Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

EVAN GWYNNE;

News
Cite
Share

EVAN GWYNNE; Neu, y Dyn a dor odd ei Ardystiad. Y DIWEDD. Yr oedd iechyd Evan Gwynne yn gwaelu er ys wythuosau; vr oedd ei arferion anghymedrol wedi diaystrio ei gyfansoddiad; eto yr oedd ei wane am y diodvdd dinystriol mor gryf ac erioed; er fod ei natur yn rhoddi ffordd, ei ieehyd yn pallu, ac hyd yn nod ei feddwl yn gwanhau; yr oedd yr awvdd am y diodydd meddwol yn myned ar gynydd o ddydd i ddydd. Yr oedd David Morgan Gwynne sef mab Evan Gwynne wedi myned i'r Amerig er ys rhai blynyddoedd cyn hyn. Yr oedd wedi arfer, pan yn blentvn, i fyned gyda ei dad i'r clwb i'r Prince of Wales, ac arferai yfed o law ei dad ac ereill, a byddai gwr y Prince yn tynu ei law drcs ei ben, gau ddywedyd mai bachgen braf ydoedd, a rhoddi ceiniog iddo gael melus- ion sweets yn nhy Maly Pronp: ond bob yn ychydig, daeth i allu myned i'r Prince wrtho ei bun, a ga lai alw am dJiod ei bun, a'i roddi yn ngbyfrif ei dad; fel erbyn ei fod yn ddyn ieuanc, yr oedd yndaogos gormod o htffdero'r diadydd meddwol. Ond fel y dangoswyd, ym- fudodd i'r Amerig, caftfdd sefyllfa gysurus yn Boston; ond dechreuodd ymarfer a'r diodydd meddwol yno, neu yn hytrach y gwirodydd poethion: collodd ei le o'r herwydd, gwaelodd ei iechyd, symudwyd ef i'r Hospital lie bu farw yn ddyn ieuane wyth ar hugain oed, wedi di- nystrio ei hUll trwy anghymedroldeb. Yr oedd yn pertbvn i'r Hospital hono feddyg medrus iawn o'r eaw Rowlands, genedigol o Gymru. Yr oedd Dr Rowlands yn ddyn duw- iol iawn; a thra yn ceisio gwellhau a symud anhwjlderau cortforol, ymdrechai hefyd i wneuthur lies ysbrydol i'r rhai hyny y gweinai arnynt. Wedi deall natur a sefyllfa afiechyd David Morgan Gwynne, deallodd ar unwaith nad oedd y goba th lleiaf am ei adferiad, gan fod ei ranau bywydol yn darfod yn gyflym. Cymerodd Dr Rowlands fantais ar y cyfleus- dra cyntaf i alw ei sylw at ei sefyllfa ysbrydol rhyngddo a Duw. Dywedodd wrtho fod ei afiechyd o natur dwyllodrus, ond am iddo beidio cymeryd ei dwyllo ganddo, ac nad oedd ganddo ond ychydig wytbuosau i fyw, a dywedodd hefyd mai bywyd afradlawn ac arferion angbymedrol oedd wedi prysuro ei adgen; ac y nne genym le cryf i obeithio ddarlod i gynghorion y Dr Rowlands fod danftmdith er dychweliad yr afradlawn David Morgan Gwynne. Un diwrnod wele y llythyr-gludydd yn dyfod a llythyr i Evan Gwynne, llythyr i Evan Gwynne! Llythyr o America ydoedd oddiwrth David Morgan, ei fab. Nid oedd ei rieni wedi clywed oddiwrtho er ys amser niaith cyn hyn: rhedai y llythyr fel y canlyn:— Anwyl rieni,—Yr wyf yn defnyddio y c) fleusdra presenol i ysgrifenu atoch, ac yn ol pob tebyg, hwn fydd y llythyr diweddaf i chwi ei dderbyn oddiwrthyf fi byth; oblegyd yr ydwyf yn yr Hospital yn Boston er ys dau fis, a dywed y meddyg nad oes obaith i mi allu byw ond ychydig ddyddiau yn ychwaneg. Mae edrych yn ol ar y dull y treuliais fy oes fer, yn ofid calon i mi heddyw, buasai yn dda genyf pe buaswn wedi gwrandaw ar eich cyDghorion chwi fy anwyl fam, a dilyn eich hesiampl chwi trwy beidio cyffwrdd a'r diodydd meddwol (oblegyd yn ol tystiolsetb y'meddyg hyn sydd wedi dwyn angeu anamserol i'm cyfansoddiad) ond dilyn esiampl fy nhad a wnaethym i, a myned gydag ef i'r Prince of Wales, ac yfed o'i law ef ac ereill yn y clwb; yr wyf yn cofio yn dda heddyw am y tro cyn- tafy darfu i mi yfed o'i law. Mae y gwydraid bwnw yn fresh o flaen fy meddwl yn awr; yr wyf yn dychymygu fy mod yn ei weled y foment hon, ac yn gweled elfenau fy ninystr yn ymgynhyrfn ynddo. Oinacbawn gyfleusdra i ail ddechreu byw, nid yfwn ddafn o ddiodydd meddwol; ond y mae hyny drosodd, nid oes ail gynyg; ond y mae Duw yn gyfoethog o drugaredd fel y mae yn gallu maddeu i'r penaf o bechaduriaid. Mae fy nertb yn pallu; ni allaf ysgrifenu ychwaneg mae niwloedd glyn ,cysgod angau yn amgau am danaf, ffarwel i chwi hyd foreu caniad yr udgoro, eich anwyl fab. D. MORGAN GWYNNE. Darfu i'r llythyr effeithio i fesur ar ei feddwl, a gallesid tybio fod yno radd o ofid yn herwydd canlyniadau ei fywyd angbymedrol; ond i'r dyben o gael llonydd gan hwnw, aeth i'r Clarence, gyda'r amcan o foddi ei ofid mewn1 diodydd meddwol, yfodd a meddwodd, a chysgodd allan y noswaith hono a chafodd anwyd trwm, yr hyn a ddygodd arno y clefyd a elwir ennyniad yr ymenydd bu am amryw ddyddiau yn sal, ac yn mhen yr wytbnos bu farw a'i eiriau diweddaf oeddynt, y givin yn y bedydd, y gwin yn y bedydd. Ac felly y terfyna hanes Evan Gwynne, neu y dyn a dorodd ei ardystiad.

Advertising

LLYTHYR 0 RWSIA.

Advertising

TIROEDD PRYDAIN.

YR EISTBDDFODAU A'R PWYLL.,GORAU.

Advertising

Y TRUCK SYSTEM.

Advertising