Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Byd U A R fl.Gan. u
Byd U A R fl. Gan. u Gan PEDR ALAW. [« PENDENNIS," LOUGHTON.] Miss FRANCES REES. Cyn y bydd yr ysgrif hon mewn print bydd y gerddores hon wedi dechreu cerdded ffordd newydd ar ei gyrfa gobeithio y caiff fesur helaeth o hapusrwydd ac y bydd y gan" yn y cywair lion bob amser. Yn ei chysylltiad a King's Cross, nis ang- fcofir ei chariadus lafur fel organydd. Bu yn y swydd hon am flynyddoedd ac yn bur ffydd- lawn bob amser. Ond gyda chor y Kymric yr enillodd enwogrwydd; a chredwn na ddarfu i gor Cymreig Llundeinig erioed ymenwogi gymaint a hwn. Bydd y ffeithiau canlynol yn ddigon o gadarnhad o hyn: Yn y flwyddyn 1895, gwnaeth pyyllgor Eisteddfod Undeb Ysgolion yr Anibynwyr Cymreig gynyg ar gynllun newydd mewn cystadlu dewisasant gydgan i gor merched. Penderfynwyd ffurfio cor yn y Tabernacl, King's Cross, gyda'r amcan o gystadlu. En- wyd ef, Cor Merched Gwalia" (" The Gwalia Ladies' Choir") a Miss Rees yn arweinydd. Enillodd y cor y wobr. Bu yn Uwyddianus befyd ymhob un o'r naw cystadleuaeth ddi- lynol yr ymgeisiodd ynddynt yn Llundain! Am hyn, anrhegodd yr aelodau Miss Rees a baton hardd. Wedi hyn, penderfynwyd eangu terfynau gweithrediadau y cor. Ychwanegwyd ato, gyda golwg ar gystadlu yn Eisteddfod Llan- dudno, a rhoddwyd iddo yr enw," The London Kymric Choir." Yn yr ymdrechfa yn Llan- dudno daeth y cor allan yn ail-oreu, a mawr oedd y ganmoliaeth a gafodd am ei ganu godidog. Wel, ar ol hyn, naturiol ydoedd ymgeisio am y brif wobr-yr hyn a wnaed ymhen dwy flynedd wedi hyny, yn Eisteddfod Genedl- aethol Ffestiniog; a'r pryd hyn syrthiodd y brif wobr i ran merched Llundain, ynghyda bathcdyn aur i'r arweinydd. Dyma'r tro olaf i'r cor gystadlu, a bellach ymroddodd i ganu mewn cyngherddau. Ym- ddangosodd yn yr Albert Hall, y Queen's Hall, St. James's Hall, ac mewn cyngherddau mawrion yn y wlad. Hefyd, rhoddwyd amryw o gyngherddau-yr aelodau yn cyfranu yr alawon, &c. Mewn un tymhor, rhoddwyd deg ar ugain o gyngherddau. Ym mis Awst, y flwyddyn ddiweddaf, rhodd- odd y cor ddeuddeg o gyngherddau yn Plymouth, a mawr ydoedd canmoliaeth pap- yrau y dref bwysig hono i ganu y cor. Bellach, gan y bydd yr arweinydd yn ym- gartrefu yng Nghymru, tebyg na cheir clywed y cor hwn mwyach. Os felly, da genym ddeall ddarfod i'r aelodau addaw ymuno a chor yr Wyl Gerddorol Gymreig. Bydd eu lleisiau rhagorol yn gaffaeliad mawr i'r cor newydd- Miss GWLADYS ROBERTS. Sylwasom ar ganu rhagorol y ferch hon yn Stratford amser byr yn ol. Y mae newydd enill y Madam Sainton- Dolby Prize yn yr Athrofa Frenhinol. Yn sicr, y mae llawer o lwyddiant eto yn ei haros. Miss TEIFY DAVIES. Gwelwn oddiwrth bap- yrau lleol Abertawe fod y gantores boblogaidd bon wedi cael derbyniad bynod o groesawus yno mewn cyngherdd mawr a roddwyd yn yr Albert Hall, nos Iau cyn y diweddaf. Dyma'r tro cyntaf iddi dalu ymweliad a'r dref, mae'n debyg; ond y mae yn eglur, oddiwrth ym- ddygiad y gwrandawyr, y bydd raid ei chael yno yn ami ar ol hyn. Gorfu iddi ganu, ac ail ganu ac eto, ni foddlonwyd y dorf, eithr galwasant ami wedyn, Y mae Miss Davies i'w llongyfarch ond y syndod yw, fob pobl y Sowth heb ganfod ei thalentau dysglaer hyd yn hyn. Hwyrach, wedi iddi enill safle bwysig ymysg y Saeson, y cydnabyddant hi. Dyna ein hen arferiad ni'r Cymry.
