Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
LLUiN I)AiiN_UUi'iI LAWN.:
LLUiN I)AiiN_UUi'iI LAWN.: NO P EL NEWYDD. i LLYFR IX. PENOD III.-DIALEDD A MARWOLAETH. (Parhad). Cododd Decker ar ei draed. -Achosodd ei dymher iddo gael pwl o beswch yna eisteddodd mewn cadair. Pan alluogwyd ef i siarad, dywedodd :— Yr wyf yn ffwl. Gadewch i ni beidio siarad rhagor am y fusnes hon. Y mae yn ddyledus arnaf i wneud ymddiheurad i chwi. Yr ydych yn fy nhy i-ni ddylai y gwestdywr insultio un o'i wahoddedigion.' 1 Peidiwcli dweyd rbagor am hyny. Pe bawn wedi colli cymaint o urian a chwi, buaswn yn ynfyd. Efallai y ceisiwn gweryla gyda chwi.' Cyhoeddwyd fod y giniaw yn barod. Wedi y giniaw, awgrymodd Decker y dylasent gael game arall o Billiards. 'Gellwch fyned i'r gwely,' ebai Decker wrth y fenyw a wasanaetbai arnynt. Gad ewch allan i ni beth o'r Soda, Brandy, a'r Champagne.' Yr oeddynt wedi chwareu ddwywaith, ac enillodd Decker bob tro, er mawr syndod i Tom Sleaford, yr hwn, oni bai i Decker ei ddal, fuasai wedi syrtbio yn garn i'r llawr. Gosododd Decker ef i orwedd ar yr es- mwythfamc ger y ffenestr, lie y galles-d gweled y coed a chlywed yr adar yn pyncio gerllaw. Edrychodd Tom Sleaford yn ddigym horth a difrifol ar Decker. Dyma y trydydd vmosodiad (attack). ydych wedi ei gael ?' gofyna Decker. Symudodd y claf ei wefusau. Hwn yw yr olaf!' meddai Decker, gyda'r difrifoldeb sydd yn nodweddu barn wr yn dedfrydu llofrudd i gael ei ddien- ydio. Yr oedd gwaith Dr Dampez (Fabien Pasha) wedi ei gario allan i'r liythyren. Ni fedrai y claf gyffro na siarad, ond yr oedd yn ei lawn ymwybodolrwydd, a gallasai agoryd ei lygaid. Gallesid yn hawdd gweled fod y dyn anffodus yn gwneud ym- gais i symud. Yr ydych wedi cael eich gwenwyno,' ebai Decker. 1 Gwrandewch. Yr ydych yn abl deall y cwbl a ddywedaf.' Edrychai Hygaid serenogyclaf megys pe yn rhoi atebiad cadarnhaol. 4 Pe bai un lluchedyn o ddynolrwydd yn eich cyfansoddiad, byddeeh yn cael eich arbed. Pa un ai gwaith Dllw-terfynu yr einioes anfad hon—neu fy eiddo i ydyw. Dis gwn. Y mae y foment ofnadwy yn fwy echrydus nag yr arfaethais. Os ydych yn credu fod yna Dduw, gweddiwch arno. Y mae eich synwyrau meddyliol o hyd dan eich rheoleiddiad. Gweddiwch, cs dewis- wch ond na wastraffweh amser.' Ar ol ychydig seibiant. aeth Decker yn Jnlaen :— 4 Fabien Pasha ydyw yr enwog, neu yr anenwog, Dr Dampez nid yw ei gyffeiriau yn gadael olion i sicrhau trengholiadau Iieblaw hyny, fe ddywedodd Dr Fleury TPithoch oddiwrth ba anhwylder neu giefvd y dyoddefech, ac y mae eich meddyg Ileol wedi cadarnhau yn barod y golygiad hwnw. Y mae Dr Dampez yn ddyn enwog. Y mae efe wedi cyfrif eich marwolaeth yn y trydydd ymosodiad o fewn ychydig eiliadau.' i Symudai aeliau llygaid y dyn oedd ar drothwy angeu, ac yr oedd gwedd boenus ar ei wyneb. Pe gallwn fod wedi eich ymladd mewn duel, neu wedi eich saethu mewn ymrafael, buaswn yn dewis hyny yn hytrach na dir- gelwch bradwrus cynorthwy Fabian Pasha, end penderfynais na chawsai bywyd Caroline Denton mwyach gael ei boeni, oddigerth gan adgofion am y gorphenol y cawsai eich marwolaeth chwi ymddangcs yn ganlyniad eich bywyd gwylJt a gwarth- us y cawsai Caroline ganfod heddwch mewn gweddwdod cynar, a'r boddlonrwydd os gallasai cyfoeth sicrhau iddi bleserau mewn bywyd, y cawsai hi hwynt. Heddyw, fy ughalon a beidiodd. Buasvvn unwaith, credaf, wedi newid fy nghynlluniau. Gall- asai un llewyrchyn o oleu dynol o'ch calon ddu fod wedi efailai newid cwrs pethau. Yr ydych yn cofio i mi chwerthin. Nid rhyfedd i chwi gael eich taraw a syndod. Yr oedd y dienyddwr wedi cyflawnu ei waith. Yr oedd Nemesis wrth eich ppneJin, ofclegyd nid oedd angen ond ei gymysgu a'r gwin a garech gymaint cyn y buasai yn awyn y trydydd a'r ymosodiad olaf arnoch. Tom Sleaford, alias Philip Gardner, y mae eich corff wedi marw eisoes. Y mae eich ymhenydd yn fyw ac yn fywiog. Gwran dewch Y mae yr holl arian sydd yn eich meddiant yn perthyn i'ch gwraig. *Cymer- af ofal y caiff hi afael buan ar dystysgrif ei phriodas. Os y gweddiwch. ac fod Duw i'ch gwrando, gall y bydd yn rhyw gysur i chwi wybod fod genych fab sydd wedi etifeddu holl ddaioni a rhinwedd ei fam, ac wrth gael cariad a ffyddlondeb mab, y gall annghofio creulondeb a dianrhydedd ei gwr. Philip Gardner, neu Tom Sleaford, adieu! Yr wyf yn myned i alw y morwyn- ion. Bydd iddyut eich carlo i'r ystafell wely a ddyga adgofion i chwi am y dyddiau gynt. Bydd iddynt anfoa am y meddyg sydd yn eich adnabod. Bydd iddo ddweyd eich bod wedi marw. Ond byddweh yn fyw o hyd. Cewch glywed hwynt yn dwayd y fath ddyn caled a chreulawn oedd- ech ira yn tyw. Os na ddyga hyn i chwi deimlo fod cosb am i fradychwr creulawn, ysheiJgar, a mileinig gyfiawnu anfadwaith 77 i'r hyn a wnaethoch ;■-> x ata ddim < all. Aryllaw w"h edifar: au, ac os oes gall y by^d yr ewch i'r Nefoedd ouu u nvid AW:a yno, ewch i uffern. A deallwch hyn yr ydych wedi achosi byd o boen i mi. Ffarwel Yn mhen awr, byddweh yn ddyn marw Gwn- ewch y goreu o'ch amser Daeth 7 cwbl i ben megys ag y proffwyd- odd Decker; a'r diwrnod nesaf, daeth Caroline Virginia Denton Sleaford i wybod a deall iddi fod yn wraig ac yn iveddw
- - PENOD IV.—HEDDWOH.
