Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

CELT LLUNDAIN.

News
Cite
Share

CELT LLUNDAIN. Sadwrn, Awst 9,1902. CORONI'R BRENIN. Heddyw y eyflawnir y seremoni hir-ddis- gwyliedig hon. Y mae'r Brenin bellach wedi gwella digon i ddal yr oruchwyliaeth galed o fyned trwy y ddefod bwysig yma ynglyn a'i deyrnasiad, a gobeithir yn gyffred- inol na ddaw yr un anhap arall ar yr awr olaf i'w luddias, ac na ddigwydd yr un niwed i'w gyfansoddiad ar ol lludded y dydd. An- ffodus iawn yw Iorwerth wedi bod hyd yn hyn ar ei orsedd. Yr oedd pryder y flwyddyn gyntaf yn hynod o boenus iddo, a'r newyddion drwg o Dde Affrica byth a hefyd yn ddigon i wangaloni y cadarnaf ei ffydd. Ym mhellach yr oedd si ar led fod anhwyldeb blin yn ei gyfansoddiad hefyd, 'rhwn hyd yma nid yw wedi psri ond ychydig 0 Hinder ymddangosiadol iddo, ac os llwyddir i'w rwystro yn awr ar y dechreu bydd yn gampwaith meddygol heb un amheuaeth. Ac yr oedd yr anhap fawr a ddaeth i'w ran ychydig cyn y coroniad addawedig yn Mehefin yn ergyd na chafodd neb erioed ei gyffelyb, a thebyg yw na welir y fath ddigwyddiad byth eto. Wedi'r holl flinderau hyn, hyderwn bell- ach fod dyddiau gwell i wawrio arno. Y mae gwawr heddwch wedi cyfnewid cryn lawer ar ein teimladau, ac yr oedd y don o gydymdeimlad a ddaeth tros y wlad adeg ei selni yn arwydd er daioni, ac yn debyg o ddwyn y wlad yn ol o'r ystad herfeiddiol a chreulawn ag y trigai ynddi fyth oddiar gychwyniad y rhyfel. Yr oedd canfod fod rhywbeth eto yn abl i sobreiddio cenedl wallgof yn galondid, ac yn rhywfath o gysur i ddyngarwyr cyffredin, er fod yn rhaid i gystuddio Brenin cyn cyrhaedd hyny ac wedi'r digwyddiad boed i'r cyfan weithio er daioni, ac er llwydd y teyrn a'i ddeiliaid. Y mae iachad corphorol Brenin yn beth pwysig ond yn sicr y mae gwellhad meddyliol cenedl gyfan yn beth llawer pwysicach, a hyderwn fod hyny hefyd wedi ei gwbl gyflawni. —

IROSEBERY A'l GANLYNWYR.

IRHEITHOR LLANDUDNO.

GWYLIAU GWYR Y GLEBER.

[No title]