Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
T. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). Telegraphic Address—" CYMREIG, LONDON." DYMUNWN alw sylw darllenwyr y CELT at y rhestr luosog o fasnachoedd llaeth sydd newydd ddyfod i'n llaw. Gallwn ddyweyd yn ddi betrus mai hon yw y rhestr oreu a ddarparwyd genym eto i'r farchnad. Y mae y prisiau yn am- rywio o £100 i £2,500, ac mewn gwahanol barthau-y mwyafrif yn Llundain a'r cyffinau-ac ereill yn y trefydd amgylchol, ac ar lanau y mor. Nid oes angen i ni gymeradwyo ein tinnain, y mae y canoedd o fasnach- oedd a werthir trwy ein hofferynol- iaeth i brif fasnachwyr llaeth Llun- dain yn ddigon o gymeradwyaeth, y rhoddir boddlonrwydd perffaith i'r prynwyr a'r gwerthwyr, a chymerir gofal arbenig i gadw pob gohebiaeth mewn perthynas i'r masnachoedd a anfonir i law yn hollol gyfrinachol. Cynghorwn bawb ag sydd yn dymuno gwerthu eu masnachoedd alw, neu anfon y manylion ar unwaith. Dylai pawb ag sydd yn bwriadu prynu, alw yn y swyddfa hon, neu anfon am Restr o'r masnachoedd sydd genym ar werth. Anfonir y cyfryw yn rhad ac am ddim. Mae yn ddiddadl mai hon yw y ffordd fwyaf effeithiol i gael gafael mewn masnachoedd cywir a didwyll (Honesty is the best policy), yw ein harwyddair. SWYDDFA, 143, STEAND, W.C. VISITORS TO ABERYSTWYTH SHOULD STAY AT THE CTRANVI L L Fj (PRIVATE HOTEL) NORTH PARADE, ABERYSTWYTH Spacious Rooms, Electric Light throughout. Terms Moderate. Proprietress-Miss A. JENKINS. THE DENTAL INSTITUTE :168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal Mr. H. OSBORN HUGHES. HIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STRICTLY MODERATE FEES. 'The most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the larges practices in London). CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8.30 And by Appointment. "Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeal i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus i arolygu yn bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie.
SIARAD A CHERDDED.
SIARAD A CHERDDED. LLAFURWAITH YR AELODAU SENEDDOL. Mae drysau Ty'r Gleber wedi eu cau, mae'n wir, er hyny dyddarol yw sylwi ychydig ar waith ein cynrychiolwyr yn ystoi y tymhor a aeth heibio. Myn rhii pobal m1.i bywyd hapus ac urddasol iawn, Hawn o bleserau a mwyniant yw'r bywyd Seneddol, ac er efallai fod rhai o'r cynrychiolwyr yn cael byd da helaethwych beunydd, eto nid bwyta melusion yn unig a ga'r gwr a wnel waith priodol tros ei etholaeth a'i gyd-ddynion. Yn yr hen amser unig drwydded dyn i'r Senedd oedd llogellaid lawn o arain, ac er fod I y duw aur eto yn cael ei addoli yn llawer rhy ami, nid dyna yr unig gymhwysder heddyw dros i aelod gynrychioli sedd Gymreig. Y mae athrylith a medr eisoes wedi gwneyd eu marc ar ran Cymru tra nad yw eichyfoeth- ogion ond wedi llwyddo i wneyd ffyliaid gwleidyddol o honynt eu hunain, a chawlio pob mesur o bwys a ddaeth erioed gerbron yn ymdrin a gwir anghenion y genedl. Tymor o waith fu'r tymhor diweddaf, a hir gofir ef fel y tymor bu BRWYDR RHYDDID unwaith eto ar lawr Ty'r Cyffredin. Llawer o frwydrau sydd wedi eu hymladd yn ylle odro i dro, ond yn sicr, y mae'r gatrawd fechan sydd wedi llwyddo i wrthw/nebu gyda'r fath ddyfalwch, ac yni y mesurauanheg a ddygwyd gerbron yn hawlio ein heimygedd waeth beth fo ein hopiniynau ynglyn a'u credoau gwleid- yddol. Dros Gymru y nue Mri. Lloyd George, Herbert Lewis, S. T. Evans, Ellis J. Griffith, William Jones ac ereill wedi cyflawni gwaith rhagorol, a dylai y genedl gofio am y meibion hyn yn y blynyddau sydd i ddod, oherwydd y y mae caledwaith a wnaed ganddynt yn hawlio coffhad hir. Os oedd y gwyr hyn yn brysur iawn gyda'u tafodau, yr oedd yno amryw o ffyddloniaid yn barod i ddefnyddio eu traed i gerdded tua'r lobby, ac y mae gwerth yn hyny. Y GWEITHWYR. Tra bu y cewri dadleuol uchod yn gwylio'r dadleuon ac yn gyru adref hawliau Cymru ar bob achlysur, da genym ddyweyd na esgeu- luswyd mo gyfandiroedd ereill ganddynt, oherwydd yn Mr. Alfred Davies caed gwr cymwys i ofyn pob cwestiwn ar wyneb clawr daear i aelodau y Weinyddiaeth a gwnaeth 