Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

PRIODAS YN MHLITH Y GARROWS.

News
Cite
Share

PRIODAS YN MHLITH Y GARROWS. YN mhlith "Garrows," yn Bengal, y mae priodas yn cael ei threfnu gan y par ieuainc eu hunain; ond, os bydd y rhieni yn gwrthod rhoddi eucydsyniad, y mae cyfeillion y carwyr yn ymgynull, ac yn eu euro nes eu gorfodi i gydsynio! Gellir sylwi, pa fodd bynag, ar y ffaith hon--yn lie bod y dyn ieuanc yn caru ei briodferch, fod yr arferiad yn hollol i'r gwrthwyneb. Hi sydd yn chwilio am wr, ac yn rhoddi gwledd i'w chyf eillion ir y dydd a benodir i'r briodas. Ar ol hyn y mae ei chyfeillion yn cario y briodferch at yr afon, ac yn ei throchi. Yna y mae yr boll gwmni yn myned i dy y priodfab. Pan wel efe yr orymdaith, y mae yn ffugio ymgudd- io; ond nid ydyw hyn ond yn unig rhith. ymddangosiadol, canys y mae yn caniatau iddynt ei ddal yn fuan a'r un mo d a'r briodferch, cerir yntau i'r afon i'w drochi. Yn awr, y mae tro ei rieni wedi dyfod. Y maent yn dolefain yn dristlawn ac annaearol, ym- aflant yn eu banwyl fab, a ffugiant eu bod yn ewyllysio ei atal trwy drais. Ar ol i'r gwrthwynebiad ymddangosiadol hwn fyned dro; odd, y mae y seremoni yn diweddu trwy i geiliog ac iar gael en haberthu, a'r cyfan yn cael ei ddwyn i derfyniad drwy wledd feddwol ac an- waraidd. Yn y seremoni hynod hon, fe wel y darllenydd y dryelifeddwl hyn- afol hwnw o briodi drwy orfodaeth; ond yn yr achos hwn) pa fodd bynag, y dyn, ac nid y ddynes, yw yr hwn sydd yn cael ei dybio fel yn cael ei orfodi i rwymau priodas. Y mae y Garrows" yn cael en rhanu i'r hyn a elwir "Maharis;" ac ni oddefir i ddyn bri- odi geneth o'i "Mahari" ei hunan.

BRIGHAM YOUNG YN GARCHAROR.

GWENITH 0 FEDD YN YR AIPHT.

DYMUNIAD Y CIGYDD.

DYCHRYN.

YR IUDDEWON.

Advertising