PENOD IV.—HEDDWOH. Y mae gydag amser ei foddion a'i ffordd ei bun i lefeinio llwybrau gofid a phrudi- glwyfni. Telmlid eryn alar, yn mhen tua blwyddyn ar ol claddedigaeth Tom Slea- ford, wrth y newydd olaf a dckaeth oddiwrth Tristram Dt cker at John Kerman a Caroline €5-ardner Sleaford, yn hysbysu ei fod wedi marw yn New York yn mhreichiau ei dad. Hawdd, yn wir, y gellid dirnad fod galar chwerw yn y ddau breswylfod oeddvnt dair mil o fiilidiroedd o draethau Man- hattan Ond y mae wedi cael ei ordeiuio fod i'r meddwl dynol barotoi ei hun i gyfarfod ag ymweliadau Angeu ac i weled ynddynt symudiad rhai anwyl a chariadus ] wlad well. Y mie yn gyaur medJwl fod y fath nifer o drigolion y belen ddaearol yn credu mewn anfarwoldeb yr enaid, ac mewn Duw a Nefoedd Treulia y weddw brydferth haner y flw\>ddyn yjk Lancaster Gate, a'r haner arall yn Nyffryn Essam, íe1 menyw bapus. Er myned drwy gyfnewidiadau, caledi, a threUlon chwerw yn ystod ei bywyd, Iwyddodd yu y uiwedd i ddud u hyd i beth au da y byd hwn, drwy ei hymarweddiad uniawn, ei buchedd glan, a'i hymlyniad ffyddlon wrth y gwirionedd. Cafodd fyw i wasgar bendithion wedi'r cwbl, er garwed ei phrofedigaethf-u. Chwareuodd yr Americanes y rhan o Fortuna. Bu ei Haw yn foddion i ysgafn- hau y ddyrnod a syrthiodd ar Mr a Mrs Roper, a Emily Tavener a'i phriod, pan yr heidiodd y llogosodwyr oddiamgylch i dy yn Baker Street, gan rui y sach i drap arianol Jeremiah Sleaford. Rhoddodd gynorthwy i lawer o bobl dlodion a ddyoddefasant yn herwydd y twyll a chwareuwyd arnynt, a llwyddodd Mr Thompson i gael modd i helpu ereill. Ond nid yw yn wastad yn wir fod y drygionus yn cael eu cosbi yn y byd hwn am eu hocedwaith. Ar y foment hon, tra yr wyf yn ysgrifenu y llinellau hyn. yr wyf yn clywed fod Mrs Jeremiah Sleaford wedi ymuno a'i phriod yn Granada, a'u bod eill dau yn mwynhau gweddill eu bywyd mewn hapusrwyjd Ni feiddia Jeremiah osod ei droed i lawr yn Lloegr. Y mae Roper a'i briod, fodd bynag, wedi sicrhau yr hen breswylfod yn Fitzroy Square, a Patty wedi cael ei £10,000. Y mae Tim Maloney hefyd, hyd yn hyn, ynglynu wrth yr hen dy. Y mae Brayford o hyd yn parhau yn ysgrifenydd preifat John Kerman, er ei fod yn preswylio yn Llundain, lie y gall hetyd gynorthwyo Mrs Gardner-Sleaford yn nhrefniadau ei heiddo. Daeth y Foot- lights Club i ddiwedd truenus tua blwydd- yn yn ol, ond y mae yr ychydig aelodau trwyadl a berthynai i'r cyfryw wedi dylan- wadu ar Brayford i gychwyn Clwb newydd ar linellau newydd, ac y mae y boneddwr hwnw wedi cydsynio, a gelwir ef pan yn barod, er cof am yr hen glerc, 4 The Wonner Club.' Darfu i Monsieur Favirt ddal Miss Weaver ar y noson cyn ei phriodas yn New York, a dygwyd hi yn ol i Loegr i fefyll ei phrawf. Teithiodd yno ar fwrdd agerlong dan yr enw swynol Miss Beauchamp Dudley. Achwynai Major Wenn, tra yn y carchar, wrth y caplan ei bod yn rhy ddrwg ei fod ef wedi ei ddedfrydu i bum' mlynedd o lafur penydiol, tra na chafodd Miss Weaver ord chwe' mis. Cyfarfhddodd y boneddwr anrhydeddus, Mr Fitzherbert Robinson hefyd athynghed anffodus gwyr y fall,' a gorfu iddo ddewis byw mewn carchar am dymbor a dywedir iddo gael triniaeth iled arw yn herwydd na chydymffurfiai efe a rheolau y carchar yn yr hwn y treuliai ei gyfnod. Ond rhywfodd neu gilydd— tnor oj mas'r byd—llwyddai Mr Macklosgi Jones o hyd. GwnaBth efe ffortiwn, wedi'r cyfan, allan o Omaha Scrip yr hen Sloaford, yr hyn a drodd yn synedigaeth i bawb. Y mae Maclosky wedi cymeryd at bregethu, ac y mae yn addaw dyfod yn aliu a goleuni dysglaer yn y gymdeithas sydd wedi cael ei sefydlu er troedigaeth yr Iuddewon at Gristionogaetb, gan mai efe yw y llywydd, ac y mae mor haelionus a chaniatau can' punt y flwyddyn at y cyfryw gymleithas. Felly na farned y Uuaws yn rhy ddrwg am Maclosky Jones. ♦ # Y mae yr haf yn g vawrio ar Ddyflfryn Essam, a chydag awel ber achanig yr adar, i amgylchynu boneddiges ofalus yu nghan ol cyfeillion Seisnig; y mae yr Hydref yn llawn o ddedwyddwch addfedrwydd yn Manor Farm ac y mae yr heulwen a ddysgleiria ar galonau diolcbgar yn fwyaf tebyg i'r nefoedd, pan y dilyna wynt >edd geirwon a llymion y Gauaf.—Cyfaddasiad gan AP BRYTHONFRYN. (F Diivedd.)
