Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
TEYRNGED Y CYHOEDD.
TEYRNGED Y CYHOEDD. Yroedd y bobl wedi (lnchreu ymgasglu tuallan i Westminster iiall mor foreu a dau o'r gloch; a phan darawodd Big Ben (cloc mawr y Senedd), 6, yr oedd tyrfa aruthrol wedi dyfod yn nghyd o bob cyf- eiriad, ac yn estynedig o'r Palace Yard i Bont Westminster. Yr oedd yr heddgeid- waid yn eu llawn nerth yno, a gwisgent oil y Jubilee Medal. Llosgai pedair canwyll yn syml ger yr arch, yr hwn a osodwyd mewn man eglur i'r cyhoedd gael cipolwg arno ac yr oedd y llwybr lie y tramwy- ent heibio yn rheiliedig i fewn, tufewn i ba un ni chaniateid ond i'r swyddogion, aelodau Seneddol, ac erejll fyned. wnflfc. lifo heibio, dangosid y parch dfiOAf i weddillion yr hen wron oedranus, a thyn- ai pawb eu hetiau, a gwnaed arwyddion eieill o barch gan dramoriaid, milwyr, a phawb a gyfansoddent y dorf oeddynt yn araf gerdded drwy y neuadd enwog ac henafol. Ychydig wedi wyth o'r gloch, gwelwyd Lady Harcourt, yr hon a safodd am ychydig gerllaw yr arch. Hyebyeid fod y dorf a elent heibio am naw o'r gloch yn rhifo tua dau gant bob munyd. Yr oedd tua dwy fil o heddgeidwaid yn gwas- anaethu o gwmpas Mynachlog Westmins- ter, dan gyfarwyddyd Syr Edward Brad- ford, ac yr oedd trafnidiaeth ar hyd yr lieolydd wedi ei atal i raddau helaeth. Ymwelodd miloedd o bob dosbarth a gradd a'r neuadd ya ystod dydd Iau a dydd {jwener, ac yr oedd y canoedd milwyr o bob rhan o'r fyddin a'r llynges, a'r nifer lluosocaf a didor o'r dosbarth gweithgar a .alent heibio yn araf ddangos pa mor auwy, a pharchus yr oedd yr Hen Wron An rhydeddus ganddynt.
YN Y SENEDD, FOREU DYDD '…
YN Y SENEDD, FOREU DYDD SADWRN. Mewn cydymffurfiad a phenderfyniad a "basiwyd yr wythnos ddiweddaf, cyfarfu aelodau y ddau Dy heddyw, er bod yn bresenol yn angladd Mr Gladstone. Agor- wyd Ty yr Arglwyddi yn foreu iawn, ac hefyd Dy y Cyffredin. Y cyntaf i gyr- haedd ydoedd Syr Benjamin Stone, yr hwn a ddaeth i gymeryd y darlun olaf o'r arch cyn ei symud i'w orphwysfan olaf. Ni chyrhaeddodd y mwyafrif o'r aelodau, hyd nes yr oedd wedi naw o'r -gloch. Cyrhaeddodd y Llefarydd yn gymhwyg am 7 mynud wedi deg, wedi ei wisgo yn ardderchog yn ei ddillad swyddogol, y rhai oeddynt yn addurnedig ag aur, gyda menyg duon ar ei ddwylaw, a • buckles' duon ar ei esgidiau. Yr oedd y Sergeant- at-Arms yntau yn ei alarwiscr. Mor gynted ag v daeth y Llefarydd i fewn, cododd yr holl aelodau ar eu traed yn ben-noeth, hyd nes y cymerodd ei sedd. Yna cymerodd yr aelodau eu seddau i aros hyd y cawsei-t eu gwysio i'r neuadd gyfagos. Mewn ychydig fynudau gwelid Arglwydd Stanley, un o 4 whips' y Llywodraeth, yn dynesu at y Llefarydd, ac wedi ychydig y»agona ftg • croesodd drachefn at Syr Wm Harcourt, gyda'r hwn hefyd y cafodd ychydig eiriau. Am 20 mynud wedi 10 o'r gloch, cododd y Llefarydd yn ei le, a dilynwyd ei esiampl gan yr oil oeddynt yn bresenol. Dynesostd y Sergeant at Arms at y bwrdd, a chan godi y Mace ar ei ysgwydd, blaenorodd y Llefar. ydd i lawr i'r Lobby mewnol, ac wedi hyny dilynodd corff cyffrediuol yr aelodau, a ffurfiwyd yn orymdaith yn y drefn a ganlyn —Pnf Arolygydd Horsley, perthynol i hedd- geidwaid Ty y Cyffredin dau was y Col lege of Arms prif negeswyc y Ty, y Ser- geant at Arms, y Llefaryddyei gaplan, a'i ysgrifenydd clercod y bwrdd. Privy Coun- cillors, aelodau ereill y ddwy Fainc Flaenaf, ac aelodau ereill. Ffurfiodd yr aelodau eu hunain yn orym- daith bob yn bedwar, a'r rhai a ddilynent y swyddogion yn uniongyrchol oeddynt yr Ysgrifenydd Cartrefol, Canghellydd y 1.ry sorlys, Syr John Mowbray, a Syr William Harcourt, ac ar eu hoi Arglwydd George Hamilton, Syr Charles Diike, Mr Ritchie, a Mr Chamberlain. Am 10.25 symudodd yr orymdaith yn araf drwy y Neuadd Ganol i Neuadd St Stephan.
YR ARGLWYDDI.
YR ARGLWYDDI. Yn Nhy yr Arglwyddi, cymerodd yr Ar- flwydd Ganghellydd ei sedd, ac amlygodd ua 170 o'r aelodau eu bwriad i fod yno, ac yr oedd y rhan fwyaf o honynt wedi dyfod yn nghyd ar yr awr weddi, ychydig wedi 10 o'r gloch. Yr oeddynt oil mewn galarwisg- oedd. Wedi aros hyd 10.30, cododd y Canghellydd a dywedodd-Fy Arglwyddi, y mae yn ddymunedig arnoch i uno yn bobo bed war mewn gorymdaith. Bydd i Archesgob York fy nilyn i, yna aelodau y Llywodraeth bresenol, a'r gweddill o'r arglwyddi yn ol eu safle.
YN NEUADD WESTMINSTER.
