Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

CI EISTEDDFOD Y RHOS, MOUNTAIN…

News
Cite
Share

CI EISTEDDFOD Y RHOS, MOUNTAIN ASH, NADOLIG, 1861. Y FEIRNIADAETH Ar yr Englyn Unodl i Ddirwest.' Gwobr 5s. 4 Buy your own Cherries.'— Daw'r awdwr bwn i'r fagl yn y llinell gyntaf. Dyma hi- Dirwest asgwrn cefn meddwdod dora—ami' Un sill a'r ddeg. Nid ydyw ei gynghaneddion o'r dosbarth goren ychwaith. Wedi r cyfan y mae i'r englyn hwn bwynt da. 4 Emrys. Englyn da iawn ydyw hwn. Hoffwn ei ddwy linell olaf. Y maent yn nod- weddiadol-ac i'r pwynt; nid ydyw mor hapus yn y rhan gyntaf. 4 Local Yeto.'—Pell iawn o gartref y mae yr awdwr hwn, prin y mae ar ymylon ei destyn. Cymysga rbiwiau hefyd yn y rhan flaenaf ei englyn, a cheir proffwydoliaetli hapus yn ei linell olaf. Englyn cywir, llithrig a darllen- adwy wedi'r cyfan. 4 Templer.'—Englyn cywir parth cyng han- edd, ond dyeithr i'w destyn ydyw ei linell gyntaf— dyfynir ei linell olaf a chaiff yr aw- dwr y pleser o'i hadolygu yn y dyfodol, sef— 4 Eiddil deuluoedd meddwon.' 'Gobaitb y Rhos.'—Nid cymeradwy ydyw celfyddyd yr englyn hwn, yn neillduol ei linell olaf-ac nid chwaethus ydyw— I Hen frenin cyfranog y fagddu.' yn ei ail linell. I Plentyn Gobaith.'—Mae llwydni ar linell gyntaf yr englyn hwn, a gwerinol iawn ydyw ei chwstwm' yn ei linell olaf. Wedi'r cyfan caiff hwn ycredyd o fod yn rheolaidd. 4 Jonadab, -Englyn cywir, a benditb y mamau fyddo ar ei ben am hyny, ond pell oddiwrth ei destyn ar y cychwyn. Y mae niwl tew dros ei drydedd linell. Gadawn y linell olaf yn unig, sef- 4 I fyw lesol hoen flysiau' i'r awdwr i'w liesbonio, dechreued ar hoen flysiau.' Ab Dirwest.'—Englyn cywir, ac iddo bwynt bynod dda, ond nid ydyw yn ddigon byw nac yn ddigon nerthol ar y maes i ddymchwel y gelyn. Ei Chariad.'—Dyma'r goreu eto; er mai tipyn yn garpiog ydyw ei wisg, cerdda yn llyin a chryno, ac er fe ddichon mai gair llanw ydyw doriad yn ei drydedd linell, eto y mae iddo swyn. Da iawn Ei Chariad. 4 Rhuban Glas.'—Da iawn, englyn naturiol ac i'r pwynt. Er nad yn Saul yn y byd englynol, eto y mae yn uwch o'i ysgwyddau na i gydymgeiswyr yn y gystadleuaeth hon. I'r Rhuban Glas y dyfernir y wobr. Wele'r englyn- • Dirwest yw'r hon a estyn,— wych obaith Achubol i'r meddwyn Ac yn ei llaw daw a'r dyn, Yn uwch gwr,—iach ei goryn.' Traetbawd a'r Ffyddlondeb.' Gwobr 12/6- Daeth pedwar Traethawd i law yn dwyn y ffugenwau canlynol- 4 Un o Ramotli.'