Hide Articles List

2 articles on this Page

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN.

News
Cite
Share

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] II. Y Methodistiaid Calfinaidd a'r Pre- gethwyr cyntaf. 0 1807 hyd ddyfodiad Mr. Owen Thomas, yn 1852, bu amryw o weinidogion yn trigianu, yma, ac ereill a ddechreuasant eu gweimdog- aeth gyhoeddus yn y lie. Yn 1807 y dechreuodd William Williams hregethu. Grdeiniwyd ef yn Liangeitho yn 1827, a bu farw yn 1847. Gellir barnu pa fath un ydoedd ef oddiwrth dystiolaeth John Elias am dano u Y buasai yn cerdded derg milldir i wrando ar William Williams yn gweddio, ond nid aethai ddeg Hath i wrando arno yn pregethu." Bu yn ffyddlawn iawn, ac yr oedd yr holl dref yn ei barchu. Yn 1809 y dechreuodd James Hughes bre- gethu-enw adnabyddus trwy Gymru oil, fel esboniwr, fel bardd ardderchog (11 Iago Tri- chrug"), a phregethwr da a phoblogaidd. Nis gellir dyweyd ei fod yn fugail o un eglwys neillduol eithr gwasanaethai yr oil o honynt, a chawsai am ei drafferth 40P yn flynyddol. Ond pan ddewiswyd William Williams i'w gynorthwyo, gostyngwyd ei gyflog ddeg punt, yr hyn swm a roddwyd i William Williams. Pan wnaed hyn, dywedodd James Hughes u Robbing Peter to pay Paul." John Lewis a ddechreuodd yr un amser a James Hughes. Ordeiniwyd ef yn y Bala yn 1826, a bu farw yn 1829 trwy ddamwain (syrthio oddiar ei geffyl) pan ar ei daith yn y Deheudir. "ERYRON GWYLLT WALIA." Yn 1847-wedi marwolaeth William Wil- liams ac ar gais James Hughes-dechreuodd Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia) bre- gethu. Disgwylid llawer oddiwrtho, gan ei fod yn ddyn talentog, a dawn neillduol ganddo mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac yn flaenor rhagorol; ond gwnaeth well blaenor na phre- gethwr, er fod rhai yn ei edmygu yn fawr. Ordeiniwyd ef yn 1858, a bu farw yn 1870 yn 68 mlwydd oed. Yn 1852 daeth Dr. Owen Thomas yma, ac ymadawodd yn 1865 neu 1866. O'r Dref- newydd y daeth efe yma felly hefyd, Charles Davies a ddaeth yma yn 1858, ac a ymadaw- odd tua 1880. Yr oedd John Mills (loan Glan Alarch) yma er 1846 Daeth yma tel cenhadwr i blith yr luddewon mewn cysylltiad a'n Cenhadaeth Dramor, yrhflh genhadaeth a fu aflwyddianus, a rhoddwyd hi i fyny. Aeth Mr. Mills ar daith i'r dwyrain, ac wedi ei ddychweliad ymsefydlodd yn Llundain, ac yma y bu yn gwasanaethu yr achos hyd ei farwolaeth yn 1874. Yr oedd yn bregethwr melus, yn fon- eddwr trwyadl, yn ysgrifenwr medrus, ac y mae ei lyfr yn y British Jews yn adnab- yddus i bawb. Yr oedd hefyd yn gerddor ac yn fardd tra rhagorol. Yn 1856, yr oedd yma ddau weinidog- Owen Thomas a John Mills; un pregethwr, Robert Owen; a dau bregethwr newydd ddechreu, sef Hugh Lloyd-yr hwn oedd un o'r cenhadon Cymreig cyntaf mewn cysylltiad a'r London City Mission." Aeth oddiyma i Ddeheudir Cymru i Dowlais, wedi hyny ac yn ddiweddarach, sefydlodd yn Wolverhampton a Bilston, yn weinidog ordeinedig. Y llall oedd Richard Davies (Taliesin). Symudodd yn bur fuan i Gymru, ac y mae yn weinidog parchus er's llawer blwyddyn. Yr adeg yma yr oedd tri o leoedd addoliad genym, sef Jewin Crescent, Wilton Square (a adeiladwyd yn 1852 ac a agorwyd yn 1853). Yr oedd achos yn y West End yn bur gynar. Yn amser James Hughes cynhaliwyd oedfeuon ac Ysgol Sabothol yn Denmark Street, nid ymhell oddiwrth St. Martin's in the Fields. Symudwyd yn 1849 i hen gapel yn Grafton Street, ac yn 1856 agorwyd capel a gyfrifwyd yr amser hwnw yn un hardd-ond erbyn hyn y mae fel capel yn Charing Cross Road yn rhagorach, ac yn un sydd yn sefyll ar ei ben ei hun trwy yr holl Gyfundeb. Gorfodwyd ymadael a'r hen le oherwydd gwelliantau dinesig. Felly, yn 1856, tri chapel: jewin Crescent, Wilton Square a Nassau Street. Yr oedd cynulleidfa Gravel Lane wedi symud i ystafell hollol ddiaddurn, yn warth i Fethod- istiaeth, yn Tooley Street, a elwir yn Cam- brian. Yr oedd hefyd ystafell, lie yr oedd ysgol a phregethu yn y prydnawn, yn Poplar -yn benaf er mwyn y morwyr. YSTADEGAU 1856. Dyma oedd ein rhifedi yn y cyfnod yma, 1856 :— 3 Capel. 