Braslun 0 Adgofion Cymreig…
Braslun 0 Adgofion Cymreig Llundain Y Chwarter Canrif Diweddaf, Os nad anyddorol i ddarllenwyr y CELT, cymerwn gyfleusdra i anfon ychydig o nod- iadau ynglyn ag Achosion Cymreig y Brif- ddinas, a phethau ereill cysylltiedig, fel y deuant i'n cof; a chan mai o'n cof yr ydym yn difynu, nid ydym yn honi perffeithrwydd dyddiad ac amseriad yr hyn a gofnodir, nac ychwaith am osod yr un flaenoriaeth, sefyllfa, nac amser yr eglwysi: ond fel ag y maent yn cynyg eu hunain i'n sylw, Felly, cymerwn, i gychwyn- EGLWYS CHARING CROSS ROAD. Y mae ein adnabyddiaeth o'r eglwys hon yn cyrhaedd yn ol dros saith mlynedd ar hugain; ac y mae, ag eithrio tair eglwys arall, yn un o'r rhai cyntaf i ni dalu ymweliad a hi. Gelwid hi y pryd hwnw yn Eglwys Nassau, am mai mewn heol gyfagos yn dwyn yr enw hwn yr oedd y capel-neu, o leiaf, o'r heol hono yr oedd y fynedfa iddo. Yr oedd y capel mewn lie y tu ol i'r heol, ac aethid i mewn iddo drwy borth cul: yn wir, gellid gyda phriodoldeb ei alw yn borth cyfyng. Capel Bed dywyll ydoedd liw dydd, a hyny am fod y goleuni yn cael ei gau allan gan furiau uchel o'i amgylch, ond yr oedd ar ol cael ei oleuo yn yr hwyr yn edrych yn gapel bach del iawn, pur gysurus, ag oriel perthynol iddo. Yr oedd y pwlpud wedi ei osod yn y nenfwd bron, oblegid yr oedd mor uchel fel yr oedd bron yn wastad a'r oriel: capel tipyn yn hir a chul ydoedd. Gweinidog y capel, yr adeg hono, oedd y diweddar Barch. Griffith Davies, Aberteifi- pregethwr da, dwys a difrifol: o dymher llariaidd a charedig. Ar ei ol ef rhoddwyd galwad i Mr. Richard Morris (yn awr o Lan- dudno), o dan weinidogaeth pa un y cynydd- odd yr eglwys. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i'r diweddar Mr. Abraham Roberts, gwr ag y mae ei barch a'i ddylanwad yn aros ar yr eglwys hyd heddyw. Symud- wyd i'r capel hardd presenol rai blynyddau yn ol, ar eu hymadawiad o hen gapel Nassau. Gofodwyd hwy i wneyd hyn er mwyn gwell- iantau Ileol; ac ergyd nid bychan i'r hen aelodau oedd ymadael a'r hen le oedd wedi bod yn gartref iddynt cyhyd ac ofnwn, ar un olwg, na fu rhai o'r hen dadau mor gartrefol yn y deml newydd, er cymaint gwell ydyw. Y blaenoriaid ydym yn gofio yno y pryd hyny oeddynt: Mr. Evan Evans, Fulham Road; Mr. T. Richards, Pimlico; Mr. R. Williams, St. Andrew's Hilt Mr. W. Ed- wards (yn awr o Cemmaes, Maldwyn), a Mr. W. Davies (Mynorydd)-yr oil 0 ba rai sydd wedi ymadael a'r fuchedd hon, oddigerth Mr. Edwards. Swyddogion newydd sydd yma yn awr bob un, ynghyd a gweinidog newydd hefyd, a chawsom y fraint o fod yng nghyfar- fod ei sefydliad, ac hefyd o dreulio Saboth yn gwrando arno yn pregethu ar Ogoneddu Duw," a hyny gyda dwysder a difrifwch neillduol. Y tro blaenorol i hyn y buom yn eglwys Charing Cross Road oedd, yn Awst, pryd yr oedd y diweddar Barch. J. D. Jones, Aber- dyfi, yn gwasanaethu yno (sydd erbyn hyn wedi ymadael a'r fuchedd hon). Ofnem yr adeg hono nad oedd iddo hir oes. Pregethwr da, sylweddol a chadarn, ac un oedd yn ar- ddangos nad oedd ei drysor yn y byd hwn. Colled i Gymry ac i Fethodistiaid, oedd iddo gael ei dori i lawr ym mlodau ei ddyddiau pryd yr ydoedd yn dechreu gwneyd ei le ar lwyfan yr enwad. Wrth daflu golwg ar Eglwys Charing Cross a gweled y lluaws Cymry ieuainc yno-bron i gyd dan chwech ar ugain oed-teimlem fod cyfrifoldeb ofnadwy ar weinidog a swyddog- ion yr eglwys (ac nid yw hyn ond yn dangos engraifft o eglwysi ereill y Brifddinas) i fod yn fyw ac o ddifrif i gadw golwg arnynt a'u, hyfforddi a'u cyfarwyddo ar iawn ffordd yng: nghanol profedigaethau a themtasiynau lie fel y Brifddinas. Y mae digon o gyfleusderaiR da i'w cael.—Cofnodydd.