YN NEUADD WESTMINSTER. GOLYGFA DDIFRIFOL. Am 9 o'r gloch, agorwyd drws deheuol y aeuadd, ac am awr a haner o tftnser, parha- ejd yr ymwelwyr i ddylifo i fewn. Y cyn taf o weinidogion Ei Mawrhydi i ymddangos ydoedd yr Ysgrifenydd Cartrefol (Syr Matthew White-Ridley). Y nesaf mewn trefn ydoedd Syr James Joicey, A.S., Mr T E Ellis, A.S, Mr Buchanan, A.S, Is-iarll Curzon, ac ereill. Yn uniongyrchol dilyn- odd y Parch Stephen Gladstone a'i feibion (Master Willie a Master Glyn Gladstone), Esgob Rochester, Ardalydd Ripon, Syr Harry Bullard, A.S, Mr Talbot, A.S, Syr H Campbell-Bannerman, A.S, Mr T Owen, A.S, Proff Jebb. Yr oedd y Due o Norfolk yn awr yn ddyfal wrth y gwaith o drefnu y gweithradiadau tufewn i'r neuadd. Yna daeth y per ionau anrhydeddus o ganlyn i fewn,—Arglwydd Carrington, Arglwydd Wenlock, larll Cork, nifer luosog a aelod- au seneddol na chaniata gofod eu henwi, Arglwydd Brif Farnwr Russall, Arglwydd Tweedmouth, Mr Lewis Fry, A.S, Mr W Abraham, A S (Mabon), Mr Shaw Lefevre, Mr Clough, A.S, Arglwydd Herschel, Syr Geo Treyelyan, A.S, Syr Walter Forster. A.S, Syr Stafford Northcote, A.S, Syr H Bemrose, A.S, Arglwydd Stalbridge, Ar- glwydd Acton, ac ereill. Daeth Mr Herbert Gladstone i fewn wrtho ei hun am tua chwarter wedi 10. Yna daeth i fewn Arglwydd Rendel, Canon Wilberforce, caplan Ty y Cyffredin, Mr Tom Ellis, a Mr R W Perks, A.S., Due o Rutland, larllod Kimberley a Spencer, Mri Asquith. Burns, a Price, Arglwydd Stanley, Mr John Morley. Syr Henry Fow- ler. a Iarll Rosebery. Yr oedd y trefniadau yn awr bron wedi eu cwblhau, ac am haner awr wedi 10, cy- chwynodd yr orymdaith o Neuadd Sant Stephan, gyda'r Chief Inspector Horsley yn blaenori, ac yn eu dilyn Swyddogion Ty y Cyffredin, y Llefarydd, ar ol yr hwn yr oedd aelodau ffyddlon' y Ty, y blaen- af o ba rai oeddynt yr Ysgrifenydd Car- trefol. Ysgrifenydd y Trysorlys, Syr John Mowbrey, Syr William Harcourt, a Mr Chamberlain. Yr oedd yr aelodau oil yn eu galarwisgoedd ac wedi i'r orymdaith faith basio y coiff, arafodd, pryd y dilyn- odd yr Arglwyddi a'r Esgobion i uno a hwynt, yn cael eu blaenori yn ol eu gwahanel safle oedd. Wedi i'r orymdaith gael ei threfnu, cerddodd y rhai oeddynt i wasanaethu yn ochr yr arch i'w lleoedd priodol. Ar y dde yr oedd Tywysog Cymru. Ardalydd Salisbury, Y Gwir Anrhyd. A. J. Balfour, Due Rutland, ac Arglwydd Rendel. Ar yr aswy yr oedd y Due o York. Iarll Kimber- ley, Syr William Harcourt, Iarll Rosebery, a Mr George Armitstead. Yna traddodwyd gweddi ddifrifol a phwrpasol iawn gan Esgob Llundain. Ar ol y weddi cariwyd yr arch at ddrysau gorllewinol y neuadd. Y prif alarwyr oeddynt y Parch Stephen Gladstone, Mr Henry Gladstone, Mr Rerbert Gladstone, y Parch Harry Drew (mab yn nghyfraith), Deon Lincoln (mab yn nghyfraith), y Parch S. E. Gladstone, Meistri Willie Gladstone a Charles Glad- stone, meibion y Parch Stephen Glad- seone; y Parch W Carter, a'r Parch E Hutchings. Yn dilyn yr oedd dirprwyaetb o Hawarden, ysgrifenwyr preifat gynt i'r ymadawedig, cyfeillion, gwasanaethyddion, meddygon, ac ereill.
< Aiarox' Y TESTAMENT NEWYDD.
< Aiarox' Y TESTAMENT NEWYDD. Y mae ymgais Ymehwilydd' i leoli' Ainon' yn ganmoladwy iawn, a'i resymau ar y cyfan yn glir, os nad yn derfynol. Nid oes llawer o ymddiried i'w roddi yn marn esbonwyr yn fynych ar faterion fel hyn, gan eu bod mor dueddol o ddilyn eu gilydd. Wecli i un dyn o nod ddweyd ei farn, y mae ereill yn cydolygu yn hollol dditarn. Fel defaid mewn cae. wedi i un fyned drwy'r berth, rhaid i'r lleill ddilyn, er iddynt golli haner eu gwlan yn y drain. B'le bynag yr oedd Ainon,' y mae synwyr cyffredin, ar wakan i bobpeth arall, yn dweyd fod y He yn mhell o'r Iorddonen. Nid oe. angen aros gyda hyn. Gesyd rhai'r lie yn mhen nchaf Simaria, ac ereill i fyny yn Q-alilsa. Ond maes gweinidogaeth loan oedd Diffaethwch Judea, ac nid oes son am dano fel pregetbwr teithiol drwy ranau ereill o'r wlad. Yr oedd ya pregethu yn y diffaethwch hwnw, ac yn bedyddio lie cai ddyfroedd cyfleus i gyf- lawnu'r ddefod. Nid vw ya d ?byg y bnasai un esbocrwr yn myned allan o'r diffaethwch i chwilio am Aiaon,' oni bai fod prinder dwfr yn ei yru. Ond y cwestiwn yw pa le yr oedd I dyfroedd lawer'yn Jndea? Fel y dywed 'Ymchwil- ydd,' yr oedd ac y mae ffynon gref yn cael ei chroni'n Hya mewn dyffryn dwfn islaw pethauia. Gelwir ni yn Feynon yr Apostol- ion.' Yn awr, os yw esboniad Ymchwilydd' yn iawn ar loan iii. 23. y mae wedi cael allan leoliad Ainon' uwchlaw un amheuaeth. Ond y mae yr adnod o flaen hon yn ein taflu i ddyryswch pellach, cyn y gallwn ddweyd fod y cwestiwn wedi ei benderfynu. Dyma yr adnod, Wedi y pethan hyn, daeth yr Iesn a'i d'dvs- gyblion i wlad Judea, ac a arosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.' Yr lesu a'i ddys- gyblion oedd yn bedyddio yma, nea yn ol yr adnod gyntaf o'r benod nesaf, y dysgyblion eu hunain. Pa le yr oeddynt yn bedyddio? Dy- wedir fod loan ar y. un pryd yn bedyddio yn 'Ainon/ Gwelir fod yma ddan fedyddio, y naill gan y dysgyblion, a'r llall gan loan, ac nid yn yr un lie, oblegyd dywedir, a hwy a ddaeth- anV O ba le ? O'r lie yr oeddynt yn bedyddio at loan i' Aion.' Nid oes un esboniwr, hyd y gwelais i, yn amcanu nodi allan y fan lie yr oedd yr lesu a'i ddysgyblion Tn bedyddio yn Jndea, ond chwiliant yr holl wlad i fyny at ELermon, rai o honynt, am y 'dyfroedd lawer.' Os oedd digon o ddyfroedd yn y piffaethwch i'r naill, p'am nad oedd yno ddigon i'r llall ? Y mae hyn yn ffair golygiad Ymchwilydd.' Gyda golwg ar Ain-el-Haud,' neu Ffynon yr Apostolion,' y cwestiwn yw, paham y cys- ylltir enw yr apostolion a hi? Ai am iddynt bwy fedyddio ereill yno, ynte am iddynt hwy en hunain gael eu bedyddio yno gan loan ? Os yr olaf, y mae yn ymddangos i mi fod Y m- ehwilydd yn penderfynu'r pwnc uwchlaw pob dadl. Os y llall, rbaid fod Ainon yn rhywle arall. Ond yr wyf yn mhell o gredu, yn ol rhediad naturiol pathan, fod yn rhaid myned allan o J ndea i chwilio am y lie. Efallai y cawn eglurhad pellach gan Ymchwtlydd,' yn nghyd a'i syniad am Salim,' gan fod Ainon' a Salim' yn cael eu cyplysn. JAMEL.