2 Lie i addoli. 2 Gweinidcg. 3 Pregethwr. 17 Diaconiaid. 589 Aelodau. O'r adeg yma dechreuwyd gynyddu yn gyflym, a'r capel newydd cyntaf—wedi yr un yn Nassau Street, ydoedd un yn lie yr hen ystafell yn Poplar, yn Brunswick Road, ac unwaith meddyliwyd y buasai yno achos bach llwyddianus. Er hyny, profodd i'r gwrthwyneb, a bu raid i amryw o'r prif aelodau ymadael oherwydd prinder gwaith yn y Dock Yards. Teimlwyd, hefyd, nad oeddynt yn y He goreu, eto, rhoddwyd pob cefnogaeth i'r ychydig frodyr ffyddlon yno, y rhai a weithiasant yn ar- dderchog. Y diwedd fu, symud yr eglwys a'r gynulleidfa i gapel newydd yn Whitehorse Street, Stepney (ac erbyn hyn yn Mile End Road). Y mae yr anturiaeth wedi ateb y dibenion goreu, yr eglwys a'r gynnlleidfa wedi ac yn cynyddu Arhosodd, er gofid, rhai o'r brodyr oddynt yn byw yn Poplar, ac a ymun- asant a'r Wesleyaid. FALMOUTH ROAD. Tua 1862 symudodd eglwys y Cambrian o'u ystafell yn Tooley Street. Cawsant le cyfleus mewn man anghyfleus yn Crosby Row. Cyn- yddasant yn raddol, ac yn y blynyddoedd diweddaf yn gyflym, nes iddynt fyned i deimlo angen am le mwy a chyfleus. Cafwyd un yn Falmouth Road, ac adeiladwyd capel a gost- iodd dros chwe' mil o bunau ac un fil am y tir; ac y mae'r achos yno wedi parhau i fyned ar gynydd. Yr achos newydd ar ol 1856, oedd yr un a gafodd ei ddechreuad o eglwys Nassau Street trwy gychwyn ysgol, a hyny gan Mr. Hugh Edwards a Mr. Johns, yng nghymydogaeth Edgware Road, ac yn fuan sefydlwyd yno, a hyny gyda chynorthwy Mr. David Williams, Tre Madog-ar y pryd yn genhadwr yn ein plith. Dyma'r achos a adnabyddir yn awr fel Shirland Road, ac y mae eglwys gynyddol a hardd yno. HOLLOWAY. Aeth Wilton Square yn gyfyng, a rhodd- wyd oriel arno, ac fe'i ail adeiladwyd yn 1884. Oddiyma y cychwynodd yr achos yn Hollo- way. Y lie cyntaf oedd yn yr Holloway Institute, wedi hyny yn nhy Mr. John Jenkins, yna yn y Tollington Hall, ac y maent yn awr yn Sussex Road-pa le sydd wedi ei ymhel- aethu drwy roddi oriel arno. Achos ag sydd yn cynyddu yn fawr o ran nifer yw hwn, ac y mae golwg llwyddianus ar bob adran o hono. Yr oedd Mr. Edward Jenkins yn ddefnydd- iol iawn yma ar y dechreu; a'r diwygiwr diweddar, Richard Owen, yma am oddeutu dwy flynydd, a hyny ar ol agor y capel. Eglwys Shirland Road, ar y cyfan, sydd wedi dangos rnwyaf o'r ysbryd cenhadol. 0 honi y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn Southerton Road, Hammersmith. Buodd yn cynhal ysgol am flynyddoedd- cyn adeiladu y capel, yr hwn sydd adeilad bychan cyfleus a destlus, ac eglwys fechan weithgar, yn sicr o lwyddo. Erbyn diwedd 1888 yr oedd yma wyth o gapelau ynghyd a naw o ganghenau ysgolion yn y lleoedd a ganlyn :—Pimlico a Camden Town mewn cysylltiad a'r eglwys yn Charing r Cross Road. Peckham mewn cysylltiad a Falmouth Road. Barnsbury a Tottenham mewn cysylltiad a Holloway. Homerton. Hackney mewn cysylltiad a Jewin Newydd. Portobello Road ac Edgware Road mewn cysylltiad a Shirland Road. YSTADEGAU YN 1888. Nifer yr addoldai 8 Canghenau Ysgolion 8 Gweinidogion 3 Pregethwyr 2 Blaenoriaid 41 Aelodau mewn Cymundeb 2341 Plant wedi eu bedyddio heb fod yn gyflawn aelodau 655 Athrawon ac athrawesau 151 Ysgolheigion 1385 Gwrandawyr 3400 ARIANOL. Casgliadau eglwysig a Chynulleid- faol at y Weinidogaeth £ 1848 3 o Eisteddleoedd ac elw oddi- wrth wahanol gyrddau 708 4 11 At ddileu dyled y capelau 855 5 5 Casgliadau ereill: Genhad- aeth &c. 536 15 5 Cyfartaledd y casgliadau eglwysig ar gyfer pob aelod 15 9 Cyfartaledd yr holl gasg- liadau ereill yn cynwys yr eisteddleoedd gogyfer a'r gwrandawyr a'r aelodau ynghyd 12 5 Dyled yr addoldai £9594- Gwerth yr eiddo 40,000 (I'w barhau.)

Advertising