Hide Articles List

5 articles on this Page

,.-_-..a-_.- -'-- ,- - -'-...-Colofn…

I Glais Cwm Tawe.

News
Cite
Share

I Glais Cwm Tawe. I Canu ar Ddydd y Gan. Fel arfer cynhaliodd Peniel a Seion, Glais, eu Cymanfa Ganu flynyddol ddydd Nadolig. Yr arweinydd oedd Mr Richard Gwilym, L. T. S. C., ac nid oes neb fedr dynnu canu allan o gynulleid- fa fel efe. Yn ystod cyfarfod y pryn- hawn cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. John Williams ar "Un i beryglon dynion ieuainc." Y perygl y'n rhy- huddiwyd rhagddo oedd "Mynd gyda'r lluaws." Yn yr hwyr cafwyd araeth gan Mr. Griffith Davies ar "Actau Car- iad." Llywyddwyd y cyfarfodydd gan Mri. Philip Gethin ac Aneurin Rees. Ffordd deilwng iawn, allem feddwl, o gadw'r Nadolig. Hon oedd y seithfed j Gymanfa Cndebat, a hyderwn nad hi fydd yr olaf; yr oedd i fyny, os nad yn well, na'r un a fu o'i blaen. I Colygfa Resynus welwyd wrth fyn'd o'r Gymanfa y pryn- hawn, sef dyn ym mlodau ei ddyddiau y ncerdded trwy'r dorf yn feddw ac yn haeru gan dyngu a rhegu ei fod cystal a neb oedd yno. Wel, frawd, cania- tewch i mi ddweyd hyn wrthych, y gall- asech fod cystal a neb, a gobeithio y gwelir chwi yn wahanol i'r hyn ydych. Yn bresenol yr ydych yn warth i chwi eich hun a'ch teulu. A wyddoch beth ddywed y Beibl am rai a esgeulusant eu teulu fel y gwnewch chwi-? Adeg y streic buasech chwi a'ch teulu wedi hanner newynu onibai am garedigrwydd rhai oedd yn y dorf yr aethoch chwi trwyddi dan regu. Yr oedd yn dda i chwi fod yno rai gwell na chwi yn yr ardal yr adeg honno. Dynion fel chwi yw gwendid achos gweithwyr pan yn ceisio'u hiawnderau. Diwygiweh rhag cywilydd i chwi rhag digwydd i chwi rywbeth a fo gwaeth cyn y Nadolig nesaf. I Y Saeson Oedd yn Absennol. Gwahoddasid y Parch Daniel Hughes, Pontypwl, i ddarlithio gan Blaid Llafur y Glais nos Lun, Rhag. 22ain. Canmol- iaeth gyffredinol sydd i'r ddarlith. Yn Saesneg y bwriadesid i Mr. Hughes i siarad gyda'r amcan o ddenu'r Saeson yno, ond fel arfer yr oedd y Saeson i gyd ag eithrio dau yn absennol. Er mwyn y ddau hyn cymysgwyd yr ieith- oedd. Yr oedd yn dda gennym am y sel a ddangosai Dafydd Williams dros yr hen iaith. Yr wyf am i rai o'r bechgyn yma ddysgu gwers-y ff ordd i chwi wneud mwyaf o les i'r Saeson yw glynu wrth Gymraeg a Chymreigrwydrt. Y mae llawer o'u plant yn codi'n Gymry. Bydd hynny'n fantais iddynt hwy ac ni fyddwn ninnau ar ein colled. Cychwyn Cymdeithas. Y mae mewn bwriad yma gael Cym- deithas Gymraeg Undebol. Hai ati fechgyn! Nid oes brinder defnyddiau. Y mae y "Brythoniaid" wedi gwneud gwasanaeth gwerthfawr yn y cylch ynglyn a'r ddrama, ond mae eisiau rhywbeth eangach. Galwed y Cyng- horwr Aneurin Jbendefigion y bobl at eu gilydd i ystyried y mater. Cymro dewr yw efe, a gallem feddwl wrth ei wran- do yn y Gymanfa y bydd yn gystadleu- ydd peryglus i Mr. Lloyd George fel siaradwr. Y mae eisiau rhoi dos go dda o ysbryd Cymreig i James Thomas, a bydd yntau yn gaffaeliaxl gwerthfawr. Ie, dyna'r cyfaill hyfwyn ac amryddawn Morgan Harris. Gwnai efe lywydd ar- dderchog i gymdeithas o'r fath. Da gennym ei weled yn medru mynd o gwmpas unwaith eto. .-0. :0.

Y Stori. I YStori.I

1-_-.......-! Can R. Tawe…

Advertising