0 NODION 0 RYMNI.
0 NODION 0 RYMNI. Etholiad y Bwrdd Ysgol dorodd ar dawelwch pruddglwyfus v streic gyda ni yr wythnos hon, ac yn y cymoedd agosaf atom, rhwng bryniau talsythion Gwent. Profodd y Rhymniaid eu bod yn gaUach dynion na'r rhelyw o drigolion y plwyf—yn wir, yn gallach na'r Tredegeriaid o fwy na chant y cant, oblegyd darfu iddynt osod pedwar aelod ar y Bwrdd gyda 15,551 o bleidleisiau, tra y methodd ffyliaid Tredegar osod i fewn yenwaneg na dau gyda 25,459 o bleidleisiau. Darfu iddynt daflu 17,506 gyda y gwynt, yn ngoiawydd cynifer i fod yn Boxer y ceffyl blaen.' Dywedodd vr anfarwol Math- etes ugain mlynedd yn ol, mewn Eisteddfod yn, Nhredegar, fod y Tredegeriaid gan' mlynedd ar? 01 y Rhymniaid, ac y mae yr etholiad hwn yn profi eu bod yn dal at eu safle hyd heddyw. Mae y gwahaniaeth hwn yn un mor aralwg, mewn pethau ereill. Pasiodd y Rhymniaid, wythnos gyntaf y streic, i roddi 'plenary powers' i'r Provisional Committee, erbyn neddy w, mae y wlad wedi gweled mai ni oedd yn iawn, ac wedi ein dilyn ond mor bell, y mae y Tredegeriaid yn ddeillion o hyd. Mae y Rhymniaid yn haeddu llongyfarchiad gwresog, nid yn unig am nifer y penglogau osodasant ar y bwrdd, ond hefyd am y stwff sydd yn y pen- glogau hyny. Dyna y cyntaf sydd ar ein rhestr, sef Mr J W Price (dark horse) yr ethol- iad. Mae y teulu hwn wedi derbyn liawer mwy o nifer o dalentau na'r cyfartaledd oedd yn dyfod iddynt i'w gyfartalu a'r rhelyw o blant dynion. Brawd iddo ef yw Mr Harri Price, B.A., enillodd lawryfan Rhydychain trwy ei dalent yn fwy na thrwy ei logell, ac y mae iddo frawd arall, Mr Tom Price, hogyn tua deunaw oed, newydd enill ys-yoloriaeth am dair blynedd yn Rhydychain, fel nad oedd ond pwncoamser i'r B.A. ac yntau ddyfod o hyd i'w gilydd. Y mae Mr J W Price yn beirianydd cy wrain cywrain, ac yr ydym oil yn falch o'i safle yn dyfod allan o flwch y tugel, am y bydd yn nerth i'r bwrdd newydd, Am yr ail ar y rhestr, sef Mr J D Thomas, gyda 4066 o bleidleisiau, er ei fod mewn safle anrhydeddus, dymuniad pobl oreu Rhymni oedd ei weled yn uwch, am ei allu a'i ymrodd- iad i wasanaethu y bwrdd diweddaf fel cadeir- ydd; ond gwnaeth y Bedyddwyr yn fwy anrhydeddus ag ef na wnaeth y Methodistiaid a Mr W G WiUiams, am wneud yr un gwaith yn y bwrdd blaenorol, sef ei gicio allan, ac hefyd yn well nag y gwnaeth yr Annibynwvr a Mr Ben Phillips, is-gadeirydd y bwrdd di- weddaf, ac un o'r aelodau goren a feddem. Am y nesaf, sef y Parch D Oliver, gyda 3,594 o bleidleisiau—dylasai fod yn uweh, ond nid yw yr en wad hwn wedi arfer bod yn ffydd- Ion i ymgeisydd yr enwad; ond gwna aelod defnyddiol. gan ei fod wedi treulio blynyddau boreu ei oes fel Teacher. Am yr olaf, sef Mr Ben Rees, nid y w yr Hen Fam yma yn foddlawn ar safle ei mab hi ar y rhestr; ond mae 3,519 o bleidleisiau, o rai canoedd yn fwy nag a gafodd yr aelod blaenor- ol. Yn erbyn byddin dirwest profwyd fod Mr Ben Rees yn ymgeisydd gwerth ei redeg, ac fe wna aelod cyflym a dsallgar. Ysmotyn du yr etholiad hwn yw fod Ymneillduwyr Tredegar beb yr un aelod i osod eu cwynion gerei fron, ac yr ydym yn cydytndeimlo a hwy o eigion calon. Mae yn wir fod y Parch T Theophilus yn offeiriad gwycb, o dueddiadau eang a Rhyddfrydig, ond nid yw ef na phen-llywydd y gwaith yn deall teimladau ac angenion corff mawr gweithwyr Tredegar, y rhai ydyct gan mwyaf yn Ymneillduwyr. Gwnaeth Penycae yn dda i osod yr hen aelodau profedig ar y bwrdd, sef y Parchn T Richards, J A Evans, a Mr N L Wilpute; felly y gwnaeth Coed-duon gyda Dr Evans, a Thredegar newydd gyda Mr D W Price, yr hwn oedd ar ben y rhes gydag 8,238 o bleidleisiau. Eglwys Gosen a'n hanrhegodd a chyfarfod- ydd pregethn y Sul diweddaf, ac er fod pregethwyr mawrion a phregethn campus wedi bod yn y 11e, yr oedd y Parchn J W Price, Troedyrhiw, a J J Williams, Rhymni, yn tori bara llawn mor flasus a neb o honynt. Da genym nad yw plant y gan wedi rhoddi eu telynau ar yr helyg dros y streic yma. Mae y cor mawr wrthi yn ddiwyd yn dysgu gantawd The Wreck of the Hesperus,' yr hwn gantawd gyfansoddwyd gan un o gyfarwyddwyr cwmni y gwaith. Faint bynag o fiwsig sydd ynddo, bydd ein harwenydd dihafal, Mr John Price, a'i gerddlu seingar yn sicr o'i dangos i'r fantais oreu. Gwelwn fod ysgolfeistr newydd apwyntiedig y Drefoewydd, pen uchaf y cwm, sef Mr Griffith Davies. A.C., o Gelligaer, nid yn unig yn ysgolfeistr medrus, ond hefyd yn gyfansodd- wr cerddorol o fri. Mae ei anthem, Gweddi yr Arglwydd,' a genir yn Nghymanfa Bedydd- wyr rhan isaf y cwm, dydd Llun nesaf, yn awenol a thlws. OWAIN GLYNDWR.
