Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

¡L'ERPWL.

News
Cite
Share

¡ L'ERPWL. Dydd Gwyl Dewi. Nid oes dim un newydd wedi cyrhaedd hyd yn hyn am ddyogelwch y City of Boston,* Nid oes gan gyfeillion a pherthynasau y cyfryw gydd ar y bwrdd ddim i wneud ond gobeithio y goreu, gan hyderu y daw i'r golwg yn fuan. Anfonwyd y City of Durham allan yr wythnos ddiweddaf i wneud ymchwiliad am dani, gan gymeryd ar y bwrdd ddigonedd o ymborth, a phethau ereill angenrheidiol i ddynion wedi bod ar y mor o dan y fath amgylchiadau. Y mae yr hysbysiadau a gafwyd gan lywyddion gwahanol hwyl ac agerlongau a groesodd y Werydd yr wythnos ddiweddaf yn tystio na welsant erioed o'r blaen y fath fynyddoedd o rew yn nofio ar wyneb y dyfnder. Rhyfedd- ol, onite, ydyw dirgelion mor a thir, pan gyn- hyrfo elfenau natur? Mae y cynghaws am ysgariad wedi ei ddwyn i derfyn rhwng Arglwydd Mordaunt a'i fon- eddiges. Nid, yw yn debyg y cyhoeddir barn y llys hyd nes y bydd yr olaf wedi ei hadferyd i'w chynefinol iecbyd. Digon yw dyweyd na wnaeth yr ymdrafodaeth daflu un math o ad- lewyrchiad dysglaer ar y cylch y perthynant iddo, er iddo ar hyn o bryd gael ei adael yn iionydd. Nid yw diffygion arianol y Newman hwnw y sociais am dano yr wythnos o'r blaen yn cyrhaedd i swm mawr-dim mwy na thua dau gant o bunau; ond digon tebyg fod hyny yn eithaf digon i gadw y Cynghor Trefol yn fwy effro o hyn allan. With ddarllen sylwadau rhyw ohebydd o Lundain yn un o'r papyrau dyddiol, y mae yn ymddangos i mi fod rhai brawddegau yn neddf archwiliad mwngloddiau yn tueddu tipyn i fod yn unochrog—yn fwy pleidiol i'r perchen- og nag i'r gweithiwr. Er fod y brawd hwn, pwy bynag ydyw, yn cael ei alw "Our London Correspondent" gall fod heb wybod mwy am bwll glo a'i gysylltiadau, nag a wyr cobbler am awrlais; ond bid a fyno am hyn, dylai pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn lies a llwyddiant y glowr godi a chydwaeddi "Yn awr neu byth am ddiwygiad." Os dygwydd i ryw adranau o'r ddeddf fod yn naillochrog, digon hawdd cael gwelliant ar unwaith; oblegyd beth sydd yn gryfach na llais y wlad pan ddeffry ? Go- fynodd gwr parchedig i mi un tro, Pa achos oedd i mi ymyraeth ag amgylchiadau y pwll glo? a'r unig ateb pwrpasol a allaswn roddi oedd, fy mod yn tybied fod genyf hawl i siarad ac ysgrifenu am y coleg lie y cefais fy nwyn i fyny; a'r canlyniad oedd, i mi gael llonydd- wch byth ar ol hyny. Y mae y golofa ddu mor hagr ei golwg yr wythnos ddiweddaf a'r un wythnos o'r flwydd- yn newydd. Nid peth anghyffredin ydyw yr arferiad o ladrata plant bychain yn Lerpwl er trefydd cylchynol, a'u hanfon i ffwrdd i wa- lianol drefydd a lleoedd dyeithr trwy y wlad; ond trwy ddiwydrwydd swyddogion dirgel mewn dillad gwladaidd, dygirllawer o honynt i'r ddalfa. Llenwir cylch y difyrion adlonol gan wa- hanol fathau o dalentau mewn amrywiol ddulliau; a chan fod y dydd yn dygwydd bod yn Ddydd Gwyl Dewi, nid yw y genedl wedi bod yn ol o ddarparu ar gyfer yr adeg. Wrth yr hysbysleni ar hyd y parwydydd, cawn ar ddeall fod eyngherdd i'w chynal yn Neuadd y Cyngherddau, Lord Nelson Street, heno, gan fintai o gantorion o radd uchel, a bwriedir fr gadair gael ei llenwi gan Mynyddog, y cenadydd pellebrol rhwng y lIeu ad a Swyddfa y Dydd. Bydd yr elw i fyned at gapel y Wesleyaid yn Great Cross, Hall Street, yr hwn a brynwyd yn-ddiweddar gan y Bedydd- wyr. Cawn sylwi yn helaethach y tro nesaf ar helyntion y gyngherdd, ar ol gweled sut y try pethau allan. Y mae yr agerlong Great Eastern yn myned rhagddi gyda'r gorchwyl pellebrol yn llwydd- iknus; a eshya y bydd y llinellau hyn o flaen y darllenydid, bydd y rhaff fawr wedi ei gosod rhwng Bombay ac Aden. Pwy na ddymuna ei llwyddiant yn y gorchwyl hapus o gysylltu gwledydd y ddaear yn un, a dwyn teyrnasoedd i gyfrinachu a'u gilydd megys mewn mynyd awr? Caiffhyn derfynu fy Uith bresenol, er ei bod yn hynod fyr; ond nid cyn dyweyd:— Daeth eto un Gwyl De"" i Ar haul i siriol weru; Y delyn gain ar uche'ydant Wna loni plant y Cymry. Yr eiddoch yn wladgar, CYMRO GWYLLT. Oddiwrth hysbysiad a dderbyniwyd yn Bryste ddoe (dydd Mawrth),, cawn fod y Bos- ton ar gael, a phawb ar ei bwrdd yn ddyogel.

ACPJOS SARAH JACOB.

ATEBIAD I OFYNIAD "YMGE1SYDD"…

Cyfarfod Mawr y Glowyr yn…