillion, canys credaf ei fod yn gaffaeliad gwerthfawr i'r cyhoedd. Yr eiddoch yn ffyddlawn, E. J. Wareham. QUININE BITTERS GWILYM EVANS QUININE BITTERS GWILYM EVANS YW MEDDYGINIAETH OREU YR OES, AT Ofnau Disail, Gwei.did, Iselder Ysbryd, Pruddglwyf, Diffyg Treuliad, Dim archwaeth at fvyd Anbwylderau y Frest Anwyd, Gwaed Anmhur Quinine Bitters MANUFACTURING COMPANY, LIMITED LLANELLY, SOUTH WALbS 4 *0