—Traethawd byr. cyfyng- edig i un wedd yn unig ar ffyddlondeb, sef yn benaf ffyddlondeb i foddion gras. Gymaint ag a ddywed yr awdwr hwn ar ffyddlondeb yn y wedd hon, teimlem ei fod yn traethu pethau ymarferol ac o duedd daionus, ac y buasai ei nodiadau yn taro i r dim i'w llefaru mewn cylch eglwysig, dyweder mewn cyf- eillach grefyddol ar nos Sabboth ond y tro hwn, yn y gystaleuaeth hon y mae yn bell o gyrhaeddyd teilyngdod llenyddol cyfartal i'r lleill o'i gydymgeiswyr yn y gystadleuaeth. Heblaw hyny, arddengys ddiffyg gofal mawr yn ffurfiad ei frawddegau, a llychwynir ei gyf- ansoddiad gan amrai o wallau orgraffyddol. Cymered fwy o ofal a phoen y tro nesaf, a di- chon y bydd yn fwy ffodus nag yw y tro hwn. I "jwasanaetbwr.Mae gan yr awdwr hwn draetbawd maith, ac yn ol ein barn ni cymer olwg rhy gwmpasog ar y pwnc, er ei fod yn ysgrifenu yn llithrig, darllenadwy, a phur ddiwall. Gwaith cymharol rwydd ydyw gor- chuddio llawer o dir wrth draethodi, a dewis lluaws o beoawdiau, ond y mae tuedd mewn arddullfelly i wneud yr awdwryn wasgarog a llai angherddol. Yr orchest ydyw cyfuno a cbyflunio fel ag i fod yn awgrymol, cryno, a chynwysfawr. Cymera yr awdwr hwn i mewn ffyddlondeb Duw, ffyddlondeb Crist, ffyddlondeb Angel a ffyddlondeb Dyn, a rhan- ai yr olaf i wahanol fan adranau. Pe buasai yr awdwr hwn wedi astudio 4 llawer mewn ychydig,' buasai yn nes o fod yn fuddugol yn yr ymgyrch hon nag ydyw. Cymered y cyfaill ein cyngor i fod yn fwy cryno ac aw- grymol y tro nesaf. Orlando.'—Dyma draethawd yn cael ei fritho gan amrai o wallau orgraffyddol, megys terfyniadau geiriau a chamleoliad y llythyren I b,l ond ag eithriadu y pethau yna, cymhellir ni i edrych ar y cyfansoddiad fel cynyrch meddwl sydd am gerdded heb gyn- orthwy ffynbaglau, ac arddengys trwy yr holl o'r traethawd gryn lawer o wreiddiolder ac annibyniaeth meddyliol. Hefvd, y mae ei ddeffyniadau ar y cyfan yn gywir a hapus, ac yn hynod o ddarllenadwy. Scnpto.'—Y mae gan yr awdwr hwn law- ysgrifen ddestlus a thra eglur, ac arddengys y cyfansoddlad drefnusrwydd a chryn allu i gymeryd poen. Y lIlae 01 gofal a. finish ar ei holl frawddegau, a i Gymraeg yn chwaethus a phur, a'r traethawd drwyddo yn rhyddoddiwrth feflau llenyddol. Ceir yn yr awdwr gyfuniad o'r bardd a'r athronydd, ac y mae ei ddeffin- iadau yn gryno, hapus, a rhesymegol. Wrth gymeryd diffygi°n 1 naill a rhagoriaethau y llall i ystyriaeth yn nglyn a'r gystadleuaeth draethodol bon, saif y. gystadleuaeth cyd- rhwng Orlando a Scripto, ac nis medrwn weithredu yn fwy cydwybodol na rhanu y wobr cydrhyngddynt. Llytbyr Caru. Daeth pymtheg o gyfansoddiadau i law yn dwyn y ffugenwau canlynol— Tom.—Ceir gan hwn ambell ergyd lied na- turiol, ondar y cyfan y mae yn rhyfflamychol ac eithafol. Richard Davies.