Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymretg.—XVH. Syr…

News
Cite
Share

Enwogion Cymretg.—XVH. Syr Alfred Thomas, A.S. ER nad yw nifer Aelodau Seneddol Cymru yn lliosog o'u cymharu a chynrychiolwyr y cenhedloedd eraill a wnant i fynu y Deyrnas Gyfunol, y maent yn ddigon lliosog i ffurfio elfen bwysig yn Nhy y Cyffredin, a honno o dan lawer o amgylchiadau yn ddigon cref i orfodi y pleidiau gwleidyddol i wneyd cyfrif o honi. Ond hyd yn gymharol ddiweddar nid oedd ei bodolaeth fel elfen wahaniaethol yn cael ei gydnabod o gwbl. Collid yr Aelodau Cymreig ym mysg y lliaws fel y collir y ffrwd fechan yn yr afon lydan, ac edrychai arweinwyr y pleidiau Seisnig arnynt fel gronynau yn eu nerth hwy. Ond y maent hwythau erbyn hyn wedi ymffurfio yn Blaid Gymreig, ac er nad ydynt hyd yma wedi cymeryd safle annibynol, y maent wedi dangos ar fwy nag un achlysur fod yr undeb yn gyfryw na feiddir ei anwybyddu na'i ddiystyru. Ac ni weithiodd neb yn ddyfalach i ddwyn yr undeb hwnnw oddi- amgylch na'r boneddwr y rhoddwn ddarlun a braslun o honno y tro hwn, y gwr a fedd yr anrhydedd o fod ers chwe' blynedd bellach yn Qadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig. Dewiswyd ef i lanw y safle honno gan ei gyd- aelodau nid ar gyfrif athrylith ddisglaer a hyawdledd areithyddol o radd uchel, ond ar gyfrif cymhwysderau eraill sydd yn llawn mor hanfodol i arweinydd cenedl fod yn feddianol arnynt grym cymeriad, symlrwydd amcan, gwelediad clir, penderfyniad sefydlog, ac ym- lyniad didroi yn ol wrth egwyddorion puraf cenedlaetholdeb. Ni fedd Cymru heddyw neb sydd yn gyfuniad llawnach o'r holl bethau hyn na Syr Alfred Thomas. Ganwyd Syr Alfred yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 1840. Cafodd addysg dda yn ei flynyddoedd boreuaf, oblegid yr oedd ei dad yn wr o safle anrhydeddus ym mysg masnachwyr y dref gynyddol honno. Cynygiwyd iddo fyned i un o'r prifysgolion, ond gosodasai ef ei fryd ar fywyd masnachol, ac yn lie myned i Rydychain neu Gaergrawnt, aeth yn llanc ieuanc i swydd- feydd ei dad. Edifarhaodd lawer gwaith mewn blynyddoedd dilynol iddo fod mor ffol, a dywed mai dyna gamgymeriad mwyaf ei fywyd.- Profodd yn fuan ei (fod yn meddu talentau masnachol o radd uchfel,*ac o dan ei symbyliad a'i ymroddiad eangoid^f fasnach yn ddirfawr, fel y daeth i gael ei ystyried yn un .o'r dynion y mae yn rhaid iddynt lwyddo pa beth bynnag a gymerant mewn llaw. Fel llawer gwr arall sydd wedi cyrhaedd safle anrhydeddus ym mysg seneddwyr catodd Syr Alfred ei ddisgyblu ar gyfer bywyd cy- hoeddus yn Y Cynghor Trefol. Etholwyd ef i Gynghor Caerdydd yn 1875, a bu yn aelod o hono am un-mlynedd-ar-ddeg. Yn ystod y blynyddoedd hynny yr oedd Caer- dydd yn cynyddu gyda chyflymder aruthrol, ac o'r braidd yr oedd llawer o aelodau y Cynghor yn sylweddoli yr angen am ychwanegu cyfleusterau ar gyfer cysuron yr ami breswylwyr. ()nd yr oedd un yn eu plith yn fyw i bob angen am welliant, ac y mae ei dref enedigol yn ddyledus iddo ef yn fwy nag i neb arall am ei bod yn meddu Photo by] [/• Osborne Long, Cardiff. SYR ALFRED THOMAS, A.S. cymaint o