ABERCYNON PRIZE DRAWING.
ABERCYNON PRIZE DRAWING. Er cynorthwyo y brawd John Davies, 28 Catherine Street. 2450 3641; 622 3381 2571; 2052 719. JNO EVANS, Sec. #"
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNL*…
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNL* BYNWYR MORGANWG. Arholiad Mai^3ydd. 1898. MAES LLAFUR—Y PUM' DAMEG.— (Luc xv. a xvi). Uicchafrif y Marciau, 120. Dos. I. D Richards, Alltwen (y wobr flaenaf) 119 David John, Carmel Clydach (ail wobr) 117 Thos Williams, Ebenezer Aberdar (3edd) 115 David liivane, Soar, Clydach Vale David Jones, Ebenezer Abertawe 114 Rees Jones, Soar, Clydach Vale 113 J W Thomas eto E Rosser Williams, Bethania Treorci David Lloyd, Ebenezer Abertawe 112 Mary J Lewis, Bethania Dowlais 111 Benjamin Edwards, Tabernacl Ynysybwl 110 William John Jones, Siloh Pentre T Eynon Willliams, Alltwen T C Davies, Soar, Clydach Vale 109 John Jones, Bethania Dowlais 107 Lewis Jones, Alltwen Themas Morris, eto Daniel Lloyd, Ebenezer Abertawe Llewelyn Davies, Carmel Clydach 106 J Rhys Davies, Owmbwrla 104 Benjamin Evini, Bethania Cwmafon David Davies, Carmel Clydach 103 Daniel T Thomas. Alltcwm 102 John i-t James, Ebenezer Abertawe Eliz A Griffiths, Tabernacl Ynysybwl John Peregrine, Ebenezer Abertawe 101 James James, Bodringallt John Lewis, Ebenezer Abertawe 99 John Williams. eto 98 Evan Jones, Siloh P3ntre James Thomas Salem Merthyr 97 David Arthur, Ebenezer Abertawe 96 Mary Jones, Alltwen 95 Gomer Stephens, eto David Gibby, eto D D Jones, Tabernacl Ynyeybwl 92 John Lewis. Bodringallt Benjamin Williams, Gwernllwyn Dowlais 91 Stephen Jones, Ebenezer Tylorstown 90 Pilas Williams, Tabernacl Ynysybwl 88 Gwen Davies, Alltwen Ruth James (Seisnig) 86 T B Thomas, Tynycoed Evan Jones, Soar, Clydach Vale 85 D.,vid E Maddocks, Alltwen William John Lewis, Ebenezer Abertawe 84 Thomas Evans, Tabernacl Ynysybwl 83 Evan May berry, Carmel Clydach Morgan Davies, Tabernacl Ferndale 82 Dos. II. William Henry Davies, Ebenezer Aberdar 78 Wm Henry Edwards. Brynseion Cwmbach 78 W G Smith, Saron Birchgrove 76 David John Williams, Bethel Aberdar 74 David Davies, Hermou Treorci Tom J Davies eto 70 Jonathan John, Siloh Pentre 69 David Jones, Tabernacl Ferndale 68 David Thomas, Carmel Clydach 66 John Griffiths, Tabernacl Ynysybwl Joseph Roberts, Brynseion Cwmbach 63 Thomas Francis, Carmel Clydach 60 Evan Alf Davies, Bethania Dowlais 58 Jacob Morgan, Bodringallt 57 William Richards, eto 56 John Wm Edwards, Ebenezer Tylorstown 54 Methusaiem Davies, Brynseion Cwmbach 53 John Hughes, Bodringallt 48 William LI. Davies, Carmel Clydach 38 Ivor Jones eto 36 David T Llewelyn 35 Maggie Jones, Hermon Treorci > 32 J James, Brynseion 30 Arholwr-Y Parch O. R. Owen, Glandwr. UYWIRIAD-Yn anfwriadol, gadawyd allan enw Jo jeph Evans. Bodringallt, gyda 76 o farciau o res y rhai llwyddianus mewn Hanesiaeth Eglwysig.' Cwmbach, D. M. DAViES, Ysg.
CWMBWRLA.
CWMBWRLA. CERDDOROL. Y mae yn llawenydd mawr genym weled fod Mr John Rees, Prif Ysgol Feistr Cynorthwyol y Bwrdd Ysgol yn y lie uchod wedi graddio yn G yn y Tonic Solffa.
| , MARWOLAETH.
MARWOLAETH. Hunodd yr hen frawd Mr Lewis Rowlands, ynyr Iesu, dydd Sul, Mai yr 22ain, a chladdwyd ei weddillion y dydd Iau canlynol yn mynwent capel Carmel. Gwasanaethwyd ar yr "aclysur gan y Parch W Samlet Williams. Dygwyd: tystiolaeth uchel ddydd ei angladd i'w fywyd diargyhoedd. Bu yn arweinydd y canu yn Mhentredwr am flynyddoedd. Gwnaeth was- anaeth mawr yn cysegr ar hyd ei oes. Dewis- wyd ef yn ddiacon gan yr eglwys rai blynydd- oedd yn ol, a llanwodd y swydd yn anrhydedduis hyd ei fedd. Caffed ei blant nertli i artilyn ol llwybr eu tad. Daeth tort fawr yn nghyd i [ dalu y gymwynas olaf iddo.