4h WATTSTOWN.
4h WATTSTOWN. Dydd LInn, Tachwedd laf, bu gobeitbla cymdeithas ddirwestol y lie uchod yn dathlu Jiwbili y Gobeithlu, yr hon a sefydlwyd yn Leeds yn 1847. gan Mrs Carlisle, a'r Parch Jabez Taanicliffe. Wedi cyfai yn feetri Calfaria, sef y He arferol, cyliwynwyd bath ol an prydferth i'r plant, ar yr rhai yr oedd lluaiau y syltaenwyr wedi en hargraffu, Wedi iddynt gael en baddurno a'r bathodau, ffurtiwyd gor- ymdaith trwy y lie, a'r Parchn E 0 Parry, (B.), Wattstown. a John Morgan, (C.M.), Ynyshir, yn blaenori. Gwnaed yr orymdaith i fyny o 150 o blant, ac oddentu 50 o bobl mewn oed. Ar ol gorymdeitbio trwy brif heolydd y lie, gan ganu ar y ffordd amryw o ddarnau cyfaddas i'r amgylchiad, dychwelwyd yn ol i'r festri lie yr oedd danpariadaa belaetb wedi eu gwneud ar aa cyfer. Yn yr hwyr, cynaliwyd eyfarfod adlon- iadol dan lywyddiaeth Mr Edgar R Jones, o Brifysgol Caerdydd, pryd yr aetbpwyd trwy raglen rhagorol yn a arafn ganlynol: Can gan ldiis A Davies, adroddiad gan Willie Morgan, can gan Annie M Meredith, adroddiad L Rees, can gan E J Rees. can S A Thorn is, can S J Phillips, can D Thomas, adroddiad M A Williams. Canwyd hefyd amryw o ddarnau gan y Gobeithlu o din arweiniad John Jenkins. Cafwyd araeth yn -Gymraeg gan John Rges, pryd y rhoddodd fraslinelliad o hanes y mudiad o'r cyehwyniad. Cafwyd anerchiau yn Saesaeg hefyd gan Edgar R Jones, yn llawn tan a brwd- frydedd, pryd y dangosai y pwysigrwydd o addysgu y plant yn egwyddorion dirwest. Wedi datgan eu diolchgarwch ji bawb a gymerasant rhan yn y cyfarfod, terfynwyd Drwy i'r gynnll- eidfa gann yr 'Hen (^anfed,' ac ymadawodd pawb wedi eu Uwyr foddloni. GOHKBYDD.
.. CWMAMMAN, SIR GAERFZRDDIN.
CWMAMMAN, SIR GAERFZRDDIN. Ar y 9fed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod o dan lywyddiaeth jlr Morgan Morgans, Goruchwyl- iwr Glofa Gelliceidrim, er cyflwyno Certificates a gwobrwyon i'r myfyrwyr llwyddianus yn y Mining Class. Gwefeom yno y boneddigion canlynol:—Dr H Rees, Captain Harris, Mr Thomas. Mr C Williams, Glunamman Schools, Mr Jenkins, Ironmonger, a Mr Rees, Brick- works Manager. Wedi anercbiadad gan y eadeirydd a Mr T E Davies, cyfiwynodd Dr Rees y gwobrwyou a'r Tystysgrifan yn Mining a Geologv, i'r peraonao canlynolT R Morgan, W J WiHiams, Thos Jones, Ivor Thomas, Idwal Thomas, Henry Owen, John Powell, John Philpott, a John Phillips. Anerchwyd y myfyrwyr yn fardd- onol gan Mr Tumor Thomas. Hefyd, Mr Job Phillips a eiaradodd ar y priodoldeb o roddi Object Lesson, trwy lyned a'r myfyrwyr allan ac olrhain y diffyg, &c. Wedi anerchiad gan Mr T R Morgan, a'r boneddigion a enwyd yn barod, cafwyd darlith ddyddorol ac addysgiadol gan yr hen batriarch Thomas Jones, sef tad y Parch Glasnant Jones, Llanelli, ar Dliffyg yr Ardal.' Yn gyntaf diffyg mawr y Betws, yr hon sydd yn rhedeg o Bantyffynon trwy fynwent eglwys y Betws, mae yn tada 1;)0 ilath uwch. law houo i'r dwyrain y mae yn fault o 10 Hath tua ardal Plas y Betws. naid o tua 9 troedfedd Glynmoch, naid o 100 Hath Tynywern neu Cwmgrenig. 150 llath: Nantmain, tua 35 llath Glynbeudy, &c. Y mae glo heb ei fath rhwng Cwmgrenig a Ghwmfelin. Yr oedd yr hen frawd yn sfarad gyda'r deheurwydd mwyaf. Terfynwyd un o'r cyfarfodycta mwyaf doniel a dymunol a gatwyd er's cryn amser, tcwy roddi pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, yr hwn sydd yn wastad yn barod i roddi ei was- anaeth fel cadeirydd, neu roddi darlith i'r myfyrwyr, neu roddi y lofa at eu gwasanaeth er cael Object Lesson.
[No title]
Y m&e gwasgiad yr awyr ar ddyn o faintioli Canolog oddeutu pedair tynell ar ddeg. Tybir fod Gipsies wedi dyfod ar y decbreu o India, ac n "d o'r Aifft, fel yr awgrymir gan yr enw.
NODION 0 AMERICA.
