Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Advertising

.---" YR WYTHNOS. i

DINAS—GWAHODDIAD BTJGEIL-!…

: 0: CAPCOCH.

--0"'-MERTHYR TLDFIL AR DDYDD…

- CYFARFOD MISOL DOSBARTH…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD MISOL DOSBARTH Y GLO CAREG. a. 0: Cynaliwyd yr uchod Ddydd Gwyl Dewi yn ystafell y gymdeithas yn Aber- tawe. I? r oedd llu o gynrychiolwj^r yn bresenol. Llywyddwyd gan Mr. T. Daronwy Isaac, Abertawe. Cadeiriwyd gan Mr. John Morgan, Trimsaran, ac is-gadeoriwyd gan Mr. W. E. Jones, Ystradgynlais. Wedi myned trwy y rhagddarpariadau arierol, yn nghyd a darllen a chadarnhau y cofnodion, aeth- pwyd yn mlaen a'r gwaith yn ol trefn y rhaglen. 1. Cafwyd adroddiad i'r perwyl fod cyflafared dwyr y meistri yn N glota Tirbach erbyn hyn wedi gweled eu ffordd yn glir i gydnabod yr egwyddor a ddaclleu wyd gan gyfiafaredd wyr y gweithwyr parthed y dull o dalu am headings, felly mae y caniatad a gafodd y gweithwyr i osod eu rhybuddion i fewn wedi darfod, ac arwyddion sicr y terfynir y llechres newydd drwy gyd- ddealltwriaeth ac mewn heddwch. 2. Darllenwyd llechres newydd Glofa Tirdail. Er nad yw yn hollol ddi- frychau yn ngolwg y gweithwyr, eto y mae y peth goreu oedd yn bosibl gael dan yr amgylchiadau, ac yn ol y tystiol- aethau oedd gerbron y cyfiafareddwyr. Pasiwyd pleidlais o gymeiadwyaeth i'r cyfiafareddwyr, ac o arnogaeth .i'r gweithwyr i wneuthur prawf teg arni. 3. Penderfynwyd cefnogi pwyllgor Glofa Henllys Vale i hawlio llechres newydd ar y Wythien Isaf. Yn ol adroddiad y cynrychiolydd, mae prawf digonol wedi cael ei wneyd ar y wythien er gosod pris iawn arni, a dymuna'r cyfarfod weled y pwyllgor yn hawlio hyn yn ystod y mis, ac os methant, yna eu bod i gael caniatad gan y Cyfarfod Dosbarth nesaf i osod eu rhybuddion i mewn. 4. Cafwyd adroddiad o'r Gwendraeth ar fod y gweithwyr wedi gosod eu rhy- buddion i mewn yn unol a'r caniatad a gawsant yn y Cyfarfod Misol blaenorol. Y maent i ddileu y double shift, gweithio ar nos Sul, yr arferiad pres- 'I. enol yn nglyn a'r drams, ac hefyd mater yr anundebwyr. Parthed y ¡ cwynion r»: ill y maent yn cael eu rhoddi i farn a chydwybod y goruchwyl- wyr. Dymunir am i'r Pwyllgor i ddal gohebiaeth ag ef yn ystod y mis, a I cheisio cael cyd-ddealltwriaeth gyda golwg ar y drefn a gvmerant i lanhau'r ty- 5. Penderfynwyd drwy fwyafrif I mawr i beidio talu cynrychiol- wyr y cyfrinfaoedd allan o dry- sorfa'r Dosbarth, ond fod pob cyfrinia I i ddwyn ei chostiau ei hun gyda golwg ar bob cynrychiolaeth fyddo am gael. 6. Cafwyd adroddiad o Abercrave ar fod cytundeb glo-dan-drwch y pedair hyd yn hyn heb ei arwyddnodi, ond fod y perchenogion yn aros am ganiatad, neu gyfarwyddyd cymdeithas y meistri gyda golwg ar hyn. T. Penderfynwyd apelio at y bonedd- igion canlynol i wneyd pob ymdrech i fod yn 'bresenol yn eu seddau yn Nhy y Cyffredin ar Fesur yr Wyth" Awr, yr j hwn sydd i ddyfod gerbron ar noson y 5ed cyfisol: -Lloyd Morgan, Ysw., A.S., Gorllewin Caerfyrddin; Abel Thomas, Ysw., A.S., Dwyrain Caerfyr- ddin; S. T. Evans, Ysw., A.S., Canol- barth Morganwg; Charles Morley, < Ysw., A.S., Brycheiniog; J. Aeron j Thomas, Ysw., A.S., Gower; George Newnes, Ysw., A.S., Abertawe. Pen- derfynwyd hefyd fod yr ysgrifenydd, mewn undeb a chyn rychiolwyr dos- barthiadau ereill, i ymweled ag aelodau Seneddol yn y Brif Ddinas i'r dyben o geisio sicrhau mwyafrif i'r mesur. 8. Penderfynwyd foa y dosbarth i fod yn gyfrifol am yr amgylchiadau a fyddo yn dilyn hawlio llechres newydd i lofa'r Gilwen. Rhoddir annogaeth i'r lofa i wasgu'r mater rhagblaen, ac i weithredu yn unol a chynghor a chyfar- j wyddyd y goruchwylwyr. 9. Penderfynwyd rhoddi annogaeth daer i hell weithwyr y dosbarth i fod yn dra gofalus gyda golwg ar weithio overtime. Anghysondeb fyddai gweithio mwy na naw awr yn bresenol3 ac ar yr un pryd i hawlio wyth. Pan fyddo amgylchiadau yn galw am weithio mwy nag amser un diwrnod, taer ddy- munir am dynu hyn yn ol y diwrnod dilyn ol, ond hyd y mae'n bosibl, dy- munir am weithio dim ond amser bob dydd-" Dogn dydd yn ei ddydd." Jno. D. Morgan, Ysw. O.Y.-Bydd y Pwyllgor Gweinyddol dithio bob yn llinell, ac yn gorfod aros yn cyfarfod v Sadwrn nesaf i'r dyben o derfynu'r rhaglen.

--:0: CYNRYCHIOLAETH LAFUR-

-:0:-Gwledd yn St. James's…

Y Gyngherdd.

Advertising

Dosbarth Aberdare.

Cwmdar.

Advertising