Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

nAR Byd y Gan. t

News
Cite
Share

n A R Byd y Gan. t Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Y BENYWOD a CHERDDORIAETH. Yn y West- minster Review yn ddiweddar, ceir erthygl ar y meddwl benywaidd mewn addoliad." Bu- asai yn bwnc dyddorol i'n Cymdetthasau Llenyddol ei ystyried a cheisio ei esbonio i foddlonrwydd. Paham y ceir fod y rhan fwyaf on haelodau eglwysig yn ferched ? Ai am fod crefydd yn apelio yn fwy at y meddwl benywaidd ? Gadawn y cwestiwn fel yna, canys nid ein busnes ni ydyw ei ateb yng ngholofn y gan. Y mae yr erthygl y cyfeiriwyd ati uchod yn ystyried hefyd y meddwl benywaidd a cherddoriaeth, a synwyd ni gan ddaliadau yr ysgrifenydd ar y mater hwn. Dywed nad yw merch erioed wedi ymddisgleirio yn y byd cyfansoddol. Fel offerynes-fel perdonyddes, er engraifft, dyma ddywed :— "A woman is not much behind men as far as mechanical technique goes, but at most, she plays the dead bones of music At the organ, no woman succeeds. Cyfaddefa y gall y rhyw fenywaidd ganu yn y ?I dda, a dyna tua'r oil a all wneyd yn bur ganmoladwy. Fel cyfansoddes, y mae y byd yn ddiweddar iawn wedi cael prawf y gall merch ysgrifenu opera ddigon da i'w phrofi ar lwyfan y Covent Garden, er y rhaid cyfaddef mai bach iawn ydyw nifer y merched allent gyflawni y fath orchwyl. Y mae amryw hefyd wedi llwyddo yn dda gyda chyfansoddiant cerddorfaol, er y rhaid cyfaddef eto nad yw y darnau hyn mor bwysig a darnau o'r un nodwedd gan y prif ddynion. Pel Perdonesau y mae merched enwog-dyna Fanny Davies, er engraifft; ond eto rhaid cyfaddef nad yw rhai o'i dosbarth hi cyfuwch a dyn fel Paderewski. Fel unawd- wyr, y mae y byd—i'n tyb ni-wedi gweled merched mor alluog a lhvyddianus a dynion, fel nas gellir dyweyd nad yw y meddwl ben- ywaidd yn alluog i ymddisgleirio yn y cyfeir- iad hwn. ———— Credwn fod y meddwl benywaidd yn abl i ymddisgleirio mewn cerddoriaeth, ac y ceir profion cryfach o hyn yn y dyfodol nag a gf-eir yn awr pan y bydd y meddwl gwryw- a dd yn llai rhagfarnilyd yn erbyn y rhyw arali, ac yn fwy parod i'w symbylu. Y mae'r merched, er yn brif addurn yr aelwyd, wedi profl. y gallent gyrhaedd safon uchel mewn llenyddiaeth, arluniaeth, gwyddoniaeth, bardd- oniaeth a cherddoriaeth ac y mae dyweyd nad ydynt yn gerddorol yn haeriad cwbl eithafol a disail. CERDDORIAETH GYSEGREDIG. Y mae tramor- wyr yn credu fod y math hwn o gerddoriaeth yn bur gymeradwy yn LIoegr-yn Hawer mwy felly nag ar y Cyfandir a'r America. Cyfrifir ein bod yn ddyledus am hyn i ddylanwad yr oratorio arnom, ac y mae yn sicr fod hyn yn wir; ond nac anghofier fod crefydd yn cael lie mwy yn ein hanes nac a gaiff yn hanes y tramorwyr, ac y mae cerddoriaeth gysegr- edig yn cael lie blaenllaw yn ein capelau a'n heglwysi. Yr ydym, fel hyn, bob wythnos o'n bywyd yn troi ym myd cerddoriaeth gysegr- edig, yr hyn a helpa i gadw yn fyw ac iach ein bias at yr oratorio a ffurfiau ereill o gerddoriaeth bur. Y BALLAD. Dywed Americanwr diweddar nas gall ddeall sut y mae cenedl fel y Saeson yn medru dygymod a'r math gwag hwn o gerddoriaeth. Dywed ei fod mewn cyngherdd uwchraddol diweddar ym mha un na cheid darnau o'r eiddo Schumann, Schubert, Lowe, Franz, Brahms, Rubenstein, Grieg &c., eithr boddlonid ar yr eiddo Adams, Balfe, Faure, German, Lohr, Blumenthall, Hatton-enwau nas gwelir ar dafleni cyngherddau uwchraddol, representative yn yr Unol Dalaethau. Y mae y gwr o'r America yn anghofio fod harddwch yn perthyn hyd yn oed i'r ballad, ac ei bod yn ffurf ar gelfyddyd nad ydyw i'w dibrisio; ac os gwneid i fyny daflen o ddarnau y gwyr olaf a enwyd uchod, diau mai darparu yr oeddid i'r dosbarth canol. Rhaid gofalu am hwn. COR Y PENRHYN. Cawsom gyfleusdra i wrando ar gor y chwarelwyr yn canu yn ddiweddar, a rhoddasant gryn bleser ini. Da oedd genym weled y Saeson yn rhoddi der- byniad mor gynes iddynt. Am eu dadgan- iadau nid oes ond da i'w ddyweyd, a chym- eryd i ystyriaeth yr amgylchiadau o dan ba rai y maent yn canu. Nid cor i'w farnu ydyw hwn, eithr cor i gydymdeimlo ag ef. Mintai fach o hogia Bethesda ydynt yn canu am arian er cynorthwyo'r bobl i gario'r frwydr dros ryddid ymlaen. Gan hyny, tafled pob un ei hatling i'r hat. Gellir dyweyd fod y parti cerddorol hwn yn rhan o'r cor hwnw fu'n cystadlu yn Eisteddfod Chicago ychydig flyn- yddau yn ol.

HYN A'R LLALL.

Advertising

Y Dyrodoi.