Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Gwan ac ansefydlog yw'r fasnach lyfrau wedi bod yn ddiweddar yn y cylch Cymreig. Ychydig yw nifer y llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi; ac o'r ychydig sydd wedi gwneyd eu hymddangosiad, nis gellir cyfrif yr un o bonynt yn waith gorchestol. Beth sydd i gyfrif am y diffrwythder presenol, nis gwydd- om; ond, yn sicr, y mae perygl i ni esgeuluso yr adran yma o'n bywyd cenedlaethol. Feallai fod a fyno'r caledi cyffredinol, i ryw raddau, â'r prinder a deimlir yn ein cynyrch- ion newydd. Y mae y rhyfel diweddar wedi niweidio y fasnach Seisnig yn fawr, yn ol addefiad cyffredinol, a hwyrach fod yn rhaid ] ninau yng Nghymru dawel ddioddef rhyw gyfran o'r gosb sy'n syrthio ar ysgwyddau y Sais ar ol ei ddifyrwch alaethus yn ei drefed- igaethau. Ychydig ddyddiau yn ol, daeth un llawlyfr pwysig allan o'r wasg, set" Catalogue" Mr. Gwenogfryn Evans o hen lawysgrifau Cym- reig ym Mheniarth, Caerdydd, a manau ereill. Yr oedd y rhan gyntaf o'r gwaith wedi ei gyhoeddi er's tro, a da genym gael yr ail ran hon i ddangos i'r byd nifer ein trysorau llenyddol, y rhai nas gwyddom ond y nesaf peth i ddim am danynt. Cyhoeddir yr ad- roddiad hwn gan y Llywodraeth gan mai fel dirprwywr ar ran y Llywodraeth y mae Mr. Evans yn gwneyd yr ymchwiliadau hyn. Y mae rhagolygon am amryw o gyfrolau pwysig yn ystod y gauaf dyfodol, ac feallai y gwneir y golled i fyny yr adeg hono, ac y gwelir y flwyddyn, wedi'r cwbl, yn terfynu gyda nifer luosocach o weithiau Cymreig nag erioed. Ymysg y rhai sydd ar droed y mae casgliad ardderchog o lythyrau yr hen Forris- iaid o Fon llythyrau yn llawn swyn, o ffeith- jau hanesyddol ac o werth llenyddol hefyd. Mae Mr. J. H. Davies, M.A., wedi casglu y trysorau hyn o wabanol gyfeiriadau, a bellach gellir ystyried y cyfan fel un o'r pethau mwyaf dyddorol a ddaeth allan drwy y wasg, er's blynyddau lawer. Bydd cael cipdrem fyw fel hyn ar fywyd cymdeithasol canol y ddeunaw- fed ganrif yn un o'r pethau mwyaf pwysig i haneswyr y genedl yn yr oesau a ddel. Deil y cylcbgronau i ddod yma yn dra rbeolaidd, ond nid oes ddisgwyl am berffaith brydlondeb ynglyn a'r misolion pan y mae'r fath wmbreth o barotoadau ynglyn a'r coroni. Gwelwn wrth wedd CUlRU ei fod mor iraidd ag erioed, ac y mae ynddo luaws o erthyglau lied ddyddorol hefyd. Mae'r portread a roddir o bentref Llanddewi-brefi gan dad y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, yn beth gwerth ei ddarllen; ac addurnir yr ysgrif ddyddorol hon gan amryw ddarluniau hynod o gelfgar a naturiol. Y mae llu o ysgrifau ereill ynddo, a haeddant ddarlleniad cyffredinol. ABERYSTWYTH. Y mae hanes y lIe hwn ar fin cael ei gwblhau, oherwydd ymddangosodd y rhifyn olaf ond un yr wythnos hon. Yr awdwr, fel y gwyddis, yw Mr. G. Eyre Evans, Aberystwyth, hen chwilotwr di-ail; ac amlwg yw, oddiwrth y drafferth a gymer ynglyn a'r llyfr, ei fod yn lied hoff o hanes ei ardal enedigol. PWLPUD HOPE HALL. Dyma gyfrol swllt, a chyfrol sydd yn debyg o gael beirniadaeth lawer ydyw. Mae achos Hope Hall, Lerpwl, wedi myned yn rhy gyffredin i siarad am dano bellach, ac y mae pob math 0 straeon wedi eu taenu o bryd i bryd ynglyn a'r mud- iad newydd. Amcan y cyhoeddiad, yn ddiau, yw dangos gwaith Mr. Jones i gylch eangach o wrandawyr; ac ar ol astudio cynwys y gyfrol, y mae mor debyg i bregethau yn gyffredin fel nad oes achos i neb ofni fod gwedd anffyddol ar y symudiad yn y neuadd eang yn Lerpwl. Mae'r cynwysiad yn hynod o darawiadol, a'r cyfansoddiad yn dda—teil- .-ng o un o feibion goreu y pwlpud Method- istaidd ei hun. Yr unig beth a deimlem wrth oscd y llyfr o'n llaw, oedd, ei bo d yn drueni fcd gwr o allucedd Mr. Jones wedi cael ei droi allan o gylch mor gysegredig a Chwrdd Misol Lerpwl. ORIAU HEFIN. Llyfr bach,twt, a ddaeth i law yr wythnos hon. Casgliad o farddoniaeth yw gan Myfyr Hefin—brawd y bardd Ben Bowen a fu yn Affrica. Glowr cyffredin yw'r awdwr, ac felly, nis oes disgwyl am goethder meddyl- ddrychau er hyny, ceir cryn lawer o swyn mewn ami i ddarn. Y mae'r detholiad yn dda, end galissai rhai gwallau fod wedi eu cywiro cyn arfen y llyfr ar ei neges drwy'r byd. Nid yvv'r pris end cbve'cheinicg. Y DYSGEDYDD. Yn marwolaeth Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, collcdd y cylchgrawn hwn un o'i olygwyr mwyaf ffyddlawn. Efe gym- erodd ei ofal ar farwolaeth Dr Herber Evans, a gweithiodd yn galed er eangu ei gylchred- iad a'i ddylanwad. Priodol felly ydyw yr ysgrifau edmygol o hono a geir yn rhifyn Awst, a gellir deaH drwyddynt i'r enwad Anibynol golli gwr cadarn yn y lleygwr o Lanfyllin. Ceir nifer o ysgrifau amrywiol hefyd yn y rhifyn gan weinidogion yr enwad ond, yn sicr, nid oes yr un mwy darllenadwy na'r eiddo "Machreth" ar Ymneullduaeth a bywyd cenedlaethol Cymru." Y CERDDOR. Gyda'r rhifyn presenol o'r misolyn cerddorol hwn rhoddir rhangan gy- segredig o waith A. E. Floyd, Llangollen. Byddai yn werth ei dysgu yn ein cyfarfodydd gauafol eleni, oherwydd prin iawn yw can- euon fel hyn ymysg ein cyngherddau "blyn- yddol" a'u cyffelyb. Rhoddir niter o ysgrifau dyddorol yn y rhifyn, ac yn eu plith fywgrff- iad o'r hen gerddor enwog Asaph Glyn Ebwy.

CYNGHORI EIN HIEUENCTYD.

CRIST YN GOLCHI TRAED EI DDISGYBLION.