NODION 0 AMERICA. Amcangyfrinr y bydd i etholiad dinas New York gostio £5,000,000 o ddoleri. Costiodd argraffu y tocynau ewyddogol 10,000 o ddoleri. Bydd yn werth gwario 5,000.000 o ddoleri er cael dyn da a gofalus ond beth gyst i gadw yr anouest yno am bedair blynedd ? Os yw yn costio 5,000,000 o ddoleri i'w gael yno, beth gyst i'w gael oddiyno ? Onid yw pleidleisio yn ddyled- swydd bwysig? A ddylai pob creadur sydd ar ffurf dyn gael pleidlais o gwbl. Arweinir arferion daionus cynilo i mewn i'r vsgolion cyhoeddns yn Belgium. Mewn 4,798 o ysgolion ceir fod ynddynt 154,192 o blant yn feddianol ar lyfrau banciau, a chyfrifir fod cyfanswm cynilion y plant yn 3,734,402 o franciau. Oni fyddai yn ddoeth cyflwyno arferion cynilol o'r fath i bob gwlad wareiddiedig. gan ddysgu plant o'r cychwiuiad i ymgadw rhag diofalwch a gwastraff andwyol ? Y mae y cyfanswm a werir gan blant yn y wlad hon yn flynyddol ar wagedd yn ofnadwy Y mae coffadwriaeth Jafferson Davis yn fendigedig iawn yn y De, ac y mae yn debyg o fod felly am genedlaeth neu ddwy. Yr oedd Jeff yn DJeheuwr i'r earn, er mai Cymro oadd o waedoliaeth. Ba yn ffydd- Ion i'r achos fel ag oedd, a bu farw cyn cael nemawr ddim goleuni ar erchylldra eaethwasiaeth ac annghymeradwyaeth y dyfodol o'i gyndynrwydd o blaid y lost cause.' Nid yw yr un cyfarfod nac ang- ladd na phicnic yn rheolaidd yn y De heb son am Jeff Davis ynddynt, yn rhyw ffordd I neu gilydd: yn gywir fel na ystyrir cydgynuiliaid yn gymeradwy yn mhlith y Cymry heb ganu • Bydd myrdd o ryfedd- odau.' Fodd by nag, mewn cvfarfod cyhoeddus yn y De yn ddiweddar ni soniwyd am enw Jeff ac y mae wedi achosi y fath derfysg yn y newyddiaduron fel yr ofnir y bydd yn rhaid ail-gynal y eyfarfod ac enwi enw Jeff gyda swn tabyrddau.
MERCHED EFA.
MERCHED EFA. Ymdiengys fod y gwragedd a'r merched yn benderfynol o gymeryd rhan bwysig yn nhrafodaeth y byd, yn enwedig yn y wlad hon. Yn ddiwoddar yn Chicago penodwyd gwraig o'r enw Mrs A E Paul yn yn o arolygwyr glanhau ystrydoedd, ac yn lie ei gwrthwynebu, dywidir fod ei phenod- iad yn cael cymeradwyaeth gyffredinol. Gan fod gwragedd yn eu perthynas a'u eysylltiad a gwaith ty yn dwyn mawr sel ac yn meddu cryn brofiad mewn glanhau vn ei w ihanol adranau, pa fodd a phaham nas gellir dysgwyl llewyrch a llwyddiant ar y gwaith da? Pdham na feddyliwyd am beth fel hyn yn gynt f Ymddeagys hefyd eu bod yn dechreu teimlo yr ymwybyddiaeth mai iddynt hwy y perthyn galwedigaethau o'r fath. yn deuluol ac yn genediaethol. Yn St Louis, y dydd o'r b'aen, hefyd gwnaeth Mrs Victoria Coakling Whitney gais am osodiad gwrag- edd a marched yn y s wyd dau hyn yn y ddinas ac awgrymai y mynent y gwaith pe bai raid iddynt ddefnyddio dylanwad pe bai raid iddynt ddefnyddio dylanwad politieaidd i'w gael. Y mae deugain o'r aiolygwr hyn yn y ddinas, ac addawodd Dirprwysvr yr Ystrydoedd banodi deg o wragedd o merched. Byddant yn debyg o ddangos ar fyr fod y deg ar hugain arall yn anghymwys i'w gwaith, ac yn ymyraeth a gorchwyl nas gwyddant nemawr ddim am dano. Ond nid dyna'r diwedd. Daw y newydd o Atlanta i 200 o ferched ymlftirfio yn fintai filwrol yno er easglu arian at aebos dyngarol, a dangosasant y tath ddeheu- rwydd dysgylilaeth a'r fath brydferthwch symu liad, a'r fath drefn milwrol, a'r fath gyfrwysdra eadofyddol fel y mae y bobl wedi gwneyd apel at y Llywodraethwr i'w derbyn i mown i'r Gosgorddlu Cenedlaeth ol. Wrth gyfrif y fyddia Auaericanaidd ellir godi ya amser rhyfei, gwmaeth y Cadfridog Miles gamgymeriad dybryd wrth ebargofi y gwragedd a'r merched.
MARWOLAETHAU AMERICANAIDD.