Deddf Gydnabyddiaeth y Cweithwyr
Deddf Gydnabyddiaeth y Cweithwyr Y OWRS A GYMER1R GAN Y MEISTRI. '■ Trysorfa Barhaol neu Yswiriaeth. Cawn ar ddeall, o gyfeiriad neillduol, fod yr is-bwyllgor a benodwyd i ystyried adranau y ddeddf uchod, wedi gosod cynygiadau arbenig 0 flaen cyfarfod y glo-bercheeogion, dydd Sad- wrn. Yr oedd dosbarth mawr o'r meistri, a gydrychiolid ar y pwyUgor, yn awyddus i gym- eradwyo y meistri i dynu ya ol yn gyfangwbl oddiwrth DRYSORFA BARHAOL Y GLOWYR, ac i amddiffyn eu hunain rhag cyfrifoldeb drwy yswiriaetb. Ond nid yw adroddiad yr is- bwyllgor. fodd bynag, yn myned mor bell a hyn, oblegyd y mae yn gwneud y cynygion a ganlyn:— 1. Y dylai meistri ygweithwyr a gytnnant i ymuno a r Drysorfa Barhaol, yn nghyda'r gweithwyr eu hunam, yswirio yn y drysorfa hono ar y cyfryw dermau ag a gytunir arnynt, gan fod y ddeddf yn gofyn fod y cytundeb yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cofrestrydd y Cymdeithasau Cyfeillgar. Erfynir fellv ar yr holl feistri sydd a'u gweithwyr yn gysylltiedig i'r Drysorfa i barnau dan y cynllun newydd. 2, Gofynir, fodd bynag, i'r perchenogion hyny na fyn eu gweithwyr ymuno a Chym- deithas Yswiriol Gydgyfranogol. Bydd y gym- deithas hon yn hollol annibynol ar (iymdeithas y Glo-berchenogion, er y byddai i'r ddwy gyrndeithas, yn naturiol iawn gynwys liawer iawn o'r un aelodau. Yn y gymdeithas hon, bydd i ddwy drysorfa neillduol gael ei ffurfio- un i gyiarfod y prif ddamweiniau, He y collir tri neu ragor o fywydau; a chyfrifir y bydd ceiniog a dimai yr wythnos oddiwrth bob dyn yn ddigon i gyfarfod a'r cyfrifoldeb hwu. Cyf- yngir y drysorfa arall i ddamweiniau llai, lie y bydd llai na thri bywyd wedi eu colli—hyny yw i gwrdd a'r cyfrifoldebau cyffredin, pan y niweidir neu y lleddir un dyn ac am y piesen- ol bwriedir gosod o'r neilldu bedair ceiniog a dimai yr wythnos oddiwrth bob dyn, yn ddigon i gyfarfod a'r cyfrifoldeb hwn. Wrth gwrs, yn y ddau achos hwn, dim ond achosion yn dyfod yn uniongyrchol dan y ddeddf ddelia a hwynt; ac ni fydd i unrhyw weithiwr a niweidir ac a analluogir am lai na phythefnos o amser gael iawn. Dvwed un gohebydd y bydd y Gymdeithas Yswiriol Gydfynedol yn DRYSORFA YMLADDOL, gyda'r bwriad o wrthwynebu pob achos lie y bydd y gobaith lleiaf dros wneud hyny a cheir allao pan fydd pob achos yn cael ei ddadleu, y bydd rhagor o esgeulusdod a thoriad y rheolau nag y meddylir yn breseno'. Bernir y bydd dadleu yr achosion beri yn naturiol lawer iawn o natur ddrwg; ac am y rheswm hwn bydd i'r perchenogion yn ddiau betruso cyn taflu dros- odd gynllun profiadol Trysyrfa Barhaol y gweithwyr yn ffafr y Gymdeithas Yswiriol newydd. Y mae rhai o'r Glo-berchenogion henaf a mwyaf parchus y Debsudir o'r tarn hono. ac yn en plith Syr Wm Thomas Lewis, Mr W Thomas, Y.H., Bryndwel; Mr Edward aones. Y.H., Pontypool, ac ereill.
Undeb yr Anniliyflwyr Cymreig.
Undeb yr Anniliyflwyr Cymreig. Arholiad ar Hanes Abraham a gynaliwyd nos Fawrth, Mai y 17eg, 1898. RHAI DAN 16 OED. At Bwyllgor yr Un Maes Llafur. Anwyl Frodyr,-Daeth i'm llaw 172 o bapur- au, o'r rhai y mae 34 yn y dosbarth blaenaf, 48 yn dosbarth yr ail, a 90 yn dosbarth y drydydd. Dengys bapurau 100 o'r ymgeiswyr y- mawr o'n tu hwy ea hunain, ac ymroddiad cydwybodol o du eu hathrawon. Nid yw nifer y rhai sydd annheilwng o ektedd mewn arhol- iad dan nawdd yr Undeb ond yehydig mewn cydmariaeth. qêir tua 50 o'r ymgeiswyr yn wir dda. Y maeyn eu plith tua phedwar neu bump, mor dra-rhagorol nes peri i mi feddwleu bod uwchlaw 16 oed. Eniliir y wobr flaenaf gan Caleb Rees, Aber- afon. Yr ail wobr gan Elizabeth Jones, Brech- fa, Brycheiniog, a'r drydedd wobr gan Cather- ine Stephens, o'r un lie. Teilwngo sylw arbenig hefyd yw papyrau Hannah Lewis. Aberafan Jonathan Lewis, Mynydd Bach Levi D Jones, Ebenezer, Aberdar; Mary Lizzie Griffiths, Aberafan Phoebe Morgan, Park street, a Robert G Ellis, Grove street, Liverpool. y r oedd darllen 1,376 o atebion, a liawer o honynt yn ddau tudalen yr UD, yn gryn or- chwyl. a buaswn wedi ei deimlo yn drwm, oni bae yr hyfrydwch gawsom yn ngwreiddioldeb a chyfiawniad lluaws mawr o'r atebion. Gan ddymuno llwyddiant i fudiad yr un maes ilafur. Gorphwysaf yn gydwybodol, T. EDMUNDS, Hirwaun, Mai 28, 1898.
Hanes Abraham.
Hanes Abraham. RHAI DAN 16 OED. Uwchafrif, 100. Cyfrifir y rhai enillant dan 45 o farciau yn Dosbarth y Trydydd. Y rhai a e,aillant o 45 i 65 yn dosbarth yr ail, a'r sawl a enillant o 65 i 100 yn y Dosbarth Blaenaf.
