Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. WRTII daflu golwg, yn ystod yr wythnos, dros y maes masnachol, nid ydym yn cael achos i wrtbddweyd yr hyn a nodasom yn yrwythnos- au blaenorol, sef fod ymadfywiad graddol yn cymeryd lie. Wrth sylwi ar yr byn a wnaeth- pwyd yn mhorthladd CASNEWYDD-AR-WYSG yr wytbnos ddiweddaf, y mae yn amlwg fod gweithfeydd glo a haiarn sir Fynwy yn gweith- io yn gjson, a pbe buasai yn ddichocadwy cael ychwaneg o lo, bnasi llawer yn ychwaneg wedi cael ei allforio oddiyno. Mae yn an hawdd yma yn awr i csod ycbwaneg o longau i'w llwytho rhwng hyn a diwedd y flwyddyn, gan fod y rhan fwyaf o'r shippers wedi llanw i fyny eu stems atn y pythefuos dyfodol. Mae prisoedd rhagorol wedi en cael amrai Uwythi o lo i'w trosglwyddo yn ddioed. Mae yr ar- ddrych masnachol am y fhvyddvn ddyfodol yn dra chaloaogol, ac beb ymhoni bod yn bro- ffwyd, na mab i br< ffwyd, gallwri ddwevd fod y rhagolwg am y flwyddyn nesaf yn well o lawer na'r blynyddoedd a basiodd i sir Fynwy a Deheudir Cymru. Mae masnach yr baiarn, yn ogvstal a'r glo, yn weddo! fywiog drwv bolt weithfeydd y sir, ac amrywiol o archebion rbagorol wedi cael eu gcscd ar y llyfrau, ond nid yw y prisoedd yn gadael nac yn rhoddi margin mawr o elw. Y mae yn galondi 1, er hyny, i feddwl fod arwyddion am ddigon o waith i'r gweithiwr am fisoedd dyfodol y gauaf hwn, ac befyd am y gwanwyn, ac hvderwn na chyfyd yr un annghydwelediad rbwng cyfalaf a Ilafur, fel na byddo i lwydrew ataliad gwaith wywo yr adfywiad presenol. Gyda golwg ar buriau llongau, os dim, y meed yn fwy set dl- og, a'r cais am longau yn parhau yn hynod o dda. Yn MERTHYR TYDFIL, a'i rhanbarthau, mae masnach yn ymryddhau oddiwrtb ei llyffetheiriau, ac yn myned rhag ei blaen yn gyflvm. Haiarn yn cael ei w«ithio a'i anfon ymaith yn symiau mawrion, a'r He oedd y nytbai ac y gwelidcwningodynprancio er's tro yn ol yn awr yn aelwydydd o dan eir- iasboeth, rhedeg g. Y Gyfarthfa a Dowlais yn gweithio yn fywiog ahwylus. Haiarn a glo yn dylifo ymaith tua'r porthladdoedd a'r prif ddinasoedd yn hynod o doreithiog. Yn adran AB^RTAWE, mae ychydig gyfnewidiad wedi cymeryd lie wedi yr byn a adroddasom y tro diweddaf, a dim llawer o arwyddion cytnewidiad tan ar ol y gwyliau betb bvEag. Consignments mawr- ion o danwect wedi cael eu gwneyd i borth- laddoedd Mor y Canoldir, a chais da am long- au i fyned tuag yno. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddiweddaf 19,503 o dunelli o lo, 6,539 o dunelli o batent fuel, rhai ugeiniau o dunelli o briddfeini, a 330 o dunelli o ddefnyddiau metelaidd. Mordroswyd i mewn swm rhy- feddol o fawr o fwn haiarn o Bilboa a lleoedd ereill, a 742 o dunelli o copper regulus o Cairi- zal. Nid oes un peth newydd i'w adrodd am weithfeydd haiarn ac alean yr adran. Mae cwmni ffwrnesi blast Abertawe yn anfon ymaith haiarn bwrw i Dieppe. Mae y gweith- feydd glo a haiarn drwy adran CAERDYDD yn myned yn hwylus, er fod y trychineb ofn- adwy a gymerodd le yn Mhenygraig wedi achosi ychydig o lo yn llai i gael ei godi, yn gymaint a bod y gweithwyr wedi bod yn talu ymweliad a lie y danchwa. Er byny, allforia- som oddiyma yr wythnos ddiweddaf 109,342 o dunelli o lo, 2,092 o dunelli o batent fuel, 2,701 o dunelli o haiarn a dur, a 432 o dunelli o olosglo. Mordroswyd i mewn 7,970 o dunelli o f*n haiarn o'r Ysbaeo, 1,434 o dunelli o'r unrhyw nwydd o leoedd ereill, a chymaint a phedair mil a baner o dunelli o goed pyllau glo. Mae yma alwad am longau, a'u cyflogau yn sefydlog,—hytracb, os dim, arwyddion codiad yn ganfyddadwy, fel y mae gobaith am gyflog- au gwell i'r rhai y mae eu gwaith mewn llong- au, ac yn tramwyo dros ddyfnderoedd y mor- oedd mawrion. Er i brisoedd yr haiarn bwrw yn MIDDLESBRO yr wythnos cyn y diweddaf, gwympo llawn chwe' cheiniog y dunell, y mae codiad rhanol wedi cymeryd lie yr wythnos ddiweddaf. Ar y Gyfnewidfa, dydd Mawrth, yr oedd mwy o ymofyn am baiarn erbyn y flwyddyn nesaf. Y gwerthwyr yn gofyn mwy o bris am eu haiarn, a symiau mawrion ohono yn cael ei anfon i'w lwytho mewn llongau. Cymerodd yr Alban oddiyma yr wythnos ddiweddaf 13,000 o dun- elli o baiarn Cleveland, ac aeth mwy na'r dwbl a arferai fyned i Ddeheudir Cymru. Y pris- oedd am Rif 3 o baiarn bwrw yn Ip. 19s. 6c., a Ip. 18s. 6c. y dunell am Rif 4 forge. Yn yr un cyffelyb fodd y mae masnach yr haiarn drwy ranbarthau ereill Lloegr. Wrth dalu ymwel- iad a CHWMBARGOED, Darran, Pengam, a Gelligaer, dydd Sadwrn diweddaf, cefais ar ddeall fod masnach y glo at wasanaeth teuluol yn hynod o frisk, a'r gweith- wyr yn yr boll byllau hyn yn gweithio eu harn- ser, beb golli yr un awr yn yrwythncs, a'r cais am y glo yn fwy na'r cyflenwad. Caerdydd, Rhag. 20, 1880. G. M.

[No title]

Adolygiadau Llenyddol.

BYR EBION 0 L'ERPWL.

AT Y BEIRDD.

HEN GASTELL CILGERRAN.

THE HARP OF OUR COUNTRY STILL…

PENILL I'R LLYTHYR-GLUDYDD.

Y LLYTHYR-GLUDYDD.