Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Oddeuiu'sr Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeuiu'sr Ddinas. 0 Aberystwyth a Llandudno daw'r newydd- ion fod llu o Lundeinwyr yn aros yno. Cwyno, er hyny, ar yr bin y mae'r ymwelwyr. • » » Paham na rydd Cymry Llundain well croesawiad i Gymry'r America pan ar ym- weliad a'r wlad hon. Er fod nifer luosog o weinidogion wedi dod dros y Werydd yr haf hwn, ni chaed ond un neu ddau i'n gwasan- aethu yn y ddinas hon. Rhy ddrwg wir » » Trodd y tywydd yn anffafriol iawn yn y Spithead dydd Sadwrn diweddaf, a bu raid i'r dinasyddion oeddent wedi myned i lawr i weled y Hynges ddod yn oj yn dra siomedig. Nid oedd yr olygfa ar y llynges agos mor dda a phe cawsid tywydd hafaidd a dym- unol. < < Mae amryw o'n unawdwyr ieuainc wedi anfon eu henwau i fewn i wahanol gystadleu- aethau yr Eisteddfod Genedlaethol, a gobeithio y llwydda rhai o honynt i enill y gamp. < w Un o'r materion sydd i'w benderfynu yn Eisteddfod Bangor yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1904. Yn un o drefi y Gogledd ei cynhelir, a dylid anfon ceisiadau yn ddioed i Mr. E. Vincent Evans, 64, Chan- cery Lane, Llundain, oherwydd efe ydyw ysgrifenydd Cymdeithas yr Eisteddfod. w Bu helynt swyddogion Capel Falmouth Road o flaen il llys apêl" y Cyfundeb yn ddiweddar. Cymdeithasfa y Deheudir yw'r Ilys sydd uwchlaw Cwrdd Misol Llundain, ac ym Mhencoed, Mynwy, y bu y cynulliad ddechreu y mis hwn o dan lywyddiaeth y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin-y llywydd am y flwyddyn. < Yr oedd y Parchn. J. Morgan Jones, Caer- dydd a Mr. J. Davies, Aberafon, wedi bod yma fel cenhadon ynglyn a'r achos, a dyma eu dyfarniad o flaen y Gymdeithasfa:—" Ein bod yn barnu nad oes sail i'r apel gan ei bod yn amlwg fod eglwys Falmouth Road a Chy- farfod Misol Llundain wedi gweithredu yn hollol reolaidd ac o fewn eu hawl, ac y mae yn dda genym gael dat- gan nad oes dim wedi ei wneyd na'i ddyweyd ag sydd yn adlewyrchu yn anffafriol a niweidiol ar gymeriad moesol Mr. John Morgan, ac fod un o'r ddau frawd i roddi adroddiad yn y Gymdeithasfa." » Fel ategiad i hyn, dywedai y Parch. J. M. Jones yn ychwanegol Bu Mr. Davies a minau yn gwneyd ymchwiliad i'r achos hwn, ac wedi cael llawer o fantais i ddeall y mater, buom yn gwrando ac yn holi y cyfeillion am dros awr a haner, a rhoddwyd pob cymhorth i ni ganddynt er ein galluogi i ffurfio barn ar yr achos hwn. Mr. Morgan yn achwyn (1) fod eglwys Falmouth Road wedi ei daflu allan o fod yn drysorydd yr eglwys, a hyny yn anheg. Rhaid i ni ddyweyd fod tipyn o afler- wch yn perthyn i'r cynllun oedd gan yr eglwys i gadw ei chyfrifon, a hefyd tipyn o aflerwch yn Mr. Morgan fel trysorydd, ond iawn yw dyweyd nad oes neb wedi awgrymu unrhyw beth ag sydd yn anffafriol i gymeriad Mr. Morgan. Nis gwn i am unrhyw reol i rwystro eglwys i newid ei thrysorydd, os bydd yr eglwys yn dewis gwneyd hyny. Ail achwyn- iad gan Mr. Morgan oedd iddo gael ei ddi- swyddo o fod yn flaenor. Yr oedd yna gryn ddyryswch yn Falmouth Road: y blaenoriaid yn methu cyd-dynu, y gweinidog a'r blaenor- iaid yn rhyw groes-dynu, a phenderfynodd C.M. Llundain ofyn i'r holl swyddogion ym- ddiswyddo. Nid ydym yn meddwl fod apel yn erbyn hyny yn deg. (3) Etholiad blaen- oriaid, Pan etholwyd blaenoriaid yn eglwys Falmouth Road wedyn, bu yno gryn dipyn o ryw aflerwch, ond canlyniad y bieidlais oedd fod Mr. Morgan yn y lleiafrif, ac ni ddaeth i fewn. Nid ydym yn gwybod am un hawl sydd genym i ymyraeth a'r eglwys ar ol ei phleidlais. Er mwyn heddwch eglwys Fal- mouth Road, a Chyfarfod Misol Llundain, yr ydym wedi dod i'r penderfyniad a nodwyd." < Derbyniwyd yr adroddiad gan y Gym- deithasfa, a rhoddwyd diolchgarwch unfrydol a chynes i'r ddau frawd am en gwasanaeth gwerthfawr a'u hadroddiad cywir. Da genym ddeall, hefyd, fod y pleidiau yn Falmouth Road wedi cael boddhad perffaith yn eu gwaith, ac fod cyflawn heddwch yn yr eglwys ar hyn o bryd. Hir y parhao felly,

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH

[No title]

---.----Bwrdd y ' Celt.'

Advertising