-Cymer y cariadlanc hwn arno fod yn filwr, a'i fod ar fin gadael y wlad hon am wlad dramoraidd, ac enfyn lythyr at ei gariadfercb i'w hysbysu fod awr y ffarwelio wrth y drws. lchydig o fin sydd ar ei gledd- yf carwriaethol, ac nid yw o gwbl yn fedrus gyda'r gorchwyl o drywanu calon meinwen deg. Gomer. Anfona yr awdwr hwn lytbyr o'r Wlad Newydd at ei anwyl Ellen Thomas i'w hysbysu am ei hynt a'i ffawd, ond y mae ei draetbiad yn llawer rhy fasnachol ac yn brin o ergydion cyffyrddgar serch. John Ramoth Jones.-Mal Dyffryn Esecial —cwta a cbyffredin. lolo Morganwg.—Nid yw yr awdwr hwn yn dangos hyfedredd carwriaethol o gwbl, ac y mae ei lythyr yn llawer rhy oer, didaro ac an- mherthynasol. Aaron Puw.—Coeliwn fod caffaeledd yn gryf yn y carwr hwn os ydyw yn deg ei farnu oddiwrth nodwedd a maint y papyr y mae ei lythyr wedi ei ysgrifenu arno, ac y mae y llythyren mor fan, ac ofnwn y gorfu i'w anwyl Sian fenthyg syllwydrau i'w ddarllen. Y mae ynddo beth medr fel ysgrifenwr llythyr caru a cheir yn ei gyfansoddiad gyfuniad rhesymol o synwyr a theimlad. Sem—Llythyr lied faith wedi ei ysgrifenu mewn llawysgrifen ddestlus, ond metha roi y peth hwnw yn ei frawddegau sydd yn trydanu calon merch. Llewelyn.-Llythyr Seisneg yw hwn ond nodweddir ef gan deimlad Cymreig, ac ar y cyfan ysgrifena yn gynhyrfus o dan lywodr- aeth chwaeth a synwyr da. Daw yn agos at y dorch, ond nid yn ddigon agos i'w chipio. Livingstone.—Nodweddir y llythyr hwn gan gyffredinedd, ac a syniadau rhy blentynaidd a gwassidd i foddio merch a tbipyn o synwyr dan ei bonnet. Edgar.-Y mae hwn druan yn ol ein tyb ni wedi gadael i w nwyd fflamychu yn ormodol, acwedi caniatau i'w deimlad cariadgar redeg ymaith o gwbl. n Arthur.—Llythyr maith heb y nesaf peth i ddim o'r peth byw hwnw sydd yn gwyniasu calon merch, ac y mae yn llawer rhy fursenol yn y datganiadau o'i deimladau cariadgar tuag at ei feinwen. Arthur Owen.— Rhy arwynebol ac amddi- fad o ddyfnder calon. Sarah Jane.—Peirianyddol a difachat). Gwilym.—Dechreuai y carwr yma ei lythyr yn weddol rymus a naturiol, ond y mae yn meinio ac yn myned yn ddiafael fel y mae yn myned yn mlaen, ac yn diweddu yn llipa a dienaid. Jonathan.—Ysgrifena y cariadfab hwn yn ystwyth a llithrig, yn wresog a serchgynhyrf- ol, ond ar yr un pryd o dan lywodraeth syn- wyr cyffredin cryf. Gwna llythyr caru fel eiddo yr awdwr hwn beri i gariadferch sych- edu am un cyffelyb gyda. tbroad y Post, ac i hiraethu am gymdeithas yr un a'i hysgrifen- odd. Dyfarnwn Jonathan yn hollol deilwng o'r wobr.

PRIODASGERDD

YSTALYFERA—ODYDDIAETH.

PENYWAUN, HIRWAUN.

NODDFA,BLAENCLYDACH.

YSTALYFERA.

GWAWN-CAE-GURWEN.

CLYWEDION 0 FERNDALE.

|MARDY, RHONDDA FACH.

CYMDEITHAS GYDWEITHREDOLI…

GWLADFA PATAGONIA.

ROCK, CWMAFON.

Y MUDIAD CYDWEITHREDOL YN…

TYSTEB DR. E. V. ROBERTS.

Y DIWEDDAR MR. DAVID SKYM…

TYSTEB MISS ROSINA DAVIES,…

HANES BARNUM; Y SHOWMAN ENWOG.