DOSBARTH BLAENAF. J
DOSBARTH BLAENAF. Gwcbr 1—Caleb Rees, Tabernacl, Aberafan,100 Gwobr 2—Elizabeth Jones, Brechfa, Brych- einiog 99 Gwobr 3-Catherine Stephens, Brechfa, Bry- cheiniog 98 Hannah Lewis. Aberafan 95 Jonathan Lewis, Mynydd Bach 90 Levi D Jones, Ebenezer, Aberdar Mary Lizzie Griffiths, Aberafon Phoebe Morgan, Park Road, Liverpool Robert G Ellis, Grove Street, Liverpool Rosina Margaret Selby, Aberafan 85 Jannet James, Aberafan Jennie Jones. Aberafan William Humphrey, Earl Road, Liverpool Isaac Evans, Ammanford Evan D Davies, Tynygwndwr T S Morris, Tabernacl, Liverpool Harriet Walters, Tabernacl, Llandilo 80 William Thomas Davies, Aberafan Mabel Beatrice Richards, Aberafan Benjamin Meynck, Mynydd Bach Elizabeth Anne Williams, Llanfair, P.G. William Roderick Rees, Aberafan 75 William Samuel, Mynydd Bach David Thomas, Siloh, Pentre Annie Lizzie Evans, Aberafan Thomas M Beer, Mynydd Bach Jonn Vaughan James, Siloh, Pentre Gwladys A Roberts, Bootle Ernest Williams, (4roye Street, Liverpool Aneurin Thomas, Aberafan 70 David George Bedford, Aberafan J T Davies, Siloh, Pentre Samuel Hickman, Aberafan 65 Elizabeth Jenkins, eto Dos. II. Gwladys Richards, Aberafan 60 Katie Owens eto Beatrice Jannet Williams, eto David Bowen, Siloh Pentre Griffith Hughes, Rhosgoch Mon Mary Thomas. Tabernacl Llandilo William Oswell Thomas, Aberafan Phillip Jones, Ebenezer Aberdar David John Hiskman, Aberafan John Meirion Owen, Corwen W J Hughes, Waterfield Road, Liverpool Gwladys Hughes. Tabernacl Liverpool Herbert Dennis Jones, Llanllechid Mary Davies, Clifton Road, Birkenhead Wil'iam Williams' Seacombe Edward Roberts, Great Mersey St., Liverpool Cissie Roberts eto Minnie Edwards eto Jennie Owen eto Maglona Jones, Park Road, Liverpool Nellie Roberts eto Florence Roberts eto Hannah E Mathews, Grove St., Liverpool Arthur Emrys Owen. Tabernacl Edward Emlyn Davies, Bethlehem Rhos Rachel Davies, Ammanford Willie Davies eto Owen Thomas, Beaumaris Robert R Jones, Pwllheli Robert Ellis eto William Williams, Brynsiencyn 55 William kafee. Ammanford Richard Bri sley Humphreys, Beaumaris Mary Roberts (1), Capel Coffadwriaethol Mary Roberts (2). eto David Maurice Lodwick, Great Mersey Street John A Morris eto Walter Davies, Park Road Liverpool Robert Evans eto Maggie Roberts, Grove Street, Liverpool David Ellis eto John Jones, Ebenezer Aberdar 45 Catherine Edwards, Caergwrle Edward P Hughes, Great Mersey Street Edward Lodwick eto Lizzie Hughes eto Jennie Evans, Park Road, Liverpool Rachel Ellen Jenes, Capel Coffadwriaethol Dos. II. Mary Ellen Jones, biloh Pentre 40 Sarah Thomas eto Edward William Roberts, Caergwrle John Llewelyn Jones eto Sarah Eunice Davies, Bethlehem, Rhos Lewis E Jones, Ammanford Johnny Jones, eto Jennie Roberts, Beaumaris Tommy Morris, Porth Robert M Evans, Salem, Bethesda Maggie Hannah Williams, Treflys John R Williams, Salem, Bethesda Robert Henry Jones, Tre Ddol Beatrice Jones, Sardis, Bodffordd Thomas Williams, Bootle William John Parry, Gt Mersey Street Samuel Griffiths, eto Robert Owens, Park road Herbert Jones, eto William Davies, eto John Owen, Tabernacl, Liverpool Jane Morris, Siloh Pentre 35 William Evans, Brynsiencyn Lizz e Roberts, Ebenezer Arfon Lizzie Thomas, eto James Ll Hughes, eto William Ellis Jones, Bozra Ann Jones, Caergwrle Isaac Bellis, eto Henry Jones; Rhosgoch, Mon Owen R Thomas, eto Maggie Jones, Llanfair, P.G. Ellen Lloyd Jones, Llangefni Gwladys Olwen J en kins, eto Richard Hughes, eto Maggie Parry, eto Catherine Davies, Corwen Margaret Anne Edwards, eto Sarah Edwards. Bethlehem, Rhos Mary Blodwen Parry, eto El;z ibeth Jane Davies, Ammanford Ada Ricnards, eto Allan Morton Lodwick, Great Mersey Street Edward Hughes, Salem Bethesda Owen Pritchard, Treflys Mary Jane Williams, eto John Roberts, Salem, Bethesda John Thomas Williams, eto Robert Joces, eto Hugh Hughes, eto ?nnS ? Gl"S-S?' 0apel Ooffadwriaethol Mary Annie Griffiths, eto w^-er^le Davies'Jones. Dolgellau Willie Thomas, Peniel. Llnnerchymedd WiJuam David Williams, eto Owen H. Prydderch, eto Owen J Hughes, eto Hughie T Thomas, eto Robert Ellis Williams, Soar Dorothy Jane Jones, Bethel Jane Jones, eto Samuel THngbes, 30 4nne Giifficus. <-«o Lizzie Rowlands, eto Robert Edwards. Caergwrle Morris Griffiths, Dolgellau Mary Jones, Capel Coffadwriaethol William Owen Jones, Llangefni John Owen, eto Catherine J Jones, eto Rath iSvans. Bethleheaa Poiewt 25, Sas«iin*h Wnii&nis, eto Hannah Thomas, eto William Thomas Griffiths, Rehoboth. Llan- faelog u»u Maggie Jones, Ammanford Sarah Margaret Jones, Porth John Spencer Jones, Pwllheli Mary Ellen Evans, eto Edward J Roberts, eto William Henry Jones, eto Grace Thomas, eto Ellen Davies, Bethania Mary C Pierce Rowlands, Ebenezer Arfon Judith Williams, eto Rowland J Robert, Seion Rhosgoch DAN 20. John Evans, Bozra Evan Robert Owen, Beaumaris Edward D. Williams, Porth
NODION MIN Y FFORD.
NODION MIN Y FFORD. Gan Eos Hafod. Dydd Mawrth, Mai y 24ain, cyfranodd tua phump cant o dylodion ardal Ystrad Rhondda, o luniaeth blasus a roddwyd iddynt yn rhad gan Mr aMra D Rees, Llythyrdy y lie. Mawr mor ddiolchgar y teimlwyd am eu caredigrwydd 2Ul yr ang-enus ac ereill. Cariwyd y trefniadau yn benaf allan o dan arweiniad Mrs Rees, a chynorthwyii hi gan foneddigesau ereill.
Ei LWYDDIANT.
Ei LWYDDIANT. Dechreuodd Mr Rees ei yrfa fel gwas mewn siop maelwr. Cyfeiriodd ei feddwl ef yn ddi- ysgogigyfeiriad helaethach, sef at fod yn fferyllydd. Penderfynodd i weithio nes llwyddo, a dilynodd llwyddiant mawr ei ym- drechion. Pasiodd ei arhohadau yn anrhyd- eddus, ac y mae heddyw yn fferyllydd cyfrifol yn yr ardal ei mr.gwyd.Mae yn Gymro trwyadl, ae yn fab i'r diweddar Mr Obadiah Rees, un Q hen frodorion y Rhondda. Gall dynion ieuainc y Rhondda gymeryd gwers oddiwrth fywyd Mr Rees.
YSGOL DDYDDIOL.