MARWOLAETHAU AMERICANAIDD. HARRIS—Hydref 18, 1897, 1117 Rock St., Hyde Park, Scrant m, Pennsylvania., Mrs Harris, priod Lewis H Harris, ar ol salwch maith o dros bum mlynedd. Ganwyd hi yn Merthyr Tydfil, ac yr oedd yn 38 oed. Daeth yma. gyda'i rhieni pan yn 9 061, a threulio Id ei hamser yn Hyde Park. Y mae ei rhieni, Mr a Mrs Marshall, yn fyw i alaru ar ei hoi. ac yn byw yn Hyde Park. Yr oedd Mrs Harris ya aelod o'r eflwys Fedyddiedig Gymreig Gyntaf. acyroedd yn weithgar gyda'r achos hyd y goddiwedd- wyi hi gan anhwylder. Gtadawodd briod adau fab, set Willie a John R.— Claddwyd hi ddydd Iau yn mynwAnt Washburn. JONEi. -Hydrdf 12, 1897. yn Blissrllle, Vermont, wedi rhai misoedd o gystudd cated o'r darfoiedigaeth, Hugh H Jones, leu.. yn 30 mlwydd athrimisoed. Mab ydoddd i Hugh ac Ann Jones o'r un He, ac yn un a fawr berchid gan bawb. Bydd yn golled fawr i'w deulu ar ei ol. Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Mercher canlynol yn mvnwent Fair Haven. Gwein- vddwyd gan y Parch J W Williams a'r Parch Ellis Walter Jones ac ar lan y bedd gan y Free Masons, o ba urdd yr oedd yn aelod selog er's blynyddau. Cydymdeimlir yn fawr a r teulu yn eu profedigaeth lem gan yr ardal yn gyffredinol. — THOMAS. Hydraf 17, 1897, yn Jacksoa, Ohio, Maria Jane Thomas, anwyl briod Evan J Thomas, a merch i Evan a Margaret J Morgan, S-ardis, Jackson, County, Ohio. Ganwyd hi yn Sardis, Ebrill 16, 1859. Yn Chwefror 29, 1897, ymbriododd a Evan J Thomas, yr hwn sydd wedi ei adael i alaru ar ei nol. Bu iddynt dri o blant, Roy, Margaret a Pearl Emerson. Bu Margaret fawr tua ohweeh wythnos yn ol, ac ni bu y fam yn iach er yr amser hyny. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod yn eglwys Gymreig Jackson. Dydd Mawrth, Hydref 19, 1897 cludwyd ei gweddillion i dy ei hir gartref, pryd y E gweinyddwyd yn y ty, yn y capel ae wrth y bedd gan y Parchn Peter Gray Evans a Dr Hutchinson. THOMAS.—Medi 24 1897, yn Justus, Stark County, Ohio, Sarah Jane Thomas, merch Dayid fhomas. yn 23 mhvydd oed, gpn adael tad ac un chwaer a chwach o frodvr i alaru ar ei hoi Ganwyd hi yn Brook- field Trumbull County, Ohio, Goiph 27, 1874 Yn 1883 symudodd ei rhieni i Justus, Ohio, a claddwyd y fam yn mhen dwy flynedd, gan adael cadw cartref yn gwbl ar y ddwy chwaer a'r tad ymdreehol a thyner. Prydnawn y dydd Mawrth canlynol daeth torf fawr yn aghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Gweinyddwyd yn nghap- el undebol y Cymrv, lie yr oedd yn aelod, gan y Parchn William Evans, Canal Dover, Ohio (yn Gymraeg) a Mr Wyent (U. B.,) yn Saesneg. Cafodd angladd anrbvdeddus. Hawdd ydoedd gweled oddiwrth y dagrau ar ruddiau y dorf fod yr ymadawedig yn anwvl gaaddynt. Claddwyd hi yn Navarre, Ohio, tua thair milldir o Justus, yn ymyl ei mam. Tua blwyddyn yn ol tarawyd ein chwier gan gystudd, yr hwn a drodd yn ddarfoded- iga^th iddi. Darfyddodd yn raddelo hyny i ddydd ei marwolaeth. Yr wedd yr un o'r marched ieuainc harddaf yn yr ardal. Bydd y newydd ergyd Irw i'w brawd hynaf yn Aberaman, Abwrfer, Deheudir Cymru.
OR GADAIR WELLT. ____
OR GADAIR WELLT. DURTUR Y DEFFRO.' Dyna ydyw enw llyfryn bychan, gwerth chwe' chemiog, gan y bardd ieuanc Ben Bowen, Treorci. Yn anaml iawn y clywir son am fardd wedi enill cadeiriau cyn ei fod yn ugain oed a llawn mor anaml a hyny y ceir bardd mor ieuanc yn cyhoeddi ilyfr o'i gynyrehion barddonol. Mae enw Ben Bowen yn ddigon adnabyddus yn y cylch barddol eisoes, a digon tebyg y bydd yn fwy adnabyddus mewn cylchoedd ereill wedi cyhoeddiad y llyfryn hwn. Feallai y dywed rhywun fod y bardd ieuane wedi dangos gormod o feiddgarwch wrth gy- hoeddi cynyrchion ei awen ieuRnc- y bu- asai yn ddoethach iddo eu cadw o'r golwg hyd nes y deuai yn feddianol ar farn i dynu y brychau oddiarnynt. Dichon ceir rhai i ymresymu fel uchod a die! "1 n id ellid eu beio am hyny hefyd. N, 't>b «b yn meddwl yn uwch na mi ar:, atarvhth Ben Bowen, ond nid wyf am h t. ei bod wedi haner ei gloewi eto. Pan ystyriom ei oedran, a'i anfanteision, mae > u syndod ei fod wedi cyrhaedd y safle bresenol > n y I; yd barddol. Nid yw y bardd ieuaac yn golygu fod llawer o berSeithrwydd yn ei lyfryn cyntafanedig ac ni ddylai neb arall ei feio pfln yn cael rhai o'i gynyrehion yn brin o bwysau yn y glorian farddol. Mae ei ragymadrodd yn ddigon i ddiarfogi beirniadaeth, dim ond ei ddarllen yn onest. Mae yn iechyd darllen rhagymadrodd mor ddiymffrost a phwrpasol. Dichon nad yw pawb yn gwybod foa cyfeillion y bardd ieuanc yn barnu y dylai ei athrylith gael ymddadblygu mewn lie gloewach na phwll glo; ac wedi rho'i cychwyniad syl- weddol iddo ar lwybr addysg. Mae y bardd ieuanc yntau yn teimlo na ddylai ymddibynu gormod ar garedigrwydd ei gyfeillion a'i edmygwyr; a dyna paham y meddyliodd am gyhoeddi 1 Durtur y Deffro '—' i gael rhywbeth fydd yn help i mi wynebu yr ysgol,' fel y dywed yn ei ragymadrodd. Ni allasai neb ddwyn gwell rheswm dros ymddangos gerbron y cy- hoedd tel awdwr a gobeithio y ca y gyf rol fechan hon o'i eiddo werthiant buau, am y rheswm hwn yn unig. Cynwysa y llyfryn y ddwy bryddest gadeiriol o'i eiddo—' Ac Arch Duw a ddaliwyd,' buddugol yn Mhen- rhiweeibr; a'r 'Deffroad Ceuedlaethol,' buddugol ya Aberdar. Mae y ffaith fod amryw o goedwigwyr yn ymgodymu a'r bardd ieuanc ar y testynau hyn, yn brawf digonol nad rhigyman m)inion yw y pryddestau. Mae yn wir y gellid pigo brychau oddiar bob un o honynt ond digou prin y credaf fod gan neb hawl i wneud hyny, pan ystyriom oedran yr awdwr, ac mai nid ar gyfrif eu eu per- ffiaithrwydd y maent yn cael gweie(I goleuni dydd. Yr oedd awdl Y Ffurf- afen' yn gystadleuol yn Nhreorci y mis I Medi dj q eddaf, a dywed Ben ei bod wedi d'od yu ol yn ei gwaed.' Fe faddeua y bardd i mi am awgrymu y dichon i lance y prif fardd Dyfed wneud daioni mawr iddo yn y dyfodol. Gwell yw gollwng gwaed drwg na'i adael yn y gwythienau i wneud bardd vn anhwylus am ei oes. Mae Ben Bowen yn feistr ar y cynghaneddion -nid oes dim amheuaeth am hyny ond y mae wedi addoli gormod ar eu cywreinion yn yr awdl dan sylw; ond nid yw hyn ond clefyd cyffredinol yn mhlith beirdd ieu, ainc, a rhai hen feirdd hefyd. Cynwysa y llyfryn hefyd amryw o ddarnau byrion, yn englynion a phenillion ac i rai, dichon y bydd y rhai hyn yn fwy derbyniol na'r darnau meithaeh. Dichon y dylwn nodi fod y llyfryn wedi ei droi allan yn rhagor- ol—yn ddestlus a diwall, ac fod darlun o'r awdwr ar y dechreu — darlun cywir iawn hefyd. Caffed y llyfryn werthiant helaeth. Gellir ei gael oddiwrth yr awdwr 121, High Street, Treorci.