fanteision corphoriaethol. Ni fynai i Gaerdydd fod yn ail yn yr ystyr honno i unrhyw dref yn y deyrnas. Taflodd ei holl egnion i'w gwasanaeth, a llwyddodd i ddwyn ei gyd-aelodau i'r un ysbryd ag ef ei hun. Yn 1881, etholwyd ef yn Faer y dref, a gwnaeth flwyddyn ei faeroliaeth yn un i'w chofio drwy ei haelioni. Fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth cyflwynwyd iddo Ryddid y Fwrdeisdref," ac ar y pryd nid oedd ond un arall yn fyw a dder- byniasai yr anrhydedd hwnnw. Yr oedd yn naturiol i wr mor weithgar a rhyddfrydig dynnu sylw fel un a feduai gym- hwysder i fod yn Yn Aelod Seneddol. Pan roddodd Deddf Ad-drefniad yr Eisteddle- oedd aelod i Ddwyreinbarth Morganwg, yn 1885, gwahoddwyd ef i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol. Yr oedd adran o'r blaid ar y cyntaf yn ffafrio ymgeisydd arall, ac ofnid y buasai ymraniad yn y gwersyll. Ond daeth yn amlwg yn fuan mai Mr. Alfred Thomas oedd ffafrddyn y lliaws, a chiliodd ei wrth-ymgeisydd. Pan ddaeth yr etholiad dychwelwyd ef gyda mwyafrif aruthrol ar ei wrthwynebydd Ceid- wadol. Ac ym mhob etholiad yn ystod yr ugain mlynedd y mae nid yn unig wedi cadw meddiant o'i sedd ond hefyd wedi ennill rhagor o bleidleisiau. A gobaith gwan sydd i neb fyned a'r sedd oddiarno tra yr ewyllysia ei chadw yn ei feddiant ei hun. Nid yn ami iawn y clywir ei lais yn Nhy y Cyffredin, ond y mae yn weithiwr dyfal yno serch hynny, ac ni fedd Cymru neb sydd yn fwy effro yn gwylied ei holl fuddiannau. Rhyw dair blynedd yn ol rhoddodd y Brenhin iddo Urdd Marchog, a theimlodd pawb o bob plaid fod yr anrhydedd hwnnw yn gorphwys arno yn berffaith esmwyth. Ac er cof am hynny yn gystal ag i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth unodd ei ethol- wyr i'w anrhegu a cherflun o hono ei hunan. Ni fedd achos Addysg yng Nghymru gyfaill cywirach na Syr Alfred Thomas. Yn ystod tymhor ei faeroliaeth ef y dewiswyd Caerdydd fel lie un o'r Colegau Cenedlaethol, ac yr oedd a fynnai ef lawn cymaint a neb arall i sicrhau y coleg i'r dref. Mae wedi cyfranu miloedd o bunnau tuagato, ac o'r dechreuad yn un o'i lywodraethwyr. Nis gwyr neb faint o gynorthwy a roddodd i sefydliadau addysgol eraill y dref a'r cymy dogaethau cylchynol. Nid yw yn gadael i'w law aswy wybod pa beth a wna ei law ddeau. Ond pe gwybyddid y cwbl fe ryfeddid at ei haelioni, a bendithir ei enw yn hir gan lawer a osodwyd ganddo ar ben y ffordd i ddyrchafiad. Mae Syr Alfred o'i febyd Yn Ymneillduwr Cadarn, ac yn wahanol i rai nid yw anrhydedd a safle wedi peri iddo feddwl llai o'i Ymneillduaeth. Ymunodd ag Eglwys y Bedyddwyr yn y Taber- nacl, Caerdydd, pan yn ieuanc, ac y mae ers llawer blwyddyn yn un o'i cholofnau cryfaf. Er amled goruchwylion ei fywyd cyhoeddus y mae yn mynnu amser i wasanaethu ei enwad mewn llawer cylch. Yn 1886 rhoddodd yr enwad arno yr anrhydedd uchaf a allasai drwy ei ethol yn gadeirydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Ac ni raid i greiydd nac Ymneillduaeth Cymru mwy na'i gwleidyddiaeth ofni wynebu'r dyfodol tra y medd i'w harwain ddynion o gymeriad ac ysbryd cyffelyb i Syr Alfred Thomas.