Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.—XVIII. Syr…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.—XVIII. Syr Lewis Morris. -==.= ER mor fyw a hoyw ydyw yr awen Gymreig, nid yn ami y mae yn ddigon byw a hoyw i fedru canu mewn iaith wahanol i'w hiaith gynhenid ei hun. Mae dawn pregethu a dawn cerdd Cymru yn alluog i ymgymhwyso i gyfarfod neillduolion iaith a meddwl y Sais, ond ychydig iawn o fechgyn awenyddol Gwalia sydd wedi Uwyddo i' wneyd enw iddynt eu hunain drwy gynyrchion Seisnig. Ac eto, megis i brofi nad oes yr un reol heb eithriad iddi, felly y mae awen Cymru wedi ysbrydoli un o'i phlant i daro tannau yn nhelyn Lloegr sydd a'u seiniau yn adsain hyd derfynau eithaf y cylch llenyddol yn yr hwn y clywir swn y tannau a darawyd gan Shakespeare, a Milton, a Shelley, a Tennyson. A'r gwr hwnnw yw Syr Lewis Morris. Y mae Syr Lewis yn Disgyn o Linach Awenyddol, llinach enwog y Morrusiaid o Fon. O'r enwocaf o'r tylwyth athrylithgar hwnnw yr hana efe, Llewelyn Ddu o Fon, y gwr a ganodd mor fwyn i Feirionydd, a fu yn noddwr mor dirion i Oronwy anffodus, ac a gasglodd y fath ystor o hynafiaethau a llawysgrifau Cymreig. O'r braidd y mae Cymru yn sylweddoli maint ei dyled i Llewelyn Ddu. Priododd ef yr ail waith ac aeres Penbryn, yng Ngheredigion, ac o'r briodas honno yr hana yr orwyr sydd wedi etifeddu cymaint o neillduolion meddyliol ac awenyddol ei hen daid yn ogystal a'i enw. Yr oedd ei dad yn Gofrestrydd cyntaf Llysoedd Sirol y Deheudir, ac yn trigo yng Nghaer- fyrddin. Ac yn y dref honno y ganwyd Syr Lewis Morris yn y flwyddyn 1833. Derbyniodd yr addysg oreu yn ei febyd yn ysgolion Pont- faen a Sherborne, a phrofodd yn gynnar fod ganddo ddawn i ragori. Anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, yn Rhydychain, ac yn 1855 graddiodd yno yn y Dosbarth Blaenaf yn y Clasuron, ac ennillodd Wobr y Canghellydd am wybodaeth 0 lenyddiaeth Seisnig. Yna penderfynodd droi ei feddwl i Astudio y Gyfraith. Galwyd ef at y Bar yn Lincoln's Inn yn 1861, ac ynglyn a hynny ennillodd Dystysgrif Anrhyd- edd o'r Dosbarth Blaenaf. 1'r adran honno o'r gwaith cyfreithiol adnabyddir fel conveyancing yr ymgyflwynodd. Fe gofir fod ei hendaid yn alluog iawn yn y ganghen honno. Ond dechreuodd gymeryd dyddordeb mewn pynciau cyhoeddus yn gynnar, a daeth ei enw i'w weled yn gysylltiedig a phob symudiad dyngarol a dyrchafol. Rhoed iddo anrhydedd Marchog o Urdd y Gwaredwr gan Frenhin Groeg yn 1879 yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i achos rhyddid yn y Dwyrain. Bu yn ysgrifenydd Pwyllgor Politicaidd yReform Club. Meddyliodd unwaith am fod yn Aelod Seneddol, ac ymladd- odd un etholiad ym MwrCMLsdrefi Penfro. Ond nid yn Nhy y Cyffredin yr oedd y lie i wr o'i neillduolion a'i athrylith ef. Trueni fuasai rhoddi i blaid yr hyn a fwriadwyd i'r ddynoliaeth. Fel Bardd y mae Syr Lewis Morris wedi ennill enwogrwydd, ac wedi cerfio ei enw ar lechres yr anfarwolion. Photo by] \_He11ry Giles, Carmarthen. SYR LEWIS MORRIS. Pan ymddangosodd y gyfrol gyntaf o'r "Songs of Two Worlds," yn 1871, fe ddeallwyd fod awenydd o'r iawn ryw wedi ei