4 Y TADAU ANNIBYNOL.'
4 Y TADAU ANNIBYNOL.' 0 dan yr enw uchod, dygir allan gvfres o fywgraffiadau o enwogion y Pulpud Annibynol. Dygir hwn allan yn ddeufisol, a'u pris yw pedair ceiniog yr un. Cynllun rhagorol yw hwn i gael crynodeb o hanes y Tadau Annibynol. Gwneir pob rhifyn i fyny o fywgraffiad, a'r gwahanol fywgraff iadau gan wahanol awdwyr. Mae y cyn- llun hwn yn foddion i sicrhau cywirdeb. Wrth i un awdwr geisio amgylchynu pob congl, y mae perygl yn ami i ffeithiau gael cam oni yn ol dull a threfn y gyfres hon, ni fydd augen nac esgus i neb ysgrifenu dim ond ffeithiau. Mae pedair rhan wedi ymddangos. Mae y rhifyn sydd ger fy mron yn traethm ar Y Parch Griffith Hughes, y Groeswen,' a'r awdwr yw Tawelfryn — y Groeswen, bid siwr. I ddechreu, cynwysa y rhifyn ddarlun o wrthddrych vr ysgrif, a cheir ynddo hefyd ddarlun o WilHam Edwards, adeiladydd enwog Pont-y-ty-pridd neu fel y gelwir ef gan ein brodyr y Saeson: 4 The builder for both worlds.' Mae hanes William Edwards yn ddyddorol iawn, a pheth digon naturiol oedd rho'i crybwylliad am dano yn hanes Griffith Hughes, o herwydd ei gysylltiad a'r Groeswen. Mae llwch yr archadeil- adydd yn ymgymysgu a llwch mynwent Eglwysilan er's cant ond dwy o fiynyddau. Fe ddywedir yn yr hares sydd ger fy mron mai sarugrwydd vr offeiriad ar achlysur claddedigaeth William Edwards fu yn achos i drefnu claddfa wrth gapel y Groes- wen. Nid oedd y ficer hwnw yn debyg i ficer presenol Eglwysilan; pe felly, diehon y buasai y Groeswen heb gladdfa hyd v dydd hwn. Penill o farwnad i un o aelodau y Groeswen yw yr emyn adnab- yddtls, O! Iachawdwr pechaduriaid.' Fel y gwyddoch, perganiedydd Pantycelyn yw ei awdwr, a chyfansoddwyd ef yn mhlith ereill ar ol un Grace Price, yr hon a fu farw yn 1780. Yn y benod gyntaf o'r rhifyn hwn, ceir trem ar ardal y Groes- wen; ac yn nglyn a hyn ceir amryw ffeithiau ac hanesion dyddorol. Yr oeddwn wedi clywed yn flaenorol mai yn Eglwysil- an y priodwyd yr anfarwol Christmas Evans a cheir yma adysgrif o'r cofnodiad am y briodas oddiar gofrestr y plwyf. Mae yr awdwr yn awgrymu y dichon i rai ei gyhuddo o fyned gormod ar draws y perthi wrth ysgrifenn ar Griffith Hughes. Ond wedi cael deall y cysylltiadau, mae yn hawddach dilyn yr awdwr i ganolbwynt ei fywgraffiad. Mae yr awdwr wedi bod yn hapus iawn yn ei gynllun wrth ysgrifenu y b^wgraffiad hwn- Mae wedi ei ranu yn benodau, a cheir pob un o honynt yn flasus, hyd yn nod i rai Dad ydynt yn gwybod nemawr ddim am Griffith Hnghee. Cryn orchwyl yw ysgrifenu bywgraffiad darllenadwy ac nid pob ysgrifenydd fedr ro'i darluniad cywir o ddyn, serch ei fod yn ei adnabod yn eithaf da. Mae Tawel fryn yn y bywgraffiad hwn wedi profi ei hun yn feistr ar ei waith. Mae yr hanes trwyddo yn darllen yn flasus dros ben ond am gywirdeb ei hanesiaeth, ei bwac ef yw hyny. Fe ddichon nad oedd Tawel- fryn, wrth ysgrifenu y bywgraffiad hwn, yn meddwl ei fod yn crynhoi defnyddiau ystorm ond ymddengys ei fod wedi gwneud hyny yu effeithiol. Mae y Parch John Morgan Jones, yn ei I Dadau Meth- odistaidd,' yn dweyd mai eglwys Fethod- istaidd oedd y Groeswen ar y eychwyn, ac yn baner profi mai ei dwyn oddiarnynt yn annheg a wnaeth yr Annibynwyr. Mae TaweJrryn, yn y bywgramad hwn o Grimm Hughes, yn profi yn bendant na fu i'r Methodistiaid na rhan na cbyfran ynddi erioed. Mae y tanbelenu wedi dechreu eisoes, a chlywir y pelau yn enwiban heibio clustiau fy ngnyfaill o Gaerdydd. Rhaid iddo daflu ei got ar unwaith. os yw am gadw ei glod fel hanesydd cywir a diduedd. Os na fedr brofi fod yr hyn a ddywed Tawelfryn yn anghywir, bydd tv..1 yn hanes y 'Tadau Methodistaidd.' Byddai cystal i chwi fod heb ertbyglau arweiniol am fis nag i'r fath drychineb a hyny i ddygwydd. Pwy sy' yn iawn— Tawelfryn neu J. Morgan Jones? Byddaf yn gwylio symudiadau y ddau hanesydd ar y maes gyda dyddordeb. Rhaid iddynt ddyrnu y cwstiwn allan nis gellir ei adael fel y mae. Bydd y pwnc hwn yn foddion effeithiol i ro'i l^vyl yn ngwerthiant y bywgraffiad. RT d v cyhoeddwr olew ar olwynion ei 1 cinaut. Yr e'-idoch, WMFFRAHUWS. t-
MARVv" u 'jA ETH.