Bwrdd'y 6 Celt.'
Bwrdd'y 6 Celt.' Mae'n debyg mai agosrwydd y Nadolig sydd yn cyfrif fod y Beirdd wedi tyru i'r cyfarfod diweddaf- Fe wyddant hwy bob amser sut i enill cinio, a diau y byddant yn disgwyl croesawiad i wledd y CELT ar y dydd pwysig hwn. Wel, mae'r drws yn agored bob amser i bob dieithrddyn a chardod i bawb a fo mewn gwir angen. Disgwyliem weled yr awen wedi rhewi i farwolaeth ar y tywydd oer yma; ond ar y cyfan, yr oedd mor sionc ag erioed. Wrth ddechreu'r gweithrediadau, gwelai y Gol. wr yn y gornel a dwy got fawr am danc a mwffler uchel o gylch ei wddf, a'i lasdrwyn yn. dangos ei fod yn dioddef oddiwrth anwyd. Er mwyn. ei gynhesu, galwodd arno i agor y cyfarfod, yr hyn a,, wnaeth yntau mewn ton gwynfanus:— Y GAUAF. Y gauaf, fel blwng ymwelydd—dial Y deua i'n broydd Aethus, swrth, nosweithiau sydd- Hyrddiol yn sodlo'r wawrddydd. Anian mewn llesmair yn huno—a'r wig Dan oer warth yn wylo Rhin y glyn dan rew y glo, Tristwch angeuol trosto. Ofnus, ystormus gyfnod-gormesol Deyrn grymusawg difrod, Gwynt a gwlaw a chenllysg 6d Yw hanes ei oer benod.—AWELFBYN. Bu'r englynion hyn bron a bod yn achos i rewi y gweddill o'r frawdoliaeth; ond, trwy drugaredd, cod- odd y Llinos mewn congl arall—ac nid oes na thyw- ydd na rheol na gwên na gwg a ddistawa ei hyawdl- edd hi. Dyma fel y canai:— Y MEILLION. Gemau derch yw'r meillion dedwydd Swynion dolydd gwyrddion haf, Gwenant yno mewn llawenydd Carant beunydd heulwen fraf j Cluda'r awel falmaidd hyfryd Arogl iechyd trwy y glyn,- O na fyddai byd y gweryd Fel y Gwynfyd pur yn wyn. Heirdd fotymau gwenwisg anian Ail i Ganaan yw y tir Lie cartrefa'r meillion purlan, Eirian ddol adlonawl ir; Pan ddaeth Hydref gyda'i angau Gwywodd liwiau'r tlysni drud.- Trengodd swynion, darfu'r gwenau, Anian, hithau huna'n fud- Tra deil oerni llym y gauaf Wylaf uwch eu gwely hedd, Drwy 'spienddrych amser tremiaf Gwelaf Wanwyn teg ei wedd; Pan y deffry'r cynar flodau Yn eu beddau swynion fyrdd, Gyd-ddisgwyliant am orseddau Ar orielau'r glaswellt gwyrdd. Car fy enaid Iesu tirion C&r fy nghalon weddi bur, Car fy awen ddelw'r meillion C&r fy nwyfron dlysni ir Pan fydd natur yn dadebru Bywyd chwery ar ei sedd, Llaw yr haul i'r Gwanwyn ddyry Allwedd aur i ddadglo'i bedd. Willesden. LLINOS WYRE. Yr oedd elywed son am y gwanwyn a'r meillion YIZi codi ysbryd y beirdd ieuaine ereill, ac wele un ym codi er mwyn ceisio gwneyd { appointment' a'i gar- iadferch a thyma fel y canai, yn dyner:- GWNEYD OED. Ddoi di, lodes, ar ol nosi, Dywed, tua saith, Heb yn wybod i dy fami Na dy neina chwaith, I gael tipyn bach o garu Gwedi gorphen gwaith ?