eni, awenydd yn cyffwrdd nodau na chyffyrddid gan neb o'i gyd- oeswyr. Nid oedd enw yr awdwr yn cael ei hysbysu, a mawr ydoedd y dyfalu pwy a allai fod. Daeth allan o'i guddfan cyn pen hir iawn, ac er y pryd hwnnw y mae wedi cyhoeddi lliaws o gyf- rolau. Dwy gyfrol ychwanegol o Songs of Two Worlds," yn 1874 a '75; "Epic of Hades" yn dair rhan yn '76 a '77 Gwen yn '78 Ode of Life" yn '8o; "Songs Unsung" yn '83; "Gycia" yn '86 "Songs of Britain" yn '87 "Vision of Saints" yn '90; "Songs without Words yn '94 Idylls and Lyrics yn '96, &c. Ac nid marw-anedig fu y cyfrolau hyn, ond rhedasant i nifer aneirif bron o argraffiadau, rhai o honynt i fwy na deugain argraffiad, ac y mae argraffiad cytlawn o'i hollweithiauyncael ei ddwyn allan yn awr. Nid dyma y lie i wneyd unrhyw fath o sylwadau. beirniadol ar ei gyfansoddiadau, ond gellir dweyd fod eu poblogrwydd yn ddigon o brawf fod eu hawdwr yn wir fardd, oblegid pob- logrwydd bardd yw y poblogrwydd anhawddaf i ymhonwr a ffugiwr ei gyrhaedd. Os nad ellir dweyd mai Syr Lewis Morris yw y bardd Seisnig mwyaf sydd yn fyw heddyw, y mae yn daiddadl ei fod yn un o'r cwmni bychan o awenyddion yr erys eu henwau yn ddisglaer tra y bo son am lenyddiaeth. Ac nid yw yntau heb dderbyn llawer 0 anrhydedd eisoes. Gwnaeth Coleg yr Iesu ef yn Gymrawd Anrhydeddus yn 1887. Derbyniodd Dlws y Jiwbili gan y Frenhines Victoria yn 1887. Meddyliwyd mai efe a bennodasid yn Fardd Brenhinol ar farwolaeth Tennyson, ac nid ydym yn dweyd unrhyw gyfrinach wrth grybwyll fod Tennyson ei hun wedi ei gymeradwyo. Yn 1896-rhoddodd y Frenhines iddo Urdd Marchog. Ond dywed pob dyn a wyr rywbeth am farddon- iaeth mai naill ai ar ysgwyddau Swinburne neu Lewis Morris y dylasai mantell y Brenhinfardd fod yn gorphwys. Mae Syr Lewis yn genedlgarwr aiddgair, ac wedi cysegru llawer iawn o'i amser, a'i athrylith, a'i lafur i wasanaethu gwlad ei enedigaeth, y wlad yn yr hon y gwnaei gartref. Yn ei "Songs of Britain," ceir lliaws o'n rhamantau a'n tradd- odiadau wedi eu troi ar gan, a bu hynny yn foddion i dynu sylw llawer o estroniaid at ein llenyddiaeth genedlaethol, ac i agor eu llygaid i weled ei swyn a'i mireinder. Ysgrifennodd liaws mawr o erthyglau ar bynciau a ddalient berthynas ag addysg ein cenedl, ac ni wnaeth neb fwy nag ef i sicrhau i ni Ein Colegau a'n Prifysgol. Yn 1879 dewiswyd ef yn ysgrifenydd Coleg Aberystwyth, a gwasanaethodd yn ddiweddarach fel trysorydd i'r sefydliad hwnnw. Yr oedd yn un o aelodau y Pwyllgor arbenig a bennodwyd yn 1880 o dan lywyddiaeth Arglwydd Aberdar i edrych i mewn i effeithiolrwydd, neu, yn hytrach, aneffeithiolrwydd, Addysg Ganolraddol ac Uwch- raddol yng Nghymru. Bu yn aelod o gynghor llywodraethol y tri Choleg Cenhedlaethol, ac ar ol sefydlu y Brifysgol bu am dymhor yn Ddir- prwy Ganghellydd iddi. Nid yw wedi arbed dim arno ei hun pan y gwelai gyfleusdra i wneyd rhywbeth i lesoli a dyrchafu ei bobl a'i wlad. Pan ysgrifenir hanes ymdrechion cymwynaswyr Cymru yn hanner olaf y bedwaredd ganrif a'r bymtheg ni enwir neb gyda mwy o barch ac edmygedd na'r bardd awenyddol a'r gwladgarwr twjmgalon, Syr Lewis Morris.