MARVv" u 'jA ETH. Boreu dydd Sadwrn, y 30ain o Hydref, derbyniwyd y newydd blin a gofidus am farwolaeth y brawd ieuanc, a'r cyfaill ffyddlon Henry Rees, Lle'rfedwen, Llan- gyfelach. Hawdd deall oddiwrth sylwadau ei weinidog ar ddydd ei angladd ei fod yn ddyn a chanddo barch mawr i grefydd. Y dydd Mercher canlynol, daeth torf luos- og yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo drwy hebrwng ei weddilliou marwol i fynwent Nebo, Felindre. Yr uedd yn hawdd deall wrth y dyrfa fod un oedd un anwyl ganddynt yn cael ei gladdu. Gwas- anaethwyd yn y ty gan Mr Davies (B.), Gerazim a dechreuwyd y gwasanaeth yn y capel gan Mr Jenkins (A.), Pantyerwys a pbregethodd Mr Thomas (A.), Felindre, ei weinidog, yn hynod bwrpasol a tharaw- iadol ac ar lan y bedd gweddiodd y Parch Mr Evans (M.C.), Bettws. Cysured Duw y teulu yn eu trallod a'u galar, a bydded iddynt hwy gofio mai Efsydd yn llywodr- aethu pob peth, ac mai Ef sydd yn datgudd- io pethau dyfnion allan o dywyllwch, ac yn dwyncysgod angau allan i oleuni. S.
NODION 0 RYMNI.
NODION 0 RYMNI. Ni welais y fath gwmwl du uwchben Rhymni, a'r fath rwygo teimladau yma yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ag a welais y dyddiau diweddaf hyn, wedi i'r newydd ddyfod dros y mynydd am ulanas y tan yn Nhredegar, pan losgodd y George Inn i'r llawr ac hefyd gyda hyny y tad a'r ferch, a'i fab, yn uiw m&n—sef Mr David Harris, y tad, 51 oed; Miss Adelaide Harris, 18 oed a Fred Harris, deg oed. Er mai yn Nhredegar y dygwyddodd y trych- ineb, yma gyda ni mae yr wylofain mawr a thorcalonus. Rhymniaid yw y teulu, ac yn disgyn o hen frodorion mwyaf parchus Rhymni gynt. Yr oedd Mr David Harris yn fab i'r diweddar Mr Henry Harris, yr hwn a fu am ddeugain mlynedd yn 4 house agent' dan y cwmni; ac y mae brawd i'r ymadawedig yn ysgrifenydd cyfrinachol i'r manager presenol a chwaer iddo yn briod & Mr Iorwerth Edwards, a'i fam oed- ranus, dros wyth deg oed, yma yn byw. Y mae Mrs Harris yn ferch i Mr T. Thomas, un o hen orchwylwyr gweithiau taB Rhymni, ac yn chwaeri'r Cyngorydd Sirol, a chadeir. ydd Bwrdd Ysgol Bedwellty — Mr J. D. Thomas; ac yn chwaer i Mrs Rees, priod Mr J. Rees o Office y cwmni ac yn chwaer i Mrs Morgan, priod Mr Morgan, builder, Biaonafon; ac y mae i'r ddwy ochr luaws o berthynasau yma o fanau ereill. Treul- iodd Mr Harris y 14eg mlynedd diweddaf yn Merthyr, a daliai y swydd o gafier y 'roll turners.' Wedi ymddiswyddo yno dro yn ol, symudodd i Dredegar i gadw y George Inn, yn unig hyd nes y byddai yn cael ei foddloni mewn lie. Wedi dyfod o. hyd i ychydig weddillion y cyrff dan y llosgfa, rhoddwyd y tad a'r mab yn yr un arch, a'r ferch yn y llall; ac yn hwyr nos Fercher, daethpwyd a hwy drosodd yma i dy mam Mr Harris. Dydd Sadwrn, ym gasglodd pobloedd yn nghyd o'r boll gylch- oedd-Merthyr, Tredegar, &c., i'w rhoddi i huno eu hun olaf yn y Cemetery, pryd y gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn G. Griffiths a Lewis Jones, Merthyr; ac ar lan y bedd gan y Parchn G. Griffiths, D. Price, Tabernael, Merthyr; W. Evans, G. & L., Tredegar. Ni raid i mi hysbysu y darllenwyr na fu ond ychydig o'r dyrf fawr yn llygad-dyst o'r fath oly 5 dorcalonus erioed; a phe buasai dr: yn eu dwyn yn ol i dir y byw, gwelw ddigon i'w nofio yn eu holan. T genyf glywed rhai yn awgrym i 'son mantais i gyfeillion i ddangor «teim ? d mewn modd sylweddol i'r weda. a > .ch genyn bychan. Mae yr unig fere irall, sef yr hynaf, yn briod, ac yn cartrefu yn Merthyr. # # Foreu dydd Iau. gyda bod y glowyr dewrion yn mhwll New Duffryn yn gwyn- ehu ar waith y dydd, syrthiodd careg ar Elias Jones, rhestr Nantmelyn. Gwnaeth ei gydweithwyr y brys mwyaf i'w ryddhau, a meddyliwyd ar y pryd ei tod wedi derbyn niweidiau trymion. Cariwyd ef adref, a dywedai yntau nad oedd f q wr gwaeth ond er gofid i'w deulu a'l berthynasau yn ei ddilyn i'r ty aeth i'w wely; a chyn iddo gael amser i gynbesu yn ei wely, yr oedd wedi buno yn esmwyth gwsg y meirwon. # Nid yn ami y cawn wyliau te yn ystod y gauaf; ondgwnaeth y