YSGOL DDYDDIOL. Prif Athraw y merched a'r bechgyn yn Ysgol Ddyddiol Pontrhondda, yw Mr Samuel Davies, gynt o Blaenrhondda, a Mrs Jones yw Prif Athrawes y babanod. Y mae hi yn wraig i Mr Daniel Jones, Cyfreithiwr, Pentre, ac yn ferch- yn-nghyfraith i'r Parch W Jones, Jerusalem, Ton. Y mae canoedd yn barod o ysgotheigion wedi eu cofrestru yn yr ysgol hon o blant yr ardal a'r cylch. Saif yr adeilad mewn man at- dyniadol.
LLWYDDIANT CYMRO.
LLWYDDIANT CYMRO. Pleser genym nodi fod Mr James John, wedi pasio arholiad yn llwyddianus mewn mwnydd- laeth yn Nghaerdydd. Y mae yn awr yn agored i dderbyn y swydd o oruchwyliwr tanddaearol yn y dosbarth blaenaf. Mab ydyw i Mr a Mrs Morgan John, Canning street. Ton, ac y maeyn frawd i Miss May John, R.A.M., a Mrs J B Price, prif athrawes y babanod yn Ysgol Ddyddiol y Gtelli.
CYMANFA.
CYMANFA. Parotoir yn y cwm hwn a manau ereill ar gyfer Cymanfa Gerddorol Plynyddol a gynelir yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Cymer hyn le yn mis Gorphenaf n saf. Cynwysa y rhaglen y Salmdonau ac anthemau. Mae ynddi bob am- rywiaeth gofynol. Yr arweinydd yw Mr Seaton, Margam. Teimlir dyddordeb yn y gymanfa hon gan ganoedd.
MR. GLADSTONE.
MR. GLADSTONE. Y mae bywyd y boneddwr hwn wedi gwneud argraff ddofn ar ddynion. Peth neillduol ynei hanes yw y cretyddolder afaelodd yn ei feddwl a'i ysbryd. I bob ymddangosiad yr oedd hyrt yn wraidd i'w holl symudiadau Y mae'r^y^j wedi teimlo hyn, a nyny mor Jlwyr 'e\ Da all anffyddiaeth a gau-grefyddan dreill gael y peth nesaf i ddim o sylw hir fljnyddau, ac o bosibl, am bytb. Gwelais ei lawysgrif yr wythnOS ddi-,veddaf.
LLEDDFU ANGEN,
LLEDDFU ANGEN, Oafwyd enghraifft o hyn dydd Gwener a dydd Sadwrn diweddat, yn ardal Ystrad Rhondda. Y diwrnod cyntaf, gwelodd Mrs B A Evans, Draper, yn dda i ddiwallu angen dros bum cant o dylodion y cylch, a dilynwyd ei hesiampl dydd Sadwrn gan bwyllgor cyfrifol a benodwyd i'r pwrpas hwnw. Lleadflr cri can oedd drwy hyn, a gobeithio y gwel cyfeillion ereill yn dda i ddilyn eu hesiampl,
GwiRinvEftj^
GwiRinvEftj^ Un glan yw y gwirionedd. Mae o bwys mawr beth a ddywedir yn ngwydd plant. Mae rhai penau teuluoedd i'm gwybodaeth i yn rhy ddi- ofal o hyn. Dywedant bethau anmhriodol yn ami iawn, ond ni feddyliant fod y rhai bychain yn craffn arnynt yn dweyd—" Os daw rhywnn i ofyn am danaf, dywed wrthvnt nad wyf yn y ty." Pan ddaw rhywun—y Pacman o bosibl- atebir et gan y plentyn yn ol gorchymyn y fam. Y mae hyn yn drosedd, a thyfa y plant i fyny heb sylweddoli y gwahaniaeth yn iawn rhwng anwiredd a gwirionedd. Y mae eisieu egluro hyn, a gwelir ein bod wedi dechren.
CYMANFA GANU.
CYMANFA GANU. Y mae pwyllgor cymanfa gann dosbarth y Rhondda peithynol i'r Methodistiaid, wedi bod unwaith eto mewn ymgynghoriad parth trefn iadau cymanfa y flwyddyn nesaf. Deallwn I mai Mr Tom Price, Merthyr, sydd wedi cael ei benodi yn arweinydd am y dydd. Arweinydd- ion y Rehearsals ydynt Mri John Williams, goruchwyliwr tanddaearol glofa Tynybedw, a Tom Howells, G, Pentre. Mr D Morris, Ton, fydd arweinydd y plant.
CKRDDORFA.
CKRDDORFA. Y mae Oerddorfa Linvnol wedi ei ffurfio yn rhan uchaf y cwm hwn. Teimlir bod eisieu cymdeithas o'r fath er ys liawer dydd. Cafwyd eu gwasanaeth mewn cymanfa yn ddiweddar. Yr arweinydd yw Mr H Howells, Ysgolfeistr. Pentre, a chawn iddynt roddi boddlonrwydd mawr.
EISTEDDDFOD ABERTAWE.
EISTEDDDFOD ABERTAWE. Mr Gol.Mewn atebiad i'r llu ymofynwyr yn nghylch trefniant y darn i gorau plant, dy- munwyf hysbysa mai y trefniant gyhoeddwyd gan Mr Treharne, Rhyl, i dri Ilais sydd i'w ganu, ac nid yr hwn a gyhoeddir gan Mr D. Jenkins, Aberystwyth, i bedwar llais, fei ag yr hysbysir ar y program. Gobeithio nad oes yr un o'r corau wedi eu camarwain trwy yr an- nealldwriaeth hwn. Os ydynt, crefaf am eu maddeuant, gan obeithio nad ydyw yn rhy ddiweddar. Yr eiddoch, R. JONES, Ysg.
. ARDAL Y GLO CAREG.
ARDAL Y GLO CAREG. Dydd Gwyl Mabon nesaf, sef Mehefin y 6ed, cynelir y Picnic o holl fyfyrwyr y dosbarthiad- au Mwnawl, ar Lyn-llech-Owen. Uychwynir yr orymdaith o Benygroes am unarddeg yn y boreu, yn cael eu harwain gan seindorf Cwm- 4toeb, yn cyrhaedd y Gorslas am haner awr wedi uuarddeg, He y bwriedir cwrdd yn ad- ranoedd is if. Hefyd seindyrf Cwmmawr a Phontyberem. Rhcddir gwahoddiad i bawb i ddyfod—hyd yn nod i Dr Walters, Aberdar a sicr i chwi y bydd pobl Mynyddmawr yn falch i'w weled yn ein plith unwaith eto. T. E. DAVIES.
......,'". ANGLADD MR. GLADSTONE.