'I' hyny. Ar ol yr holl holiadau hyn, dylai Mr. Davies fod y gwr mwyaf gwybodus yn y Ty, I ond ofnir mai fel arall y mae pethau. Mr. D. A. Thomas fu y mwyaf gwisgi ar ei droed, a llwyddodd ef i gerdded tua'r lobbies dros dri chant o weithiau, a phe gallesid cadw D. A. i ddefnyddio ond ei draed fel hyn, gwnai aelod penigamp dros ei ranbarth. Gwr ieuanc yw Mr. Frank Edwards, ac y mae'n eglur fod gan Brycheiniog wleidyddwr egwyddorol, a gweithiwr caled dros ben. Am Mr. William Jones ni waeth ganddo ef pu'n ai siarad ai troedio tua'r lobbies fydd ei orchwyl, y mae mo'r wisgi yn y naill ag yw yn y llall. Wrth gwrs yr oedd genym ein hen a'n methedig yn y gatrawd, a dyna. sydd yn cyfrif am nifet fechan pleidleisiau Mr. Samuel Smith a Syr E. J. Reed. Am y gweddill, y maent wedi ymddwyn fel plant da, ac y mae meddwl am danynt wedi teithio, rhyngddynt, dros GAX' MILLDIR ar ein rhan yn hawlio edmygedd. Dyma restr o'r aelodau, a'r nifer o weithiau y buont yn nodi eu pleidiau yn y Ty:— Thomas, D. A., Merthyr 306 Jones William, Arfon 296 J Edwards, Frank 246 Davies, Alfred, Llanelli 245 Pryce-Jones, Y Cyrnol 240 Roberts. J. Bryn, Eivion 229 Lewis, J. Herbert, Fflint 222 Roberts, J. Herbert, Dinbych 204 M'Kenna, R., Mynwy 201 Lawrence, Syr j 200 Davies, Vaughan, Aberteifi 199 Thomas, J. Aeron 197 George, D. Lloyd 181 Williams, Osmond. 178 Morgan, J. Lloyd 176 Jones, D. Brynmor 176 Humphreys-Owen, A. C. 170 Kenyon, Anrhyd. G. T. 167 Thomas, Syr Alfred 164 Evans, S. T. Morganwg 154 Wyndham-Quin, Y Cyrnol 149 Griffith, E. Jones, Mon 144 Moss, S., Dinbych 131 Abraham, W., Mabon 129 Morley, C., Brycheiniog 123 Thomas, Abel 117 Harcourt, Syr William 112 Morgan, Y Cyrnol 109 Newnes, Syr George 103 Hardie, J. Keir 97 Laurie, Y Milwriad 62 Phillipps, J. Wynford 45 Reed, Syr E.J. 14 Smith, Samuel 3
Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL.
Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL. Anfonodd y Brenin yr anerchiad canlynol i'w bobl Ar ran y Frenhines a fy hunan diolchaf i chwi yn galonog am eich llongyfarchiadau calonog ar ein Coroniad, ar fy adferiad i o gystudd blin, ac ar sicrhad heddwch yn Ne- heudir Affrica. tl Yr ydym yn wirioneddol ddiolchgar am y trugareddau a ddangosodd yr Hollalluog Dduw i ni a'n pobl; a hyderwn, gan ein bod ni eto mewn heddwch a'r holl fyd, y bydd i'r gorfoleddau diweddar, yn y rhai y cyfranog- odd yr holl boblogaeth, ein hanfon, pob un yn ei le ei hun, i weithio gyda difrifoldeb ad- newyddol er cadwraeth a gwellhad ein hetif- eddiaeth ardderchog ac er cwblhad yr am- canion sydd yn gweddu i bobl fawr. Am danaf fy hun fe'm symbylir i bob amser i wneyd fy ngoreu dros lwyddiant yr Ymherodraeth, gan yr adgof anileadwy o warogaeth o deyrngarwch a serch sydd wedi fy nghyffwrdd yn ddwfn."
Y CADLYWYDDION O'R TRANSVAAL.
Y CADLYWYDDION O'R TRANS- VAAL. Ychydig fisoedd yn ol, yr oeddem yn myned i ddal a lladd neu alltudio y cadfridogion Boeraidd bob un, a mawr oedd y poeri arnynt gan wasg Jingoaidd Lloegr. Dydd Sadwrn diweddaf, wele De Wet, Delarey a Louis Botha yn glanio ynghanol Llundain, a chaw- sant y fath groesaw brwdfrydig fel nas gwyddent yn iawn ymha le yr oeddent. Y maent, bellach, wedi troi o fod yn elynion, a chyfrifir hwy gan y Saeson heddyw fel y rhai dewraf o holl lu'r rhyfel. Dydd Sul, cawsant yr hyfrydwch a'r an- rhydedd o gael cyfarfod a'r Brenin ei hunan, a dangosent eu hunain yn foddhaus iawn o gael ymgom ag ef. Bydd y bobl wrol hyn yn aros ar y Cyfan- dir am rai misoedd, a diau y ceir cyfleustra i'w gweled yn ein cynulliadau cyhoeddus eto cyn y dychwelant i Affrica, a hyderir y ca'nt yno swyddi teilwng o'u galluoedd ac o'u medr fel dewrion wyr y gad.
[No title]
Ueihau mae nifer yr achosion o'r frech wen yn Neheudir Cymru, ac y mae bron a gadael Llundain yn llwyr. Mae'r bobl yn awr yn fwy gofalus am eu glanweithdra na chyn toriad y pIli. allan. Mae gohebydd yn y Times yn ysgrifenu am gynorthwy i ffurfio talaeth Gymreig yn Neheudir Affrica. Cred y byddai yn llwydd- iant mawr, a'r ffordd oreu i ddileu yr anghyd- fod ynglyn a Patagonia yw ymfudo ar unwaith i wlad sydd o dan goron Lloegr.