Parch J. R. Davies, a'i Oseniaid gweithgar, wynebu y gauaf hwn dydd Llun diweddaf uwchben gwledd o de a bara brith a chyngerdd yn yr hwyr dan lywyddiaeth Mr Evan Thomas, gvvein- j idog sefydlog y glowyr. Rhoddodd y can- torion a'r cantoaesau eu gwasanaeth yn rhad a mwynhaodd rhyw saith neu wyth cant yr wyl de. Cyfarfyddodd Cyngoriaid y Dosbarth dan lywyddiaeth Mr T. E. Jones, yn ystaf- ell y Cyngor, nos Fercber diweddaf. Prif bwnc y cyfarfod oedd derbyn telerau cwmni newydd dwfr a nwy cymoedd Rhymni a'r Aber, gyda golwg ar bris y dwfr a nwy. Pris y dwfr fydd pedair cein- iog am bob mil o alwyni. i fyny hyd at ddeugain miliwn; yna tair a diraai, &c. Meddyliai y Cyngorwr T N Evans y gallent gychwyn gyda thair a dimai yn burion ond wedi ymgynghoriad pellach, nid oedd gobaith llwyddo, ac mai curo y gwynt fyddai ychwaneg o wrthwynebiad. Ni fydd cyfnewidiad yn mhris y nwy. « Yr wythnos ddiwedd .f, yr oediem ni yma yn sefyll rhwng gwir a chelwydd. Tu arall i'r mynydd yn Nhredegar, yr oedd Arglwydd Llangattwg yn anerch cyfarfod I y merched-Primrose Leaugue—a baich ei araeth oedd cefnogi y Tories er mwyn masnach—fod y fasnach yn llawer gwell yn y wlad pan fydd y Torios mewn awdur- dod. Yr ochr arall, yn Merthyr. yr oedd Mr D. A. Thomas yn anerch cyfarfod o Ryddfrydwyr, as yn dweyd fod y fasnach lo yn awr yn is nag oedd pan aeth y Tories 1 awdurdod. Nid wyf mor anfoesgar ag awgrymu fod arglwydd yn dweyd anwir- edd yn nghlustiau y merched, ond caiff y darllenydd farnu rhwng Llangattwg ag Yeguborwen. Yr eiddoch, I OWAIN GLYNDWR..
Advertising
Y Feddyginiaetb Daulnaidi IMiyg-fFelyb. pawb yn ei chanmol, Nid yw byth yn siomi, Rhydd nerth i'r gwan, Adferiad iechyd i'r claf. A mwynhad bywyd i bawb Meddyginiaeth Bur, Sicr, Diyojel, Llwyi-i- ianusac EfJithiot y ly a. Quinine Bitters Gwilym Evans, NID YW BYTH YN SIOMI. MEDDYGINIAETH EFFEITHIOL. Mae miloedd wedi cael iachad oldiwrth.anir rw gletiydau trwy ddefnyddio y MEDDYGLYN ANGHYMHABOD HWN MEDDYGINIAEtH ARALL WEDI METHU. MEDDYGINIAETH I L M3D3 M3DDYG,)tf. I x BITTERS GWILYM EVAN ADFE YD MEDDYGINIAETH LYSIEUOL A PHUR MEDD DADANSODDWR. BITTERS GWIDYM EVANS NI DDYLAI UN TEULU FOD H3BDDO MEDDYGINIAETH LWYDDIANUS MEDD EFERYLLWYR BITTERS GWILYM EVANS Mae Pawbyn ei Ganmol. Y MAE YN RHODDI NERTH I'R GWAN, IECHYD I'R CLAF, A MWYNHAD BYWYD 3 YW3 Meddyginiaeth Bur, Sicr. Ddyogel, Lwydd- ianus ac Effeithiol ydyw. „Bitters G wilym Evans YW JDEDDYGINIEATH OREU YROSS. TYSTrOLA Ðrll D DIW EDD AR. Bach,LIangemweo, Anglesey. Mawrth 2il, 1896, Foneddigion,—Yr wyf yn eich hysbysu fy mod wedi cael lies an- nhraethol oddiwrth QUININE A BITTERS GWILYM EVANS. Yr Q oeddwn mor wan pan y dechreu- 0 ais ei gymeryd fel nas gallwn 51 gerdded at y tan fy hunan, heb S {a gynorthwy fy mam. Er fy mod S 2 wedi cael amryw gyfferiau gan y M feddygou ar y pryd ni chefais ddim a lies oddiwrth yr un, hyd nes y ° clywais am Q linineBittersGwilym > Q Evans gan ffrynd a phan ddech- g reuais ei gymeryd yr oedpwn yn f1 y well mewn byr amser. Y mae £ w genyf ffydd anghyffredin yn qq p Quinine Bitters Gwilym Evans, ac Q Ó yr wyf yn hollol gredu y buaswn .E9 wedi marw oni bai i mi ei gymeryd. 2 Yr wyf yn ei gymeradwyo at Wewi- did fel y Physig goreu a gefais erioed, ac yr wyf yn dy-vauno ar i bowb ei dreio, ac yn "iilo yn sicr v cant lesnad drwyddo oddi- wrth Wendid a Llesgedd. Yr eiddoch yn gywir, ELLEN ILLJAMS. Quinine Bitters Gwilym .Evans j ¡ ™ Iâr RHYHUDD. Y mae poblogrwydd a llwyddiant di- gyffelyb y meddyglyn rhagorol hwn wedi tcmtio amryw i gynyg efelychiadall di- werth o hono i'r cyhoedd. Gocheler y cyfryw efelycMadau. E lrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp, a Photel. JGwerthir et mewn poteli, Is. lie, 2s 9c., a 4s 6ch yr un blychau yn cynwys tair potel 4s 6ch am 12s 6ch. I'w gaelyn mhofc man, neu danfonir ef yn rhad am y prisiau uchod drwy y post, yn uniongynbol oddi wrth y perchenogiont Quinine Bit te-ra MANUFACTURING COMPANY, LTD, LLANELLY, SOWTH WALE Prif Orachwyliwr yn America -MrR D Willian. Plytaj!' Penn i