ANGLADD MR. GLADSTONE. Y Gwasanaeth yn West- minster Abbey. •LUDIAD Y CORFF I TWMM -ft Dydd Iau—-wythnos gyfan ar ol raarwol- aeta y cyn-Brifweinidog,—cyrhaeddodd ei weddillion marwol i'r brifddinas. Ychydig wedi wyth o'r gloch nosFercher, gosodwyd y corff mewn tren neilMuol yn Brau^ton chludwyd ef i LuuU&j* X* wywM Earl's Court, cafodd ei drosghvy<Mo odcfr wrth gwmni y London a'r North Western i'r District Company, ae ycfe- ydig wedi un o'r gloch cyrhaeddodd y tren orsaf Westminster Bridge. Yn aros i'r corff yr oedd y Due o Norfolk, swydd- ogion y College of Arms, Canon Wilber- force, caplen Ty y Cyffredin Syr Charles Dalrymple, A.S., un o gyfarwyddwyr y District Railway a Syr Algernon West a Mr Spencer Lyttleton, y rhai mown blyn. yddau a aethant heibio a wasanaethasant fel ysgrifenyddion preifat i Mr Gladstone. Cludwyd y corff o'r tren ar ysgwyddau wyth o ddynion, ac aethpwyd yn orym- daith i Westminster Hall, lie am ddau ddiwrnod yr oedd i orwedd in state,' er i'r arch gael ei selio cyn hyny, a lie y can- iatawyd i'r cyhoedd gerdded i fewn ac allan, i gael golwg ddiweddaf ar arch arwr mwyaf y ganrif. I Yn dilyn y corff o'r orsaf yr oedd Mr Henry Gladstone a Mr Herbert Gladstone A.S. Yn y cyfamser, gosodwyd yr arch, yn cynwys y gweddillion, yn y Star Cham- ber, lie y seliwyd ef gan yr argymerwyr. Rhwng dau a thri o'r gloch, cynaliwyd gwasanaeth arall, pan y symudwyd y gweddillion o'r Star Chamber i Weffcw*- ter Hall, pryd ys oedd tua deugain o ber- sonau, yn cael eu harwain gan Canon Wil- berforce yn dilyn. Heblaw dau fab Mr Gladstone, yr oedd yn bresenol y Dac o Norfolk, Mr G. W. E. Russell, Dr Clark, A.S., Mr Rentoul, AS., Syr Charles Dalrymple, A.S., Mr E. J. C. Morton, a Mr A. Symonds, ysgrifenydd y National Reform Union Ychydig cyn tri o'r gloch, diweddwyd y gwasanaeth, ac aeth y rhai oeddynt yn bresenol allan o'r neuadd, yr hon oedd i gael ei thaflu yn agored i'r cyhoedd am chwech o'r gloch. Ymfoddlonodd nifer o foneddigion i wasanaethu fel gwylwyr, a'r pedwar cyntaf i wneud hyny oeddynt Mr G. W. E. Russell, y Parch R. W. Wilber- force, Mr A. G. Symonds, a'r Parch J. Andrews Reeve.
YR ANGLADD.
YR ANGLADD. Anaml y gwelwyd y fath dorf erioed o'r blaen yn Parliament Square ag ar adeg yr angladd, yr hon oedd yn awr ar ei ffordd i'r Fynachlog, er nad oedd y pellder o Neu- add Westminster i'r cyfryw yn mhell. Yr oedd Mrs Gladstone, yn nghwmni Lady Frederick Cavendish, wedi cyrhaedd Westminster Abbey tua chwarter wedi deg o'r gloch. Tra yr elai i fewn i'r adeilad hanesiol, cododd y gynulleidfa ar ei thraed hyd nes y cymerodd ei sedd. Yr oedd yr Abbey yn awr wedi ei llenwi. Chwareuwyd darnau pwrpasol iawn ar yr organ mawr, a chyn i'r Dead March gael ei chwareu, daeth Tywysoges Cymru a Duces o York i fewn, ac adseiniai y march' drwy y lie tra y dynesai yr orymdaith angladdol yn ol y drefn ydym wedi nodi yn flaenoroi. Yna dechreuwyd y gwasanaeth arferol wrth dderbyn y corff, &c., a chymerodd yr offeiriaid a'r cor eu lleoedd. Ar ol y wers, canwyd hoff emyn Mr Gladstone, sef 4 Craig yr Oesoedd, ynot Ti;' gyda theimlad gan y gynulleidfa. Y pall- bearers' yn ochr yr arch oeddynt fel y canlyn,— Mr Armitstead Arglwydd Rendel Arglwydd Rosebery Due Rutland Syr Wm Harcourt Mr Balfour Argl. Kimberley Arglwydd Salisbury Due o York Tywysog Cymru. Safai Tywysog Cymru ger y fan yr eistedd- ai Mrs Gladstone. Tra y symudid yr arch yn araf at y bedd, canodd y cor emyn y Cardinal Newman, Praise to the Holiest,' &c. Fel y mab hynaf yn fyw, ac fel prif alarwr, dilynwyd yr arch yn uniongyrchol gan y Parch Stephen Gladstone yna daeth Mrs Gladstone yn pwyso ar freichiau ei hail a'i thrydydd mab, Mr Henry J Gladstone a Mr Herbert Gladstone, a'i merched, meib- ion yn nghyfraith, merched yn nghyfraith, wyrion ac wyresau. Darparwyd cadairi'r weddw wrth droed y bedd, ond ni eistedd- odd ynddi ond am eiliad, canys safodd fyny yn mhreichiau ei meibion, gan ddangos hunan feddiant nodedig yn ystod yr holl wasanaeth. Tra y gosodid yr arch yn dawel yn y bedd, syrthiodd Mrs Gladstone ar eu deulin, a dilynodd y teulu i gyd eu hes- iampl. Darfu i'r rhai oeddynt oddiamgylch ymgrymu eu penau-eiddo dau dywy-og y goron yn is na neb arall. Gerllaw yr oedd cerflun o Arglwydd Beaconsfield megys yn gwylio yn gydymdeimladol y gwasanaeth olaf i'w gydymgeisydd a'i wrthwynebydd anrhydeddus. Ymddangosai fel pe bai Disraeli yn ymuno i dalu y deyrnged olaf o barch i'w hen wrthwynebydd. Wedi canu emyn, aeth Mrs Gladstone yn mlaen i gael yr olwg ddiweddaf ar yr arch a gynwysai weddillion ei phriod arfhvdeddus. Yr oedd yr olygfa yn un i'w hiy g Diweddwyd y gwasanaeth claddu gan A "chesgob Caer- gaint, a chanwyd emyn gan y cor. Yn herwydd ei bod yu angladd wladwriaethol, gorfuwyd gwneud cyhoeddiad o'r swyddi a ddelid gan y cyn Brifweinidog, gan swyddog a elwir yr Herald Garter. Tra y darllenid y gwasanaeth hwnw safodd MIs Gladstone i fyny. Wedi canu emyn arall, '0 God, our help in ages past,' gan y gynulleidfa, darfu i Archesgob Caergaint, mewn llais clir a soniarus, draddodi y fendith. Chwareawyd y Dead March' drachefn, ac yna terfyn- wyd y gwasanaeth. Huned yr hen wron Cristionogol hyd ddydd y codi. Trwy ei mab, diolchodd Mrs Gladstone i Arglwydd Salisbury, Tywysog Cymru, ac ereill wasanaethasant fel 'paJJ-bearers,' a daeth y Tywysog yn mlaen i ysgwyd llaw a'r weddw cyn ymadael.J